Cynllun cymhorthdal ar gyfer cymorth ynni lleol (Cymru)
Cyfeirnod y Cymhorthdal: SC11250 - cynllun i gefnogi cynhyrchu ynni adnewyddadwy i ddiwallu ein hanghenion ynni.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pwyntiau i'w nodi
Os ydych chi'n defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymhorthdal, mae'n rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau – e-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru
1. Rhanbarth
Cymru gyfan
2. Teitl y cynllun cymhorthdal
Cynllun Cymhorthdal ar gyfer Cymorth Ynni Lleol (Cymru)
3. Sail gyfreithiol yn y DU
- Adran 60(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006
- Adran 1 o Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975
4. Amcanion polisi penodol y cynllun
I Gymru gynhyrchu ynni adnewyddadwy i ddiwallu ein hanghenion ynni yn llawn o leiaf a defnyddio unrhyw ynni sydd dros ben i fynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd. Byddwn yn cyflymu’r camau gweithredu i leihau’r galw am ynni a manteisio i’r eithaf ar berchnogaeth leol, gan gadw manteision economaidd a chymdeithasol yng Nghymru.
Mae'r cynllun yn ymateb yn uniongyrchol i dargedau ynni Cymru, a fabwysiadwyd yn 2023:
- I Gymru gynhyrchu 100% o'r trydan rydym yn ei ddefnyddio bob blwyddyn drwy ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035.
- I o leiaf 1.5GW o gapasiti ynni adnewyddadwy fod o dan berchnogaeth leol erbyn 2035, gan gynyddu ein targed gwreiddiol ar gyfer 1GW erbyn 2030.
- I osod 580,000 o bympiau gwres yng Nghymru erbyn 2035.
Mae'r cynllun yn cyd-fynd â Dyfodol Cymru, sef y fframwaith datblygu cenedlaethol, sy'n gosod y cyfeiriad o ran datblygu yng Nghymru hyd at 2040. Mae’n ceisio gwneud y canlynol:
hwyluso'r broses o ddatgarboneiddio'r economi, gan gynnwys dewisiadau o ran ynni a thrafnidiaeth, a hyrwyddo egwyddorion economi gylchol
5. Diben y cynllun
Nod y cynllun yw mynd i'r afael â'r rhwystrau rhag datblygu a defnyddio systemau ynni lleol cynaliadwy yn gyflym i geisio cyflymu'r gwaith o gyflawni a gwneud y mwyaf o'r gwerth a'r manteision a gedwir yn lleol sy'n deillio o gynhyrchu, storio, dosbarthu a defnyddio ynni adnewyddadwy clyfar.
Bydd yn helpu i greu diwydiant ynni lleol cynaliadwy a chlyfar yng Nghymru, gan gefnogi polisïau datblygu economaidd Cymru a meithrin ffyniant cymunedol ehangach.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu ystod eang o gymorth i alluogi'r Sector Cyhoeddus, Cymunedau, Mentrau Cymdeithasol a Mentrau Bach a Chanolig yng Nghymru i gymryd rhan yn y gwaith pontio teg i ddarparu ynni Sero Net, a hwyluso'r broses honno.
Diben y cynllun cymhorthdal hwn yw unioni'r egwyddorion cyffredinol ynghylch cael gafael ar yr ystod o gymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i fentrau ynni sy'n seiliedig ar leoedd, â'r bwriad i symleiddio a sicrhau cydymffurfiaeth â Deddf Rheoli Cymhorthdal (2022) y DU ar draws yr ystod honno o gymorth ar gyfer cymorthdaliadau o dan £5 miliwn.
Bydd y gyllideb yn cael ei gosod bob blwyddyn gyda chyllideb ddangosol gwerth £60,000,000 ar gyfer y cynllun.
6. Awdurdodau cyhoeddus sydd wedi'u hawdurdodi i weithredu'r cynllun
Llywodraeth Cymru
7. Categori neu gategorïau o fentrau cymwys
Mae'r cynllun wedi'i anelu at yr endidau a ganlyn ar gyfer datrysiadau ynni sy'n seiliedig ar leoedd a gyflawnir yng Nghymru:
- Mentrau cymdeithasol, gan gynnwys, ond heb fod o reidrwydd yn gyfyngedig i:
- Elusennau Cofrestredig
- Sefydliadau Corfforedig Elusennol
- Cwmnïau Buddiannau Cymunedol
- Cymdeithasau Budd Cymunedol
- Cymdeithasau Cydweithredol
- Cwmnïau Cyfyngedig drwy Warant neu Gyfranddaliadau
- BBaChau gan gynnwys busnesau amaethyddol
- Endidau llywodraeth leol gan gynnwys cynghorau tref a chymuned yng Nghymru
- Cyrff yn y sector cyhoeddus yng Nghymru
Yn benodol, nid yw'r cynllun wedi'i fwriadu er budd yr endidau a ganlyn:
- Mentrau mawr (hynny yw, unrhyw fentrau masnachol nad ydynt yn BBaChau)
- Cwmnïau ynni rheoleiddiedig
8. Sectorau i'w cefnogi
Cyflenwi trydan, nwy, ager ac aerdymheru
9. Hyd y cynllun
31 Mawrth 2031
10. Y gyllideb ar gyfer cymorth o dan y cynllun hwn
£60,000,000
11. Ffurf y cymorth
Grantiau
12. Telerau ac amodau cymhwysedd
I gyflawni amcanion polisi yn effeithiol, bydd ceisiadau yn cael eu gwerthuso fesul achos.
Bydd dyfarniadau'n cael eu gwneud yn unol â'r meini prawf a ganlyn ac yn unol ag unrhyw feini prawf ychwanegol sy'n ofynnol gan y cynllun polisi penodol / gweithdrefnau cymorth sydd ar waith:
- yn cyd-fynd â pholisïau ac amcanion Llywodraeth Cymru ar adeg y dyfarniad
- yn cyd-fynd ag egwyddorion Systemau Ynni Lleol Clyfar (Er eglurder, nid oes angen i geisiadau fod ar gyfer System Ynni Lleol Clyfar gyfan ond bydd yn ofynnol dangos bod y dyfarniad yn cyfrannu at gyflawni System Ynni Lleol Clyfar.)
- y gallu i gyflawni yn erbyn cerrig milltir ac amserlen gyllido a nodwyd
- effeithiau (yn erbyn meini prawf diffiniedig y cynllun)
- gwerth am arian
- dylid cynnwys prisio canlyniadau economaidd-gymdeithasol ehangach fel y'u haseswyd yn erbyn meini prawf gwerthuso Llywodraeth Cymru ar adeg y dyfarniad
Bydd y fethodoleg ar gyfer y dadansoddiadau hyn yn rhan o ganllawiau'r cynllun ymgeisio unigol.
13. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau
Mae'r cynllun cymhorthdal yn defnyddio hierarchaeth o fesurau sy'n cefnogi lleihau'r cymhorthdal.
Bwriad cymhorthdal yw pontio'r bwlch i alluogi'r hyn a fyddai'n cael ei ystyried yn brosiect masnachol anhyfyw i ddod yn un hyfyw a hynny yn gyfnewid am ganlyniadau economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol ehangach.
I gyflawni amcanion polisi yn effeithiol, bydd ceisiadau yn cael eu gwerthuso fesul achos gan gyfeirio at y meini prawf a ganlyn:
- yn cyd-fynd â pholisïau ac amcanion Llywodraeth Cymru ar adeg y dyfarniad
- yn cyd-fynd ag egwyddorion Systemau Ynni Lleol Clyfar
- y gallu i gyflawni yn erbyn cerrig milltir ac amserlen gyllido a nodwyd
- effeithiau yn erbyn meini prawf diffiniedig y cynllun
- gwerth am arian
- bydd yn ofynnol i ymgeiswyr ystyried y posibilrwydd o ddadleoli prosiectau eraill er mwyn sicrhau nad yw'r dyfarniad yn disodli prosiect a allai gyflawni canlyniadau cyffredinol gwell.
Ar gyfer y cyfnod cyn adeiladu (hynny yw, datblygu prosiect), gan gynnwys ar gyfer gwariant refeniw:
- bydd cymhorthdal fel arfer yn cael ei ddyrannu fel grant uniongyrchol i gyflawni amcanion datblygu penodol. Y rhesymeg dros hyn yw bod llai o gyfleoedd yn bodoli ar gyfer mentrau cymdeithasol, awdurdodau cyhoeddus a BBaChau sy'n seiliedig ar leoedd i liniaru risg yn ymwneud â datblygu (ee drwy amrywiaeth y portffolio prosiectau) nag a allai fodoli ar gyfer mentrau mawr. Yn absenoldeb cymhorthdal o'r fath, yn arbennig ar gyfer mentrau lleol bach sydd â phrinder cyllid, mae'r risg buddsoddi canfyddedig (costau) yn anghymell mentrau lleol o'r fath.
- bydd modd cael gafael ar gymhorthdal drwy broses neu brosesau ymgeisio ffurfiol a chaiff ei ystyried mewn perthynas â'r canlyniadau economaidd-gymdeithasol a gyflawnir
- gellir hefyd ddyrannu cymhorthdal fel benthyciad llog isel neu ddi-log y gellir ei ad-dalu drwy'r Gronfa Ynni Lleol
Ar gyfer y cyfnod adeiladu (hynny yw, rhoi'r prosiect ar waith), gan gynnwys gwariant gweithredol:
- bydd modd cael gafael ar gymhorthdal drwy broses neu brosesau ymgeisio ffurfiol a chaiff ei ystyried mewn perthynas â'r ystod o ganlyniadau economaidd-gymdeithasol a gyflawnir ochr yn ochr â'r gwerthusiad masnachol confensiynol o enillion prosiectau.
- fel y nodwyd uchod, bydd 'hierarchaeth' cymhorthdal yn gymwys a bydd grantiau uniongyrchol dim ond yn cael eu cynnig i bontio ochr yn ochr â benthyca llog isel neu ddi-log, neu yn hytrach na hynny, i'r pwynt sy'n angenrheidiol i alluogi prosiect, sydd â chanlyniadau economaidd-gymdeithasol digon cadarn, a/neu fuddion ehangach eraill, i fynd rhagddo.
Yn benodol, mewn perthynas â'r maen prawf Effaith a Gwerth am arian, bydd yn ofynnol i ymgeiswyr wneud y canlynol:
- amlinellu effeithiau economaidd-gymdeithasol lleol y prosiect a sut y bydd y rhain yn cael eu gwireddu. Rhaid i effeithiau ymestyn y tu hwnt i'r sefydliad sy'n ymgeisio, ac mae'n ofynnol i ymgeiswyr ystyried buddion ehangach fel y rhai sy'n gysylltiedig â Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, llesiant, swyddi o ansawdd uchel, ac ymwneud cymunedol.
- amlinellu effeithiau amgylcheddol y prosiect a sut y bydd y rhain yn cael eu gwireddu. Mae'n ofynnol i ymgeiswyr ystyried buddion fel y rhai sy'n gysylltiedig ag allyriadau nwyon tŷ gwydr ac ansawdd aer.
- dangos mai'r gofyniad cyllid cyhoeddus yw'r lleiafswm sy'n angenrheidiol i sicrhau'r lles cyhoeddus yn rhesymol. Byddai hyn fel arfer yn golygu gradd o ddadansoddiad meintiol o werth economaidd a gynhyrchir ac a gedwir yn lleol, ochr yn ochr â gwerthusiad ansoddol o ganlyniadau economaidd-gymdeithasol ehangach.
Bydd y fethodoleg ar gyfer y dadansoddiadau hyn yn rhan o ganllawiau'r cynllun ymgeisio unigol.
14. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun
£4,999,999
15. Manylion cyswllt
Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig
Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400
E-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
