Gweithlu practis cyffredinol: ar 31 Rhagfyr 2024
Gwybodaeth am nifer y cleifion cofrestredig a dosbarthiad oedran y gweithlu, ar 31 Rhagfyr 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Prif ffynhonnell y data a ddefnyddir yw System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru (WNWRS) sydd wedi’i chyflenwi a’i dilysu gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.
Y prif bwyntiau
Ar 31 Rhagfyr 2024, roedd 1,579 o feddygon teulu cwbl gymwysedig cyfwerth ag amser llawn (FTE) yn darparu gofal iechyd o 370 o practisau cyffredinol yng Nghymru. Roedd sef gostyngiad blynyddol o 9 (0.5%) yn nifer y meddygon teulu cwbl gymwysedig ac roedd gostyngiad o 4 (1.1%) yn nifer y practisau cyffredinol o 31 Rhagfyr 2023 ymlaen.
Ar ôl dadansoddi yn ôl mathau penodol o feddygon teulu, roedd
- 1,020 o feddygon teulu sy’n bartneriaid FTE, sef gostyngiad o 1%.
- 446 o feddygon teulu cyflogedig FTE, sef cynnydd o 13.8%.
- 102 o feddygon teulu locwm FTE wedi gweithio yn ystod y chwarter, sef gostyngiad o 34.4% (gweler yr adroddiad ansawdd i gael gwybodaeth am newidiadau i gwmpas y term locwm o 31 Mawrth 2024 ymlaen).
- 12 o feddygon teulu wrth gefn FTE, sef cynnydd o 1.
Ochr yn ochr â meddygon teulu cwbl gymwysedig, roedd
- 442 o gofrestryddion mewn practis cyffredinol (meddygon teulu dan hyfforddiant) FTE, sef cynnydd o 8.1%.
- 1,017 o nyrsys cofrestredig FTE, sef gostyngiad o 2.2%.
- 955 o staff gofal uniongyrchol i gleifion FTE (gan gynnwys staff fel cynorthwywyr gofal iechyd, cyflenwyr meddyginiaeth a fferyllwyr), sef gostyngiad o 0.7%.
- 3,930 o staff gweinyddol neu staff practis anghlinigol eraill FTE, sef gostyngiad o 0.4%.
Os nad oes contract ar waith rhwng y bwrdd iechyd a phartner meddyg teulu, gall y bwrdd iechyd lleol reoli practis cyffredinol gyda staff a allai gynnwys meddygon teulu cyflogedig a meddygon teulu locwm.
Ar 31 Rhagfyr 2024, roedd 19 o bractisau’n cael eu rheoli gan fwrdd iechyd lleol, sef gostyngiad o 6. Roedd y practisau hyn yn cyflogi 60 o feddygon teulu cwbl gymwysedig FTE a 339 o staff practis ehangach FTE. Mae’r staff hyn wedi’u cynnwys yn y cyfansymiau ar gyfer staff.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Sabir Ahmed
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
