Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae annog mwy o bobl ifanc i deithio ar y rhwydwaith bysiau yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Dyna pam, ers mis Medi 2015 rydym wedi bod yn ariannu cynllun peilot sy’n cynnig teithio ar fysiau yn rhatach i bobl ifanc o dan frand “Fy Ngherdyn Teithio”.  

Nod y cynllun oedd profi’r materion sy’n dylanwadu ar benderfyniadau pobl ifanc o ran teithio, ac yn benodol annog mwy ohonynt i deithio ar fysiau, yn hytrach na mewn ceir.  

Mae dadansoddiad cychwynnol o’r cynllun yn awgrymu bod llai o bobl yn defnyddio bysiau i deithio y tu allan i’w hardal leol. Gallai hyn fod oherwydd nad yw eu hysgolion, eu colegau neu eu mannau gweithio neu hyfforddi, neu eu ffrindiau a’u gweithgareddau cymdeithasol yn golygu bod angen iddynt deithio’n bellach.

Rwyf wedi bod yn bendant yn fy ymrwymiad i annog pobl ifanc i ddefnyddio ein bysiau, a gydag adolygiad yn dangos bod 91% o ymatebwyr wedi defnyddio bysiau neu goetsus i deithio o leiaf unwaith yr wythnos i siopa, gweithio neu ar gyfer yr ysgol neu goleg - mae’n amlwg bod cynllun o’r fath yn un addas i Gymru.  

Ar 23 Ionawr, cynhaliwyd Uwchgynhadledd Fysiau cyntaf Cymru gennyf yn Wrecsam i ddod i wybod mwy am fanylion y rhwydwaith bysiau, a beth y dylai ei gynnig i gymunedau Cymru, gan gynnwys pobl ifanc.   Mae’n amlwg bod amryw o faterion cymhleth sy’n cael effaith ar brofiadau teithwyr o fysiau, a rhagdybiaethau pobl eraill o’r hyn sy’n cael ei gynnig.  

Rwy’n gweithio gydag awdurdodau lleol, Bus Users Cymru a’r diwydiant bysiau, ymysg eraill, i sicrhau bod y gwasanaethau bysiau yn bodloni ein disgwyliadau rhesymol, yn enwedig o ystyried y cyllid cyhoeddus sylweddol sy’n cefnogi’r rhwydwaith.  
Gan adeiladu ar waith yr Uwchgynhadledd, rwyf wedi gofyn i’m swyddogion sefydlu nifer o weithgorau, gan gynnwys ein partneriaid, i wneud rhagor o waith i wella pob agwedd ar y gwasanaethau bysiau y mae cynifer o bobl yn dibynnu arnynt.  

Yn gysylltiedig â’r ymarfer ehangach hwn, rwyf wedi penderfynu bod angen cynnig rhywbeth gwell, mwy deniadol i bobl ifanc er mwyn iddynt ystyried bysiau wrth wneud dewisiadau wrth deithio.  Rwy’n edrych ar amrywiol opsiynau uchelgeisiol i gyflawni hyn, ac yn bwriadu gwneud cyhoeddiad mwy manwl am y gwaith hwn yn fuan.

Fy nod yw lansio Pas Teithio i Bobl Ifanc o 2018 ymlaen, a all fod yn gymorth i bobl ifanc gyda’u bywydau, eu hastudiaethau a’u gwaith. Byddaf yn sefydlu ymgynghoriad eang i drafod y cynllun gyda phobl ifanc, gan gynnwys ysgolion, colegau a chwmnïau bysiau - cwmni sy’n ddeniadol, sy’n gallu eu cefnogi’n ymarferol ac a fydd yn annog i newid eu ffordd o deithio.

Wrth gwrs, rwy’n deall y bydd hyn yn cymryd amser i’w roi ar waith, ac felly yn y cyfamser, rwyf wedi dod i gytundeb gydag awdurdodau lleol a’r diwydiant bysiau fydd yn golygu y bydd yn bosibl i bobl ifanc 16, 17 ac 18 oed barhau i deithio’n rhatach ar fysiau ledled Cymru o’r 1 Ebrill 2017.  Ni fydd y rhai sydd eisoes yn berchen ar gerdyn yn gweld unrhyw wahaniaeth, a bydd ymgeiswyr newydd yn parhau i wneud cais am ostyngiad o un rhan o dair drwy geisiadau ar-lein a thrwy’r post.  

Rwyf hefyd wedi gofyn i Gydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru, sy’n cynrychioli’r diwydiant bysiau, gyflwyno cynigion am ymgyrch farchnata newydd i gael mwy o bobl i ddefnyddio’r cerdyn.  

Rwy’n gobeithio bod sicrwydd y trefniadau presennol yn y tymor byr, tra ein bod yn dylunio cynllun gwahanol dros y misoedd i ddod, yn annog mwy o bobl ifanc i ddefnyddio’n bysiau yn y tymor hir.