Moeseg mewn ymchwil data gweinyddol: dadansoddiad o weithdai (crynodeb)
Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r canfyddiadau dau weithdy a gynhaliwyd gyda Phanel Defnyddwyr Banc Data SAIL (Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw). Roedd y gweithdai yn edrych ar foeseg mewn ymchwil data gweinyddol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae’r adroddiad yn crynhoi canfyddiadau allweddol dau weithdy a gynhaliwyd gyda Phanel Defnyddwyr Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL), grŵp o wirfoddolwyr sy’n rhoi adborth a chyngor, o safbwynt aelodau’r cyhoedd, i ymchwilwyr data gweinyddol. Roedd y gweithdai’n canolbwyntio ar archwilio moeseg mewn ymchwil data gweinyddol ac fe’u cynhaliwyd i lywio gwaith Ymchwil Data Gweinyddol (YDG) Cymru. Mae YDG Cymru yn gydweithrediad o academyddion ym mhrifysgolion Abertawe a Chaerdydd, swyddogion yn Llywodraeth Cymru a staff Banc Data SAIL sydd wedi’u lleoli ym Mhrifysgol Abertawe. Mae YDG Cymru yn gweithio mewn partneriaeth i gynhyrchu mewnwelediadau o ymchwil seiliedig ar ddata i ddarparu tystiolaeth i gefnogi Llywodraeth Cymru.
Canfyddiadau allweddol
Teimlai'r Panel Defnyddwyr fod ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o'r defnydd o ddata, ymchwil data gweinyddol, a'i ganlyniadau, yn isel iawn, a bod cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd yn y maes hwn yn bwysig i 'gael y neges allan'. Gallai ffyrdd o wella ymwybyddiaeth y cyhoedd gynnwys defnyddio ffynonellau dibynadwy i hysbysebu a darparu gwybodaeth am ddata a ddefnyddir ar gyfer ymchwil yng nghyd-destun darparu gwasanaethau.
Mae atebolrwydd yn agwedd bwysig ar foeseg data. Amlygodd cyfranogwyr y panel fod cyfathrebu ac unioni yn rhan o atebolrwydd, yn enwedig pan fydd rhywbeth yn mynd o'i le. Mae cyd-destun hefyd yn bwysig. Mae setiau data’r llywodraeth yn adnoddau cyhoeddus cyfunol a dylai fod lefel o atebolrwydd i’r cyhoedd.
Roedd cyfranogwyr yn cydnabod y gall ymddiriedaeth y cyhoedd gael ei erydu gan doriadau data ar draws gwahanol sectorau ac y gallant danseilio ymddiriedaeth mewn prosesau rhannu data ar draws gwahanol gyd-destunau.
Roedd y Panel Defnyddwyr yn credu bod tryloywder yn bwysig er mwyn i bobl allu gweld sut mae data’n cael eu defnyddio a chanlyniadau ymchwil. Mae hyn yn caniatáu iddynt asesu (a theimlo'n dawel eu meddwl) bod data wedi'u defnyddio'n gywir. Roedd y Panel yn cydnabod, fodd bynnag, bod risgiau’n gysylltiedig â mwy o dryloywder a chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd.
Awgrymodd cyfranogwyr y panel rai strategaethau ar gyfer gwella mynediad y cyhoedd at ymchwil data gweinyddol, gan gynnwys defnyddio iaith y gall cynulleidfaoedd gwahanol ei deall, defnyddio delweddau, osgoi termau technegol, a chanolbwyntio mwy ar ffyrdd o wella mynediad.
Cefndir
Mae'n anodd diffinio moeseg data yn fanwl gywir. Mae'n ymwneud ag elfennau cymdeithasol, technegol a gweithdrefnol mentrau data ac ymchwil, gan gynnwys asesu arferion data, a'u heffeithiau cadarnhaol a negyddol. Mae'n cynnwys cysyniadau sylfaenol fel atebolrwydd, tegwch, tryloywder, budd y cyhoedd, ymgysylltu â’r cyhoedd ac ymddiriedaeth. Canfu adolygiad llenyddiaeth ar foeseg mewn ymchwil data gweinyddol fod ymarferwyr wedi canolbwyntio ar ddatblygu agweddau technegol gyda'r nod o sicrhau bod ymchwil sy'n defnyddio data gweinyddol yn ddiogel ac yn cydymffurfio â'r gyfraith. Fodd bynnag, mae llai o ymchwil we cael ei wneud ar yr hyn y mae'r cyhoedd yn ei feddwl am foeseg ymchwil gan ddefnyddio data gweinyddol.
Er mwyn asesu pa ymchwil ychwanegol sydd ei angen yn y maes hwn ac i ddeall yr agweddau pwysig ar foeseg data yn ôl grŵp bach o aelodau gwybodus o’r cyhoedd, cynhaliwyd dau weithdy trafod dan arweiniad gyda Phanel Defnyddwyr SAIL. Dadansoddwyd y trawsgrifiadau o'r ddau weithdy yn thematig gan ymchwilwyr Llywodraeth Cymru. Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi'r canfyddiadau allweddol. Am fanylion ychwanegol am y fethodoleg a dadansoddiad o'r themâu gweler yr adroddiad llawn (Moeseg mewn Ymchwil Data Gweinyddol: dadansoddiad o weithdai).
Cyfyngiadau
Astudiaeth ar raddfa fach oedd hon gyda grŵp gwybodus o gyfranogwyr nad ydynt o reidrwydd yn cynrychioli’r cyhoedd yn ehangach o ran demograffeg, na llythrennedd data. Mae angen rhagor o ymchwil i archwilio'r materion yn ehangach gyda gwahanol rannau o'r gymdeithas.
Camau nesaf
Gallai ymchwil yn y dyfodol gynnwys gweithdai gyda phaneli cyhoeddus YDG eraill, yn ogystal â grwpiau cyhoeddus cynrychioliadol. Gallai hefyd gynnwys ymchwil ansoddol gyda dadansoddwyr, academyddion ac ymchwilwyr i ategu canfyddiadau'r prosiect hwn.
Gallai’r camau nesaf hefyd gynnwys rhaglen waith i uwchsgilio ymchwilwyr a dadansoddwyr i gyfathrebu eu gwaith i gynulleidfaoedd lleyg ac ymchwilio i ffyrdd y gall ymchwil data gweinyddol fod yn fwy hygyrch i’r cyhoedd.
Cydnabyddiaethau
Hoffai tîm y prosiect ddiolch i Banel Defnyddwyr SAIL am eu hamser a'u mewnwelediadau amhrisiadwy. Hoffai'r tîm hefyd ddiolch i'r staff ymgysylltu ym Mhrifysgol Abertawe am eu cymorth i drefnu a hwyluso'r gweithdai.
Manylion cyswllt
Awdur yr adroddiad: Emma Yates
Safbwyntiau’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag:
Emma Yates
Caffael a Chysylltu Data ar gyfer Ymchwil
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: YDGCymru@llyw.cymru
Rhif ymchwil gymdeithasol: 33/2025
ISBN Digidol: 978-1-83715-640-5

