Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r Datganiad Ysgrifenedig hwn yn rhoi’r newyddion diweddaraf ar achosion o darfu ar rwydwaith cefnffyrdd Gogledd Cymru, ac yn rhoi amlinelliad o’r cynlluniau ar gyfer gwella ein dull o ymateb i achosion brys.  

Ddydd Gwener 16 Mehefin, bu digwyddiad rhwng dau gerbyd ar yr A55 i’r dwyrain ger cyffordd 27 tuag at Lanelwy.  Roedd y ffordd tua’r dwyrain ar gau a’r ffordd tua’r gorllewin ar gau yn rhannol dros dro ar gais y gwasanaethau brys, fel bod modd i’r Ambiwlans Awyr lanio a helpu yn y digwyddiad.  Trefnwyd gwyriad lleol i’r dwyrain a olygodd bod y traffig yn parhau i lifo ond arweiniodd at oedi, ar benwythnos heulog iawn.  
Unwaith i’r ffordd gael ei rhyddhau gan y gwasanaethau brys, bu ein tîm ymateb yn clirio’r ffordd.  Nid oedd yn bosibl, fodd bynnag, i lanhau arwynebedd y ffordd i safon boddhaol ac nid oedd modd ail-agor y ffordd oherwydd camau diogelwch.  Penderfynwyd felly i lyfnu ac rhoi wyneb newydd ar y ffordd.  Digwyddodd hyn dros nos ddydd Llun, ac roedd y ffordd wedi ail-agor yn llawn yn fuan fore dydd Mawrth.  

Ddydd Llun 19 Mehefin bu digwyddiad arall y tu hwnt i’n rheolaeth ar yr A5 tuag at Y Waun.  Roedd y ffordd wedi ei chau i’r ddau gyfeiriad yn dilyn gwrthdrawiad ar draphont Ceiriog a threfnwyd gwyriadau lleol.  Roeddem felly yn gallu trefnu bod modd i’r ffordd tua’r de ail-agor yn fuan wedyn, ond mae’n rhaid i’r  ffordd tua’r gogledd fod ar gau o hyd, gyda gwyriadau lleol er mwyn dod o hyd i rwystrau dros dro a’u rhoi o flaen y parapet sydd wedi’i ddifrodi.  Mae fy swyddogion yn chwilio am gontractwyr arbenigol i osod y rhwystrau, fodd bynnag, rydym ar ddeall bod y contractwyr wrthi ar hyn o bryd yn gweithio ar brosiectau eraill, sy’n cynnwys gosod rhwystrau yn Llundain yn dilyn y digwyddiadau yno yn ddiweddar.  

Er gwaethaf hyn, rydym yn credu y bydd y ffordd wedi ail-agor erbyn bore Gwener ar yr hwyraf.  Mae fy swyddogion yn gweithio’n galed, gan bwyso ar ein cadwyn cyflenwi i wneud y gwaith trwsio ac ail-agor y ffordd tua’r gogledd cyn gynted â phosib.  

Yn anffodus, bu i’r ddau ddigwyddiad hwn ddigwydd yn fuan wedi’r oedi a gafodd gyrwyr ar y 3ydd Mehefin ar yr A55 ym Modelwyddan, oherwydd digwyddiad gyda person bregus ar bont.  Bu Heddlu Gogledd Cymru yn rheoli’r digwyddiad a bu rhywfaint o broblemau gyda trafodaethau rhwng Asiantaethau’r Gefnffordd a’r heddlu.  Mae’n anarferol i ddigwyddiad o’r fath barhau cyhyd.  

Mae’n bwysig nodi bod diogelwch y cyhoedd wrth deithio yn parhau i fod yn brif gyfrifoldeb a phryder gennyf yn ystod sefyllfaoedd o’r fath.  Fodd bynnag, rwyf yn ymwybodol y bu beirniadaeth yn y wasg ac ar y cyfryngau cymdeithasol gan bod rhwyfaint o’r oedi a fu o ganlyniad i’r digwyddiadau hyn yn ddifrifol.  Mae gwersi i’w dysgu, mae’n amlwg.    

Felly, rwyf wedi gofyn i’m swyddogion adrodd yn ôl imi yn ystod egwyl yr haf gydag argymhellion ar sut y gallwn wella ein hymateb i’r gwaith o drwsio’r difrod ar y rhwydwaith.  Byddant yn edrych ar yr opsiynau a’r costau ar gyfer darparu ymateb brys gwell i’r sefyllfaoedd niferus yr ydym yn eu hwynebu yn ystod digwyddiadau annisgwyl.  Bydd fy swyddogion hefyd yn cynnal trafodaethau gyda Heddlu Gogledd Cymru gyda’r bwriad o wella’r dull o gyfathrebu yn ystod digwyddiadau, a manteisio i’r eithaf ar ddefnyddio safleoedd i groesi’r ffordd mewn achosion brys, ble y maent yn bodoli.  

Er gwaethaf y gyfres hon o ddigwyddiadau anffodus sydd wedi digwydd mewn cyfnod anarferol o fyr, hoffwn egluro ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau’r tarfu ar y rhwydwaith yn ystod yr haf.  Rydym yn bwriadu atal unrhyw waith ar y ffordd yn ystod y dydd rhwng y Pasg a mis Medi o gyffordd 11 yn Llandegai tuag at y ffin â Lloegr, ac o gyffordd 11 i Gaergybi yn ystod y prif gyfnod gwyliau.  

Mae ein gwasanaeth Swyddogion Traffig yn chwarae rhan bwysig yn cynnal y rhwydwaith.  Mae’r gwasanaeth yn gweithio oriau estynedig yn ystod cyfnod prysur y gwyliau, ac ar hyn o bryd yn delio gydag oddeutu 1,000 o ddigwyddiadau y mis.  Rwyf wedi gofyn am adolygiad ar y posibilrwydd o ymestyn y gwasanaeth i gynnwys yr A483 o gylchfan Posthouse Caer i gylchfan Gledrid yn Y Waun.

Dros y bedair mlynedd ddiwethaf rydym wedi cynnal gwaith gwella hollbwysig i dwneli ar yr A55, wedi gwella wyneb y ffyrdd, lleihau llifogydd a chynnal gwaith cynnal a cadw brys.  Mae’r buddsoddiad wrth wella cyflwr ein ffyrdd a’r cynlluniau mawr sydd gennym ar y gweill i fynd i’r afael â thagfeydd ar y rhwydwaith yn gwella’r profiad o deithio ar hyd yr A55.  Rwyf, fodd bynnag, yn benderfynol o edrych y tu hwnt i’r ymyriadau hyn, gan sicrhau bod teithio ar hyd yr A55 mor ddibynadwy â phosib, gan ddarparu ar gyfer pobl leol, busnesau ac ymwelwyr fel ei gilydd.  

Bydd yr astudiaeth cydnerthedd yr wyf yn ei gomisiynu yn helpu i benderfynu ar y ffordd orau o gyflawni hyn.  Fy mwriad yw edrych eto ar bob agwedd ar y ffordd, gan nodi ble i wella’r profiad o deithio a’r ffordd orau o wneud hynny, a sut i sicrhau bod digwyddiadau ac achosion o gerbydau’n torri i lawr yn digwydd yn llai aml a’u bod yn cael llai o effaith.   Bydd hyn yn ategu y cynlluniau presennol ar gyfer gwelliannau, tra’n parhau i sicrhau bod gwaith ar y ffyrdd yn tarfu cyn lleied â phosibl.