Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 4 Gorffennaf 2025.

Cyfnod ymgynghori:
8 Ebrill 2025 i 4 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion am y canlyniad

Crynodeb o’r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 435 KB

PDF
435 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym yn ymgynghori ar gynigion ar gyfer rheoliadau pellach i gefnogi sefydlu cofrestr o ddarparwyr addysg drydyddol sy'n darparu addysg uwch yng Nghymru.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Rydym eisiau clywed eich barn ynghylch cynigion yn ymwneud â sefydlu cofrestr o ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru o dan Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, a’r dull arfaethedig o ddynodi cyrsiau addysg uwch yn awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr Llywodraeth Cymru. 

Mae'r rheoliadau i'w gwneud yn ymwneud â’r canlynol:

  • cyrsiau cymhwysol a phersonau cymhwysol at ddibenion ffioedd cyrsiau rheoleiddiedig sy’n ddarostyngedig i derfynau ffioedd
  • yr uchafswm na all y terfyn ffioedd a bennir mewn datganiad terfyn ffioedd fod yn fwy nag ef
  • dynodi cyrsiau addysg uwch ar gyfer cymorth myfyrwyr Llywodraeth Cymru

Help a chymorth

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.

I gael rhagor o wybodaeth:

Tîm Gweithredu’r Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil
Y Gyfarwyddiaeth Addysg Drydyddol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: YAD.Ymgynghoriadau@llyw.cymru