Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021



Prif amcanion CHeCS yw:

Heddiw ar y cyd â Lloegr, rwy’n lansio cynllun y Safonau Ardystio Iechyd Gwartheg (CHeCS) ar gyfer TB Gwartheg. Corff sy’n rheoli’i hun yw CHeCS i ardystio cynlluniau iechyd gwartheg yn y DU ac Iwerddon.  Cafodd ei sefydlu fel corff anfasnachol gan y diwydiant gwartheg i reoli a dileu clefydau penodol.  Law yn llaw â Defra, rydym wedi bod wrthi’n trafod â CHeCS ynghylch datblygu cynllun fyddai’n cael ei gydnabod gan y diwydiant i brofi statws buchesi o ran TB.  Y nod fyddai ei gwneud yn haws i ffermwyr wneud penderfyniadau doeth wrth brynu gwartheg yn ogystal â helpu’r rheini sy’n gweithio’n systematig i amddiffyn eu hunain rhag y clefyd.  
  • gwella iechyd a lles gwartheg
  • pennu safonau ar gyfer cynlluniau iechyd gwartheg a’u hardystio.

Mae CHeCS yn y DU yn cynnig set o safonau ar gyfer pob cynllun iechyd gwartheg achrededig gan sicrhau cyfatebiaeth rhwng pob un.  Ceir cynlluniau iechyd sy’n darparu rhaglenni ar gyfer monitro, rheoli a dileu pum clefyd:

  • Dolur Rhydd Feirol y Gwartheg (BVD)
  • Rhinotracheitis Buchol Heintus (IBR)
  • Clefyd Johne
  • Leptospirosis
  • Neosporosis

Mae’n dda gen i gyhoeddi nawr bod yna gynllun ar gyfer TB Gwartheg bellach ar gael.  Milfeddyg preifat y fuches fydd yn rhoi’r cynllun ar waith a bydd yn rhoi statws i’r fuches fydd yn seiliedig ar fesurau bioddiogelwch tynnach a faint o amser sydd ers iddi gael ei tharo gan TB ddiwethaf.  Bydd y statws yn mynd o sero (achos o TB o fewn y flwyddyn ddiwethaf) i 10 (deng mlynedd neu fwy ers yr achos diwethaf). 
Bydd ffermydd yn gallu gwella sgôr eu buchesi bob blwyddyn a defnyddio’r statws wrth werthu gwartheg sydd wedi’u geni ar y fferm.  Bydd y cynllun o fantais arbennig i ffermwyr yn yr ardaloedd lle mae TB yn gyffredin ond nad ydynt wedi cael achos o TB yn ddiweddar os o gwbl ar eu ffermydd, ac a fyddai’n hoffi cael cydnabyddiaeth am hynny.  Bydd ceidwaid gwartheg yn yr ardaloedd lle mae TB yn brin hefyd yn gallu cael eu hachredu am eu statws risg isel. 
Mae’r holl gynlluniau yn ardystio buchesi sy’n bodloni’r safonau ChECS cenedlaethol cydnabyddedig.  Bydd ffermwr y fuches achrededig yn gallu defnyddio’r tystysgrifau hyn wrth werthu gwartheg i brofi eu bod wedi bodloni’r safonau.  Mae gwartheg o fuchesi eraill yn ffynhonnell heintio bosib newydd a thrwy ddefnyddio’r wybodaeth ar y dystysgrif, mae ffermwyr yn gallu lleihau’r risg o gyflwyno’r clefyd i’r fuches trwy brynu gwartheg o fuchesi sydd wedi’u hachredu fel rhai di-glefyd neu sydd o risg isel o safbwynt y clefydau heintus hyn.

Rhan bwysig o’r rhaglen dileu TB yw datblygu a hyrwyddo mesurau bioddiogelwch a hwsmonaeth gwell ac mae gofyn i fuchesi sy’n rhan o’r cynllun gadw at safonau bioddiogelwch uchel er mwyn lleihau’r perygl o ddod â’r clefyd i’r fferm.  Trwy roi’r sylw i fuchesi unigol, mae’r cynllun yn ategu elfen ranbarthol ein gwaith, er enghraifft, bydd buches mewn ardal lle mae TB yn gyffredin ond sydd heb gael ei heintio’n ddiweddar gan TB yn gallu profi ei bod o risg is.  Mae’r fenter hon sy’n cael ei rhedeg gan y diwydiant, yn ceisio lleihau TB a dylai gael ei chroesawu.  Mae’n cefnogi’n hegwyddorion o weithio mewn partneriaeth a hyrwyddo manteision atal clefydau trwy brynu’n ddoeth.  Dylai ffermwyr sydd â diddordeb yng nghynllun iechyd CHeCS ar gyfer TB gwartheg gysylltu â’u milfeddyg am fwy o wybodaeth.