Cyfarfod y Cabinet: 13 Ionawr 2025
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 13 Ionawr 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
- Huw Irranca-Davies AS
- Jayne Bryant AS
- Mark Drakeford AS
- Rebecca Evans AS
- Jane Hutt AS (o eitem 3 ymlaen)
- Julie James AS
- Jeremy Miles AS
- Lynne Neagle AS
- Ken Skates AS
- Dawn Bowden AS
- Sarah Murphy AS
- Vikki Howells AS
- Jack Sargeant AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Pontio, Swyddfa'r Prif Weinidog
- Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
- Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa'r Cabinet
- Wayne David, Cynghorydd Arbennig
- Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
- Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
- Owen John, Cynghorydd Arbennig
- Stephen Jones, Cynghorydd Arbennig
- Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
- Martha O'Neil, Cynghorydd Arbennig
- Maddie Rees, Cynghorydd Arbennig
- Victoria Solomon, Cynghorydd Arbennig
- Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
- Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
- Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
- Nia James, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
- Rhodri Asby, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Economi Gylchol ac Effeithlonrwydd Adnoddau (eitem 3)
- Rhydian Ayers, Pennaeth Effeithlonrwydd Adnoddau (eitem 3)
Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 6 Ionawr 2025.
Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog
Cymru a Japan 2025
2.1 Cyfeiriodd y Prif Weinidog at Cymru a Japan 2025, a oedd wedi ei lansio'r wythnos flaenorol. Nod Cymru a Japan 2025 yw ysgogi partneriaethau economaidd a diwylliannol newydd rhwng y ddwy wlad, gan ddod â manteision hirdymor i'r ddwy.
Fideo Ysgol Brynteg i groesawu ffoaduriaid o Wcráin
2.2 Cyfeiriodd y Prif Weinidog at adroddiadau diweddar yn y cyfryngau lle'r oedd pobl yn ceisio camddefnyddio fideo Ysgol Brynteg i groesawu ffoaduriaid o Wcráin, a grëwyd yn 2023. Roedd y fideo wedi'i gyhoeddi'n wreiddiol ar wefan Cyngor Ffoaduriaid Cymru, ac yn fuan wedyn bu'n rhaid ei dynnu'n ôl yn dilyn cam-drin helaeth ar-lein wedi'i anelu at yr ysgol.
Eitem 3: Manteisio ar Gyfleoedd yr Economi Gylchol
3.1 Cyflwynodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet nodi'r dystiolaeth ar gyfer trosglwyddo i economi gylchol, a chytuno ar y rhestr o gamau penodol y dylid eu cymryd i gefnogi'r flaenoriaeth ar gyfer swyddi a thwf gwyrdd.
3.2 Roedd yr angen i ddatgarboneiddio eisoes yn newid yr economi fyd-eang, gyda'r twf mewn cerbydau dim allyriadau, y gweithgarwch i ehangu ynni adnewyddadwy, a'r newidiadau mewn deunyddiau bob dydd, fel deunyddiau pecynnu. Er mwyn bod yn gystadleuol mewn economi fyd-eang sy'n datgarboneiddio, byddai angen i bob diwydiant yng Nghymru drosglwyddo i ynni adnewyddadwy a hefyd i economi gylchol sy’n ailddefnyddio deunyddiau'n barhaus gan osgoi gwastraff.
3.3 Mae'r newid i economi gylchol yn gwbl hanfodol os ydym am gyflawni sero net, ac yn ogystal â hynny mae'n faes pwysig o ran ei chyfleoedd a'i gallu i ysgogi twf economaidd. Roedd Fforwm Economaidd y Byd wedi amcangyfrif y gallai'r newid hwn arwain at greu cynnydd net o 6 miliwn o swyddi ar draws y byd erbyn 2030. Yn y DU, amcangyfrifwyd y byddai 90,000 o swyddi newydd net, a dylid ymgyrchu i ddod â chynifer â phosibl o'r swyddi hynny i Gymru.
3.4 O ran chyfraddau ailgylchu, roedd gan Gymru fantais gystadleuol eisoes yn y maes hwn a bu hynny’n ffactor allweddol sydd wedi cyfrannu at y buddsoddiad diweddar yng nghyfleuster ailgylchu plastig arloesol Jayplas yn Abertawe, gan greu 100 o swyddi newydd. Hefyd roedd Eren wedi buddsoddi dros £1bn i ailddatblygu Shotton Mill, gan greu dros 300 o swyddi, a buddsoddiadau posib pellach ar y gweill. Amlinellodd y papur y camau nesaf i adeiladu ar y llwyddiant hwn.
3.5 Roedd llywodraethau a chyrff eraill yn gweithredu yn y maes hwn. Er enghraifft, mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu Tasglu'r Economi Gylchol ar gyfer Lloegr yn ddiweddar, ac mae'r allbynnau yn debygol o fod â goblygiadau i weddill y DU. Byddai hyn hefyd yn wir am y newidiadau sydd eisoes yn digwydd yn yr UE.
3.6 Er bod hyn yn ymwneud â'r cyfle strategol, roedd hefyd yn ymwneud â gwella gwydnwch yn wyneb risgiau, gan fod llawer o'r deunyddiau pwysig, yr ydym yn dibynnu arnynt er mwyn i'r economi allu gweithredu'n iawn, yn dod o rannau llai sefydlog o'r byd, yn ogystal â’r disgwyl y byddai'r risg yn gwaethygu o ganlyniad i'r newid yn yr hinsawdd.
3.7 Roedd yr economi gylchol yn rhan hanfodol o'r ateb i'r broblem hon, gan ei bod yn manteisio ar y deunyddiau a oedd eisoes yn cael eu hailgylchu, ac yn ehangu i gasglu deunyddiau eraill, a byddai cyfle i gryfhau gwydnwch y gadwyn gyflenwi, ac felly helpu i gynnal diogelwch swyddi o fewn y sectorau cysylltiedig.
3.8 Enghraifft allweddol oedd y cyfleuster arloesol newydd yn y Bathdy Brenhinol, lle'r oeddent wedi dechrau echdynnu deunyddiau gwerthfawr a chydrannau y gellir eu hailddefnyddio o wastraff electronig, gan wella gwydnwch a diogelu swyddi ar yr un pryd.
3.9 Hefyd roedd angen manteisio ar y cysylltiadau â Strategaeth Ddiwydiannol y DU a Strategaeth Pren Cymru. Roedd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi cynnal adolygiad o ddull gweithredu'r DU, ac roedd hwnnw wedi amlygu'r angen i integreiddio'r polisïau economi gylchol, carbon a diwydiannol yn fwy trylwyr.
3.10 Croesawodd y Cabinet y papur, gan gytuno bod angen gwneud mwy i dynnu sylw at ba mor llwyddiannus oedd Cymru wrth inni ailgylchu a symud tuag at economi gylchol. Nodwyd y byddai'r economi gylchol yn destun Datganiad Llafar a drefnwyd ar gyfer 18 Chwefror.
3.11 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.
Eitem 4: Busnes y Senedd
4.1 Nododd y Cabinet fod amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 5:30pm ddydd Mawrth a thua 6:25pm ddydd Mercher.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Ionawr 2025
