Fframwaith cenedlaethol ar ymarfer amlasiantaethol ar gyfer gwasanaethau plant
Sut y gall gwasanaethau plant a'u partneriaid weithio gyda'i gilydd i ddarparu gwasanaethau i fabanod, plant a phobl ifanc.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyd-destun
Mae ymgysylltu amlasiantaethol yn cyfeirio at ymarferwyr, sefydliadau, asiantaethau a rhanddeiliaid sy'n gweithio gyda'i gilydd ochr yn ochr â theuluoedd i ddiwallu anghenion amrywiol babanod, plant a phobl ifanc (sydd wedi'u grwpio gyda'i gilydd o dan y term plant o hyn ymlaen).
Mae trefniadau ymgysylltu amlasiantaethol effeithiol yn arwain at well canlyniadau i blant a theuluoedd drwy ddull cydgynhyrchiol o ddatrys problemau.
Mae'r prif asiantaethau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:
- awdurdodau lleol (er enghraifft, gwasanaethau plant, tai, addysg, cymunedau)
- iechyd (sylfaenol ac eilaidd)
- yr heddlu
- cyfiawnder ieuenctid
- y trydydd sector
Datblygwyd y fframwaith hwn ar gyfer gwasanaethau plant yn bennaf, ond gellir ei addasu i'w ddefnyddio mewn unrhyw sefydliad sy'n gweithio gyda phlant.
Mae gweithio mewn partneriaeth wedi datblygu'n helaeth yng Nghymru dros y degawd diwethaf, gydag asiantaethau'n cyfuno arbenigedd, cymorth a chyllid i dywys plant drwy sefyllfaoedd sy'n gallu ymddangos yn anorchfygol. Pan mae hyn yn gweithio'n dda, mae plant, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol i gyd yn gweld buddion, ond pan mae’n methu, mae'n ychwanegu at risg, oedi a cholli cyfle i blant, pobl ifanc a theuluoedd; ac yn cynyddu rhwystredigaeth a llwythi gwaith i weithwyr proffesiynol. Mae angen i bob rhan o'r system fabwysiadu dull cydweithredol o ddatrys problemau, sy'n seiliedig ar gryfder, a nod y fframwaith hwn yw sbarduno cynnydd a llwyddiant gydag arferion da.
Mae ymarferwyr yn gweithio ar sail amlasiantaethol mewn gwahanol ffyrdd, er enghraifft:
- ymarferwyr yn dod at ei gilydd i gefnogi plentyn i gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arno gan fwy nag un asiantaeth, megis plentyn ag anghenion cymhleth
- dull a phroses a rennir ar gyfer cydweithio ar ystod gyffredin o faterion megis trais domestig, camfanteisio ar blant, ac amddiffyn plant
- tîm amlasiantaethol lle mae gweithwyr proffesiynol o wahanol asiantaethau yn cydweithio fel gwasanaeth, fel tîm therapiwtig
Bydd angen i bob un o'r dulliau a nodir uchod gael model gwahanol er mwyn rheoli eu ffordd o gydweithio; nod y fframwaith yw nodi rhai elfennau cyffredin y gellir eu haddasu yn ôl dyfnder yr ymarfer amlasiantaethol. Mae pob awdurdod yn debygol o ddefnyddio pob un o'r tri dull a dylai gadw trosolwg o ble, pryd a sut mae hyn yn gweithio. Dylai eu staff hefyd ddeall bod gwahanol ddulliau o gydweithio â gweithwyr proffesiynol eraill ac y gallant gyfrannu mewn gwahanol ffyrdd. Pa bynnag fodel sy'n cael ei ddefnyddio, dylai staff fod yn glir am eu rôl, paramedrau eu cyfranogiad, y broses i'w dilyn ar gyfer cydweithio, a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan eu harweinwyr i weithio gydag asiantaethau eraill er budd y plant sydd wrth wraidd y dull gweithredu.
Diben
Mae'r fframwaith hwn yn ymwneud â chyflawni nifer o welliannau:
- creu'r amodau ar gyfer ymarfer amlasiantaethol cyson
- gwneud cynnydd drwy ddull datrys problemau
- rhoi'r plentyn yn y canol, fel bod ei brofiad yn canolbwyntio ar yr hyn sydd ei angen arno
Nid yw'r fframwaith cenedlaethol ar ymarfer amlasiantaethol wedi'i fwriadu i ddyblygu canllawiau presennol, ac nid yw chwaith yn gosod newidiadau diangen ar gyrff lleol neu ranbarthol neu asiantaethau cenedlaethol sydd â'u modelau ymarfer sefydledig eu hunain, y mae rhai ohonynt wedi'u nodi mewn trefniadau partneriaeth a sefydlwyd o dan ddeddfwriaeth. Mae'r fframwaith cenedlaethol ar ymarfer amlasiantaethol yn ceisio cryfhau arferion amlasiantaethol ledled Cymru drwy ddarparu cyfrwng i ddwyn ynghyd arferion da ac annog ffyrdd gwell o weithio'n fwy cyson.
Mae'r fframwaith hwn yn cysylltu â chanllawiau tebyg ar gyfer sectorau eraill megis yr wybodaeth i helpu ysgolion i ddatblygu eu darpariaeth ymgysylltu amlasiantaethol ar gyfer Ysgolion Bro.
Y 5 elfen amlasiantaethol genedlaethol
Mae'r fframwaith yn cynnwys 5 elfen ar gyfer ymarfer amlasiantaethol:
- seilwaith amlasiantaethol
- strategaeth amlasiantaethol
- dysgu amlasiantaethol
- llywodraethu amlasiantaethol
- cyflawni amlasiantaethol
Seilwaith amlasiantaethol
Er mwyn datblygu ymarfer amlasiantaethol llwyddiannus, rhaid i rannau gwahanol o'r system ddod ynghyd i ffurfio gwasanaeth cyhoeddus dibynadwy, cyson, hygyrch a thosturiol i boblogaeth Cymru.
Strwythurau
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn nodi trefniadau partneriaeth rhanbarthol o dan ran 9, a ddarperir drwy'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Diben y trefniadau partneriaeth yw gwella canlyniadau a llesiant pobl, yn ogystal â gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd darparu gwasanaethau. Mae Byrddau Diogelu Rhanbarthol hefyd wedi'u sefydlu o dan ran 7 o'r ddeddf, ac un o'u rolau yw hyrwyddo cymorth amlasiantaethol effeithiol i blant ac oedolion. Mae'r Byrddau Rhanbarthol hyn yn darparu'r strwythur i ddarparu dulliau integredig.
Mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (VAWDASV) (adrannau 5 i 7) hefyd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol yng Nghymru i baratoi strategaeth ar y cyd i amlinellu amcanion a chamau gweithredu sy'n cyfrannu at fynd ar drywydd diben y ddeddf. Rhaid i bartneriaethau lleol roi sylw i'r diweddaraf ar gyfer ardal yr awdurdod lleol o dan adran 14 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ochr yn ochr ag asesiadau perthnasol eraill fel yr amlinellir yn Neddf VAWDASV.
Mae gwahanol ffyrdd o weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, bydd rhai yn digwydd drwy dimau sefydledig sy'n cynnwys gwahanol weithwyr proffesiynol, megis gwasanaethau integredig cymorth i deuluoedd, neu ganolfannau diogelu aml-asiantaeth. Mae'r timau hyn yn aml wedi'u cyd-leoli neu'n gweithio'n rhithwir o dan un hunaniaeth.
Mae yna hefyd brosesau amlasiantaethol y mae gweithwyr proffesiynol yn gweithio gyda nhw bob dydd o dan gynlluniau gofal a chymorth a rennir ar gyfer plant â phrofiad o fod mewn gofal. Fodd bynnag, yn y pen draw mae'r atebolrwydd am y rhain yn gorwedd gydag un asiantaeth.
Mae gwaith amlasiantaethol yn aml yn methu pan nad oes strwythur, proses a chymorth ffurfiol ar waith i staff sy'n ymdrin â sefyllfaoedd cymhleth sy'n aml yn deillio o argyfwng. Bydd y rhain yn benodol i unigolyn, felly bydd ganddynt wahanol ymarferwyr yn rhan o'r gwaith a bydd angen ymateb wedi'i deilwra ar gyfer y plentyn. Dyma pryd mae arweinyddiaeth a mynediad at y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn hanfodol, a byddai'r rhai sy'n cymryd rhan yn elwa ar ffordd o weithio ar y cyd y cytunwyd arni ar y dechrau.
Arweinyddiaeth
Mae arweinyddiaeth gydweithredol yn ystyried bod model arweinyddiaeth a rennir yn fwy creadigol ac effeithiol nag arweinydd neu grŵp o staff yn gweithio ar eu pennau eu hunain. Er mwyn sicrhau llwyddiant, mae angen arweinyddiaeth ymroddedig ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol, gyda ffocws ar gydweithio. Mae hyn yn sicrhau llais, proses benderfynu a nodau cyffredin.
Dylai'r atebolrwydd am ymarfer amlasiantaethol fod ar lefel uwch ym mhob asiantaeth, gyda'r awdurdod i wneud penderfyniadau a siarad â'u swyddog cyfatebol mewn asiantaethau eraill. Dylai uwch arweinydd fod yn barod i weithio fel aelod o dîm mewn adrannau neu gyfarfodydd gweithredol amlasiantaethol lleol a rhanbarthol a gwneud penderfyniadau er mwyn darparu gwasanaethau cydgysylltiedig a nodi cyfleoedd i neilltuo adnoddau i ffyrdd gwell o weithio gydag asiantaethau eraill.
Yn ogystal â'r uwch arweinydd, dylai fod pwyntiau cyswllt clir i arwain ar waith cydweithredol er mwyn cefnogi'r broses a'r gweithlu i gydweithio'n effeithiol, sef y person y dylai ymarferwyr fynd ato yn eu hasiantaeth. Gall asiantaeth weithio mewn sawl fforwm amlasiantaethol, felly efallai y byddai'n well ganddynt nodi pwyntiau cyswllt penodol ar gyfer y gwahanol feysydd, er enghraifft Cynadleddau Amlasiantaeth Asesu Risg (MARACs), amddiffyn plant, gofal cymhleth, camfanteisio ar blant, llety.
Un agwedd bwysig ar unrhyw waith partneriaeth yw deall disgwyliadau'r naill barti a'r llall ar y dechrau, felly mae'n bwysig bod arweinwyr yn ystyried:
- diben y cydweithio
- yr aelodau a'r rhanddeiliaid sy'n allweddol i'r cydweithrediad
- rolau a chyfrifoldebau'r rhai sy'n cyfrannu
- sut mae'r gwaith yn cael ei rannu a'i gydnabod
- a oes atebolrwydd ar y cyd
Gall arweinyddiaeth gydweithredol:
- gael ei chefnogi gan ddatblygiad proffesiynol a hyfforddiant
- cael ei chefnogi gan gyfathrebu clir, gan sicrhau bod gwybodaeth allweddol gan yr holl randdeiliaid am feysydd gwasanaeth ac am sefydliadau partner
- galluogi adnoddau a chyllid i gyd-fynd ar draws asiantaethau
- sicrhau nad yw gwasanaethau'n cael eu dyblygu
Adnoddau
Mae cydweithio i ddarparu gwasanaeth mwy effeithlon ac effeithiol yn gofyn am weledigaeth a rennir, nodau cyffredin ac adnoddau y cytunwyd arnynt i gefnogi'r gwasanaeth ar y dechrau. Mae Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn galluogi awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol i sefydlu cronfeydd cyfunol lle bo hynny'n briodol, gan alluogi gwaith amlasiantaethol mewn ffordd a gynlluniwyd; ond gellir cytuno ar adnoddau fesul achos hefyd a dylid eu trafod ac ymrwymo iddynt yn gynnar.
Dylai staff fod yn rhan o’r tîm heb gyfaddawdu rolau sy'n benodol i'r asiantaeth ac atebolrwydd proffesiynol, gan eu galluogi i gydweithio a chadw mewn cysylltiad agos â'u hasiantaeth eu hunain. Bydd angen i bob asiantaeth sicrhau bod rheolwyr yn grymuso staff sy'n gweithio ar sail amlasiantaethol a sicrhau bod ganddynt oruchwyliaeth broffesiynol gref gan eu hasiantaeth eu hunain.
Dylai ymarferwyr unigol weld eu hunain fel aelodau o dîm amlasiantaethol a dylai asiantaethau gefnogi ei gilydd i gynyddu eu lefelau gallu a galluogrwydd mewn unrhyw ffordd y gallant.
Os yw strategaethau a pholisïau newydd yn cael eu datblygu mewn asiantaeth, dylid ystyried sut y bydd hyn yn effeithio ar eu partneriaid a'r plant a'r teuluoedd y maen nhw’n eu gwasanaethu ac ymgynghori â nhw cyn creu fersiwn derfynol er mwyn ystyried unrhyw adborth a goblygiadau ehangach. Gall y fframwaith NYTH ar gyfer cyflawni dull system gyfan helpu asiantaethau i asesu'r effaith hon, gan ddefnyddio set o egwyddorion a rennir ac offeryn hunanasesu hawdd ei ddefnyddio sy'n hwyluso trafodaeth partneriaeth.
Diwylliant o ryngddibyniaeth
Dylid bod yn esiampl o ran ymrwymiad i bwysigrwydd ymarfer amlasiantaethol ar lefel uchaf sefydliadau ac ymestyn hyn yr holl ffordd i’r rheng flaen.
Dylai arweinwyr ymarfer annog ymarferwyr i weithio gydag asiantaethau eraill i chwalu rhwystrau ac unrhyw stigma sy'n gysylltiedig â gweithwyr proffesiynol eraill, gan annog ffyrdd mwy agored o weithio. Dylai'r dull agored a gwaith partneriaeth hwn fod yn berthnasol i bartneriaid hirsefydlog megis timau iechyd a gwasanaethau plant; ac i ffurfio cysylltiadau newydd â gwahanol asiantaethau a sicrhau bod yr oedolyn y gellir ymddiried ynddo ar gyfer y plentyn yn rhan o'r broses. Efallai nad yw'r oedolyn y gellir ymddiried ynddo yn dod o asiantaeth bartner, ond bydd yn adnabod y plentyn yn well na gweithwyr eraill a gall helpu i sicrhau bod llais y plentyn wrth wraidd y cynllun fel y bydd ei gyfranogiad yn fuddiol.
Fframwaith atebolrwydd ar y cyd
Bydd angen i staff sy'n gweithio ar nodau a chanlyniadau a rennir gydag asiantaethau eraill wybod bod y cymorth a'r strwythur ar gael o'u cwmpas i gyflawni eu rolau gyda'i gilydd. I wneud hyn, byddant yn elwa ar fframwaith atebolrwydd ar y cyd sy'n nodi'r canlynol:
- nodau a chanlyniadau cyffredin y tîm, y prosiect neu'r plentyn a'r teulu yn dibynnu ar a yw'n fater penodol ar gyfer un plentyn neu'n gyfarfod rheolaidd/dull o ymdrin â materion a rennir
- rolau a chyfrifoldebau'r rhai sy'n cydweithio
- y mesurau ar gyfer llwyddiant fel bod pawb yn gwybod pryd y cyflawnwyd y nod a'r canlyniad
- y strwythur adolygu a monitro rheolaidd o amgylch y broses
- yr adnoddau sydd ar gael iddynt
- y llinellau atebolrwydd o fewn ac ar draws sefydliadau
Parodrwydd ar gyfer partneriaeth
Mae parodrwydd ar gyfer partneriaeth yn golygu creu'r amodau ar gyfer ymarfer amlasiantaethol llwyddiannus. Mae cyfathrebu ar draws asiantaethau yr un mor bwysig â chyfathrebu mewnol mewn asiantaethau; ac mae angen i systemau gysylltu, o fewn ac ar draws sefydliadau.
Mae prosesau a rennir a ffurflenni a ddefnyddir yn gyffredin yn gwneud cydweithio'n fwy hygyrch ac mae enghreifftiau eisoes o sut mae hyn yn gweithio'n dda, megis prosesau amddiffyn plant gyda ffurflenni atgyfeirio rhanbarthol.
Mae tryloywder yn hollbwysig. Dylai asiantaethau rannu manylion cyswllt a siartiau sefydliadol fel bod pob asiantaeth yn deall sut mae'r llall yn gweithredu ac wedi'i strwythuro. Yn y modd hwn, gall ymarferwyr rheng flaen nodi'r person y mae angen iddynt siarad ag ef i gael ymateb cyflym i sefyllfa. Bydd hyn yn osgoi chwiliadau sy'n cymryd llawer o amser wrth geisio dod o hyd i’r person cywir i siarad ag ef yn hytrach na mynd drwy bwyntiau mynediad cyhoeddus a all oedi mynediad ac atal cydweithio.
Yn y pen draw, bydd system TG a rennir rhwng iechyd a gofal cymdeithasol yn galluogi asiantaethau i rannu data fel bod gwasanaethau'n fwy effeithlon, bod gweithwyr proffesiynol yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf ac nad oes angen i blant a theuluoedd ailadrodd eu gwybodaeth sawl gwaith.
Mae fframwaith Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI) yn darparu dull ymarferol o rannu gwybodaeth bersonol a darparu safonau a thempledi cyffredin ar gyfer datblygu protocolau rhannu gwybodaeth a chytundebau datgelu data. Prif nod WASPI yw helpu darparwyr gwasanaethau cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau effeithiol wrth gydymffurfio â'u rhwymedigaethau cyfreithiol, sef Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018. Mae'r prif gyrff sector cyhoeddus eisoes wedi cofrestru ar gyfer WASPI.
Strategaeth amlasiantaethol
Mae strategaeth amlasiantaethol lwyddiannus ar gyfer y sefydliad yn cydgrynhoi'r trefniadau fel bod dealltwriaeth gyffredin o sut mae'r gwahanol ddulliau amlasiantaethol yn cyd-fynd â'i gilydd a sut y gallant gysylltu. Gellir integreiddio'r strategaeth hefyd i strategaeth ranbarthol fel bod strategaeth gyffredinol ar draws sefydliadau partner sy'n cynnig goruchwyliaeth, gweledigaeth ac atebolrwydd ar y cyd.
Gellir defnyddio'r strategaeth fel offeryn cyfathrebu i'r gweithlu, a darparu fframwaith i adolygu prosesau a systemau amlasiantaethol fel eu bod yn gweithio'n effeithiol ac yn mynd i'r afael â rhwystrau i ymarfer aneffeithiol. Un offeryn defnyddiol i gefnogi myfyrio yw'r fframwaith NYTH ar gyfer offeryn hunanasesu dull system gyfan.
Mae angen i strategaethau fod â gwerthoedd sy’n gydnaws â’i gilydd, hyrwyddo diwylliant amlasiantaethol cadarnhaol, a dull sy'n seiliedig ar gryfder ac yn ystyriol o drawma gan sefydlu ffordd o weithio sy'n seiliedig ar berthynas.
Strategaeth dan arweiniad gwerthoedd
Dylai strategaeth y sefydliad fabwysiadu dull sy'n seiliedig ar hawliau o ymdrin â gwasanaethau i blant sy'n hyrwyddo llais y plentyn ac yn sicrhau bod gweithwyr proffesiynol yn trin pob plentyn a theulu gydag urddas a pharch.
Diwylliant amlasiantaethol
Rhaid i ddiwylliant amlasiantaethol hyrwyddo manteision cydweithio yn hytrach na chanolbwyntio ar unrhyw heriau, yn enwedig yn y camau cynnar. Bydd angen amser ac arweinyddiaeth er mwyn newid agweddau am gydweithio.
Mae angen rhoi yr un faint o sylw i ddiwylliant ag i ymarferoldeb ac mae gan ddiwylliant amlasiantaethol cryf y nodweddion hanfodol canlynol:
- caniatáu i'w gofynion asiantaeth unigol a'u rolau a'u codau proffesiynol priodol gael eu dilyn
- hyrwyddo dull datrys problemau drwy gyfathrebu agored
- hyrwyddo rhannu gwybodaeth a sianeli cyfathrebu effeithiol
- neilltuo rolau a chyfrifoldebau clir
- trin pawb yn gyfartal, p'un a ydynt yn staff yr asiantaeth ei hun, y bobl sy’n cydweithio â nhw neu asiantaethau partner
- chwalu rhwystrau a goresgyn stereoteipiau
- datrys materion yn gyflym gan ddilyn proses glir, a'r system gyfan yn gallu eu gweld yn cael eu datrys
- cyflwyno dull tîm a rennir o ymdrin â phlant a theuluoedd
- osgoi rhoi bai a chymryd cyfrifoldeb a rennir
- nid yw anghydfodau asiantaeth yn cael eu hail-greu pan fydd plant unigol mewn argyfwng
- cydnabyddiaeth rhwng asiantaethau bod pob gweithiwr proffesiynol dan bwysau ac yn ymdrin â sefyllfaoedd anodd bob dydd
Yn ystyriol o drawma ac yn canolbwyntio ar y plentyn
Dylai'r ffocws fod ar ddatrys anghenion y plentyn gyda dealltwriaeth a hyblygrwydd trwy ddefnyddio dull datrys problemau, yn hytrach na gweld ffiniau rôl pob asiantaeth. Bydd hyn yn dibynnu ar:
- adeiladu cysylltiadau cadarnhaol rhwng yr ymarferwyr a'r plentyn
- nodi gyda phwy y mae'r plentyn yn gweithio'n dda a galluogi'r person hwnnw i fod yn weithiwr allweddol gyda'r plentyn pan fo hynny'n bosibl
- staff yn y tîm yn ymarferwyr sy'n ystyriol o drawma
- pwyntiau cyswllt clir i blant, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol, gyda chymaint o barhad â phosibl o ran gweithwyr proffesiynol
Dysgu amlasiantaethol
Pan fydd timau amlasiantaethol yn cael eu sefydlu, gellir ymwreiddio dulliau a blaenoriaethau dysgu o'r cychwyn.
Cymhwyso'r gwersi o adolygiadau ymarfer
Cytuno ar y ffordd orau o ymwreiddio'r gwersi a ddaw yn sgil adolygiadau ymarfer er mwyn iddynt fod yn ddefnyddiol yn hytrach na beichus ac er mwyn adeiladu hyder y gweithluoedd. Rhaid i adolygu a chymhwyso gwersi yn gyflym fod yn flaenoriaeth weithredol, fel y gellir rhannu gwelliannau mewn ymarfer a chefnogi gweithwyr proffesiynol i gyflawni hyn heb oedi er mwyn atal ymarfer niweidiol. Mae'r Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (SUSR) yn ddull arloesol newydd o ymdrin ag adolygiadau ymarfer sy'n ymwneud â digwyddiadau trasig a marwolaethau yng Nghymru ac mae’r canllawiau canlynol wedi’u cyhoeddi.
Bydd cyfuno adolygiadau ymarfer oedolion, ymarfer plant, Dynladdiad Iechyd Meddwl, Dynladdiad Domestig a Dynladdiad Arfau Ymosodol mewn 1 broses drylwyr yn atal yr angen i deuluoedd gymryd rhan mewn adolygiadau lluosog sy'n gallu bod yn anodd a thrawmatig.
Mae'r broses yn caniatáu i dimau adolygu amlasiantaethol:
- nodi dysgu yn gyflym
- adeiladu gwell dealltwriaeth o'r hyn a ddigwyddodd yn ystod digwyddiad a pham
- darparu cynllun gweithredu clir i wella gwasanaethau
Yn bwysig, bydd yn sicrhau bod dysgu'n cael ei fabwysiadu ledled Cymru drwy Storfa Diogelu Cymru. Mae'r storfa ddigidol hon yn storio'r holl adolygiadau a gellir ei harchwilio gan ddefnyddio gwyddor gymdeithasol a dysgu peirianyddol i echdynnu dysgu, gwybodaeth thematig ac arferion da.
Ar lefel genedlaethol, mae hwb cydgysylltu pwrpasol Llywodraeth Cymru yn cefnogi cyflawni'r broses ac mae rhwydwaith cymorth Adolygiadau Diogelu Unedig Sengl yn darparu swyddogaeth oruchwylio hanfodol.
Ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth
Darparodd yr Arolygiadau ar y Cyd o Drefniadau Amddiffyn Plant (JICPA) wybodaeth hanfodol am asiantaethau sy'n gweithio gyda'i gilydd ar amddiffyn plant yng Nghymru.
Mae canolfannau academaidd megis CASCADE Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant yn darparu cyfoeth o ymchwil gyfredol.
Mae gan gymunedau ymarfer proffesiynol eu ffynonellau eu hunain o arferion da sy'n seiliedig ar dystiolaeth, megis y Grŵp Gwybodaeth.
Data
Bydd pob asiantaeth yn casglu eu data eu hunain y gellir ei rannu a'i adolygu gyda'i gilydd fel bod y dysgu'n cael ei ddeall yn ehangach ac o wahanol safbwyntiau, a byddai hyn yn cael ei wella gan system TG a rennir. Bydd angen rhannu data o fewn y paramedrau cyfreithiol ar gyfer rhannu data sefydliadol os nad yw ar gael i'r cyhoedd.
Dysgu gan gymheiriaid
Mae dysgu gan gymheiriaid ar gael yn rhwydd ac yn ffynhonnell ddefnyddiol o ddysgu a chymorth. Gellir gwneud hyn yn anffurfiol drwy gydweithio neu gellir ei wneud yn fwy ffurfiol drwy drafodaethau myfyriol.
Mae cyfleoedd i ddysgu gan wasanaethau eraill sydd â thimau amlasiantaethol hirsefydlog, megis timau iechyd meddwl cymunedol i oedolion a'r potensial ar gyfer timau amlddisgyblaethol tebyg mewn gwasanaethau plant lle mae’n arferol cael nifer o wahanol weithwyr proffesiynol yn cyflwyno fel un tîm i bobl y maen nhw’n gweithio gyda nhw.
Dysgu gyda'n gilydd
Gall asiantaethau sy'n cydweithio'n rheolaidd ac yn nodi bylchau mewn gwybodaeth neu feysydd diddordeb cyffredin ddatblygu hyfforddiant neu ymchwil sy'n benodol i'w hanghenion; yn ogystal â hyfforddiant gorfodol, megis hyfforddiant VAWDASV statudol ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru o dan y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol.
Llywodraethu amlasiantaethol
Mae dulliau da o lywodraethu ymarfer amlasiantaethol yn seiliedig ar asiantaethau yn dwyn ei gilydd i gyfrif drwy ysbrydoli a chefnogi ei gilydd.
Llywodraeth gydweithredol
Mae llywodraeth gydweithredol yn golygu bod gwasanaethau integredig yn flaenoriaeth a bod adrannau'r llywodraeth yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol yn cydweithio er mwyn sbarduno gwasanaethau i blant a’u teuluoedd sydd wedi'u cydgysylltu'n dda. Bydd hyn fel arfer yn cael ei ddatblygu drwy strwythurau sefydledig megis y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a'r Byrddau Diogelu Rhanbarthol, neu drwy ddeddfwriaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i asiantaethau gydweithio ar strategaethau lleol a gweithredu dull amlasiantaethol, megis Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.
Sicrhau ansawdd
Dylid datblygu offeryn hunanasesu amlasiantaethol i'w ddefnyddio mewn timau amlasiantaethol. Dylid cytuno ar fodel hunanasesu ar y dechrau, a bydd ffordd o gasglu adborth gan blant a theuluoedd yn rhan allweddol o hyn.
Cynlluniwyd offeryn hunanasesu NYTH i'w ddefnyddio gan unrhyw wasanaeth neu brosiect sy'n darparu gwasanaethau iechyd meddwl a/neu lesiant ar gyfer beichiogrwydd, babanod, plant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Fodd bynnag, gellir defnyddio NYTH ar gyfer dull system gyfan yn fwy cyffredinol.
Arweinyddiaeth
Mae angen i arweinwyr sicrhau bod eu perthynas ag asiantaethau partner yn iach ac yn canolbwyntio ar atebion. Pan fydd arweinwyr yn gweithio gyda’i gilydd i ddatrys problemau sy’n ymwneud â’r materion mwyaf cymhleth ar draws asiantaethau, mae'n dangos i staff bod disgwyl i bawb gydweithio a bod hynny’n gallu creu atebion ymarferol.
Cyflawni amlasiantaethol
Gellir hwyluso creu'r amodau ar gyfer ymgysylltu drwy hyrwyddo gweithio mewn partneriaeth drwy gynllun clir ar gyfer cyflawni y bydd angen iddo:
- gynnwys canllawiau clir ar gyfer yr ymarferwyr dan sylw
- sicrhau bod y cyflawni'n canolbwyntio ar y plenty
- hyrwyddo dull tîm gyda model clir ar gyfer gweithredu
Canllawiau clir
Dylai pob dull amlasiantaethol nodi rolau a chyfrifoldebau clir ar gyfer y gweithwyr proffesiynol dan sylw, i bwy y maen nhw’n atebol, pa adnoddau ac offer neu dempledi a rennir sydd ganddynt, a pha weithdrefnau cyffredin y maen nhw’n eu dilyn fel man cychwyn.
Canolbwyntio ar y plentyn
Rhaid gwrando ar y plentyn ac ystyried ei farn am sut y mae am i weithwyr proffesiynol weithio gydag ef, fel bod pob plentyn yn cael ei drin fel unigolyn, a rhaid i hyn fod yn rhan annatod o'r cyflawni. Rhaid i weithwyr proffesiynol gofio mai eu rôl yw darparu atebion i'r plentyn, nid gweithredu fel ceidwad porth ar gyfer eu gwasanaeth.
Timau sy'n perfformio'n dda
Gall timau amlddisgyblaethol drawsnewid y ffordd mae aelodau'r tîm yn meddwl ac yn gweithredu. Gall cyfoeth safbwyntiau arwain at ymwybyddiaeth gyfunol ddyfnach o'r hyn sydd ei angen ar blant a theuluoedd a chynnig amgylcheddau diogel, cymhellol ac agored i staff. Mae'r cysyniad 'tîm o amgylch' yn enghraifft dda o waith amlasiantaethol yn ymarferol. Gall olygu'r tîm o amgylch y plentyn, y tîm o amgylch y teulu, y tîm o amgylch yr ysgol, y tîm o amgylch y tenant a llawer o dimau dros dro eraill y mae angen eu rhoi ar waith i helpu plentyn neu deulu penodol. Mae hwn yn gysyniad hawdd i weithwyr proffesiynol, plant a theuluoedd ei ddeall.
Model ymarfer cytunedig
Dylai'r model cyflawni fod yn glir o'r cychwyn cyntaf.
Bydd angen i staff wybod:
- a fydd y tîm wedi'i gyd-leoli neu'n rhithwir
- pa adnoddau a chyllidebau a rennir sydd ganddynt
- nodi sianeli cyfathrebu clir
- pa weithdrefnau y maen nhw’n eu Dilyn
- pa systemau TG y maen nhw’n eu defnyddio i gipio gwybodaeth sy'n cael ei rhannu
Y camau nesaf
Bydd y fframwaith hwn ar ffurf dogfen waith fyw er mwyn ystyried datblygiadau a newidiadau mewn ymarfer a'r dirwedd bolisi ledled Cymru.
Bydd y fframwaith yn cyd-fynd ag offer i gefnogi ymarfer amlasiantaethol a chysylltu â dulliau tebyg ar gyfer sefydliadau eraill.
Rydym yn croesawu adborth ar ei gymhwysiad ac yn eich gwahodd i:
- rannu eich arferion gorau a'ch syniadau gyda ni yn NPF@llyw.cymru
- ddefnyddio'r Grŵp Gwybodaeth i adeiladu cymunedau ymarfer a dysgu o amgylch gweithio amlasiantaethol
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid ehangach i fynd i'r afael â'r angen am fwy o waith amlasiantaethol mewn dull cydgysylltiedig a chwbl ymrwymedig o wella bywydau plant a theuluoedd. Bydd hyn yn dechrau gyda gweithdy yn ystod haf 2025 i ddod â'r holl bartneriaid ynghyd ac archwilio'r hyn sydd ei angen ar Gymru a sut y gall ei gyflawni.
