Neidio i'r prif gynnwy

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried eu cymryd a pham

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn amlinellu 10 amcan llesiant sydd wedi’u hanelu at wella saith nod llesiant hirdymor Cymru. Mae’r cynnig presennol yn canolbwyntio ar adeiladu economi sy'n seiliedig ar waith teg a chynaliadwyedd ac ar ddiwydiannau a gwasanaethau'r dyfodol. Mae hefyd yn anelu at wella ansawdd bywyd mewn dinasoedd, trefi a phentrefi.

Mae nodau allweddol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cynnwys: 

  • creu Cymru ffyniannus sydd ag economi wledig lewyrchus sy'n creu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyfartal
  • sicrhau bod Cymru’n gydnerth yn ecolegol, yn economaidd ac yn gymdeithasol
  • cefnogi cymunedau cydlynus â diwylliant bywiog lle mae'r iaith Gymraeg yn ffynnu

Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2024 (“Gorchymyn 2024”) yw’r rheoliad cyfredol. Nod y polisi hwn yw cyflwyno Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2025 (“Gorchymyn 2025”) a fydd yn pennu'r cyfraddau tâl isaf fesul awr, ynghyd â thelerau, amodau a buddion eraill i weithwyr amaethyddol (yn unol â'r diffiniad o amaethyddiaeth a nodir yn Neddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 legislation.gov.uk/anaw/2014/6/section/18/welsh). 

Bydd y Gorchymyn yn cael ei ddeddfu o dan awdurdod Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”).

Corff cynghori a sefydlwyd o dan adran 2(1) o Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 yw Panel Cynghori Amaethyddol Cymru (“y Panel”). Fe'i crëwyd gan Orchymyn Panel Cynghori Amaethyddol Cymru (Sefydlu) 2016 (“Gorchymyn y Panel”) ar 1 Ebrill 2016. Mae gan y Panel saith aelod:

  • dau gynrychiolydd ar ran Undeb Unite
  • un cynrychiolydd ar ran Undeb Amaethwyr Cymru
  • un cynrychiolydd ar ran Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr – Cymru
  • tri aelod annibynnol – gan gynnwys Cadeirydd annibynnol

Penodir yr aelodau annibynnol a’r Cadeirydd drwy’r Broses Penodiadau Cyhoeddus.

Mae Erthygl 3(2) o Orchymyn y Panel yn nodi swyddogaethau'r Panel, sef:

  1. hyrwyddo gyrfaoedd ym maes amaethyddiaeth
  2. paratoi fersiynau drafft o orchmynion cyflogau amaethyddol, ymgynghori ar y gorchmynion hynny, a’u cyflwyno i’w cymeradwyo gan Weinidogion Cymru
  3. cynghori Gweinidogion Cymru ar unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â’r sector amaethyddol yng Nghymru yn unol â gofynion Gweinidogion Cymru

Prif rôl yr aelodau annibynnol y Panel yw rhoi eu barn arbenigol yn ystod trafodaethau am faterion allweddol, a chynnig cyngor am y cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu'r diwydiant.

Mae cyfrifoldeb hollbwysig ar holl aelodau'r Panel i sicrhau bod Gorchmynion drafft teg a rhesymol yn cael eu datblygu am faterion sy'n gysylltiedig â lefelau tâl isaf a thelerau ac amodau perthnasol ar gyfer gweithwyr amaethyddol yng Nghymru fel y'u hamlinellir yn Neddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014. Cyfarfu'r Panel ar 9 a 10 Medi 2024 i drafod newidiadau posibl i Orchymyn Cyflogau 2024.  Cynhaliwyd ymgynghoriad wedi'i dargedu rhwng 18 Hydref a 15 Tachwedd 2024 am y newidiadau arfaethedig hyn. Anfonwyd y cynigion dros e-bost at ystod eang o randdeiliaid ac fe’u cyhoeddwyd ar dudalen Ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ar y we hefyd. Roedd copïau caled ar gael o ofyn amdanynt.

Dim ond dau ymateb a gafwyd i'r ddogfen ymgynghori. Roedd un ymateb yn cefnogi'r newidiadau arfaethedig, tra bod y llall yn dadlau na ddylai’r cyfraddau isaf fod yn fwy na'r rhai mewn sectorau tebyg heb gyfiawnhad clir. Cytunodd yr ymatebydd hwn hefyd â'r nod o symleiddio rheolau goramser ond nododd efallai na fydd y geiriad newydd yn cyflawni'r nod hwn. Yn ogystal, fe wnaethant godi materion o ran cyfrifo cyflog gwyliau ar gyfer gweithwyr sy’n gweithio oriau afreolaidd ac awgrymu alinio'r lwfans gwrthbwyso llety â deddfwriaeth isafswm cyflog cenedlaethol.  

Gwnaeth y Panel gydnabod ac ystyried y ddau ymateb. Fodd bynnag, ar ôl pwyso a mesur fe wnaethant benderfynu gadw eu cynigion gwreiddiol, gan nodi y bydd rhai pwyntiau a godwyd yn cael eu hystyried mewn trafodaeth yn y dyfodol.

Cyflwynodd y Panel ei gynigion i Lywodraeth Cymru ar 16 Rhagfyr 2024. 

Bydd y cyfraddau tâl isaf a gynigir gan y Panel yng Ngorchymyn 2025 yn disodli'r cyfraddau yng Ngorchymyn 2024. Nod y diweddariad hwn yw sicrhau bod gweithwyr amaethyddol yn parhau i gael cyflog teg ac yn cael eu diogelu yn y ffordd angenrheidiol sy'n adlewyrchu natur eu gwaith a’u cyfrifoldebau. Bydd Gorchymyn 2025 hefyd yn cynnal darpariaethau sy’n gwobrwyo cymwysterau a phrofiad ym maes amaethyddiaeth, gan gynnwys drwy gynnig cyfraddau cyflog gwahanol sy’n seiliedig ar lefelau’r sgiliau ar bob gradd. Mae hynny'n ffordd o annog gweithwyr i feithrin sgiliau yn y sector. 

Bydd Gorchymyn 2025 yn cael ei weithredu fel rhan o agenda ehangach Llywodraeth Cymru i Drechu Tlodi, gyda’r nod o helpu economïau gwledig i dyfu a ffynnu, gan gyfrannu at economi Cymru yn gyffredinol.

Gan fod y rheoliadau hyn yn is-ddeddfwriaeth, aed ati i gwblhau Asesiad Effaith Rheoleiddiol.

Casgliad

Wrth ddatblygu’r cynnig, sut yr aed ati i gynnwys y bobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt?

Mae Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru yn gorff annibynnol sy'n cynghori Gweinidogion Cymru ar drefniadau'r Isafswm Cyflog Amaethyddol a thelerau cyflogaeth ar gyfer gweithwyr amaethyddol yng Nghymru. Mae saith aelod ar y Panel, gan gynnwys cynrychiolwyr ar ran Undeb Amaethwyr Cymru (FUW), Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ‒ Cymru (NFU Cymru), Undeb Unite, a thri aelod annibynnol (gan gynnwys y Cadeirydd).

Cynhaliwyd ymgynghoriad dros gyfnod o bedair wythnos, gan wahodd ymatebion gan unigolion â nodweddion gwarchodedig. Cafodd y prif randdeiliaid eu cynnwys hefyd, megis undebau’r ffermwyr, UNITE a'r colegau amaethyddol. Anogwyd aelodau’r Panel i rannu’r cynigion drwy eu rhwydweithiau nhw. 

Roedd yr ymgynghoriad ar gael ar dudalen Ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ar y we ac roedd copïau caled ar gael o ofyn amdanynt. 

Beth yw’r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

Disgwylir i’r darpariaethau sy’n ymwneud ag isafswm cyflog a hyfforddiant a meithrin sgiliau yn y sector amaethyddol fod o fudd i weithwyr a’u teuluoedd, gan eu helpu i ddatblygu eu gyrfaoedd. Yn ogystal, bydd cyflogau a lwfansau teg a gweithlu mwy medrus yn esgor ar fanteision ehangach i economi a chymunedau Cymru. 

Mae darpariaethau'r Gorchymyn, gan gynnwys y cyfraddau isaf, yn gymwys i bob gweithiwr 16 oed a throsodd. Mae hynny'n sicrhau bod gweithwyr ifanc yn cael cyfraddau isaf sy'n deg, a bod y cyfraddau hynny'n rhai y gall busnesau fferm eu fforddio, gan sicrhau bod y sector yn ariannol hyfyw. 

 Mae'r holl blant ysgol sy'n gweithio yn y DU yn cael eu diogelu gan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933 sy’n gosod cyfyngiadau ar y math o waith a faint o oriau y caiff pobl ifanc o oedran ysgol gorfodol eu gweithio. 

Mae'r Panel a Llywodraeth Cymru yn cydweithio gydag undebau’r ffermwyr a chynrychiolwyr y gweithwyr i ddangos bod amaethyddiaeth yn llwybr gyrfa hyfyw i bawb, gan gynnwys pobl sydd â nodweddion gwarchodedig. Nid oes unrhyw dystiolaeth y bydd y Gorchymyn yn cael unrhyw effaith anghymesur neu’n arwain at unrhyw wahaniaethu. Fodd bynnag, mae materion arwyddocaol a pharhaus wedi'u nodi o ran cael gafael ar ddata cadarn am nodweddion gwarchodedig, sectorau perthnasol, yr oriau a weithir (e.e., rhan-amser, achlysurol) ac ati.

Yn bennaf ymhlith y rhain roedd diffyg data haenedig gan fusnesau fferm ar gyflogau cyfredol ers i arolwg Cymru a Lloegr ddod i ben yn 2011 a chynhyrchodd ymarfer casglu data sylfaenol yn 2021 ganlyniadau cyfyngedig.  Mae gan Wasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi (KAS) hyder isel o ran goresgyn yr heriau hyn heb fuddsoddiad sylweddol. Hyd yn oed gyda'r buddsoddiad hwn, mae sicrwydd o gael y data angenrheidiol yn llwyddiannus yn isel oherwydd ei natur sensitif.

Dangosodd Cyfrifiad 2021 fod bron i 65 y cant yng Ngwynedd, 55 y cant yn Ynys Môn a thros 40 y cant yng Ngheredigion yn siaradwyr Cymraeg. Dim ond effeithiau cadarnhaol sydd wedi'u nodi o ran y Gymraeg.

Mae’r Gorchymyn yn cefnogi cymunedau gwledig lle mae'r iaith Gymraeg yn gyffredin, gan helpu i gynnal cymunedau Cymraeg cydlynol a ffyniannus. Bydd yr effaith economaidd a gaiff cyfraddau isaf teg, a'r gydnabyddiaeth yn y strwythur graddau i'r sgiliau sydd eu hangen, yn helpu cymunedau gwledig i fod yn gynaliadwy. 

Mae arolwg cymdeithasol-ieithyddol o'r Gymraeg yn ei chadarnleoedd yn rhan o Gynllun Gweithredu Cymraeg 2050.

Mae gwaith y Panel, camau i orfodi Deddf 2014, a’r Gorchmynion, yr ymgyngoriadau a'r canllawiau cysylltiedig, oll yn cael eu cynnal / eu cyhoeddi'n ddwyieithog. Mae'r Gymraeg yn cael ei chynnig yn rhagweithiol yn gyfrwng cyfathrebu mewn cyfarfodydd a digwyddiadau ac mae’r holl gyhoeddiadau a negeseuon cyhoeddus yn ddwyieithog.

Bydd cryfhau'r cyfleoedd gwaith amaethyddol yng Nghymru yn helpu i gadw gweithwyr yng nghadarnleoedd traddodiadol y Gymraeg, lle mae amaethyddiaeth yn sector allweddol o ran cyflogaeth.

Yng ngoleuni’r effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig: 

  • yn cyfrannu cymaint â phosibl at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant; a/neu,
  • yn osgoi, yn lleihau neu’n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Mae Gorchymyn 2025 yn anelu at helpu i greu Cymru ffyniannus, ddiogel, unedig a chysylltiedig. Mae’n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 drwy’r canlynol: 

  • datblygu economi wledig sy'n creu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyfartal
  • sicrhau bod Cymru’n gydnerth yn ecolegol, yn economaidd ac yn gymdeithasol
  • cefnogi cymunedau cydlynus â diwylliant bywiog lle mae'r iaith Gymraeg yn ffynnu

Mae sicrhau cyflogau teg i weithwyr amaethyddol a chefnogi cymunedau gwledig yn hanfodol. Mae hyn yn cynnwys cynyddu incwm aelwydydd, gwella sylfaen sgiliau pobl ifanc, a helpu teuluoedd mewn cymunedau tlotach. Bydd y darpariaethau ar gyfer prentisiaethau a hyfforddiant yng Ngorchymyn 2025 yn helpu pobl ifanc i feithrin sgiliau ac ennill cymwysterau, gan wella'u rhagolygon am waith yn y dyfodol.

Mae gweithdrefnau gorfodi ar waith er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r cyfraddau tâl isaf yn ogystal â’r telerau a'r amodau sydd yn y Gorchymyn.

Sut y bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a’i gwerthuso wrth iddo gael ei roi ar waith ac ar ôl i’r gwaith arno gael ei gwblhau? 

Bydd Llywodraeth Cymru yn monitro effaith Gorchymyn 2025 drwy ddeialog barhaus â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys y Panel Cynghori Amaethyddol. Bydd hyn yn cynnwys asesu’r effeithiau ar y sector amaethyddol a gweithwyr ifanc. 

Bydd rhif llinell gymorth a chyfeiriad e-bost ar gael ar gyfer y rheini fydd â chwestiynau am Orchymyn 2025. 

Bydd yr wybodaeth hon yn helpu i asesu pa mor effeithiol fydd y Gorchymyn, a bydd hefyd yn llywio unrhyw Orchmynion yn y dyfodol.