Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau i'w nodi

Os ydych chi'n defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymhorthdal, mae'n rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau – e-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru

1. Rhanbarth

Cymru gyfan

2. Teitl y cynllun cymhorthdal

Rhaglen Cymorth Grant y Cwricwlwm i Gymru

3. Sail gyfreithiol yn y DU

  • Adran 60(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006
  • Adran 1(2), 1(3)d ac 1(7)f o Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975

4. Amcanion polisi penodol y cynllun

Nod y cyllid yw helpu ysgolion a lleoliadau i wireddu'r Cwricwlwm i Gymru ar gyfer pob dysgwr rhwng 3 ac 16 oed. Mae'r cyllid hefyd yn helpu i gefnogi Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 ac ymrwymiadau'r agenda genedlaethol (Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, 2015) i wneud y canlynol:

  • galluogi dysgwyr i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol)
  • hyrwyddo amrywiaeth o weithgareddau ac ymyriadau sy’n gwella gallu ysgolion a lleoliadau i helpu eu dysgwyr i wneud cynnydd
  • lleihau'r datgysylltu rhwng gwireddu uchelgeisiau'r cwricwlwm mewn ysgolion a lleoliadau a'r uchelgeisiau ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru
  • sicrhau bod gan ysgolion a lleoliadau fynediad cyfartal at gymorth nad yw'n dibynnu ar leoliad neu ymwybyddiaeth ysgolion
  • cynorthwyo gwahaniaethau gofodol ar gyfer ysgolion a lleoliadau.

5. Diben y cynllun

Mae rhaglen cymorth grant y Cwricwlwm i Gymru yn hyrwyddo arbenigedd sefydliadau addysgol a phartneriaid cyflenwi allweddol eraill i gysoni eu cymorth â'r Cwricwlwm i Gymru yn erbyn anghenion datblygol y sector. Er bod cyllid sy'n gysylltiedig â chymorth y cwricwlwm wedi bod ar gael i sefydliadau addysgol dros amser, bydd y ddarpariaeth yn cynnig cymorth wedi'i deilwra ac yn cael effaith ar sicrhau mwy o gymorth i ysgolion a lleoliadau.

Un o'r heriau sy'n wynebu ysgolion a lleoliadau wrth wireddu'r Cwricwlwm i Gymru yw cael gafael ar gymorth. Mae'r rhaglen gymorth yn ystyried rhwystrau rhag dysgu sy'n bodoli ac yn targedu cymorth i feysydd blaenoriaeth sydd wedi'u nodi, gan gynnwys blaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer datblygu llythrennedd a rhifedd. Nod y rhaglen gymorth yw galluogi ysgolion a lleoliadau i ddiwallu anghenion pob dysgwr fel y gall gyrraedd ei botensial llawn a ffynnu.

Mae'r rhaglen yn ystyried rhwystrau eraill rhag dysgu sy'n bodoli ochr yn ochr ag anfantais economaidd. Mae gan ddysgwyr o gefndiroedd difreintiedig ragolygon gwaeth o ran sicrhau swyddi ac incwm yn y dyfodol. Mae'r gwahaniaethau hyn wedi dod yn fwy amlwg oherwydd effeithiau COVID-19. Ond effeithir hefyd ar y tebygrwydd y bydd y dysgwyr hyn yn dod yn eu blaenau, gan ystyried eu cefndir, gan ble y maent yn byw. Bydd y sawl sy'n cael grant yn gweithio gyda phartneriaid i nodi'r meysydd hynny lle y mae cyllid yn cael yr effaith fwyaf, yn ogystal â gweithio gydag awdurdodau lleol ac eraill i sicrhau bod cyllid a chymorth yn cael eu darparu yn fwy cyson.

Nod y rhaglen yw gwella safonau a darparu sylfaen gadarn gan roi dull gweithredu mwy cyson ar waith ledled Cymru. Mae'r prosiectau grant yn cwmpasu ystod o feysydd blaenoriaeth y cwricwlwm er mwyn adlewyrchu anghenion ysgolion a lleoliadau. Mae'r rhain yn cynnwys canolbwyntio ar lythrennedd, mathemateg a rhifedd, gwyddoniaeth a thechnoleg, cerddoriaeth a dysgu sylfaen.

6. Awdurdodau cyhoeddus sydd wedi'u hawdurdodi i weithredu'r cynllun

Llywodraeth Cymru

7. Categori neu gategorïau o fentrau cymwys

Nod y cyllid yw helpu ysgolion a lleoliadau i wireddu'r Cwricwlwm i Gymru ar gyfer pob dysgwr rhwng 3 ac 16 oed. Mae'r cyllid hefyd yn helpu i gefnogi Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 ac ymrwymiadau'r agenda genedlaethol (Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, 2015) i wneud y canlynol:

  • galluogi dysgwyr i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol)
  • hyrwyddo amrywiaeth o weithgareddau ac ymyriadau sy'n gwella gallu ysgolion a lleoliadau i helpu eu dysgwyr i wneud cynnydd
  • lleihau'r datgysylltu rhwng gwireddu uchelgeisiau'r cwricwlwm mewn ysgolion a lleoliadau a'r uchelgeisiau ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru
  • sicrhau bod gan ysgolion a lleoliadau fynediad cyfartal at gymorth nad yw'n dibynnu ar leoliad neu ymwybyddiaeth ysgolion
  • cynorthwyo gwahaniaethau gofodol ar gyfer ysgolion a lleoliadau.

8. Sectorau i'w cefnogi

Addysg

9. Hyd y cynllun

31 Mawrth 2028

10. Y gyllideb ar gyfer cymorth o dan y cynllun hwn

£40,000,000

11. Ffurf y cymorth

Grant

12. Telerau ac amodau cymhwysedd

Mae angen i bob ymgeisydd cymwys ymgymryd â gweithgareddau fel y'u pennir gan ganllawiau rhaglen cymorth grant y Cwricwlwm i Gymru.

13. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau

Grantiau a ddyfernir ar sail dyfarniad uniongyrchol neu gystadleuol i brosiectau sy'n bodloni'r meini prawf penodol sy'n ymwneud â blaenoriaethau cymorth grant y Cwricwlwm i Gymru, fel y'u nodir yng nghanllawiau rhaglen cymorth grant y Cwricwlwm i Gymru.

14. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y Cynllun

£3,500,000

15. Manylion cyswllt

Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig

Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image