Neidio i'r prif gynnwy

Y penderfyniad sydd ei angen

Gofynnir i aelodau'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (y Cyngor): 

  • Nodi’r diweddariad ar heriau datblygu sgiliau a galluoedd deallusrwydd artiffisial (AI) yn y gweithlu presennol a gweithlu’r dyfodol.
  • Trafod a chytuno a oes awydd i ymgymryd â gwaith ar y sgiliau a'r galluoedd sydd gan y gweithlu presennol yn gysylltiedig ag AI. Os cytunir, ystyried sut y dylid bwrw ymlaen â’r gwaith hwn. 

Mater

  1. Rhoi diweddariad i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ar bwysigrwydd datblygu gweithlu sy’n llythrennog ac yn fedrus o safbwynt AI, a sut y gallai hyn effeithio ar uchelgeisiau strategol Cymru ar gyfer AI.
     
  2. Gofynnir i'r Cyngor ystyried y papur hwn – sy'n adeiladu ar waith tebyg a wnaed gan Gyngor Partneriaeth y Gweithlu - a phenderfynu a hoffai'r Cyngor archwilio'r mater yn fanylach.

Cefndir

  1. Mae’r Strategaeth Ddigidol i Gymru, sef rhaglen ar gyfer ymrwymiad y Llywodraeth, yn nodi sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu rheoli grym adnoddau digidol a data er lles pobl a busnesau yng Nghymru. Mae Cenhadaeth 3 y Strategaeth – Sgiliau Digidol – yn ymrwymo i "[G]reu gweithlu sydd â'r sgiliau digidol, y galluogrwydd a'r hyder i ragori yn y gweithle ac mewn bywyd bob dydd."
     
  2. O safbwynt AI yn benodol, nodau strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer mabwysiadu AI yw:
  • Gweithredu fel catalydd ar gyfer twf economaidd.
  • Galluogi cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yn well.
  • Bod o fudd i fywydau pawb yng Nghymru.
  1. Mae Cyngor Partneriaeth y Gweithlu eisoes wedi cydnabod y tarfu y mae AI yn ei achosi ac wedi datblygu a chyhoeddi ei ganllawiau ar yr effeithiau tebygol ar weithlu'r sector cyhoeddus yng Nghymru.
     
  2. Mewn cyfarfod blaenorol o’r Cyngor ym mis Rhagfyr, roedd consensws ar bwysigrwydd goblygiadau AI i'r gweithlu, yr angen am ystyriaeth bellach gan y Cyngor, a chytundeb i osgoi dyblygu gwaith Cyngor Partneriaeth y Gweithlu sydd eisoes wedi’i wneud.  
     
  3. Felly, mae swyddogion wedi datblygu'r papur hwn sy'n amlinellu pwysigrwydd datblygu a chynnal gweithlu sy’n llythrennog ac yn fedrus o ran AI - yn awr ac yn y dyfodol - ynghyd â rhai o'r rhwystrau posibl wrth wneud hynny.

Pwysigrwydd llythrennedd a sgiliau AI

  1. Yn economaidd, mae amcangyfrifon yn dangos y potensial ar gyfer twf Cynnyrch Domestig Gros (GDP) o 5 i 10%, ac enillion cynhyrchiant o gymaint â 25% dros y degawd nesaf o ganlyniad i fabwysiadu AI yn unig.
     
  2. Mae astudiaeth gan y Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF) hefyd yn awgrymu y bydd AI cynhyrchiol yn effeithio ar tua 40 y cant o gyflogaeth fyd-eang, bydd effaith ar 85 miliwn o swyddi erbyn 2030 a bydd miliynau o swyddi newydd yn cael eu creu nad ydynt yn bodoli ar hyn o bryd. Mae angen i ni gynllunio ar gyfer y newidiadau i'r farchnad lafur sydd o'n blaenau, trwy gael strategaethau gweithlu ar waith i leihau colli swyddi (ac effaith unrhyw golledion a geir), i nodi'r swyddi hynny a fydd yn cael eu creu, a sicrhau ein bod yn uwchsgilio ein gweithlu presennol i gwrdd â'r heriau a'r cyfleoedd sydd o'n blaenau.
     
  3. Bydd AI yn arwain at wahanol ofynion o ran sgiliau, gan ysgogi’r galw am sgiliau sy’n brin ar hyn o bryd fel peirianneg promptiau, gwyddor data a/neu godio/datblygwyr, y mae gan bob un ohonynt werth uchel o fewn y farchnad.
     
  4. Er mwyn manteisio’n llawn ar botensial AI, rhaid i ni hefyd ymateb i anghenion y farchnad lafur sy'n newid yn gyflym trwy greu - a chynnal - gweithlu sy'n llythrennog o ran AI ac sy'n deall y cyfleoedd, risgiau, potensial a chyfyngiadau'r technolegau ar draws amrywiaeth o wahanol sectorau a chyd-destunau.
     
  5. Mae mabwysiadu AI ar raddfa fawr yn her amlweddog. Bydd angen inni ddylanwadu ar greu ac uno’r amodau cywir, a fydd yn cynnwys data o ansawdd uchel, seilwaith AI ond hefyd capasiti a gallu ein pobl i alluogi i'r technolegau wneud gwahaniaeth go iawn. 
     
  6. Bydd llythrennedd a sgiliau AI yn galluogi pobl i ffynnu yn yr economi ddigidol ac yn sicrhau y gallant ddefnyddio ac ymwneud â thechnolegau AI mewn ffordd gyfrifol, moesegol a gwybodus (sy'n cyd-fynd â gwaith Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ei hun yn y maes hwn). Wrth i dechnolegau AI ddatblygu’n gyflym i fod yn rhan annatod o gymdeithas, bydd y sgiliau hyn yn dod yn hanfodol i bawb, gan gynnwys ein gweithlu, ac yn alluogwr allweddol ar gyfer nod "Cymru Lewyrchus" yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Cyd-destun y DU

  1. Ym mis Ionawr, cyhoeddodd Llywodraeth y DU eu AI Opportunities Action Plan sy'n canolbwyntio'n sylweddol ar ddatblygu, cadw a denu cronfa dalent AI gadarn. Mae ei fentrau yn cynnwys:
  • Cynyddu arbenigedd AI - hyfforddi degau o filoedd o weithwyr proffesiynol AI ychwanegol erbyn 2030, i gyd-fynd â'r galw a ragwelir am weithwyr medrus.
  • Mynd i'r afael ag amrywiaeth mewn AI - mae'r cynllun yn pleidio ymyriadau fel hacathonau a chystadlaethau wedi'u hanelu at grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a chyrsiau trosi AI wedi’u hehangu.
  • Llwybrau Addysg Amgen - hyrwyddo prentisiaethau, uwchsgilio a arweinir gan gyflogwyr, a chyfleoedd hunanddysgu i wneud gyrfaoedd AI yn fwy hygyrch.
  • Denu Talent Fyd-eang - Bydd ymdrechion i symleiddio prosesau fisa a chreu rhaglenni ysgoloriaeth (e.e., ysgoloriaeth AI nodedig ar lefel israddedig a meistr) yn denu talent ryngwladol o’r radd flaenaf i'r DU, ochr yn ochr â chwilio am y gweithwyr proffesiynol AI gorau ar gyfer swyddi Ymchwil a Datblygu sydd â blaenoriaeth uchel.
  • Dysgu Gydol Oes ac Addasu'r Gweithlu - Bydd AI yn helaethu llawer o swyddi ac yn disodli eraill, gan olygu bod angen rhaglenni ailsgilio i helpu gweithwyr i drosglwyddo i rolau lle mae AI wedi’i alluogi. Gydag ysbrydoliaeth gan fodelau o Singapore a De Korea, bydd y DU yn integreiddio sgiliau AI a llythrennedd digidol yn ei systemau addysg a hyfforddiant.
  1. Mae argymhelliad 14 y Cynllun Gweithredu yn cynnig asesu maint y bwlch sgiliau yn gywir. Bydd ymateb Llywodraeth y DU yn cynnwys yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg, y Cyngor Strategaeth Ddiwydiannol a Skills England yn cydweithio i ddatblygu asesiad o'r angen am sgiliau AI yn Lloegr yn unig.
     
  2. Mae swyddogion eisoes mewn trafodaethau gyda’r Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg i sicrhau bod Cymru'n elwa o gyflawni'r Cynllun Gweithredu, a'r buddsoddiad cysylltiedig. Fodd bynnag, gan fod sgiliau yn fater datganoledig ni fydd gwaith mapio’r bwlch sgiliau yn cael ei wneud ar gyfer Cymru. Felly, efallai y bydd y Cyngor yn credu y dylem fwrw ymlaen â'n hasesiad ein hunain o'r bwlch sgiliau. 

Economi Cymru

  1. Yn ddiweddar, cwblhaodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ymchwiliad archwiliadol byr i AI ac economi Cymru. Daeth sgiliau i'r amlwg fel rhwystr clir i fusnesau yng Nghymru fabwysiadu AI, gyda Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru yn nodi:
  • Dywed 46% o'r holl fusnesau bach eu bod yn pryderu nad oes ganddynt yr wybodaeth a/neu'r sgiliau sydd eu hangen i'w gweithlu ddefnyddio AI yn llwyddiannus.
  • Mae 20 y cant o fusnesau bach yn pryderu nad oes gan eu gweithlu ddigon o sgiliau i ddefnyddio AI.
  1. Mae Deallusrwydd Artiffisial (AI) eisoes yn amharwr byd-eang sydd â'r potensial i drawsnewid y ffordd yr ydym yn byw, gweithio a gwneud busnes.
     
  2. Fel rhan o Genhadaeth Economaidd Llywodraeth Cymru, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn cynnal adolygiad tymor byr o AI. Mae'r adolygiad yn ystyried yr effaith y mae AI yn ei chael ar fusnes a'r economi, gan gynnwys ar y gweithlu.
     
  3. Codwyd pwysigrwydd sgiliau a thalent er mwyn gwneud y gorau o dechnolegau AI fel rhan o'r adolygiad, yn enwedig gan ddiwydiant.

Sector Cyhoeddus Cymru

  1. Yn ôl yn 2021, comisiynodd y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) adolygiad o lwybrau sgiliau AU/AB ledled Cymru. Nododd yr adroddiad nad oes gan sefydliadau'r sector cyhoeddus y sgiliau cywir ar waith i addasu i drawsnewid digidol, gan dynnu sylw at brentisiaethau fel ffordd o helpu i fynd i'r afael â'r prinder hwn.  
     
  2. Ym maes iechyd a gofal, sefydlwyd Comisiwn AI i nodi, datblygu a hyrwyddo'r defnydd o AI mewn amgylchedd rheoleiddiol diogel a moesegol ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Mae sgiliau yn ffrwd waith benodol y mae'r Comisiwn yn ei harchwilio.

Ysgogiadau ar gyfer newid

  1. Gellir dadlau bod AI eisoes yn cyflwyno newid rhwng cenedlaethau, gyda'n dinasyddion ieuengaf bron yn sicr o dyfu i fyny mewn byd lle mae’r technolegau yn chwarae rhan flaenllaw.
     
  2. Rhaid i ni hefyd fod yn ymwybodol o amrywiaeth o wahanol ffactorau a allai fod yn berthnasol wrth fynd i'r afael â her sgiliau a llythrennedd AI:
  • Sut mae'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn denu ac yn cadw'r dalent sydd ei hangen ar gyfer maint y trawsnewid digidol sydd ei angen?
  • A oes digon o gapasiti o ran y gweithlu ysgol mewn gwyddoniaeth ddigidol/cyfrifiadureg?
  • I ba raddau y gallwn ddylanwadu ar brifysgolion i ymestyn y cyfleoedd ym maes AI/Gwyddor Data?
  • A ddylid canolbwyntio'n benodol ar lwybrau galwedigaethol ar gyfer sgiliau, hyfforddiant a chymwysterau AI?
  • Beth yw effaith bosibl colli'r unig Ganolfan AI ar gyfer Hyfforddiant Doethurol yng Nghymru, sydd wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Abertawe?
  • A ddylid mynd i'r afael â'r broblem o raddedigion medrus iawn yn dewis gadael Cymru i fynd i mewn i'r farchnad lafur mewn mannau eraill, ac os felly, sut mae gwneud hynny?
  • Sut gallem ddechrau mynd i'r afael â'r buddsoddiad sylweddol a pharhaus a fydd yn debygol o fod ei angen i gefnogi uwchsgilio/ailsgilio'r gweithlu ar raddfa fawr?
  • I ba raddau y bydd y tymor Llywodraeth cymharol fyr sy'n weddill yn ffactor cyfyngol ar unrhyw ymyriadau arfaethedig?
  • Sut y gellir hyrwyddo llythrennedd AI fel her i’r gymdeithas gyfan?

Materion i’r Cyngor eu hystyried

  1. Gofynnir i'r Cyngor nodi cynnwys y papur hwn ac ystyried a oes angen i'r Cyngor ddatblygu gwaith ar lythrennedd a sgiliau AI ymhellach ac, os felly, sut.
     
  2. Gallai'r opsiynau i ddatblygu'r gwaith gynnwys:
  • Cynnal dadansoddiad o’r bwlch sgiliau digidol/AI ochr yn ochr â gweithgaredd arfaethedig Llywodraeth y DU ar gyfer Lloegr, mewn ymateb uniongyrchol i'r Cynllun Gweithredu Cyfleoedd AI.
  • Diweddaru’r gwaith asesu sgiliau AU/AB blaenorol, gan ystyried maint ein darpariaeth AI ôl-16 bresennol yng Nghymru.
  • Comisiynu ymchwil mwy ffurfiol i greu sylfaen o dystiolaeth ar draws addysg cyn-16, cymwysterau, gyrfaoedd, addysg bellach ac uwch, y sectorau preifat a chyhoeddus a'r trydydd sector i lywio camau nesaf y Cyngor.

Argymhelliad

  1. Gofynnir i aelodau’r Cyngor ystyried a oes awydd i wneud gwaith manylach yn y maes hwn ac, os felly, sut y dylid gwneud y gwaith hwn. 

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

  • Mae potensial ar gyfer effeithiau gwahaniaethol ar draws gwahanol grwpiau o bobl, yn dibynnu ar sut mae technolegau AI yn effeithio ar swyddi.
  • Mae angen sicrhau datblygu piblinellau amrywiol o sgiliau'r dyfodol er mwyn sicrhau cyfleoedd cyfartal i bawb, gymaint ag y bo modd gwneud hynny.