Gwybodaeth am benodiadau cyhoeddus ar gyfer ceiswyr posibl
Darparu gwybodaeth am benodiadau cyhoeddus a rôl ymgeiswyr llwyddiannus.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Ynglŷn â phenodiadau cyhoeddus
Mae penodiadau cyhoeddus yn cynnig cyfle gwych i ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar fywydau pobl yng Nghymru ac i gyfrannu at ddatblygiad polisïau a gwasanaethau sydd o bwys.
Ni waeth a ydych yn arweinydd profiadol neu’n rhywun sy’n dod â safbwyntiau cwbl newydd, gall eich sgiliau, eich dealltwriaeth a’ch profiadau bywyd helpu i ffurfio dyfodol ein cenedl.
Rydym wedi ymrwymo i wneud y penodiadau hyn yn agored, yn gynhwysol ac yn hygyrch i amrediad eang o unigolion galluog, gan sicrhau bod pob llais yn cael y cyfle i wneud gwahaniaeth.
Cyfleoedd penodiadau cyhoeddus
Defnyddiwch eich profiad i gyfrannu at fywyd cyhoeddus yng Nghymru, gyda chyfleoedd mewn sectorau fel:
- Iechyd a gofal cymdeithasol
- Addysg a sgiliau
- Diwylliant, treftadaeth a chwaraeon
- Yr Economi a’r seilwaith
- Yr amgylchedd a chynaliadwyedd
Deall gwahanol fathau o fyrddau
Mae byrddau cyhoeddus yn amrywio o ran eu strwythur, eu cyfrifoldebau a’r tâl cydnabyddiaeth a roddir i’w haelodau. Mae’n bwysig deall y gwahanol fathau:
Rolau am dâl
Mae rhai swyddi ar fyrddau yn cael eu gwneud am dâl. Mae hyn fel arfer yn berthnasol yn achos cyrff statudol pan fydd yr aelodau yn neilltuo amser ac arbenigedd sylweddol i’r rôl.
Rolau gwirfoddol
Mae llawer o fyrddau yn gweithredu ar sail wirfoddol, gan gynnig profiad gwerthfawr a’r cyfle i gael effaith arwyddocaol.
Byrddau cynghori
Mae’r rhain yn canolbwyntio ar ddarparu rhagor o ddealltwriaeth ac argymhellion annibynnol heb gyfrifoldebau llywodraethiant uniongyrchol.
Cyrff rheoleiddio a goruchwylio
Mae’r rhain yn sicrhau cydymffurfiaeth, yn cynnal safonau, ac yn darparu atebolrwydd o fewn sectorau allweddol.
Mae pob rôl yn cynnig ffordd unigryw o gyfrannu. Ein nod yw gwneud pob opsiwn yn glir fel y gallwch ddod o hyd i’r rôl sy’n gweddu orau i chi.
Mae rolau newydd yn cael eu hysbysebu drwy gydol y flwyddyn, chwiliwch am gyfleoedd presennol neu cofrestrwch i dderbyn rhybuddion.
Pam ymuno â bwrdd cyhoeddus?
Drwy ymuno â bwrdd cyhoeddus, mae gennych gyfle i helpu i ffurfio’r polisïau a’r penderfyniadau sy’n bwysig yng Nghymru.
Bydd bod ar fwrdd cyhoeddus hefyd yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau ac yn darparu profiad y gallwch ei ddefnyddio mewn meysydd eraill o’ch bywyd.
Drwy ymgymryd â rôl ar fwrdd cyhoeddus, bydd yn bosibl ichi wneud y canlynol:
Dylanwadu ar benderfyniadau allweddol
Helpu i ffurfio’r polisïau a’r penderfyniadau sy’n bwysig i Gymru.
Ehangu eich arbenigedd
Magu profiad amhrisiadwy mewn arweinyddiaeth, llywodraethiant a gwasanaeth cyhoeddus.
Rhwydweithio â gweithwyr proffesiynol
Gweithio ochr yn ochr ag unigolion profiadol ac angerddol sydd wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth.
Hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant
Bod yn rhan o dîm sy’n gwerthfawrogi gwahanol safbwyntiau a phrofiadau bywyd.
Gwasanaethu’r cyhoedd a rhoi yn ôl
Gwneud cyfraniad arwyddocaol i’ch cymuned ac i fywyd cyhoeddus yng Nghymru.
Defnyddio eich profiad bywyd i ysgogi newid
Rhannu eich safbwynt unigryw a dylanwadu ar ganlyniadau gwell.
Ymrwymiad amser ar gyfer penodiadau cyhoeddus
Mae’r ymrwymiad amser ar gyfer penodiadau cyhoeddus yn amrywio gan ddibynnu ar y rôl, y sefydliad a lefel y cyfrifoldeb. Cyn gwneud cais, mae’n bwysig ystyried faint o amser y gallwch ei neilltuo.
Fel arfer, bydd yr ymrwymiad amser yn cwmpasu:
Cyfarfodydd y bwrdd
Mae’r mwyafrif o gyrff cyhoeddus yn cyfarfod bob mis neu bob chwarter, ac mae cyfarfodydd yn para sawl awr.
Amser paratoi
Gall darllen papurau a pharatoi ar gyfer trafodaethau gymryd amser ychwanegol.
Gwaith pwyllgor
Mae rhai rolau yn gofyn am gymryd rhan mewn is-bwyllgorau, a all gyfarfod ar wahân.
Ymrwymiadau a digwyddiadau
Mae rhai rolau yn cynnwys ymgysylltu â’r cyhoedd, cyfarfodydd i randdeiliaid, neu gynrychioli’r sefydliad mewn digwyddiadau.
Mae’n bosibl mai ychydig ddyddiau y flwyddyn yn unig fydd eu hangen ar gyfer cyflawni rhai rolau, ond mae eraill yn gofyn am ymrwymiad mwy sylweddol.
Mae’r disgwyliadau amser bob amser yn cael eu hamlinellu yn y disgrifiad o’r rôl, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn eu darllen yn ofalus cyn gwneud cais.
Ymddygiad
Mae pob penodiad cyhoeddus yn cael ei lywio gan Egwyddorion Nolan ar gyfer Bywyd Cyhoeddus.
Er bod y saith egwyddor wreiddiol yn berthnasol ym mhob rhan o’r DU, mae Cymru wedi ehangu arnynt gyda dwy egwyddor ychwanegol, Parch a Thryloywder, i adlewyrchu ein hagwedd gynhwysol, gydweithredol ac agored tuag at wasanaeth cyhoeddus.
Mae’r egwyddorion fel a ganlyn:
1. Anhunanoldeb
Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus weithredu er budd y cyhoedd yn unig, nid er mwyn cael budd personol.
2. Uniondeb
Ni ddylai deiliaid swyddi cyhoeddus osod eu hunain mewn sefyllfa o rwymedigaeth ariannol nac unrhyw rwymedigaeth arall i unigolion neu sefydliadau allanol a allai ddylanwadu ar y ffordd y maent yn cyflawni eu dyletswyddau swyddogol.
3. Gwrthrychedd
Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus weithredu a gwneud penderfyniadau mewn modd diduedd, teg ac ar sail teilyngdod, gan ddefnyddio’r dystiolaeth orau a heb ragfarn.
4. Atebolrwydd
Mae deiliaid swyddi cyhoeddus yn atebol am eu penderfyniadau a’u gweithredoedd i’r cyhoedd a rhaid iddynt fod yn agored i fod yn destun craffu.
5. Bod yn agored
Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus fod mor agored â phosibl am eu penderfyniadau a’u gweithredoedd a dylent roi rhesymau dros eu penderfyniadau.
6. Gonestrwydd
Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus ddweud y gwir a gweithredu’n onest wrth gyflawni eu dyletswyddau.
7. Arweinyddiaeth
Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus hybu a chefnogi’r egwyddorion hyn drwy roi arweiniad a thrwy fod yn esiampl.
8. Parch
Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus barchu eraill, eu barn a’u hawliau i fynegi safbwyntiau gwahanol, gan weithio mewn modd adeiladol i weithredu er budd y cyhoedd.
9. Tryloywder
Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus sicrhau bod eu gweithredoedd yn dryloyw, gan ganiatáu i’r cyhoedd weld y rhesymau sy’n sail i’w penderfyniadau.
Mae’r egwyddorion hyn yn llywio sut mae disgwyl i swyddogion cyhoeddus yng Nghymru ymddwyn, gan sicrhau ymddiriedaeth, tegwch ac uniondeb mewn gwasanaeth cyhoeddus.
Pwy all wneud cais
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o bob cefndir a phrofiad bywyd.
Nid oes arnoch angen brofiad blaenorol o fod yn aelod o fwrdd. Rydym yn gwerthfawrogi angerdd, profiad bywyd, ac ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus.
Os oes gennych syniadau newydd, meddwl strategol, ac rydych yn barod i ddysgu, rydym yn eich annog i ystyried gwneud cais am benodiad cyhoeddus.
Am beth rydym yn chwilio:
- Ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus a thegwch
- Meddwl annibynnol a safbwyntiau newydd
- Parodrwydd i herio ac i arloesi
- Sgiliau cyfathrebu a chydweithredu cadarn
Cyfarwyddwyr Anweithredol Tro Cyntaf
Os nad ydych wedi eistedd ar fwrdd o’r blaen, peidiwch â phoeni – rydym yn annog Cyfarwyddwyr Anweithredol tro cyntaf i wneud cais. Rydym yn deall y gall rhai unigolion deimlo wedi eu llethu braidd wrth gamu i mewn i rôl ar fwrdd, felly rydym yn datblygu cymorth wedi’i deilwra i’ch helpu chi i lwyddo.
Ein nod yw darparu:
Sesiynau rhagarweiniol
Cyfle i ddysgu am hanfodion llywodraethu, atebolrwydd a gwneud penderfyniadau.
Cyfleoedd i rwydweithio
Cyfle i gysylltu ag aelodau profiadol o fyrddau a chymheiriaid.
Canllawiau ar wneud ceisiadau a chyfweliadau
Cyngor ymarferol i’ch helpu i ddangos eich potensial.
Mae’r broses o ddatblygu ein rhaglen lawn ar y gweill ar hyn o bryd, ond rydym yn annog unrhyw un sy’n newydd i benodiadau cyhoeddus i gysylltu i ofyn am wybodaeth ac arweiniad anffurfiol.
Sut i wneud cais am benodiad cyhoeddus
Dysgwch ragor am wneud cais a chael help gyda’ch cais drwy ddarllen ein canllawiau ymgeisio.
Swyddi gwag presennol
Os ydych eisiau gweld y swyddi gwag presennol, gallwch ddod o hyd i restr ar ein tudalennau recriwtio.
Ar y tudalennau hyn, gallwch hefyd gofrestru i dderbyn rhybuddion am swyddi gwag newydd wrth iddynt ddod ar gael.
Gallwch ddod o hyd i ragor o swyddi gwag ar fyrddau cyhoeddus ar wefan Byrddau Cymru.
