Cylch gwaith blynyddol Estyn: 2025 i 2026
Y cyngor penodol sy’n ofynnol gan Lywodraeth Cymru yn 2025 i 2026.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
1a) Adroddiadau manwl a, lle bo'n briodol, adnoddau eraill sy’n tynnu ar dystiolaeth o arolygiadau thematig
Caiff yr adolygiadau thematig sydd i’w cynnwys yng nghylch gwaith Estyn ar gyfer 2025 i 2026:
Adolygiad o Faes Dysgu a Phrofiad: Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Hwn fydd yr ail mewn cyfres o adolygiadau o'r Meysydd Dysgu a Phrofiad. Bydd hyn yn canolbwyntio ar yr ystod oedran llawn o 3 i 16 oed. Bydd yr adolygiad yn ymdrin â chynllunio'r cwricwlwm, addysgu, asesu a chynnydd dysgwyr. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at arferion effeithiol.
Hyd: adolygiad mawr
Cydberthnasau iach mewn ysgolion uwchradd ac Unedau Cyfeirio Disgyblion
Bydd yr adolygiad hwn yn ystyried pa mor dda mae ysgolion uwchradd ac Unedau Cyfeirio Disgyblion yn darparu profiadau dysgu o ansawdd uchel i bobl ifanc 11 i 16 oed am gydberthnasau iach. Bydd yr adolygiad yn ystyried sut mae ysgolion yn cefnogi cydberthnasau iach cadarnhaol fel rhan o'u dull ysgol gyfan (e.e. adeiladu diwylliant cadarnhaol a chefnogol, sefydlu polisïau ac arferion, ymyriadau) yn ogystal â thrwy addysgu fel rhan o’r llinyn grymuso, diogelwch a pharch yn eu darpariaeth Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, y llinyn cydberthnasau a hunaniaeth o Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, a'r Datganiad Cydberthnasau Iach yn y Datganiadau o'r Hyn sy'n Bwysig yn y maes Iechyd a Lles. Bydd yr adolygiad hefyd yn asesu pa mor dda y mae staff ysgol yn cael eu cefnogi i ddarparu'r profiadau dysgu hyn, gan ystyried argaeledd ac effeithiolrwydd hyfforddiant, dysgu proffesiynol, a chymorth parhaus.
Hyd: adolygiad safonol
Presenoldeb a chyfranogiad mewn addysg mewn colegau addysg bellach a chweched dosbarth
Bydd yr adolygiad hwn yn ystyried lefelau presenoldeb a chyfranogiad mewn colegau addysg bellach a chweched dosbarth, gan wneud cymariaethau lle bo'n bosibl. Bydd yn ystyried tueddiadau ar gyfer gwahanol grwpiau o ddysgwyr ac ar draws gwahanol feysydd pwnc a lefelau cwrs. Bydd yn ystyried ansawdd y cymorth a ddarperir i ddysgwyr.
Hyd: adolygiad safonol
Adolygiad o Wasanaethau Lles Addysg
Bydd yr adolygiad hwn yn ystyried dull gweithredu gwasanaethau lles addysg ledled Cymru a'u heffaith wrth fynd i'r afael ag absenoldeb cyson. Bydd yn tynnu sylw at arferion effeithiol ac yn gwneud argymhellion ar gyfer datblygu gwasanaethau lles addysg.
Hyd: adolygiad safonol
Cymorth yr awdurdodau lleol i ysgolion ar reoli eu cyllidebau
Bydd yr adolygiad hwn yn ystyried pa gyngor ariannol, gwybodaeth a hyfforddiant sydd ar gael i gefnogi ysgolion gyda chynllunio ariannol strategol a rheoli eu cyllideb. Bydd yn tynnu sylw at arferion effeithiol ac yn gwneud argymhellion ar gyfer gwella'r cymorth a ddarperir.
Hyd: adolygiad safonol
Y trefniadau ar gyfer dysgu unigol i ddisgyblion sy'n cael eu haddysg heblaw yn yr ysgol ac ansawdd y dysgu
Bydd yr adolygiad hwn yn craffu ar ddysgu unigol i ddisgyblion sy'n cael eu haddysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS). Bydd yn ystyried amrywiadau mewn dulliau ar draws awdurdodau lleol ac ysgolion. Bydd yn tynnu sylw at arferion effeithiol ac yn gwneud argymhellion ar gyfer gwella'r ddarpariaeth.
Hyd: adolygiad safonol
Ieithoedd rhyngwladol
Bydd yr adolygiad hwn yn gwerthuso'r addysgu a'r dysgu ar gyfer ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion cynradd, uwchradd a phob oed yng Nghymru. Bydd yn tynnu sylw at arferion effeithiol trwy gynnwys cameos yn yr adroddiad. Bydd yn darparu adnodd dysgu proffesiynol i bawb sy'n ymwneud â chynllunio ar gyfer ieithoedd rhyngwladol a’u haddysgu.
Hyd: adolygiad safonol
Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol (AI) mewn ysgolion a lleoliadau a gynhelir
Bydd yr adolygiad hwn yn archwilio sut mae ysgolion a lleoliadau yn defnyddio AI cynhyrchiol ar hyn o bryd mewn bywyd ysgol. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at enghreifftiau o arferion effeithiol a(neu) arloesol. Bydd hefyd yn tynnu sylw at heriau a brofwyd gan y sector. Bydd yr adroddiad hwn yn rhoi trosolwg cenedlaethol ar y defnydd a'r effaith gyfredol o ddeallusrwydd artiffisial mewn ysgolion a lleoliadau yng Nghymru.
Hyd: adolygiad safonol 2il flwyddyn
1b) Cyngor parhaus yn seiliedig ar dystiolaeth o arolygiadau, gwaith ymgysylltu, a gweithgarwch arall
Mae Estyn yn darparu cyngor a chymorth ar gyfer gwneud penderfyniadau mewn amrywiol feysydd. Yn ystod 2025 i 2026 bydd Estyn yn parhau i gasglu gwybodaeth o arolygiadau a gwaith ymgysylltu i gefnogi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y sectorau addysg a hyfforddiant. Bydd hyn yn arwain at gyngor parhaus drwy gyfarfodydd â swyddogion Llywodraeth Cymru ac yn llywio cyfraniadau Estyn i weithgorau cenedlaethol, y Sgyrsiau Rhwydwaith Cenedlaethol, cyngor ysgrifenedig, canllawiau cyhoeddedig neu adroddiadau.
Yn seiliedig ar dystiolaeth a gesglir o arolygiadau, gwaith ymgysylltu a gweithgaredd arall, bydd Estyn hefyd yn darparu 'r wybodaeth ddiweddaraf a chyngor ar y canlynol:
- gweithredu’r Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau
- effaith cynllunio ar gyfer llythrennedd ar sgiliau darllen, ysgrifennu a llafaredd disgyblion
- datblygu dealltwriaeth fathemategol a chymhwyso sgiliau rhifedd dysgwyr ar draws y cwricwlwm
- datblygu cymhwysedd digidol dysgwyr
- datblygu dysgwyr fel meddylwyr annibynnol
- effaith arweinyddiaeth ar addysgu
- sicrhau bod disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn cyrraedd eu potensial
- arferion effeithiol wrth hyrwyddo tegwch a chynhwysiant
- dulliau o hyrwyddo presenoldeb rheolaidd ac ymddygiad cadarnhaol mewn ysgolion
- sicrhau bod arferion diogelu effeithiol ar waith
Gellid gofyn i Estyn roi cymorth i amryw o wahanol weithgorau drwy ddod yn rhan ohonynt, cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig, neu gynnal trafodaethau gydag uwch-swyddogion y Gyfarwyddiaeth Addysg ac Addysg Drydyddol. Byddai hyn hefyd yn cynnwys cyngor a chymorth ar gyfer yr agweddau hynny ar addysg a hyfforddiant ôl-orfodol sydd o fewn cylch gwaith Medr.
1c) Parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a’r consortia rhanbarthol/gwasanaethau gwella ysgolion i gefnogi ysgolion ac Unedau Uned Cyfeirio Disgyblion sy'n peri pryder
Bydd Estyn yn parhau i gydweithio â phartneriaid i sicrhau bod eu gwaith monitro a'u cefnogaeth i ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion sy'n peri pryder yn plethu gyda'r cymorth gwella ysgolion a ddarperir gan eraill.
1d) Gweithredu trefniadau arolygu newydd yn y sectorau addysg gychwynnol athrawon (AGA) a dysgu seiliedig ar waith (prentisiaethau) o fis Medi 2025 ymlaen
Bydd Estyn yn ymgynghori ar drefniadau arolygu newydd yn y sectorau addysg gychwynnol athrawon (AGA) a dysgu seiliedig ar waith (prentisiaethau) ac yn ei gweithredu o fis Medi 2025 ymlaen. Bydd y trefniadau hyn, lle bo'n berthnasol, yn adeiladu ar y rhai a gyflwynwyd yn y rhan fwyaf o sectorau eraill ym mis Medi 2024.
1e) Cefnogi Medr
Bydd Estyn yn cefnogi datblygiad parhaus Medr. Bydd Estyn yn gweithio gyda Medr a QAA (yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch) i ddatblygu canllawiau i ddarparwyr ar hunanwerthuso effeithiol a chynllunio gwelliant parhaus.
1f) Meysydd eraill y gall fod angen cyngor a chymorth ar Lywodraeth Cymru ynghylch addysg a hyfforddiant yng Nghymru
Mae Estyn hefyd yn darparu cefnogaeth barhaus yn ymwneud â’r canlynol:
- cynigion yn ymwneud â chau ac ad-drefnu ysgolion
- datblygu'r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol diwygiedig ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP)
- cofrestru ysgolion annibynnol, gan gynnwys ceisiadau am newid sylweddol
- arolygu ysgolion annibynnol a’u monitro’n rheolaidd, gan gynnwys y rhai sydd wedi'u cofrestru i gynnig darpariaeth ddysgu ychwanegol i ddysgwyr sydd â datganiadau anghenion addysgol arbennig (AAA) neu gynlluniau datblygu unigol
- arolygu a monitro’n rheolaidd yr holl golegau arbenigol annibynnol yng Nghymru
- datblygu cymwysterau a threfniadau arolygu ar gyfer unrhyw ofynion newydd arfaethedig o ran hyfforddiant cychwynnol i athrawon a datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer athrawon, tiwtoriaid a hyfforddwyr yn y sector dysgu gydol oes
- gwaith dilynol gyda’r Awdurdodau Addysg Lleol
- gweithio gyda thîm Anrhydeddau Canolog Llywodraeth Cymru i gyfrannu unrhyw wybodaeth berthnasol fel rhan o'u proses ar gyfer dilysu cyfeiriadau anrhydedd ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn darparwyr hyfforddiant ac addysg
- gwybodaeth gefndirol ar gyfer cyfarfodydd Gweinidogol ac ymweliadau ag ysgolion a darparwyr eraill
- cwestiynau i'r Senedd
