Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd , Llesiant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi’r adroddiad a gynhyrchwyd gan yr adolygiad annibynnol o Broses Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol GIG Cymru (CCCU).
Mae pob bwrdd iechyd yn defnyddio’r broses hon i benderfynu a ddylai claf unigol gael mynediad i driniaeth nad yw ar gael fel rheol, ai peidio.

Daw yn sgil adolygiad CCCU yn 2014 a gweithredu ei argymhellion yntau.  Cytunais ei fod yn bryd bellach am adolygiad o’r newydd o’r broses CCCU, â phwyslais wahanol.  Cyhoeddais ef fis Gorffennaf diwethaf fel rhan o’r Compact i Symud Cymru Ymlaen.  Y nod oedd canolbwyntio ar nifer y paneli a’r meini prawf eithriadolrwydd clinigol, gan gymryd persbectif y claf i ystyriaeth.

Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’r grŵp adolygu am eu gwaith caled a’u hymroddiad wrth ymdopi ag amserlen heriol ar gyfer cwblhau eu gwaith.  Mae arbenigedd a phrofiad y grŵp ar y cyd - Mr Andrew Blakeman (cadeirydd), yr Athro Peter Littlejohns, yr Athro Chris Newdick, yr Athro Phil Routledge, y Dr Ben Thomas, Mr Irfon Williams and Mr Keith Cass MBE – wedi arwain at adroddiad sy’n cyfuno tosturi â realiti gwneud penderfyniadau anodd, sensitif.  Rwy’n arbennig o ddiolchgar i’r grŵp adolygu am ddarparu eu dealltwriaeth a’u harbenigedd am ddim ac ar ben eu hamserlenni llawn.

Nodaf fod yr adroddiad yn cymeradwyo sawl agwedd o’r broses CCCU bresennol, ac yn gwneud argymhellion i’w gwella ym mhellach.  Mae’r grŵp adolygu wedi dod i’r casgliad y dylem gadw’r drefn bresennol o baneli CCCU ar wahân, o ystyried costau a risgiau newid nifer y paneli.  .

Mae’r grŵp adolygu wedi ystyried yn fanwl iawn fater cymhleth eithriadolrwydd clinigol.  Maent yn dod i’r casgliad y dylai’r egwyddor am wneud penderfyniadau ar lefel claf unigol o ran mynediad i driniaeth gael ei seilio ar lefel y lles clinigol a ddisgwylir ac a yw’r triniaeth yn cynnig gwerth rhesymol am arian.  Mae’r grŵp adolygu yn gwneud sawl argymhelliad i gymryd lle “eithriadolrwydd clinigol” ac i gryfhau’r meini prawf a ddefnyddir i wneud penderfyniadau ar lefel claf unigol.  

Mae persbectif y claf yn lliwio pob tudalen o’r adroddiad hwn, a seilir ar y dystiolaeth a gasglodd y grŵp adolygu mor ddiwyd.  Mae’r 10 gweithdy a gynhaliwyd yn Wrecsam, Aberystywth a Chaerdydd yn crynhoi profiad a barn cleifion – y mae mynd drwy’r broses CCCU yn cael effaith mor fawr arnynt – a barn clinigwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gweithio â hi bob dydd.  Mae’r toreth o dystiolaeth ysgrifenedig yn cofnodi â chryn fanylder brofiadau cleifion o’r broses CCCU a sut maent yn teimlo amdani yn ogystal â thystiolaeth feddylgar oddi wrth elusennau iechyd, clinigwyr, staff byrddau iechyd a’r diwydiant fferyllol.  Cafwyd cyfanswm o 68 o gyfranwyr a anfonodd dystiolaeth ysgrifenedig, a fynychodd weithdy, neu’r ddau.  Diolchaf iddynt oll am gymryd yr amser i rannu eu profiadau a’u harbenigedd.

Yn awr, byddaf yn ystyried yr adroddiad a’i argymhellion yn fwy manwl a gwneud ddatganiad am y camau nesaf cyn bo hir.

http://gov.wales/topics/health/nhswales/funding/?lang=en