Cyfarfod y Rhaglen Bartneriaeth Gwella Ysgolion: 18 Mawrth 2025
Chofnodion y gyfarfodydd y Bwrdd y Rhaglen Bartneriaeth Gwella Ysgolion ar 18 Mawrth 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Cyfarfu Bwrdd y Rhaglen Bartneriaeth Gwella Ysgolion ar 18 Mawrth.
Roedd tîm y Rhaglen wedi gallu cadarnhau wrth aelodau'r Bwrdd bod cerrig milltir allweddol y rhaglen a nodwyd i'w cyflawni erbyn diwedd 2024 wedi'u bodloni. Cydnabuwyd y cynnydd hwn wrth ddatblygu dull newydd o wella ysgolion i Gymru, ynghyd ag ymrwymiad cyffredin partneriaid i lwyddiant y rhaglen, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg mewn Datganiad Ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 29 Ionawr.
Mae Cam 3 y Rhaglen bellach ar y gweill lle byddwn yn trosglwyddo o'r trefniant gwella ysgolion presennol i'r trefniant newydd erbyn hydref 2025. Rhoddwyd diweddariad i aelodau'r bwrdd ar y gweithgareddau sydd ar y gweill i sefydlu'r Corff Cefnogi Arweinyddiaeth a Dysgu Proffesiynol newydd dros yr haf ac iddo fod yn barod yn weithredol ar gyfer 1 Medi. Cafwyd diweddariad hefyd ar y gyfres o weithdai a gynhaliwyd rhwng y Tîm Gwella Addysg newydd ac awdurdodau lleol a'u harweinwyr ysgolion yn ystod chwarter cyntaf eleni i helpu i gefnogi cyflawni'r trefniadau gwella ysgolion lleol a nodwyd yng nghynlluniau'r awdurdodau lleol a gyflwynwyd i LlC ym mis Tachwedd 2024. Mae pob awdurdod lleol wedi symud eu gwaith cynllunio ymlaen ers mis Tachwedd i le mwy deinamig a chynhyrchiol.
Gwnaeth trafodaeth ddefnyddiol ar gofrestr risg y Rhaglen gydnabod rôl partneriaid wrth gyfrannu at gamau gweithredu a fydd yn helpu i reoli a lliniaru risgiau a nodwyd. Ailbwysleisiodd y drafodaeth hon yr angen clir a phwysig am gyfathrebu da, effeithiol ar y Rhaglen a chytunwyd y byddai cyfathrebu yn eitem sefydlog ar yr agenda ar gyfer cyfarfodydd y Bwrdd yn y dyfodol. Roedd y Bwrdd yn cydnabod y gwaith parhaus sydd ei angen i drosglwyddo'n weithredol i'r trefniadau newydd ar bob lefel, a'r cynnydd hyd yma.
