Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Ebrill 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 27 Hydref 2016, lansiwyd ymgynghoriad gennyf ar yr adolygiad o Reoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2007  (Rheoliadau AEA). Roedd yr ymgynghoriad yn holi barn y cyhoedd ar nifer o gynigion sy’n ceisio symleiddio, cryfhau ac egluro’r gofynion rheoleiddiol.  

Mae Rheoliadau’r AEA yn gweithredu proses sgrinio sy’n gwerthuso effaith posib prosiectau amaethyddol arfaethedig ar dir sy’n cael ei gyfrif fel tir lled-naturiol ac/neu heb ei drin.  Nid yw’r Rheoliadau’n cael eu creu i atal gweithgarwch amaethyddol rhag digwydd ac nid ydynt yn rhwystro ffermio.  Caiff hyn ei gefnogi gan data a gasgwlyd ers cyflwyno’r drefn AEA yn 2002.  Hyd yma, mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried 924 o geisiadau ac wedi rhoi caniatád i’r prosiectau fynd yn eu blaenau yn 93% o achosion.  

Ar yr un pryd, mae’n bosib i Reoliadau’r AEA ddiogelu cynefinoedd ar ffermydd a thir sy’n bwysig yn hanesyddol rhag tarfu ar weithgarwch amaethyddol, yn ogystal â diogelu adnoddau naturiol gwerthfawr Cymru.  Mae gweithdrefn yr AEA yn defnyddio dull gwyddonol strwythuredig o asesu prosiectau gwelliant a’u heffaith debygol ar safleoedd penodol a’r amgylchedd ehangach, y tu allan i’r ardaloedd hynny sydd eisoes yn cael eu hamddiffyn yn statudol, megis Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.  Mae’r safleoedd dynodedig yn cyfrif am lai nag 20% o Gymru.  Oherwydd hynny mae Rheoliadau’r AEA yn chwarae rhan bwysig o ddiogelu bioamrywiaeth a thirwedd hanesyddol Cymru.  

Rwy’n croesawu y gefnogaeth gyffredinol i drefn yr AEA a fynegwyd gan randdeiliaid drwy’r ymatebion i’r ymgynghoriad ac yn ystod y gweithdai cyn yr ymgynghoriad a gynhaliwyd yn ystod gwanwyn 2016.  Rhoddodd ymatebwyr i’r ymgynghoriad sylwadau gwerthfawr ar y cynigion a’r defnydd ehangach o Reoliadau’r AEA a fu o gymorth i Lywodraeth Cymru gwblhau’r cynigion rheoleiddiol ac ystyried newidiadau penodol i’r drefn.  Nid oes disgwyl i’r newidiadau hyn gael effaith ar sut y caiff yr AEA ei ddarparu ym maes amaethyddiaeth yng Nghymru, yn hytrach ei fwriad yw rhoi mwy o eglurder a hyblygrwydd.  Mae’r newidiadau arfaethedig wedi eu nodi yn fanylach yn y crynodeb o’r ymgynghoriad a’r ymateb iddo.  

Mae disgwyl i’r Rheoliadau diwygiedig ddod i rym ar 16 Mai 2017.  Mae amcanion rheoliadau yr AEA yn cyfrannu tuag at weithredu Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a nifer o amcanion a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn benodol creu Cymru iachach a mwy cydnerth.  

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb gymerodd yr amser i ymateb i’r ymgynghoriad pwysig hwn.  Mae pob ymateb wedi eu hystyried yn llawn a chyfeiriwyd atynt yn nadansoddiad ac ymateb Llywodraeth Cymru i’r ymgynghoriad