Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
  • Huw Irranca-Davies AS
  • Jayne Bryant AS
  • Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Lynne Neagle AS
  • Ken Skates AS
     
  • Dawn Bowden AS
  • Sarah Murphy AS
  • Vikki Howells AS

Ymddiheuriadau

  • Jack Sargeant AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Grŵp y Prif Weinidog
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa'r Cabinet
  • Wayne David, Cynghorydd Arbennig
  • Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
  • Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
  • Jackie Jones, Cynghorydd Arbennig
  • Stephen Jones, Cynghorydd Arbennig
  • Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Martha O'Neil, Cynghorydd Arbennig
  • Maddie Rees, Cynghorydd Arbennig
  • Victoria Solomon, Cynghorydd Arbennig
  • Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
  • Tim Moss, y Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
  • Nia James, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Amelia John, Cyfarwyddwr Cymunedau a Chyfiawnder Cymdeithasol (eitem 4)
  • Amira Evans, Pennaeth Cydraddoldeb (eitem 4)
  • Gill Huws-John, Pennaeth y Tasglu Hawliau Pobl Anabl (eitem 4)
  • Matt Downton, Dirprwy Gyfarwyddwr, Iechyd Meddwl a Grwpiau Agored i Niwed (eitem 5)

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 10 Mawrth 2025.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Uwchgynhadledd Buddsoddi Rhyngwladol

2.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet y byddai'n cyhoeddi, yn ddiweddarach yr wythnos honno, yr Uwchgynhadledd Buddsoddi Rhyngwladol a fyddai'n cael ei chynnal ar 1 Rhagfyr yn y Celtic Manor.

Coffáu Diwrnod VE

2.2 Nododd y Cabinet fod cyfres o ddigwyddiadau’n cael eu trefnu i goffáu 80 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop, lle byddai cyfleoedd i gymunedau ddod at ei gilydd.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi bod amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 6:30pm ddydd Mawrth a thua 6:25pm ddydd Mercher. Dywedwyd y byddai'r Ddadl Agored gyntaf yn cael ei chynnal ddydd Mercher. Byddai'r pwnc yn ymwneud ag ynni adnewyddadwy a byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn ymateb.

Eitem 4: Y Cynllun Hawliau Pobl Anabl

4.1 Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo fersiwn ddrafft y Cynllun Hawliau Pobl Anabl traws-lywodraethol a'r bwriad i'w gyhoeddi at ddibenion ymgynghoriad 12 wythnos.

4.2 Yn 2021, 670,000 oedd nifer y bobl anabl yng Nghymru, sef 21% o'r boblogaeth. Gwelwyd cynnydd sydyn yng nghyfran y bobl anabl yn ôl oedran, ac roedd mwy o fenywod na dynion yn debygol o gofnodi eu bod yn anabl. Rydym yn gwybod bod pobl anabl yn wynebu nifer o fathau o wahaniaethu ac allgau, a hynny ym meysydd addysg, cyflogaeth, iechyd, tai, trafnidiaeth ac yn wir ym mob maes.

4.3 O'r boblogaeth oedran gweithio yn 2023, roedd yn fwy tebygol na fyddai gan bobl anabl unrhyw gymwysterau o’u cymharu â phobl nad oeddent yn anabl, ac roedd eu cyfradd cyflogaeth 30.9 pwynt canran yn is na phobl nad oeddent yn anabl. Roedd un o bob pedwar o bobl anabl neu bobl â salwch hirdymor cyfyngol yn byw ar aelwyd lle mae amddifadedd materol, o’u cymharu ag un o bob deg o bobl nad oeddent yn anabl.

4.4 Sefydlwyd y Tasglu Hawliau Pobl Anabl mewn ymateb i'r adroddiad 'Locked Out', a oedd yn tynnu sylw at yr anghydraddoldebau a wynebwyd gan bobl anabl o ganlyniad i COVID -19. Cafodd y pandemig effaith anghymesur ar bobl anabl, gan iddo waethygu anghydraddoldebau a oedd yn bodoli eisoes ac achosi niwed ychwanegol, gyda 68% o'r marwolaethau a oedd yn gysylltiedig â COVID yn digwydd ymhlith pobl anabl.

4.5 Mae'r adroddiad hefyd yn darparu tystiolaeth o bobl anabl yn wynebu gwahaniaethu o ran iechyd a mynediad cyfyngedig i wasanaethau cyhoeddus a chymorth cymdeithasol, ynghyd â chael eu cau allan o fannau cyhoeddus a bywyd cyhoeddus, cyfyngiadau ar fyw'n annibynnol, a'u hawliau dynol sylfaenol yn cael eu herydu.

4.6 Roedd y cynllun, a oedd wedi cael ei ddylanwadu'n drwm gan y Tasglu Hawliau Pobl Anabl, pobl anabl, a sefydliadau cymorth, wedi cael ei strwythuro'n seiliedig ar bedwar maes cyffredinol lle mae angen gweithredu:

  • Cymdogaethau a Lleoedd
  • Cyflogaeth, Incwm ac Addysg
  • Byw'n Annibynnol
  • Chyfiawnder ac Amgylcheddau Cefnogol.

Roedd y rhain yn gydnaws â 7 Nod Llesiant Cenedlaethol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).

4.7 Croesawodd y Cabinet y papur, gan gofnodi ei ddiolch i bawb a oedd wedi cyfrannu at y gwaith o ddatblygu'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl.

4.8 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Eitem 5: Ymgynghoriad ar y Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant, a'r Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-Niweidio

5.1 Cyflwynodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gytuno ar yr ymrwymiadau traws-lywodraethol a'r gefnogaeth y byddai eu hangen i gyflawni amcanion y Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant a'r Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio. Roedd y ddwy yn strategaethau 10 mlynedd, sydd â'r nod o amddiffyn rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, drwy ddarparu cymorth ar eu cyfer.

5.2 Roedd y Cabinet wedi ystyried papurau ar y strategaethau hyn o'r blaen: un ym mis Gorffennaf 2023, a oedd yn nodi'r cyfeiriad lefel uchel, a'r ail ym mis Ionawr 2024, cyn yr ymgynghoriad 16 wythnos.

5.3 Wrth ddatblygu'r strategaethau yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, cynhaliwyd gweithgarwch ymgysylltu hanfodol ar draws Llywodraeth Cymru, a chyda'r Sector Cyhoeddus a'r Trydydd Sector, a hefyd pobl â phrofiad bywyd. Trwy'r broses cyn ymgynghori a'r ymgynghoriad ffurfiol, cafwyd mwy na 500 o ymatebion ar-lein. Hefyd, darparwyd cefnogaeth wedi'i theilwra i ymgysylltu â phobl ifanc, a mynegodd dros 400 ohonynt eu barn fel rhan o'r broses hon. Roedd y broses yn un gynhwysfawr i ymgysylltu'n ystyrlon wrth ddatblygu'r strategaethau, a oedd yn ffrwyth cyd-gynhyrchu.

5.4 Roedd yn bwysig cydnabod y cynnydd da a wnaed eisoes, a oedd wedi arwain at well mynediad at wasanaethau iechyd meddwl, megis trwy bwyso opsiwn 2 y gwasanaeth 111, a darparu therapi ymddygiad gwybyddol ar-lein. Hefyd, bu cyfres o wasanaethau newydd i helpu i atal hunanladdiad, gan gynnwys Gwyliadwriaeth Hunanladdiad Amser Real a chefnogaeth i bobl a theuluoedd sydd mewn profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad.

5.5 Mae'r Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio, a oedd i fod i gael ei chyhoeddi ddechrau mis Ebrill, yn gosod yr uchelgais i greu dealltwriaeth fwy tosturiol o hunanladdiad a hunan-niweidio, gan leihau nifer y bobl sy'n marw o ganlyniad i hunanladdiad. Er mwyn cyflawni hyn, byddai angen darparu cefnogaeth holistaidd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer pobl sy'n hunan-niweidio; a chefnogi'r rheini y mae hunan-niweidio a hunanladdiad wedi effeithio arnynt. Ei nod yw sicrhau bod yr holl wasanaethau perthnasol i’r rheini sy'n dangos arwyddion o hunan-niweidio, neu sy'n ystyried hunanladdiad, yn gallu darparu cymorth ac ymyriadau amserol a thosturiol yn seiliedig ar dystiolaeth, gan gynnwys sefydlu llwybr i gefnogi pobl sy'n hunan-niweidio.

5.6 Y weledigaeth o fewn y Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant yw sicrhau bod pobl yng Nghymru yn byw mewn gwlad sy'n eu hannog, eu cefnogi, a'u grymuso i wella eu hiechyd meddwl a'u llesiant, a hynny mewn amgylchedd sy'n rhydd o stigma a gwahaniaethu.

5.7 Mae'r Strategaeth, a fyddai'n cael ei chyhoeddi ddiwedd mis Ebrill, yn nodi'r bwriad i drawsnewid gwasanaethau iechyd fesul cam, trwy ddarparu cymorth effeithiol a'r cymorth lleiaf dwys o ran adnoddau yn y lle cyntaf, gan symud ymlaen wedyn at ddefnyddio gwasanaethau mwy arbenigol yn ôl yr angen.

5.8 Byddai'r gwelliannau i ofal iechyd meddwl yn cyfrannu'n sylweddol at wella'r cymorth sydd ar gael i bobl sy'n hunan-niweidio neu sy'n meddwl am hunanladdiad, sef y gwasanaethau y byddai pobl yn naturiol yn troi atynt am gymorth ar adegau o angen.

5.9 Pwysleisiodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol fod y dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a ddefnyddir yn y strategaethau yn ategu egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, er mwyn helpu pobl sydd ag anghenion gofal a chymorth i wella eu llesiant, drwy sicrhau eu bod â lle canolog yn y system. Roedd hyn yn pwysleisio pwysigrwydd partneriaeth a chydweithredu fel elfennu angenrheidiol wrth ddarparu gwasanaethau, gan ganolbwyntio ar wasanaethau i hyrwyddo camau sy'n atal yr angen rhag cynyddu, gan sicrhau bod y cymorth priodol ar gael ar yr adeg iawn.

5.10 Croesawodd y Cabinet y papur, gan gofnodi ei ddiolch i bawb sydd wedi helpu i gynhyrchu'r ddwy strategaeth Tynnwyd sylw at y ffaith bod y ddwy yn enghraifft dda arall o weithio a chyd-gynhyrchu ar draws y llywodraeth, a chyda'r rheini sydd â phrofiad bywyd.

5.11 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mawrth 2025