Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwyf innau a Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyhoeddi Gwasanaethau sy'n Addas i’r Dyfodol. Papur Gwyn yw hwn sy'n amlinellu cynigion i ddatblygu gwasanaethau iechyd a gofal ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, i sicrhau bod gwasanaethau'n canolbwyntio ar bobl a galluogi sefydliadau i weithio gyda'i gilydd ac ar draws ffiniau.

Yn y blynyddoedd diweddar, rydym wedi gosod mandad clir i wasanaethau cyhoeddus weithio gyda'i gilydd a chyda'r cyhoedd er mwyn diwallu anghenion yr unigolion a'r poblogaethau maent yn eu gwasanaethu. Mae deddfau sydd eisoes wedi'u pasio gan y Cynulliad, gan gynnwys Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2015 yn cefnogi'r nod hwn. Mae'r Papur Gwyn yn edrych ar gyfleoedd i ddatblygu cyfrifoldebau presennol er mwyn gwireddu potensial a sicrhau bod gwasanaethau'n addas at y dyfodol.

Yn 2015, cynhaliwyd ymgynghoriad ynghylch Ein Hiechyd, Ein Gwasanaeth Iechyd gan y Llywodraeth flaenorol. Papur Gwyrdd oedd hwn i hyrwyddo trafodaethau ar lefel uchel a gosod cwestiynau agored i helpu i gyfrannu at unrhyw gamau yn y dyfodol, gan gynnwys deddfwriaeth bosibl, ar ystod o faterion. Drwy’r ymgynghoriad, ysgogwyd diddordeb ac awydd i sicrhau bod modd i fyrddau iechyd gydweithio'n well â'i gilydd; bod modd ymgysylltu’n fwy effeithiol â’r cyhoedd a bod barn dinasyddion yn cael ei chynrychioli, a gweithredu'n fwy integredig, tryloyw ac eglur a bod yn agored yn y cylch gwaith arolygu.

Mae'r ymatebion a gafwyd drwy ymgynghori ar y Papur Gwyrdd, yn ogystal â nifer o'r argymhellion a wnaed yn adolygiad yr OECD ar ansawdd gofal iechyd yn y DU ac adolygiadau eraill, wedi llywio cynigion y Papur Gwyn.
Mae'r Papur Gwyn yn cynnwys:

• Mesurau i hyrwyddo trefniadau llywodraethiant ac arweinyddiaeth cryfach i sicrhau y caiff ein gwasanaethau eu harwain, eu cynllunio a'u datblygu yn ôl yr angen dros y blynyddoedd sydd i ddod – mae hyn yn cynnwys cynigion am gyfansoddiad byrddau'r gwasanaeth iechyd, yn ogystal â diogelu rôl Ysgrifennydd y Bwrdd ar lefel statudol;

• Dyletswyddau i hyrwyddo newid diwylliannol ar draws gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol fel bod cynllunio a chyflenwi gwasanaethau yn fwy agos at ei gilydd – mae hyn yn cynnwys Dyletswydd Ansawdd i Boblogaeth Cymru a fydd yn canolbwyntio ar ansawdd ar lefel leol yn ogystal â chefnogi gweithio ar lefel ranbarthol a chenedlaethol; a Dyletswydd Gonestrwydd newydd er mwyn sicrhau bod dinasyddion yn rhan ganolog o brosesau gwneud penderfyniadau a rhannu gwybodaeth;

• Prosesau cyffredin yn sail i wasanaethau iechyd a gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a fydd yn annog integreiddio pellach ac o fudd i ddinasyddion – mae hyn yn cynnwys cynigion ar gyfer safonau cyffredin lefel uchel ar draws gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol; ac ymchwilio i gwynion am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd i gynnwys pob lleoliad;

• Cryfhau llais dinasyddion ynghylch y ffordd y caiff gwasanaethau eu cynllunio – mae hyn yn cynnwys cynigion i sefydlu trefniadau annibynnol newydd ar gyfer y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i gynrychioli budd y cyhoedd yn hytrach na'r model presennol o Gynghorau Iechyd Cymuned;

• Gwasanaeth arolygu a rheoleiddio sy'n addas at y dyfodol, a fydd o bosibl yn rhan o'r trefniadau i wrando ar lais y dinesydd fel rhan o gorff annibynnol newydd;

• Proses gliriach ar gyfer newid gwasanaethau.

Ein gobaith yw y bydd y cyfeiriad a amlinellir yn y Papur Gwyn yn sylfaen i ganfyddiadau'r Adolygiad Seneddol, yr ydym i gyd yn aros yn eiddgar amdano.

Bydd yr ymgynghoriad ar agor o 28 Mehefin tan 29 Medi ac rwyf i a'r Gweinidog yn gobeithio'n fawr y bydd pobl yn manteisio ar y cyfle hwn i ddylanwadu ar ddeddfwriaeth bosibl ar gyfer y dyfodol ar ansawdd a llywodraethiant ein gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.

https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/gwasanaethau-syn-addas-ir-dyfodol