Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried eu cymryd a pham?

Crynodeb

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Strategaeth Bwyd Cymunedol (SBC) yn ystod chweched tymor y Senedd (2021–2026), fel rhan o'i hymrwymiad i hyrwyddo bwyd lleol yng Nghymru. Prif amcan yr SBC yw gweithredu ar y cyd i wella polisi, cynllunio a gwasanaethau sy'n gysylltiedig â bwyd ar lefel y gymuned. Nod arall yw datblygu'r mentrau sy'n bod, yn enwedig trwy Bartneriaethau Bwyd Lleol (PBLl), i wella'r canlyniadau i gymunedau.

Gweledigaeth yr SBC yw: 

'Gweithio mewn partneriaeth i hyrwyddo a chryfhau'r system fwyd leol a chymunedol yng Nghymru; cynyddu argaeledd a defnydd o fwyd lleol, iach a chynaliadwy; ac ysbrydoli gwelliannau mewn lles yn ein cymunedau'.

Cyd-destun 

Mae system fwyd Cymru, o ran sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu, ei brosesu neu ei weithgynhyrchu, ei ddosbarthu, ei farchnata, ei adwerthu a'i fwyta, yn system ddeinamig sy'n rhan o system fwyd ehangach y DU, sydd ei hun ag elfennau pwysig o ran masnachu rhyngwladol. 

Ystyriaethau masnachol yw'r dylanwad mwyaf ar y system fwyd gyda’u pwyslais ar effeithlonrwydd economaidd ac elw. Mae'r fframwaith polisi y mae'r system yn gweithredu o'i fewn yn sicrhau bod bwyd yn ddiogel i'w fwyta, ac yn bodloni'r safonau iechyd, diogelwch a moesegol gofynnol er lles defnyddwyr, gyda system sy'n seiliedig ar reolau ar gyfer rheoli masnach ryngwladol. 

Mae costau a manteision amrywiol yn perthyn i'r system fwyd. Mae bwyd yn effeithio ar iechyd a lles y genedl. Wrth gynhyrchu bwyd, rhaid ystyried ei effaith ar yr amgylchedd ac adnoddau naturiol ochr yn ochr ag unrhyw fanteision economaidd; 

Wrth hyrwyddo bwyd o Gymru, rhoddir sylw i gyfleu'r ymdeimlad o le, diwylliant a hanes gan ddod â phobl at ei gilydd yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol. Mae bwyd yn berthnasol i bobl a chymunedau mewn llawer o ffyrdd, ac mae potensial am bolisi, cynlluniau a threfniadau cyflenwi bwyd cynhwysol. 

Yn yr hirdymor

Mae bwyd yn berthnasol i nodau llesiant Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a gall cyrff cyhoeddus a'u partneriaid hyrwyddo'r nodau hyn drwy gymryd camau sy'n gysylltiedig â bwyd. 

Mae llawer o brosiectau a gweithgareddau sy'n gysylltiedig â bwyd yn digwydd mewn cymunedau ledled Cymru. Er bod pob un yn unigryw, maen nhw'n wynebu problemau tebyg wrth geisio gwireddu eu potensial.  Mae'r rhain yn amlwg wrth ystyried sut mae cynhyrchu bwyd cymunedol.  

Wrth holi rhanddeiliaid, gwelwyd bod rhwystrau gan gynnwys y broblem o gael tir, cystadleuaeth â defnyddwyr amwynderau eraill ac amharodrwydd perchenogion i lesio eu tir. Gall y drefn gynllunio fod yn rhwystr i fentrau cymunedol sy'n gweithredu ar leiniau llai o dir. 

Dywedodd y rheini sy'n hyrwyddo garddwriaeth fod ganddi'r potensial i fod yn elfen ymarferol bwysig o gynhyrchu bwyd cymunedol, ond nodwyd bod rhai rhwystrau. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ystyried arallgyfeirio, ysgogi mwy o gysylltiadau rhwng ffermwyr a busnesau lleol a mentrau cymdeithasol. Bydd hyn yn cynyddu'r cynnyrch Cymreig fydd ar gael a hynny drwy gadwyni cyflenwi byrrach.

Mae rhwystrau i fwyta bwyd lleol yn cynnwys y canfyddiad mai ei ddiben yw cynhyrchu gwarged ar gyfer elusennau a'r farn bod bwyd lleol yn ddrud. Bydd y strategaeth yn ystyried darparu mwy o wybodaeth am fanteision cynhyrchu bwyd lleol. 

Mae yna lawer o gynlluniau bwyd cymunedol yn bod ar hyn o bryd, ond gallen nhw i gyd elwa o gael mwy o gyfleoedd i gydgysylltu a rhwydweithio i gae y gorau o fanteision cydweithio. 

Bydd y strategaeth yn hwyluso cydweithrediad tuag at weithio mewn ffordd fwy cydgysylltiedig, drwy ganolbwyntio ar y berthynas rhwng bwyd a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).  Bydd hyn yn cryfhau elfen y gymuned yn y system fwyd trwy gysylltu cynhyrchwyr â'r marchnadoedd sydd ar gael a bydd y weledigaeth yn meithrin mwy o gysylltiadau rhwng cynhyrchwyr a manwerthwyr yn lleol.

Bydd yr SBC yn cydweithio â Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol i gefnogi Cyrff Cyhoeddus, Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (PSBs) a PBLlau i drefnu, cydlynu ac arwain prosiectau presennol. 

Gall clystyrau Bwyd a Diod chwarae rhan bwysig yn hyn o beth gan mai un o’u hamcanion hirdymor yw cael busnesau i gydweithio mwy â'i gilydd.

Bydd yr SBC yn cefnogi prosiectau sy'n annog rhyngweithio cymdeithasol mewn cymunedau lleol a chefnogi gweithgareddau a gwasanaethau bwyd y gall gwasanaethau cymunedol eu cynnig i helpu i wella lles pobl a'u gwneud i deimlo'n llai unig, gan gyfrannu at 'Gymru o Gymunedau Cydlynol'

Gallai chwilio am ffyrdd i dyfu mwy o ffrwythau a llysiau yn lleol at ddibenion arlwyo cyhoeddus olygu bod mwy o fwyd yn cael ei brynu oddi wrth ffermwyr lleol yn y dyfodol. Ychydig o ffrwythau a llysiau sy'n cael eu cynhyrchu yng Nghymru ar hyn o bryd. 

Bydd hynny'n cyfrannu at fyrhau cadwyni cyflenwi, er enghraifft, cael awdurdodau lleol a gwasanaethau iechyd i brynu o leiaf cyfran o’u bwyd oddi wrth dyfwyr lleol. 

Integreiddio

Wrth adolygu cynlluniau lles y PSBs, nodwyd blaenoriaethau allweddol fel bwyd cymunedol a’r nodau a rennir â'r SBC, gan gynnwys newid hinsawdd, cymuned, bwyd, iechyd, iechyd meddwl, yr amgylchedd naturiol, lleihau carbon, gwirfoddoli, a'r iaith Gymraeg. A hwythau wedi'u sefydlu o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, mae PSBs yn dod â chyrff allweddol, fel Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd, ynghyd i greu cynlluniau llesiant lleol yn eu cymunedau.

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi Partneriaethau Bwyd Lleol (PBLl) ym mhob un o'r 22 Awdurdod Lleol. Mae PBLlau yn trefnu sectorau gwahanol i gydweithio â'i gilydd i wella systemau bwyd lleol, gan ddod â chyrff cyhoeddus, elusennau, busnesau bwyd, tyfwyr a chyrff anllywodraethol ynghyd i ddatrys problemau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sy'n gysylltiedig â bwyd. 

Mae Synnwyr Bwyd Cymru eisoes yn cefnogi Lleoedd Bwyd Cynaliadwy sy'n helpu cymunedau i drechu tlodi bwyd ac i gael bwyd fforddiadwy ac iach. 

Cydweithio    

Bu swyddogion yn trafod â rhanddeiliaid, yn ymweld â busnesau Amaeth Cymunedol (CSA), ac yn cydweithio â'r Alban a Gogledd Iwerddon i ddatblygu strategaethau bwyd. Fe wnaeth y ddau arolwg o dan yr SBC a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2021 a Mawrth 2022 gasglu barn y cyhoedd (1,018 o ymatebion) a rhanddeiliaid bwyd cymunedol (87 ymateb). Fe welwch y canlyniadau ar wefan Bwyd a Diod Cymru.

Byddan nhw'n ein helpu i lywio prosiectau yn y dyfodol. Ym mis Chwefror 2023, cynhaliwyd gweithdai i holi barn rhanddeiliaid ar sut i fireinio 'Map Systemau Bwyd Cymunedol' Llywodraeth Cymru (80 o gyfranogwyr).

Mae astudiaethau achos, fel Bwyd Caerdydd a Big Bocs Bwyd, yn disgrifio nifer o fentrau bwyd llwyddiannus. 

Cymryd rhan

Cafwyd trafodaethau â rhanddeiliaid trwy gyfarfodydd, ymweld â safleoedd, grwpiau arbenigol a dau arolwg cyhoeddus. Nod y polisi yw sefydlu fframwaith galluogi, gan annog cydweithredu i wella prosiectau ac i ailadrodd rhai llwyddiannus. Partneriaid fydd yn arwain unrhyw weithredu, i roi'r hyblygrwydd i allu mynd i'r afael â materion lleol. 

Mae'r strategaeth derfynol yn gryno, yn canolbwyntio ar alluogi rhanddeiliaid a phartneriaid trwy gydweithio. Gwelir Llywodraeth Cymru fel hwylusydd, gan roi'r pwyslais ar wneud strategaethau bwyd yn rhan o gynlluniau datblygu a lles lleol.  

Bydd sefydlu Grŵp Cynghori Gweinidogol yn rhoi rheolaeth dda fydd yn help i roi'r SBC ar waith. 

Bydd swyddogion yn cydweithio'n agos ag uwch randdeiliaid a phartneriaid allweddol i hyrwyddo'r nodau strategol, cynnydd a chanlyniadau.

Impact

Trwy sefydlu Fforwm Bwyd Traws-Bortffolio, llwyddwyd i sicrhau cysondeb a chyfuno polisïau gan arwain at gyfathrebu gwell ac eglurder. Dyma gasgliadau'r gwaith cefndir hwn:

  • arweiniad a chydlyniant: mae dylanwad Llywodraeth Cymru o ran cael pobl ynghyd wedi sbarduno cydweithio, osgoi dyblygu a chryfhau cysylltiadau gan esgor ar ganlyniadau gwell.
  • chwalu rhwystrau: caiff anawsterau o ran cael gafael ar asedau ffisegol i dyfu llysiau a ffrwythau ar raddfa fach eu datrys trwy gael arweinwyr cynllunio a ffermio i drafod â’i gilydd, gyda’r SBC yn helpu i gysylltu'r rhanddeiliaid cywir â’i gilydd.
  • cynllunio ac integreiddio bwyd: bydd yr SBC yn gweithio gyda PSBs, RPBs a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol i integreiddio blaenoriaethau bwyd mewn cynlluniau cyhoeddus ac annog cymunedau i dyfu bwyd a defnyddio tir yn gynaliadwy.

Mae potensial i ddatblygu trywydd lleol / cymunedol i ddiwallu anghenion caffael cyhoeddus trwy Brydau Ysgol Am Ddim i Bawb . Bydd hyn yn sbardun i’r gwaith sy’n cael ei wneud i gefnogi busnesau bwyd a hyrwyddo bwyd a diod o Gymru ymhellach.

Ar lefel darparu, mae'r cyfleoedd i gydweithredu yn cynnwys prosiectau fel y fenter Llysiau mewn Ysgolion Cymru, sydd am weld cynyddu cynnyrch organig mewn ysgolion cynradd a rhoi hwb i'r farchnad ar gyfer llysiau lleol. Dangosodd y Cynllun Peilot Courgette yn 2022 bod potensial i ddarparu bron 1 tunnell o gourgettes i ysgolion Caerdydd, gan hyrwyddo cynhyrchu bwyd lleol ac iechyd plant drwy brydau maethlon ac addysg am dyfu bwyd.

Costau ac arbedion

Mae'r SBC yn strategaeth gefnogol sy'n defnyddio’r adnoddau sy’n bod i sbarduno newid a chydweithio ym maes gweithgareddau bwyd cymunedol. Trwy hyrwyddo cydweithio, ffocws gwell ac integreiddio ym maes bwyd, caiff adnoddau eu defnyddio'n fwy effeithlon, bydd llai o wastraff a sicrheir canlyniadau cynaliadwy a pharhaol.

Adran 8. Casgliad

8.1 Sut mae’r bobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi cael eu cynnwys wrth ddatblygu'r cynnig?

Mae angen cysondeb a chyfuno polisïau ac mae hynny wedi arwain at sefydlu Fforwm Bwyd (oO dan Gadeiryddiaeth Cyfarwyddwr RA) ar draws portffolios i gyfathrebu'n well a sicrhau  eglurder. Mae swyddogion wedi trafod â rhanddeiliaid niferus yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, ac â busnesau. 

Gwnaethom gynnal arolwg dwyieithog helaeth yn Rhagfyr 2021Mawrth 2022 gan holi pobl mewn mentrau a phrosiectau bwyd cymunedol yng Nghymru a gweithio gyda grwpiau ffocws Strategaeth Bwyd Cymunedol | Busnes Cymru - Bwyd a Diod.

O ganlyniad, dysgwyd am ystod o brosiectau bwyd ledled Cymru. Fel rhan o’r ymarfer holi rhanddeiliaidd am Astudiaeth Mapiau Systemau'r Strategaeth Bwyd Cymunedol, holwyd 7 grŵp o randdeiliaid allweddol a chysylltwyd â 26 o sefydliadau ac fel rhan o'r astudiaeth o'r Rhwystrau i Ddatblygu Garddwriaeth ar Raddfa Fach yng Nghymru cynhaliwyd arolygon, cyfweliadau a thrafodaethau ar-lein gyda thyfwyr, cynllunwyr a rhanddeiliaid perthnasol yn y sector garddwriaeth. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal llawer o bolisïau a gweithgareddau sy'n gysylltiedig â bwyd, ac wedi nodi llawer sydd â rhyw o elfen o ffocws lleol a chymunedol. Arweiniodd hyn at lunio astudiaethau achos o fentrau sy’n gwneud gwaith cymunedol fel Bwyd Caerdydd  a Mach Maethlon.

8.2 Beth yw’r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod yr SBC yn strategaeth alluogi. Bydd y Fforwm Polisi Bwyd Trawslywodraethol yn goruchwylio bod sefydliadau a rhanddeiliaid yn dod yn nes at ei gilydd trwy gydweithio.

Bydd yr SBC yn defnyddio pwerau Llywodraeth Cymru i gael dylanwad cadarnhaol ac i chwarae rôl flaenllaw ar ddod â sefydliadau, partneriaethau a rhanddeiliaid ynghyd, a bydd hyn yn creu cyfleoedd i gael trafodaethau creadigol, crynhoi syniadau a chynllunio’n strategol ynghylch allbynnau polisïau. Bydd sefydlu Grŵp Cynghori Gweinidogol yn rhoi rheolaeth glir i sicrhau bod yr SBC yn cael ei rhoi ar waith yn effeithlon. Bydd swyddogion yn gweithio gydag uwch randdeiliaid a phartneriaid allweddol i wireddu nodau'r strategaeth a monitro cynnydd a chanlyniadau.

Gallai'r trywydd y bydd yr SBC yn ei ddilyn  nodi cyfleoedd i gynyddu arbedion a gwella posibiliadau canlyniadau polisïau bwyd. Bydd hyn yn arwain at benderfynu bob yn gam beth dylid ei wneud dros gymunedau yng Nghymru. 

Bydd hynny'n sylfaen i fwy o gydweithio â Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a mwy o bwyslais ar fwyd cymunedol o fewn cynlluniau lles. Mae'r PBLlau eisoes yn cael effaith gadarnhaol, a bydd trafodaethau a gweithgarwch yn hwb pellach iddyn nhw. Canlyniad hynny fydd rhwydweithiau cryf rhwng rhanddeiliaid bwyd lleol, gan gynnwys sefydliadau bwyd, ffermwyr, y sector academaidd a mudiadau cymunedol.

Mae gan y Strategaeth Bwyd Cymunedol chwe amcan. Dyma fframwaith y gall Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus, rhanddeiliaid allweddol a phartneriaid cyflenwi ddod â syniadau ac adnoddau at ei gilydd ar gyfer gweithredu ar y cyd. 

Dyma fydd amcanion y SBC:

Amcan 1: Sicrhau meddwl ac arweinyddiaeth strategol cydgysylltiedig

Parhau i gysylltu polisïau ar draws Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â natur amrywiol a chymhleth materion sy'n gysylltiedig â bwyd. Sefydlu Grŵp Cynghori Gweinidogol newydd i wireddu amcanion y strategaeth hon. Galluogi a chefnogi cyrff cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i ymgorffori bwyd fel blaenoriaeth wrth gynllunio a chyflenwi’r strategaeth.

Amcan 2: Galluogi cydlynu a gweithredu yn y system fwyd leol.

Annog mentrau bwyd lleol a chymunedol i greu rhwydwaith cydlynol ar gyfer rhannu gwybodaeth a chydweithredu. Bydd hyn yn helpu i fynd i'r afael â hyfywedd hirdymor, dod â chyfleoedd cadwyn gyflenwi leol newydd a gwella cydnerthedd systemau bwyd lleol. 

Amcan 3: Cryfhau gwytnwch cymunedau o ran bwyd

Helpu i fynd i'r afael â phroblemau sy'n gysylltiedig â bwyd sy'n wynebu cymunedau yng Nghymru, sy'n ymwneud â diogeledd bwyd i aelwydydd, salwch sy'n gysylltiedig â deiet a gwastraff bwyd.

Amcan 4: Hwyluso cymunedau bwyd cydlynol

Er budd cynhwysiant cymdeithasol a llesiant meddyliol a chorfforol trwy fentrau bwyd cymunedol.

Amcan 5: Galluogi rhwydweithiau cyflenwi lleol amrywiol, cryfach

Sicrhau bod mwy o'r bwyd a brynir yng Nghymru yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru. Adeiladu diogelwch a chapasiti busnesau bwyd a diod lleol yng Nghymru. Ennill a chadw cyfleoedd yng Nghymru yn y marchnadoedd manwerthu, y sector gwasanaeth bwyd a lletygarwch, a chaffael sector cyhoeddus.

Amcan 6: Galluogi tyfu yn y gymuned a garddwriaeth.

Cynhyrchu mwy o fwyd lleol ffres, maethlon a chynaliadwy yng Nghymru, gan wneud y mwyaf o'r cyfleoedd i ddatblygu mentrau tyfu cymunedol a garddwriaeth ar raddfa fach yng Nghymru.

8.3 Yng ngoleuni'r effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig:  

  • yn cyfrannu cymaint â phosibl at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant; a/neu,
  • yn osgoi, yn lleihau, neu’n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Bydd cryfhau partneriaethau ar lefel gymunedol drwy gyd-drefnu ac arweiniad gwell yn gwella cydweithrediad â PBLlau, PSBs a rhanddeiliaid, gan gefnogi Cymru wydn. 

Bydd hynny'n annog defnydd effeithlon o bolisïau ac adnoddau i gryfhau rhwydweithiau cynhyrchwyr a phroseswyr, byrhau cadwyni cyflenwi, ac alinio â’r nodau llesiant, gan gynnwys gwaith teg, cynaliadwyedd, a symud at economi wyrddach, ddigarbon.

Mae rhaglenni presennol Llywodraeth Cymru i gefnogi'r diwydiant bwyd a diod, yn gweithio i hyrwyddo'r Prydau Ysgol Cynradd am Ddim i Bawb ac i ddatblygu'r economi sylfaenol. Mae'r holl raglenni yn cynnig y potensial i ddatblygu cadwyni cyflenwi lleol cryfach, mwy amrywiol sy'n ychwanegu gwerth a lles ac yn cefnogi Cymru ffyniannus a mwy cyfartal. 

Mae cynnwys amrywiaeth o sefydliadau a rhanddeiliaid ledled y system fwyd gyda'i gilydd yn sicrhau gwytnwch, yn enwedig os nad oes cyllid ar gyfer partneriaethau neu os yw'r cyllid hwnnw wedi crebachu.

Mae rhoi blaenoriaeth i gydweithio rhwng PBLlau a Chyrff Cyhoeddus yn cryfhau cysylltiadau yn y gadwyn gyflenwi er mwyn gallu alinio'r cyflenwad lleol â'r galw, gwella'r berthynas rhwng busnesau a'r gymuned ac ychwanegu at werth cynhyrchion. Bydd hynny'n cyfrannu at greu Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang drwy leihau effeithiau amgylcheddol trwy arferion cynaliadwy, megis lleihau symudiadau cerbydau.

Mae hyn yn golygu symleiddio prosesau cynllunio lleol ar gyfer tyfwyr a mentrau garddwriaethol, a hwyluso'r defnydd o asedau cymunedol drwy fentrau fel Ystadau Cymru. 

Mae cefnogi a chryfhau mentrau bwyd lleol trwy chwalu rhwystrau a symleiddio polisïau yn gyson ag ymdrechion i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wneir.

Mae'r fenter hon yn cyfrannu at y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg drwy feithrin gwytnwch cymunedau trwy gymhellion, cysylltiadau cryfach â busnesau lleol a chaffael mwy o fwyd lleol. 

Mae cymunedau gwledig yn ganolog i ddiogelu'r Gymraeg, trwy elwa ar gyfleoedd gwaith a busnes. Bydd hynny'n annog pobl i aros yn y gymuned a ffynnu.

Mae cyfle i gael y sector cyhoeddus i gaffael mwy o gynnyrch lleol, i harneisio potensial y ddyletswydd gaffael newydd i fod yn gymdeithasol gyfrifol a thrwy'r adnodd caffael bwyd ar-lein Prynu Bwyd Addas i’r Dyfodol.

Mae rhaglenni cymorth ar gyfer micro-fusnesau a busnesau bach a chanolig (BBaChau), ynghyd ag ymdrechion i hyrwyddo cynhyrchion lleol trwy fanwerthwyr a darparwyr gwasanaethau, yn gwella mynediad at asedau ffisegol o safon. Bydd hyn yn meithrin Cymru Ffyniannus, Wydn o gymunedau cydlynol, gan wella dinasoedd, trefi a phentrefi fel lleoedd i fyw a gweithio ynddyn nhw.

Mae codi ymwybyddiaeth y cyhoedd am fentrau bwyd cymunedol lleol ac ehangu dealltwriaeth y tu hwnt i fanciau bwyd yn hanfodol i integreiddio bwyd cymunedol i'r system fwyd. Gall hyrwyddo bwyd Cymreig drwy raglenni'r Is-adran Fwyd a Croeso Cymru hybu diddordeb a chymryd rhan. Mae mentrau cynhwysol yn annog bwyta iach, cydlyniant cymunedol, a gwelliannau amgylcheddol, gan gefnogi economi wyrddach a meithrin Cymru iachach, mwy cydlynol a theg.

Gellir gwneud hyn trwy weithio gyda chymunedau gan wella effaith ymgyrchoedd cyfathrebu'r llywodraeth ar ddatblygu mentrau bwyd, nodi grwpiau anoddach eu cyrraedd, a mynd â negeseuon bwyd ar led i sicrhau cynhwysiant. 

Bydd darparu gwybodaeth ddwyieithog ar bob sianel gyfathrebu yn flaenoriaeth er mwyn i bawb allu cymryd rhan yn ddiogel a hawdd. Mae hyn yn cynnwys yr amcan llesiant i ddathlu amrywiaeth a dileu anghydraddoldeb o bob math. 

Bydd yr SBC yn cefnogi'r gwaith o adolygu'r safonau ar gyfer prydau ysgolion (Strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach) a’r canllawiau ar gyfer lleoliadau sy'n gofalu am blant i annog arferion bwyta da a diddordeb ym mhob agwedd ar fwyd a diod maethlon. Mae cryfhau cysylltiadau â lles a'r amgylchedd trwy'r cwricwlwm yn helpu i leihau anghydraddoldebau addysgol ac i godi safonau. 

Bydd chwilio am gyfleoedd i ddatblygu mentrau bwyd cymunedol fel triniaeth iechyd a ragnodir gan wasanaethau cymdeithasol yn cefnogi Cymru iachach.

8.3 Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a’i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau? 

Sefydlu Grŵp Cynghori Gweinidogol pwrpasol

Bydd sefydlu Grŵp Cynghori Gweinidogol pwrpasol o dan reolaeth glir yn sicrhau y caiff y Strategaeth Bwyd Cymunedol ei rhoi ar waith yn effeithiol ac mewn modd gydgysylltiedig. Bydd swyddogion yn cydweithio ag uwch randdeiliaid a phartneriaid allweddol i lywio'r modd y caiff ei rhoi ar waith gan gadw ffocws ar amcanion ac ar fesur cynnydd a llwyddiant.

Bydd pwrpas y grŵp yn cynnwys:

  • sefydlu aelodaeth eang a chynrychiadol sy'n tynnu'r prif bartneriaid ynghyd a all gyfrannu at sicrhau bod mwy o bobl yn cael bwyd da, maethlon lleol o Gymru
  • arwain a monitro'r Strategaeth Bwyd Cymunedol a'i heffaith, a rhoi cyngor i weinidogion Cymru ar yr hyn fydd yn gweithio orau yn ymarferol
  • sicrhau bod dulliau’n gyson ac yn effeithiol ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol
  • darparu cyngor sy'n helpu i lywio datblygiad a chanlyniadau'r Strategaeth Bwyd Cymunedol yn y dyfodol, i sicrhau bod y strategaeth yn cadw at ei nod ac yn parhau’n berthnasol