Eitem agenda 7: camau gweithredu sy’n codi
Cyfarfod Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, 12 Mawrth 2025, camau gweithredu sy’n codi.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyfarfod 5: 5 Rhagfyr 2024
Eitem agenda 7: Y Cyfarfod nesaf, dyddiad a lleoliad
Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i archwilio opsiynau ar gyfer cynnal y cyfarfod ar 8 Hydref yng Ngogledd Cymru.
Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor
PARHAUS – gofynnir i aelodau am eu dewis ar gyfer lleoliad y cyfarfod yn fuan.
Eitem agenda 7: Y Cyfarfod nesaf, dyddiad a lleoliad
Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i fwrw ymlaen â threfniadau ar gyfer cyfarfod y Cyngor ar 12 Mawrth wyneb yn wyneb yn swyddfa Llywodraeth Cymru ym Merthyr Tudful.
Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor
Cwblhawyd.
Eitem agenda 5: Y Gweithgor Grantiau Gwaith Teg mewn Busnes
Diweddariad ysgrifenedig ar y Gweithgor Grantiau Gwaith Teg mewn Busnes i'w ddarparu yn dilyn ei gyfarfod cyntaf i aelodau’r Cyngor.
Perchennog: Y Gweithgor Grantiau Gwaith Teg mewn Busnes
Cwblhawyd: Cadeiryddion y Gweithgor i roi diweddariad i’r cyfarfod ar 12 Mawrth.
Eitem agenda 4: Deallusrwydd artiffisial (AI) a'r gweithlu
Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i ddatblygu opsiynau (mewn ymgynghoriad â Gweithgor AI Cyngor Partneriaeth y Gweithlu) ar gyfer sut y gallai'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol fwrw ymlaen â'r gwaith ar AI.
Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor
Parhaus: Papur wedi'i gyflwyno ar gyfer cyfarfod 12 Mawrth (SPC 06-04).
Eitem agenda 4 - Deallusrwydd artiffisial (AI) a'r gweithlu
Gweithgor AI Cyngor Partneriaeth y Gweithlu i ddarparu'r fersiynau hawdd eu darllen o'u hadroddiadau i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ar ôl eu cwblhau.
Perchennog: Gweithgor AI Cyngor Partneriaeth y Gweithlu
Parhaus: nid yw'r fersiynau hawdd eu darllen wedi eu cwblhau eto.
Eitem agenda 3: Dadansoddiad o adroddiadau'r sector cyhoeddus
Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i ddarparu crynodeb i’r aelodau gytuno arno, gan gwmpasu’r wybodaeth ychwanegol yr oeddent yn awgrymu y byddai'n ddefnyddiol ei chynnwys yn y crynodeb o adroddiadau'r cyrff cyhoeddus ar gydymffurfio â'r Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol.
Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor
Cwblhawyd: Anfonodd yr Ysgrifenyddiaeth y crynodeb at aelodau drwy e-bost ar 19 Chwefror.
Eitem agenda 2: Y Bil Hawliau Cyflogaeth
Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i sicrhau bod diweddariadau rheolaidd yn cael eu darparu i'r Cyngor ar gynnydd y Bil Hawliau Cyflogaeth.
Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor
Parhaus: diweddariad wedi'i ddarparu ar gyfer cyfarfod 12 Mawrth.
Eitem agenda 2: Y Bil Hawliau Cyflogaeth
Swyddogion Llywodraeth Cymru i roi nodyn briffio i'r Prif Weinidog ar y Bil Hawliau Cyflogaeth a'r hunangyflogedig.
Perchennog: Swyddogion Llywodraeth Cymru, Cwblhawyd.
Cyfarfod 4: 30 Medi 2024
Eitem 5: Dull o ymwneud â Materion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i ymgysylltu ag aelodau i bennu cadeirydd ac aelodaeth ar gyfer is-grŵp Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sefydlog y gellid ei weithredu yn ôl yr angen.
Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor
Cwblhawyd: Cytunwyd ar Gadeirydd ac aelodaeth sefydlog y grŵp.
Eitem 3: Gwella gwaith teg drwy gymorth ariannol Llywodraeth Cymru
Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i ystyried y Contract Economaidd mewn ymgynghoriad ag aelodau.
Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor
Cwblhawyd: Cytunwyd ar aelodaeth y grŵp a chynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ar 25 Chwefror.
Eitem 2: Cyllideb blaenoriaethau cyflenwi, cynhyrchiant ac atebolrwydd
Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i ddatblygu cynnig ar gyfer is-grŵp o’r Cyngor i archwilio'r iaith sy’n ymwneud â chynhyrchiant ac effeithlonrwydd.
Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor
Cwblhawyd: Cytunodd yr aelodau yn y cyfarfod ar 5 Rhagfyr nad oedd angen yr is-grŵp hwn mwyach.
Cyfarfod 2: 4 Mehefin 2024
Eitem 3: Cyfrinachol: Aelodau yn unig – Ymgynghoriad ar Flaenoriaethau Deddfwriaethol Gweinidogion Cymru
Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i dynnu sylw’r aelodau pan fydd ymgynghoriad Cam 1 ar y Bil Bysiau yn cael ei lansio.
Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor
Parhaus: I’w roi ar waith pan gyflwynir y Bil Bysiau.
Cyfarfod 1: 1 Chwefror 2024
Eitem 4: Y dull arfaethedig o ddarparu gwybodaeth a chyngor gan y Cyngor i Weinidogion Cymru
Cytunodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol i rannu pob un o’r 56 o adroddiadau partneriaeth gymdeithasol gan gyrff cyhoeddus (pan fyddant ar gael) gyda'r adroddiad cryno ar gyfer 2024/25 pe bai aelodau’r Cyngor yn dymuno eu gweld.
Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor
Parhaus: I’w roi ar waith pan fydd yr adroddiadau wedi'u cyhoeddi.
Eitem 6: Darpariaethau Caffael Cyhoeddus Cymdeithasol Gyfrifol Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023
SH i ystyried y ffordd orau o sicrhau bod y Cyngor yn cael ei ddiweddaru trwy sesiynau briffio technegol ar faterion caffael yn ogystal â datblygiad yr Is-grŵp Caffael.
Perchennog: Swyddog Llywodraeth Cymru
Parhaus: Darparwyd diweddariad pellach yng nghyfarfod mis Mawrth fel papur i'w nodi, yn dilyn y rhai a ddarparwyd yng nghyfarfodydd Gorffennaf a 30 Medi y llynedd. Cynhaliwyd sesiwn friffio dechnegol ar gaffael ar 24 Medi.
