Cyfarfod y Bwrdd y Rhaglen Bartneriaeth Gwella Ysgolion: 22 Hydref 2024
Chofnodion y gyfarfodydd y Bwrdd y Rhaglen Bartneriaeth Gwella Ysgolion ar 22 Hydref 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Cynhaliwyd trydydd cyfarfod Bwrdd y Rhaglen Partneriaeth Gwella Ysgolion ar 22 Hydref. Yn dilyn ymadawiad Owain Lloyd o Lywodraeth Cymru, mae Georgina Haarhoff, y Cyfarwyddwr Addysg Dros Dro, bellach yn ymgymryd â dyletswyddau'r Prif Berchennog Cyfrifol ar gyfer y Rhaglen a hi fydd yn cadeirio Bwrdd y Rhaglen o hyn ymlaen.
Canolbwyntiodd y cyfarfod yn bennaf ar ystyried pa mor gydlynol a chyflawnadwy yw'r dull arfaethedig ar gyfer y swyddogaethau cenedlaethol. Cyflwynwyd strategaeth gyfathrebu ddrafft hefyd i'w hystyried gan aelodau'r Bwrdd.
Wrth ymateb i'r adborth o'r adroddiad ar 'Adolygu rolau a chyfrifoldebau partneriaid addysg yng Nghymru a chyflwyno trefniadau i wella ysgolion', rhoddwyd gwybod i aelodau'r Bwrdd bod y cynigion ar gyfer y swyddogaethau cenedlaethol yn cydnabod nad y ffyrdd o weithio ar lefel partneriaeth, awdurdod lleol ac ysgolion yn unig sydd angen esblygu, ond hefyd bod yn rhaid i'r rôl genedlaethol esblygu i gefnogi ein huchelgais ar gyfer system hunan-wella. Mae rôl y Llywodraeth o ran sicrhau cyd-ddealltwriaeth o flaenoriaethau a materion ac arwain trafodaethau strategol a chreu datrysiadau yn allweddol i hyn, a bydd yn llywio’r berthynas â'r system ac yn darparu gwell cymorth cenedlaethol wedi'i dargedu ar draws pob maes ac nid y broses o wella ysgolion yn unig.
Er mwyn cefnogi'r dull hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â nifer fach o ddatblygiadau allweddol i:
- sefydlu ystod fach o flaenoriaethau Dysgu Proffesiynol Cenedlaethol a ddarperir gan un darparwr cenedlaethol i sicrhau ansawdd a chysondeb. Bydd hyn yn lleihau ac yn symleiddio dysgu proffesiynol cenedlaethol ac yn creu tirwedd dysgu proffesiynol symlach a chydlynol
- sefydlu rhaglenni cymorth cenedlaethol strategol sy'n darparu cymorth dwys wedi'i thargedu er mwyn mynd i'r afael â'r materion mwyaf hanfodol a helpu i weithredu ein diwygiadau i'r system addysg mewn ffordd gyson. Bydd y rhaglen gyntaf yn cael ei thargedu at gymorth ar gyfer y cwricwlwm
- sefydlu "Tîm Gwella Addysg" newydd o fewn Llywodraeth Cymru, gyda'r nod o hwyluso'r ymgysylltu a chydweithio gydag awdurdodau lleol. Bydd y tîm hwn yn arwain deialog rheolaidd gydag ardaloedd lleol i gefnogi datblygiad diwylliant o hunan-welliant a helpu i gysylltu blaenoriaethau cenedlaethol a lleol ar gyfer gwella. Bydd hefyd yn helpu i sicrhau y caiff y gwersi a ddysgwyd ac enghreifftiau o arferion da eu rhannu rhwng awdurdodau lleol ac ysgolion ledled Cymru. Mae hyn yn allweddol i ailosod y ffordd rydym yn rhyngweithio ag ysgolion, gan ganolbwyntio sgyrsiau strategol ar ein blaenoriaethau cyffredin
Cadarnhaodd aelodau'r bwrdd eu bod yn fodlon i'r dull gweithredu gael ei rannu gyda'r Grŵp Cydlynu Cenedlaethol.
Ar 21 Tachwedd, bydd Bwrdd y Rhaglen yn ystyried cynlluniau awdurdodau lleol i gyflawni trefniadau lleol i wella ysgolion. Ar ddechrau mis Rhagfyr, bydd y Grŵp Cydlynu Cenedlaethol yn cyfarfod i ystyried ac wedyn cynghori Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch a yw'r holl newidiadau i Lywodraeth Cymru, Estyn, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill yn gydlynol a chadarn ar lefel y system gyfan, a beth yw'r camau nesaf i gyflawni'r gwelliant cyffredinol yn y system.
