Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r drwydded hon, yn amodol ar gydymffurfiaeth â’r gyfraith berthnasol a’r amodau a nodir yn y drwydded hon, yn caniatáu symud sgil-gynhyrchion dofednod ac wyau deor i’w gwaredu’n uniongyrchol o safle mewn parth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth i safle arall o fewn neu y tu allan i barth yng Nghymru neu Loegr.

Dim ond symudiadau sydd fel arall yn cael eu gwahardd gan ddatganiad a gyhoeddwyd mewn ymateb i achosion o H5NX sy’n cael eu caniatáu o dan y drwydded hon, lle mae H5NX yn unrhyw straen o feirws ffliw adar pathogenig iawn cytras 2.3.4.4b, er enghraifft H5N1, H5N5. Nid yw’n caniatáu symudiadau sydd wedi’u gwahardd gan ddatganiad a gyhoeddwyd mewn ymateb i achosion o unrhyw straen arall o HPAI.

Mae’r drwydded hon yn ddilys o 3:41pm ar 6 Mawrth 2025 hyd nes y caiff ei hatal neu ei dirymu’n ysgrifenedig ac mae’n dirymu ac yn disodli trwydded EXD389(HPAI)(EW) a ddaeth i rym am 10:26am ar 24 Rhagfyr 2024. 

Cyhoeddwyd y drwydded hon gan Lywodraeth Cymru ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ac mae’n berthnasol i Gymru a Lloegr yn unig.

Llofnodwyd: Emily Hayes, Arolygydd Milfeddygol

Dyddiad: 6 Mawrth 2025 Amser: 3:41pm

Arolygydd Milfeddygol a benodwyd gan Weinidogion Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol.

Os nad yw’r drwydded hon yn berthnasol i’r gweithgaredd rydych yn dymuno ymgymryd ag ef, neu os na allwch gydymffurfio ag unrhyw un o’r telerau ac amodau sy’n berthnasol i ddefnyddio’r drwydded hon, yna bydd angen i chi wneud cais am drwydded benodol.
 

Deddfwriaeth

Gwneir y drwydded hon o dan y pwerau sydd wedi’u cynnwys yn Neddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (fel y’i diwygiwyd) (“y Gorchymyn”) sy’n golygu:

  • Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd)
  • Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd)

Mae’r drwydded gyffredinol hon yn cael ei chyhoeddi yn unol â: 

  • paragraff 16 o Atodlen 4 a pharagraff 15 o Atodlen 5 o’r Gorchymyn yng Nghymru a Lloegr 

Amodau’r drwydded

  1. Rhaid i’r gwaith symud ddigwydd yn uniongyrchol i’r safle gwaredu cymeradwy yng Nghymru neu Loegr.
  2. Rhaid i symud a gwaredu gwastraff wyau deor a sgil-gynhyrchion dofednod eraill ddigwydd fel sgil-gynnyrch anifeiliaid Categori 1 neu Gategori 2 fel sy’n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol ar sgil-gynhyrchion anifeiliaid. Yn y safle gwaredu, rhaid trin yr wyau deor gwastraff a’r sgil-gynhyrchion dofednod gyda gwres, heb unrhyw oedi gormodol, i ddinistrio unrhyw feirws ffliw adar a allai fod yn bresennol.
  3. Ni ddylid taenu plisgyn wy heb ei brosesu yn uniongyrchol ar y tir, neu ei ddefnyddio mewn unrhyw gynhyrchion sy’n cael eu bwydo i anifeiliaid.
  4. Yn union cyn symud neu waredu gwastraff, rhaid i’r trwyddedai archwilio’r cofnodion deor ac unrhyw ddofednod byw ar y safle i sicrhau nad ydynt yn dangos unrhyw arwyddion clinigol (https://www.gov.uk/guidance/avian-influenza-bird-flu) a allai fod yn gysylltiedig â ffliw adar.
  5. Rhaid i’r trwyddedai hysbysu’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) o fewn 24 awr i’r arolygiad i gadarnhau bod yr arolygiad wedi’i gynnal ac nad oedd y dofednod ar y safle yn dangos unrhyw arwyddion clinigol a allai fod yn gysylltiedig â ffliw adar. Rhaid i’r hysbysiad gynnwys enw a chyfeiriad y traddodwr, safle’r cyrchfan gwaredu a dyddiad a chanlyniad yr arolygiad. Gellir gwneud yr hysbysiad ar e-bost i Outbreak.Licensing@apha.gov.uk neu yn ysgrifenedig at: The Licensing Team, APHA, Level One, County Hall, Spetchley Road, Worcester, WR5 2NP.
  6. Rhaid i’r cerbyd sy’n cludo’r gwastraff fod yn un sy’n atal gollyngiadau ac wedi’i orchuddio. Rhaid hefyd cael pecyn gollyngiadau yn y cerbyd rhag ofn y bydd gollyngiad yn digwydd ar y ffordd.
  7. Ni ddylid mynd â’r cerbyd casglu y tu hwnt i ffin allanol y safle gwreiddiol (lle bo hynny’n bosibl) ac ni ddylai deithio dros unrhyw wyneb a allai fod wedi’i halogi â llaid, slyri, tail dofednod, ysgarthion, plu, sarn, plisgyn wy neu ddeunydd tebyg arall a allai drosglwyddo clefyd. Dylai’r gwaith o drosglwyddo’r gwastraff ddigwydd ar ffin allanol y safle.
  8. Rhaid glanhau a diheintio olwynion a bwâu olwynion y cerbyd cyn gadael unrhyw safle lle casglwyd gwastraff ohono. Rhaid i’r gwaith glanhau a diheintio ar ôl llwytho ddigwydd mewn man lle nad oes modd i’r cerbyd gael ei halogi y tu hwnt i’r fan honno gan laid, slyri, tail dofednod, plu, sarn, plisgyn wy neu unrhyw ddeunydd tebyg.
  9. Ar ôl dadlwytho yn y safle gwaredu:
  • rhaid glanhau a diheintio’r rhannau o’r cerbyd ac unrhyw offer a ddefnyddiwyd i gludo unrhyw beth a allai fod wedi’i halogi gan laid, slyri, tail dofednod, ysgarthion, plu neu unrhyw ddeunydd tebyg arall, a hynny ar y safle
  • rhaid glanhau a diheintio olwynion a bwâu olwynion y cerbyd ar ôl dadlwytho a chyn gadael safle’r cyrchfan.
  1. Rhaid i’r trwyddedai sicrhau bod unrhyw berson/personau sy’n ymwneud â’r gwaith symud hwn yn gwneud y canlynol:
  • peidio â mynd i mewn i unrhyw safle dofednod neu adar caeth, neu adael unrhyw safle o’r fath, os yw/ydynt yn gwisgo dillad neu esgidiau sy’n amlwg wedi’u baeddu gan laid, ysgarthion dofednod neu adar, neu unrhyw ddeunydd tebyg
  • yn glanhau ac yn diheintio ei esgidiau/eu hesgidiau cyn mynd i mewn neu adael unrhyw safle neu fan lle’r oedd dofednod neu adar caeth yn bresennol
  • yn tynnu unrhyw ddillad tafladwy cyn gadael safle dofednod neu adar caeth a pheidio â’u hailddefnyddio ar safle arall
  • yn sicrhau bod dillad nad ydynt yn dafladwy yn lân ac yn rhydd o unrhyw halogiad gweladwy cyn gadael safle dofednod neu adar caeth
  • yn cymryd pob rhagofal rhesymol arall i osgoi trosglwyddo llaid, slyri, tail anifeiliaid, ysgarthion, plu neu unrhyw ddeunydd tebyg arall rhwng safleoedd dofednod ac adar caeth.
  1. Rhaid i’r gwaith glanhau a diheintio gydymffurfio ag Erthygl 66 o’r Gorchymyn yng Nghymru a Lloegr
  2. Nid yw’r drwydded hon yn berthnasol i symudiadau i, neu o, unrhyw safle sy’n destun hysbysiad gwahardd gan arolygydd milfeddygol.

Nodiadau esboniadol

  1. Os nad yw’r drwydded hon yn berthnasol i’r gweithgaredd rydych yn dymuno ymgymryd ag ef, neu os na allwch gydymffurfio ag unrhyw un o’r telerau ac amodau sy’n berthnasol i ddefnyddio’r drwydded hon, yna bydd angen i chi wneud cais am drwydded benodol.
  2. Rhaid i unigolyn sy’n symud unrhyw beth o dan awdurdod y drwydded hon sicrhau bod ganddo nodyn cludo. Rhaid i’r nodyn cludo gynnwys:
    • faint o garcasau dofednod sy’n cael eu symud
    • dyddiad y symudiad
    • enw’r traddodwr
    • cyfeiriad y safle lle symudwyd carcasau ohono
    • rhif cofrestru’r cerbyd sy’n casglu
    • enw’r traddodai
    • cyfeiriad y safle gwaredu
  3. Pan fydd angen defnyddio diheintydd o dan y drwydded hon, rhaid defnyddio’r crynodiad cywir, caniatáu amser cyswllt digonol, a rhaid iddo fod wedi ei gymeradwyo o dan y canlynol:
    • Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Cymru) 2007 (fel y’i diwygiwyd) yng Nghymru
    • Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Lloegr) 2007 (fel y’i diwygiwyd) yn Lloegr
  4. Rhaid i berson sy’n symud unrhyw beth o dan awdurdod y drwydded hon roi ei enw a’i gyfeiriad, dangos y nodyn cludo a chaniatáu i rywun wneud copi llawn neu gopi o ddarn o’r nodyn cludo, os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd neu un o swyddogion eraill Gweinidogion Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion yr Alban.
  5. Rhaid i ddeiliad y safle gwreiddiol gadw cofnod o symudiadau, gan gynnwys rhif cofrestru unrhyw gerbyd a ddefnyddir, cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol ar ôl y symudiad, a dylid cadw’r cofnod am o leiaf chwe wythnos ar ôl cwblhau’r symudiad, yn unol â gofyniad Erthygl 74 o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd) yng Nghymru, neu Erthygl 74 o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd) yn Lloegr.
  6. Rhaid cydymffurfio â phob deddfwriaeth berthnasol arall. Yn benodol, rhaid cydymffurfio â holl ofynion y ddeddfwriaeth sgil-gynhyrchion anifeiliaid.
  7. Os ydych chi’n amau achos o glefyd hysbysadwy, rhaid i chi roi gwybod am hyn ar unwaith:
    • Cymru, 0300 303 8268
    • Lloegr – llinell gymorth gwasanaethau gwledig Defra ar 03000 200 301
  8. Nid yw’r awdurdod i symud gwastraff o dan y drwydded hon yn berthnasol i safle sydd o dan hysbysiad Safle Heintiedig, Cyswllt neu Amheuaeth.
  9. Rhaid i bawb sy’n cadw adar gadw llygad barcud ar eu hadar am arwyddion o glefydau a sicrhau bioddiogelwch da (https://www.gov.uk/guidance/bird-flu-avian-influenza-how-to-prevent-it-and-stop-it-spreading) bob amser. Os oes gennych unrhyw bryderon am iechyd eich adar, gofynnwch am gyngor gan eich milfeddyg yn ddi-oed.
  10. Mae rhagor o fanylion am y ddeddfwriaeth sy’n cwmpasu ffliw adar ar gael yn:

Mae methu â chydymffurfio â’r mesurau gofynnol yn y drwydded hon yn drosedd o dan Adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981. Os yw rhywun yn euog o gyflawni trosedd o dan yr adran hon, y gosb yw uchafswm o chwe mis yn y carchar neu ddirwy nad yw’n uwch na Lefel 5 ar y raddfa safonol, neu’r ddau.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y drwydded gyffredinol hon, cysylltwch â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion

Dylech gynnwys eich enw, eich cyfeiriad llawn a’ch rhif ffôn fel y gallwn sicrhau bod eich ymholiad yn cael ei gyfeirio at yr arbenigwr cywir.