Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Cynllunio Morol – 19 Mawrth 2025
Cofnodion cyfarfod Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Cynllunio Morol ar 19 Mawrth 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Eluned Jones (Cadeirydd, Llywodraeth Cymru), Elen King, Megan Nicholas a Morgan Commins (Llywodraeth Cymru), Adrian Judd a Charlotte Brill (Cefas / Llywodraeth Cymru), Dr Julian Whitewright (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru), Nick Salter (Yr Asiantaeth Forwrol a Gwylwyr y Glannau), Emma Harrison (Ystâd y Goron), Lucie Skates, Katherine Griffiths, Lee Murray a Karen Perrow (Cyfoeth Naturiol Cymru), Jim Evans (Cymdeithas Pysgotwyr Cymru), Claire Stephenson (Associated British Ports), Mark Simmonds (Cymdeithas Porthladdoedd Prydain), Chrissie Ingle (Partneriaeth Aber Hafren), Poppy Philipps (Y Sefydliad Rheoli Morol), Alex Curd (Y Gymdeithas Cadwraeth Forol), Phil Horton (Y Gymdeithas Hwylio Frenhinol)
1. Croeso a chyflwyniadau
Cadeirydd, Llywodraeth Cymru
Croesawodd Eluned aelodau newydd i'r Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Cynllunio Morol (MPSRG) a chychwyn cyflwyniadau bord gron.
2. Adolygiad Annibynnol o Ddulliau Cynllunio Morol
Eluned Jones, Llywodraeth Cymru
Rhoddodd Eluned drosolwg o'r Adolygiad Annibynnol o Ddulliau Cynllunio Morol, a fydd yn llywio ystyriaethau wrth ddatblygu'r fframwaith cynllunio morol yng Nghymru ymhellach. Amlinellodd hi gyd-destun yr adolygiad gan nodi bod yr Adolygiad Annibynnol ar wahân i ddyletswydd statudol Llywodraeth Cymru, o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir (MCAA) (2009), i adrodd ar effeithiolrwydd Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (CMCC).
Amlinellodd Eluned gwmpas yr adolygiad annibynnol, gan gynnwys ystyried cyfleoedd i ddarparu rhagor o eglurder gofodol a chyfeiriad ar gyfer datblygu o fewn y fframwaith cynllunio morol yng Nghymru. Tynnodd hi sylw hefyd at y ffaith bod yr Adolygiad yn ystyried sut i gydbwyso holl ddefnyddiau pwysig yr ardal forol, yn ogystal â'r ffordd orau o adlewyrchu problemau amgylcheddol yn y fframwaith cynllunio morol.
Rhoddodd Eluned ddiweddariad byr ar yr amserlen ar gyfer cynnal yr adolygiad a sut mae'r gwaith yn mynd rhagddo. Diolchodd Eluned i aelodau'r Grŵp sydd wedi bwydo i mewn i waith yr Adolygiad. Rhoddodd hi hefyd drosolwg o rai themâu sy'n dod i'r amlwg y mae'n bosibl y bydd yr Adolygiad yn tynnu sylw atyn nhw.
3. Monitro ac Adrodd ar Effeithiolrwydd y Cynllun Morol a'r Adroddiad Monitro 2022–2025
Elen King, Llywodraeth Cymru
Rhoddodd Elen rywfaint o gefndir i'r ddyletswydd i adolygu effeithiolrwydd y CMCC bob tair blynedd, fel y nodir yn yr MCAA. Amlinellodd hi ganfyddiadau allweddol o'r Adroddiad Monitro blaenorol, a gyhoeddwyd yn 2022, a ganfu gynnydd da wrth weithredu'r CMCC a bod polisïau'r CMCC yn cael eu defnyddio fwyfwy wrth wneud penderfyniadau.
Dwedodd Elen y bydd yr Adroddiad Monitro nesaf yn cael ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2025. Nododd hi fod yr adroddiad sydd yn yr arfaeth yn adeiladu ar y canfyddiadau o 2022, gan dynnu sylw at y ffaith bod rhagor o dystiolaeth gadarnhaol i awgrymu bod yr CMCC yn cael ei ddefnyddio fwyfwy wrth wneud penderfyniadau. Nododd hi hefyd gynnydd da wrth ddarparu canllawiau a thystiolaeth cynllunio morol i gefnogi gweithredu'r CMCC.
Er mwyn casglu barn a thystiolaeth fel rhan o'r broses fonitro ac adrodd, nododd Elen fod Llywodraeth Cymru yn ceisio mewnbwn gan randdeiliaid ar effeithiolrwydd yr CMCC. Gwahoddodd hi'r Grŵp i roi adborth, yn ystod y cyfarfod ac wedyn. Roedd y materion a drafodwyd yn cynnwys:
- heriau a gofynion tystiolaeth sy'n gysylltiedig ag asesu effeithiau ehangach e.e. mewn perthynas â Gwerth Ychwanegol Gros a Statws Amgylcheddol Da
- cwmpas yr Adroddiad Monitro a sut mae'n ymwneud â rhwymedigaethau adrodd ehangach (e.e. o dan Strategaeth Forol y DU) – cyfeiriodd Elen aelodau'r Grŵp at y Fframwaith Monitro ac Adrodd
- heriau sy'n gysylltiedig â'r data sylfaenol sydd ar gael
- a fyddai'r Adroddiad Monitro yn effeithio ar y pwysoliad a roddir i gynlluniau morol wrth wneud penderfyniadau ynghylch prosiectau seilwaith mawr.
4. Datganiad Technegol Cynllunio Morol ENV_01 Drafft: Ecosystemau Morol Cydnerth, Adfer a Gwella
Megan Nicholas, Llywodraeth Cymru
Rhoddodd Megan grynodeb o'r gwaith parhaus i ddatblygu Datganiad Technegol i gefnogi gweithredu polisïau'r CMCC mewn modd cyson ac effeithiol, ENV_01 (Ecosystemau Morol Cydnerth). Cyflwynodd hi:
- y cyd-destun polisi, nod ac effaith arfaethedig Polisi ENV_01 yn ymarferol, gan gynnwys diogelu, adfer a gwella ecosystemau morol
- datblygu'r Datganiad Technegol a'r Atodiadau Ategol
- mae cynnwys y Datganiad Technegol a'r tri Atodiad Technegol sy'n ategu'r Datganiad (sy'n ymdrin â thystiolaeth a all gefnogi ymgeiswyr a gwneuthurwyr penderfyniadau wrth ystyried materion amgylcheddol, anghenion tystiolaeth y gellir mynd i'r afael â nhw o dan elfen 'Gwella' o ENV_01, ac astudiaethau achos o arferion da)
Yna gwahoddodd Megan aelodau o'r Grŵp i ofyn cwestiynau neu roi sylwadau ar y Datganiad Technegol a'r Atodiadau drafft, naill ai yn y cyfarfod neu wedyn.
Roedd y prif bynciau a drafodwyd yn cynnwys:
- yr angen i sicrhau bod y derminoleg yn y Datganiad Technegol a'r Atodiadau yn gyson â'r geiriad yn yr CMCC a'r Canllawiau Gweithredu cysylltiedig
- enghreifftiau o fesurau sy'n cefnogi natur sydd wedi cael eu gweithredu mewn gwledydd eraill
- esboniad o ystyr 'Gwella' yng nghyd-destun ENV_01.
Wedyn rhoddodd Megan drosolwg byr o fwriad Llywodraeth Cymru i gomisiynu astudiaeth gwmpasu i archwilio'r potensial i sicrhau Manteision Net ar gyfer y Môr yng Nghymru. Nododd y byddai'r astudiaeth gwmpasu'n cael ei chynnal yn ystod blwyddyn ariannol 2025–2026 ac y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio mewnbwn gan randdeiliaid fel rhan o'r prosiect.
Dilynwyd hyn gan drafodaeth fer, lle cyflwynodd aelodau'r Grŵp adnoddau i helpu gyda'r astudiaeth sydd yn yr arfaeth a nodi gwaith perthnasol sy'n cael ei wneud gan awdurdodau cynllunio morol cyfagos.
5. Ardaloedd adnoddau strategol a mapio adnoddau:
Eluned Jones, Llywodraeth Cymru
Rhoddodd Eluned drosolwg byr o Ardaloedd Adnoddau Strategol a Mapio Adnoddau. Eglurodd hi fod mapiau o ardaloedd adnoddau wedi'u mireinio ar gael ar hyn o bryd ar Borth Cynllunio Morol Cymru. Mae'r rhain yn fapiau gwybodaeth sy'n helpu wrth ystyried a ddylid datblygu Ardaloedd Adnoddau Strategol posibl ar gyfer sectorau penodol.
Eglurodd Eluned natur yr ardaloedd hyn a phwysleisiodd nad ydyn nhw'n cefnogi datblygiadau, ond yn hytrach eu bod tynnu sylw at ddatblygwyr ynghylch y gofyniad i beidio â rhwystro sector rhag cael mynediad at ardal yn amhriodol yn y dyfodol. Os yw datblygwyr yn dymuno cyd-leoli mewn Ardal Adnoddau Strategol, rhaid iddyn nhw gyfiawnhau hyn.
Nododd Eluned fod Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Materion Gwledig, wedi cyflwyno'r Ardaloedd Adnoddau Strategol cyntaf, sy'n diogelu adnoddau ar gyfer Ynni Ffrwd Llanw, ym mis Ionawr 2025. Nododd Eluned y byddai Llywodraeth Cymru yn croesawu trafodaethau parhaus â rhanddeiliaid i archwilio'r potensial i fapio Ardaloedd Adnoddau Strategol ar gyfer sectorau eraill. Dywedodd hi fod Llywodraeth Cymru yn debygol, yn y lle cyntaf, o archwilio'r potensial i fapio ardaloedd adnoddau ar gyfer ynni gwynt arnofiol ar y môr, agregau morol ac, o bosibl, dyframaethu gwymon. Diolchodd Eluned i aelodau'r Grŵp sydd eisoes wedi darparu adborth ar fapiau presennol wedi'u mireinio o ardaloedd adnoddau ar gyfer ynni gwynt arnofiol ar y môr a methodolegau mapio i lywio mapiau adnoddau ar gyfer dyframaethu gwymon. Nododd hi hefyd fod cydweithredu parhaus rhwng Adran Cynllunio Morol Llywodraeth Cymru ac Ystâd y Goron mewn perthynas â mapio Ardaloedd Adnoddau Strategol posibl ar gyfer ynni gwynt ar y môr ac agregau morol ac, yn yr un modd, mae'r Adran Cynllunio Morol yn trafod yn agos â Physgodfeydd Llywodraeth Cymru ynghylch mapio gweithgarwch pysgodfeydd. Nododd Eluned hefyd fod yr Adolygiad Annibynnol yn debygol o amlinellu argymhellion pellach ar gyfer datblygu Ardaloedd Adnoddau Strategol yng Nghymru, a bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y rhain.
6. Unrhyw faterion eraill
Pawb
Ni chodwyd unrhyw fater arall. Diolchodd Eluned i'r aelodau am fod yn bresennol ac am gyfrannu at y cyfarfod.
Diwedd y cyfarfod.
