Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg
Heddiw, rwy'n lansio ymgynghoriad ar gynigion i wella'r gwaith o weinyddu a gorfodi'r dreth gyngor yng Nghymru. Bydd y cynigion hyn yn adeiladu ar restr o ddiwygiadau blaenorol yn y maes hwn, ac yn cyflawni'r ymrwymiad yn ein Rhaglen Lywodraethu i wneud y dreth gyngor yn decach.
Mae'r dreth gyngor yn creu ffynhonnell sylweddol o gyllid, dros £2.8 biliwn, ar gyfer gwasanaethau lleol fel ysgolion a gofal cymdeithasol, yr ydym i gyd yn elwa arnynt o ddydd i ddydd. Hebddi, ni fyddai cynghorau lleol yn gallu darparu gwasanaethau hanfodol na helpu'r rhai mewn angen. Mae gan bawb ddyletswydd i dalu'r dreth gyngor fel rhan o gymdeithas sifil, ac mae'r system sefydlog ac effeithlon sydd gennym yn golygu bod dros 96% o'r dreth gyngor yn cael ei chasglu'n rheolaidd. Mae cynlluniau cymorth, disgowntiau ac eithriadau sylweddol ar gael i leihau'r dreth gyngor i'r rhai nad ydynt yn gallu cyfrannu cymaint â hynny. Mae ein Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yn benodol yn hollbwysig wrth helpu aelwydydd incwm isel i gyflawni eu dyletswyddau.
Fodd bynnag, mae'r heriau parhaus o ran costau byw yn golygu bod mwy o bobl ar ei hôl hi gyda'u biliau cartref. Nid yw'r sefyllfa hon yn unigryw i'r dreth gyngor, ond mae'r dystiolaeth gan ystod o sefydliadau yn glir: gall dyledion parhaus gael effaith negyddol a hirdymor ar lesiant unigolion a'u teuluoedd. Mae'r effeithiau hefyd yn cael eu teimlo'n anghymesur gan rieni sengl, rhentwyr a phobl sydd â chyflyrau iechyd meddwl.
Yng Nghymru, rydym yn parhau i arwain y ffordd o ran ein gwaith i wneud y dreth gyngor yn decach, ac rwy'n falch o'n llwyddiannau yn y gorffennol sy'n cael eu cydnabod yn rheolaidd gan ymgyrchwyr allweddol. Yn 2011, fe wnaethom bennu uchafswm y ffioedd llys sy'n gysylltiedig â gorfodi'r dreth gyngor, ac yn 2013, fe wnaethom gyflwyno Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor cenedlaethol ar gyfer aelwydydd incwm isel. Bob blwyddyn ers hynny, rydym wedi cynnal ac uwchraddio swm y cymorth sydd ar gael drwy'r cynllun i gyd-fynd â'r cynnydd yn y costau byw. Yn 2018, mewn partneriaeth â llywodraeth leol, fe wnaethom ganolbwyntio ein hymdrechion ar helpu grwpiau agored i niwed drwy gyflwyno eithriad ar gyfer pobl sy'n gadael gofal a safoni cymorth i bobl ag amhariadau meddwl difrifol. Yna, yn 2019, fe wnaethom ddod â'r risg o garchar am beidio â thalu'r dreth gyngor i ben a chyhoeddi Protocol, gan wella'r safonau casglu ledled Cymru.
Er mwyn mynd i'r afael ag achosion sylfaenol system dreth annheg sydd ar hyn o bryd yn rhoi mwy o faich ar y rhai sydd â llai o gyfoeth, fe wnaethom gyflwyno Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024 y llynedd. Mae'r ddeddfwriaeth hanfodol hon yn paratoi'r ffordd ar gyfer ailbrisio cartrefi yn 2028 i greu system dreth gyngor decach, a sicrhau bod y system yn cydnabod amodau economaidd. Ers mis Ebrill 2025, rydym wedi gwneud gwelliannau pellach i'r Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, gan alluogi cynghorau lleol i ddefnyddio data Credyd Cynhwysol i awtomeiddio ceisiadau am gymorth gyda'r dreth gyngor. Yn ddiweddar, fe wnes i lansio cynllun peilot arbrofol o'r enw Cynllun Achub rhag Dyledion ym Merthyr Tudful, Blaenau Gwent a Chasnewydd i brofi ffyrdd newydd o weithio. Mae ein ffocws cyson a'n rhestr hir o gamau gweithredu yn dangos ein bod yn sicrhau system dreth decach yng Nghymru.
Cydnabu'r Protocol Treth Gyngor amser maith yn ôl mai dim ond fel dewis olaf y dylid defnyddio rhai camau gweithredu bob amser. Rwy'n credu bod cynghorau lleol eisiau helpu i gefnogi pobl sy'n cael trafferth gyda'u hymrwymiadau ariannol drwy eu helpu i gael cyngor annibynnol. Mae Llywodraeth Cymru yn falch o'i hymrwymiad hirsefydlog i ariannu gwasanaethau cynghori am ddim o ansawdd sicr. Drwy ein Cronfa Gynghori Sengl a'n hymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi', mae pobl yn cael cymorth i ddelio â'u problemau ariannol ynghyd ag unrhyw broblemau eraill, er enghraifft, gyda budd-daliadau neu dai.
Ochr yn ochr â'r camau hyn, rydym wedi ymrwymo i wneud gwelliannau pellach i'r fframwaith ar gyfer gorfodi'r dreth gyngor. Rydym yn cydnabod, pan fydd aelwyd yn methu rhandaliad treth gyngor, gall y person ddod yn atebol yn gyflym am y bil blynyddol llawn ac wynebu camau gorfodi mewn cyfnod cymharol fyr, os nad yw wedi talu o fewn 7 diwrnod. Er nad yw llawer o gynghorau lleol yn dilyn yr amserlen fer a nodir mewn rheoliadau, mae'r posibilrwydd yn parhau yn y llyfr statud, a hynny heb unrhyw fudd i neb. Mae'n annhebygol y bydd rhywun sy'n cael trafferthion ariannol yn gallu talu'r swm blynyddol o fewn cyfnod mor fyr, gan arwain at ddyledion cynyddol a'r heriau sy'n gysylltiedig â hynny.
Mae'r ymgynghoriad yn cynnig newidiadau sy'n canolbwyntio ar atal a chyfathrebu cynharach rhwng aelwydydd a chynghorau. Mae hyn yn cynnwys gwneud y camau yn y broses bilio'n gliriach a meithrin arferion gorau yr ydym yn gwybod eu bod eisoes yn digwydd yng Nghymru. Mae ein newidiadau arfaethedig yn rhoi amser ychwanegol i gynghorau lleol ymgysylltu â thrigolion sydd wedi methu rhandaliad, er mwyn deall eu hamgylchiadau a chynnig cymorth iddynt cyn bwrw ymlaen â chamau gorfodi. Mae hyn yn helpu cynghorau i wahaniaethu rhwng pobl sy'n cael trafferthion a'r rhai sy'n datgysylltu oddi wrth y broses yn barhaus. Mae amserlen hirach cyn uwchgyfeirio hefyd yn galluogi cartrefi i adfer ar ôl digwyddiadau neu amgylchiadau annisgwyl a allai fod wedi cyfrannu at eu trafferthion ariannol, gan roi cyfle iddynt gael cyngor a sefydlogi eu sefyllfa. Nod y newidiadau hyn yw meithrin arferion cyfathrebu gwell rhwng cynghorau a chymunedau, gan sicrhau nad yw camau gorfodi ond yn cael eu defnyddio fel dewis olaf neu pan nad yw pobl yn ymgysylltu. Dylai unrhyw un sy'n cael trafferth talu'r dreth gyngor gysylltu â'u cyngor a gwasanaethau cynghori cyn gynted â phosibl, gan mai dyma'r ffordd orau o atal dyledion rhag mynd allan o bob rheolaeth.
Ochr yn ochr â newidiadau deddfwriaethol a'r Protocol presennol, byddwn hefyd yn darparu canllawiau i gynghorau lleol i sicrhau bod arferion gorau yn cael eu hymgorffori ymhellach wrth ymdrin ag aelwydydd sy'n cael trafferth talu eu treth gyngor. Bydd hyn hefyd yn sicrhau bod pawb sy'n gallu cyfrannu at gostau gwasanaethau cyhoeddus yn gwneud hynny yn y ffordd decaf.
Mae cyfle o hyd i gynghorau lleol gymryd camau cymesur yn erbyn y nifer bach o bobl sy'n ceisio osgoi talu'r dreth gyngor – gweithgarwch nad yw ond yn cynyddu'r baich treth ar y rhai sy'n talu. Rwyf eisoes wedi dweud wrth arweinwyr llywodraeth leol y byddaf yn parhau i weithio gyda nhw i fynd i'r afael ag unrhyw weithgarwch osgoi yn y system. Mae'r syniadau ar gyfer datrys hyn yn cynnwys defnydd doethach o ddata ac arbenigedd penodol.
Rwy'n ddiolchgar i lywodraeth leol, Cyngor ar Bopeth Cymru a'r Gynghrair Casglu'r Dreth Gyngor – gweithgor o elusennau a sefydliadau polisi – am rannu eu syniadau cyn yr ymgynghoriad hwn. Mae gennyf ddiddordeb hefyd mewn treialu syniadau ymarferol pellach ochr yn ochr â deddfwriaeth cyn cyflwyno'r rhain yn y dyfodol os byddant yn llwyddiannus. Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal am 12 wythnos o heddiw ymlaen.
