Economi sylfaenol: datganiad cenhadaeth
Ein cenhadaeth a'n hamcanion ar gyfer adeiladu'r economi sylfaenol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Datganiad cenhadaeth
Mae'r term 'Economi Sylfaenol' yn cyfeirio at y sectorau hynny o'r economi sy'n darparu'r nwyddau a'r gwasanaethau sy'n sylfaenol i fywyd bob dydd. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi sylw mawr i’r sefydliadau a'r bobl yn y sectorau hyn ac i ansawdd a hygyrchedd y nwyddau a'r gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu. Mae'r Economi Sylfaenol yn golygu mwy na seilwaith, swyddi a chynnyrch. Mae'n golygu hefyd ymdeimlad dinesydd o berthyn i gymuned ac o fod â rheolaeth. Mae'r sectorau hyn o'u natur yn agos i amgylchedd pobl, ac yn rhan hanfodol felly o'u seilwaith cymdeithasol yn ogystal ag o’u seilwaith ffisegol.
Y sectorau yn yr Economi Sylfaenol y mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio arnyn nhw yw'r:
- gwasanaethau iechyd a gofal (gan gynnwys gofal cymdeithasol a gofal plant),
- rheoli tai cymdeithasol,
- adeiladu cartrefi ac adeiladau masnachol,
- ynni a chyfleustodau,
- bwyd,
- siopau a gwasanaethau'r stryd fawr,
- twristiaeth a thrafnidiaeth gyhoeddus.
Mae Cymru'n unigryw gan fod gennym ni Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 sydd â'r nod o wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.
Trwy weithio gyda rhanddeiliaid, caiff amcanion yr Economi Sylfaenol eu cyflawni trwy 'Bobl, Caffael a Lle':
- Dylai sefydliadau ystyried effeithiau eu penderfyniadau ar bobl (hy gweithlu a'r bobl leol), Caffael a Lle (yr effaith ar eu hardal, er enghraifft lleoliad gwasanaeth sy'n cyfrannu at adfywio stryd fawr).
Amcanion yr economi sylfaenol
- Nodi a chefnogi cyfleoedd i ddarparu mwy o swyddi, swyddi gwell a swyddi gwyrddach sy'n hyrwyddo gwaith teg, gan gynnwys cyflogau da, cynrychiolaeth, sicrwydd a chyfleoedd am ddyrchafiad.
- Rhoi “mwy o fodd i fyw i aelwydydd” trwy helpu i gynyddu cyflogau trwy gynlluniau fel y Cyflog Byw Go Iawn, gan helpu i wneud hanfodion sylfaenol yn haws eu fforddio fel bod nwyddau a gwasanaethau o ansawdd uchel ar gael i bawb.
- Adeiladu cadwyni cyflenwi lleol i gadw pobl, sgiliau a chyfoeth yng Nghymru.
- Cyfrannu at fynd i'r afael â'r Argyfyngau Hinsawdd a Natur.
- Annog pobl i gyd-arloesi a chyd-arbrofi i wella nwyddau a gwasanaethau sylfaenol, yn enwedig y rheini sy’n cyfrannu at seilwaith cymdeithasol gwydn, megis trwy brosiectau cydweithredol neu gymunedol.
Sut mae Llywodraeth Cymru yn adeiladu'r economi sylfaenol
Helpu cyflenwyr
- Gweithio gyda Busnes Cymdeithasol Cymru a Busnes Cymru i ddatblygu cadwyni cyflenwi lleol gwydn a chyfrifol.
- Helpu cwmnïau i wella eu sgiliau a chael hyfforddiant fel bod sectorau’r Economi Sylfaenol yn cael y sgiliau sydd eu hangen arnynt a meithrin arloesedd.
- Helpu cwmnïau i gael yr achrediadau sydd eu hangen i weithredu yn eu sectorau.
Caffael cyhoeddus a gwerth cymdeithasol
- Sbarduno cyrff sy'n gwario arian cyhoeddus i wneud busnes â chwmnïau cyfrifol sy'n ychwanegu gwerth cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol, ac yn cefnogi Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus.
- Ei gwneud hi'n haws i fusnesau bach allu manteisio ar gyfleoedd caffael trwy eu hannog i gydweithio ac i gyrff contractio fod yn gyson â'i gilydd.
Buddsoddi uniongyrchol a datgarboneiddio
- Help i fuddsoddi mewn technolegau ynni adnewyddadwy mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys drwy Ynni Cymru.
- Buddsoddi mewn datgarboneiddio trwy gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus a defnyddio ynni'n fwy effeithlon yn y stoc dai.
- Gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn gwynt ar y môr a gwella'r grid cenedlaethol.
Cynyddu'r ymwybyddiaeth am yr economi sylfaenol
- Ymwreiddio dealltwriaeth o ddiffiniad Llywodraeth Cymru o'r Economi Sylfaenol a'r amcanion ategol.
- Helpu'r cyhoedd i ddod i ddeall yr Economi Sylfaenol trwy dudalennau a deunydd pwrpasol ar y we.
- Adeiladu 'Cymunedau Ymarfer' a grwpiau rhanddeiliaid i hyrwyddo arloesedd a rhannu arfer gorau.
- Casglu a dadansoddi data i ddeall cyflwr yr Economi Sylfaenol.
Cefnogi gweithwyr
- Cefnogi Gwaith Teg trwy eirioli a thrwy gymalau newydd mewn contractau caffael cyhoeddus newydd.
- Cefnogi busnesau sy'n dilyn egwyddorion Gwaith Teg i dyfu ac i gynyddu eu heffaith.
- Hyrwyddo talu'r Cyflog Byw Go Iawn ar draws yr Economi Sylfaenol.
Cefnogi cymunedau
- Annog dinasyddion a chymunedau i gymryd rhan mewn sectorau sylfaenol.
- Annog amrywiaeth o ddarparwyr, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol a phrosiectau sy'n eiddo i'r gymuned.
