Newidiadau i ragnodi triniaethau gwrthfeirysol a gwrthgyrff ar gyfer COVID-19 (WHC/2025/010)
Cyngor newydd NICE ar fynediad i driniaethau ar gyfer oedolion sydd mewn perygl o COVID-19 difrifol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Manylion
Statws:
Cam gweithredu.
Categori:
Iechyd y cyhoedd.
Teitl:
Trefniadau ar gyfer rhagnodi triniaethau gwrthfeirysol a niwtraleiddio gwrthgyrff monoclonaidd ar gyfer COVID-19.
Dyddiad dod i ben / dyddiad yr adolygiad:
Amherthnasol.
I’w weithredu gan:
- Ymarferwyr cyffredinol.
- Fferyllfeydd cymunedol.
- Prif weithredwyr byrddau/ymddiriedolaethau iechyd.
- Cyfarwyddwyr meddygol byrddau/ymddiriedolaethau iechyd.
- Cyfarwyddwyr gofal sylfaenol byrddau/ymddiriedolaethau iechyd.
- Cyfarwyddwyr gweithredol nyrsio.
- Byrddau/ymddiriedolaethau iechyd.
- Cyfarwyddwyr gweithredol therapïau a gwyddor iechyd.
- Cyfarwyddwyr iechyd y cyhoedd.
- Byrddau/ymddiriedolaethau iechyd.
- Cyfarwyddwyr fferylliaeth/prif fferyllwyr, byrddau iechyd/ymddiriedolaethau.
- Pwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru.
- Fferylliaeth Gymunedol Cymru.
Angen gweithredu erbyn:
Amherthnasol.
Anfonwyd gan:
Y Prif Swyddog Fferyllol,
Grŵp Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Blynyddoedd Cynnar,
Llywodraeth Cymru.
Enwau cyswllt Llywodraeth Cymru:
Y Gangen Fferylliaeth a Rhagnodi,
Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Caerdydd.
CF10 3NQ.
E-bost: Pharmacyand.PrescribingBranch@llwy.cymru
Dogfennau amgaeedig:
Llythyr
Annwyl Gydweithwyr,
Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell defnyddio'r feddyginiaeth wrthfeirysol nirmatrelvir a ritonavir (Paxlovid®) a'r driniaeth niwtraleiddio gwrthgyrff monoclonaidd sotrovimab fel opsiynau ar gyfer trin COVID-19 mewn oedolion sydd â risg uchel o ddioddef salwch COVID-19 difrifol, fel y'i diffinnir yng nghanllawiau gwerthuso technoleg TA878 Nirmatrelvir â ritonavir, sotrovimab a tocilizumab ar gyfer trin COVID-19.
Mae canllawiau drafft NICE yn argymell defnyddio'r feddyginiaeth wrthfeirysol molnupiravir (Lagevrio®) i drin COVID-19 ysgafn i gymedrol mewn cleifion yn y garfan hon y mae nirmatrelvir a ritonavir, a sotrovimab yn anaddas iddynt neu mae'r feddyginiaeth yn achosi gwrtharwyddion.
Ers mis Tachwedd 2021, mae triniaeth wrthfeirysol COVID-19 ar gyfer y grŵp clinigol hynod agored i niwed hwn wedi bod ar gael trwy lwybrau triniaeth a weithredir gan fyrddau iechyd lleol, gyda meddyginiaethau gwrthfeirysol ar gael trwy gyflenwad a gafaelir yn ganolog yn unig.
Buom yn gweithio gyda gweithgynhyrchwyr ac Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU i gwblhau trefniadau ar gyfer cyflenwadau cynaliadwy hirdymor o nirmatrelvir a ritonavir a molnupiravir, a rhagwelir y bydd y ddau ar gael i fferyllfeydd cymunedol a meddygon fferyllol, yn ogystal ag ysbytai, i'w harchebu trwy gadwyni cyflenwi arferol yn ystod y misoedd nesaf.
Wrth baratoi ar gyfer argaeledd rheolaidd o feddyginiaethau gwrthfeirysol, rydym wedi cytuno gyda Phwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru i wneud newidiadau i'r llwybr triniaeth ar gyfer y rheini sy'n gymwys i gael meddyginiaethau gwrthfeirysol COVID-19. Bydd y newidiadau'n dod yn weithredol yn nes ymlaen y gwanwyn hwn, a byddant yn golygu y bydd unrhyw un mewn grŵp cymwys (gweler yr Atodiad) yn gallu cysylltu â'u practis meddyg teulu, neu wasanaeth y tu allan i oriau os byddant yn profi'n bositif am COVID-19, er mwyn iddynt gael eu hasesu'n glinigol ar gyfer presgripsiwn meddyginiaeth wrthfeirysol. Bydd presgripsiynau yn cael eu gweinyddu gan fferyllfeydd cymunedol a meddygon fferyllol.
Bydd rhagor o wybodaeth, gan gynnwys canllawiau triniaeth a chadarnhad o'r dyddiad y bydd cyflenwadau ar gael i'w harchebu gan gyfanwerthwyr, ar gael cyn bo hir. Yn y cyfamser, mae'n ofynnol i fyrddau iechyd weithio gyda chontractwyr gofal sylfaenol yn eu hardal i roi llwybrau triniaeth lleol ar waith sy'n darparu mynediad parhaus at driniaethau gwrthfeirysol a systemau ar gyfer atgyfeirio cleifion cymwys, y mae nirmatrelvir a ritonavir yn anaddas iddynt neu maent yn achosi gwrtharwyddion, ar gyfer rhoi sotrovimab yn fewnwythiennol.
Atgoffir presgripsiynwyr y dylid cynnig triniaeth ar gyfer COVID-19 yn y gymuned dim ond lle mae haint SARS-COV-2 wedi'i gadarnhau gan brawf llif unffordd (LFD) neu brawf adwaith cadwynol polymerasau (PCR), a lle y gellir dechrau triniaeth o fewn pum diwrnod ar ôl i'r symptomau ymddangos. Nid yw meddyginiaethau gwrthfeirysol wedi'u trwyddedu, ac nid ydynt yn effeithiol ar gyfer proffylacsis COVID-19.
Mae pecynnau prawf LFD ar gael am ddim i bobl sy'n gymwys i gael triniaeth wrthfeirysol COVID-19, a gellir eu casglu o'r rhan fwyaf o fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru. Gellir dod o hyd i fanylion fferyllfeydd cymunedol sy'n darparu pecynnau prawf LFD am ddim drwy wefan 111 GIG Cymru a chwilio am wasanaethau yn eich ardal chi.
Gofynnir i glinigwyr a fferyllwyr atgoffa pobl sydd eisoes yn gymwys, yn ogystal â'r rheini sydd newydd ddod yn gymwys, o argaeledd pecynnau prawf LFD am ddim a sut i gael gafael arnynt.
Yn gywir,
Andrew Evans,
Prif Swyddog Fferyllol,
Llywodraeth Cymru.
