Neidio i'r prif gynnwy

Beth sydd dan sylw yn yr ymgynghoriad hwn?

Fel y gwyddoch, mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (‘Deddf 2021’) yn darparu ar gyfer sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig fel cyfrwng ar gyfer cefnogi cydweithrediad rhanbarthol rhwng awdurdodau lleol yng Nghymru.

Mae adran 31 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (‘Deddf 2003’) yn caniatáu i Weinidogion Cymru dalu grant i ‘awdurdod lleol yng Nghymru’. Mae'r diffiniad o ba gyrff sy'n awdurdod lleol at ddibenion yr adran honno wedi'i nodi yn adran 33. Nid yw'r rhestr yn cynnwys Cyd-bwyllgorau Corfforedig, ac felly nid yw Gweinidogion Cymru yn gallu darparu cyllid grant yn uniongyrchol i Gyd-bwyllgorau Corfforedig gan ddefnyddio'r ddeddfwriaeth benodol hon ar gyfer llywodraeth leol.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar ddiwygiad arfaethedig i gynnwys Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn y rhestr o gyrff sy'n gallu derbyn grant o dan adran 31 o Ddeddf 2003.   

Beth yw Cyd-bwyllgorau Corfforedig?

Mae Cyd-bwyllgor Corfforedig yn gorff corfforedig ar wahân a gaiff gyflogi staff, dal asedau a chyllidebau, a chyflawni swyddogaethau y rhoddir iddo.

Sefydlwyd pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig o 1 Ebrill 2021 ymlaen, sy'n seiliedig ar yr ardaloedd daearyddol y gofynnwyd amdanynt gan lywodraeth leol ac sy'n adlewyrchu'r trefniadau cydweithredol rhanbarthol sy'n bodoli eisoes: Mae'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig sefydledig a'r prif gynghorau yn eu hardaloedd fel a ganlyn:

  • Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd: Gwynedd, Sir Ddinbych, Ynys Môn, Wrecsam, Conwy a Sir y Fflint.
  • Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth: Powys a Cheredigion.
  • Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain: Caerdydd, Bro Morgannwg, Sir Fynwy, Rhondda Cynon Taf, Casnewydd, Merthyr Tudful, Caerffili, Torfaen, Blaenau Gwent a Phen-y-bont ar Ogwr.
  • Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin: Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe. 

Mae'r swyddogaethau canlynol wedi'u rhoi i bob un o'r pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig:

  • Paratoi Cynllun Datblygu Strategol.
  • Paratoi Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.
  • Swyddogaeth lles economaidd sy'n galluogi'r Cyd-bwyllgor Corfforedig i wneud unrhyw beth i wella neu hyrwyddo lles economaidd ei ardal. 

Mae Deddf 2021 yn ei gwneud yn ofynnol bod y rheoliadau sy'n sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn darparu bod arweinwyr pob cyngor cyfansoddol i fod yn aelodau o'u priod Gyd-bwyllgor Corfforedig. Mae'r arweinwyr yn gwneud penderfyniadau o fewn y Cyd-bwyllgorau ar ran y cynghorau y maent wedi'u hethol i'w cynrychioli. Rhaid i Awdurdod Parc Cenedlaethol sy'n dod yn gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn ardal Cyd-bwyllgor Corfforedig hefyd benodi deiliad swydd penodol i fod yn aelod o'r Cyd-bwyllgor Corfforedig ar gyfer ei ardal ar gyfer y swyddogaeth o baratoi Cynllun Datblygu Strategol ac unrhyw swyddogaeth arall y cytunwyd arno gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig.

Caiff Cyd-bwyllgorau ymgysylltu â phobl eraill a'u cynnwys yn eu gwaith drwy drefniadau cyfethol. Mater i'r Cyd-bwyllgorau fydd penderfynu pwy a gaiff eu cyfethol ac at ba ddiben.

Mae Cyd-bwyllgorau yn destun craffu gan eu cynghorau cyfansoddol, ac mae'n ofynnol iddynt gymryd rhan mewn gwaith craffu lleol a rhoi sylw dyladwy i'r argymhellion a wnaed gan bwyllgorau craffu eu cynghorau cyfansoddol ynghylch Cyd-bwyllgorau.

Beth yw'r trefniadau cyllido presennol ar gyfer Cyd-bwyllgorau Corfforedig?

Rhaid i Gyd-bwyllgor Corfforedig gytuno ar ei ofyniad cyllideb a'r symiau sy'n daladwy gan bob awdurdod lleol cyfansoddol, gan gynnwys gan yr Awdurdod Parc Cenedlaethol perthnasol sy'n ofynnol mewn perthynas â'r swyddogaeth cynllunio strategol. Yn absenoldeb cytundeb unfrydol, gall Gweinidogion Cymru gyfarwyddo'r symiau sy'n daladwy gan y cynghorau cyfansoddiadol.

Fel y nodir mewn canllawiau statudol: 

mae'n ofynnol i bob Cyd-bwyllgor Corfforedig gyfrifo ei ofynion cyllideb ar gyfer pob blwyddyn ariannol i gynnwys y symiau sy'n ofynnol i arfer ei swyddogaethau, a gwariant sy'n gysylltiedig â chostau gweinyddol a gorbenion, yn ogystal â swm ar gyfer amgylchiadau annisgwyl, cronfa wrth gefn, a swm i dalu unrhyw rwymedigaethau heb eu talu. Y bwriad yw bod yn rhaid i Gyd-bwyllgor Corfforedig gael ei gyllido'n ddigonol i gyflawni swyddogaethau / gweithgareddau penodedig y Cyd-bwyllgor Corfforedig, gan gynnwys gwariant sy'n gysylltiedig â chostau gweinyddol a gorbenion.

Pam rhesymeg dros newid?

Mae cydnabyddiaeth eang bod capasiti a gallu Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn fater allweddol yn eu datblygiad. Er mai'r bwriad yw y bydd awdurdodau lleol yn talu'r rhan fwyaf o'r costau ar gyfer gweinyddu Cyd-bwyllgorau Corfforedig, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried sut y gall gefnogi Cyd-bwyllgorau Corfforedig i gyflawni eu hamcanion.

Mae Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn galluogi i Weinidogion Cymru wneud unrhyw beth y maent yn ei ystyried yn briodol er mwyn “hyrwyddo neu wella llesiant cymdeithasol, economaidd neu amgylcheddol Cymru”. Gall hyn gynnwys ymrwymo i gytundeb i dalu grant yn uniongyrchol i unrhyw berson, a fyddai'n cynnwys Cyd-bwyllgorau Corfforedig.

Mae adran 31 o Ddeddf 2003 ar hyn o bryd yn caniatáu i Weinidogion Cymru dalu grant i ‘awdurdod lleol yng Nghymru’ tuag at wariant y mae wedi mynd iddo neu y bydd yn mynd iddo. Nid yw'r hyn sy'n gyfystyr ag awdurdod lleol at ddibenion adran 31 yn cynnwys Cyd-bwyllgorau Corfforedig. Felly, nid oes gan Weinidogion Cymru y pŵer i ddarparu cyllid drwy grant yn uniongyrchol i Gyd-bwyllgorau Corfforedig gan ddefnyddio'r ddeddfwriaeth benodol i lywodraeth leol.

Yr effeithiau arfaethedig a’r canlyniadau buddiol

Byddai'n fuddiol cael pŵer penodol mewn deddfwriaeth llywodraeth leol i Weinidogion Cymru ddarparu grantiau i Gyd-bwyllgorau Corfforedig.

Roedd bob amser yn fwriad y byddai Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn rhan o'r ‘teulu llywodraeth leol’. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori i geisio barn ar ddatblygu rheoliadau i ddiwygio Deddf 2003 fel bod Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn cael eu cynnwys yn y rhestr o awdurdodau lleol y gall Gweinidogion Cymru dalu cyllid grant iddynt o dan adran 31 o'r Ddeddf honno.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1

A ydych yn cytuno â gwneud diwygiad i Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i alluogi Gweinidogion Cymru i dalu grantiau i Gyd-bwyllgorau Corfforaethol o dan adran 31 o'r Ddeddf honno?

Cwestiwn 2

Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol y ddeddfwriaeth ar y Gymraeg? Mae diddordeb penodol gyda ni mewn unrhyw effeithiau posibl ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

  • A ydych yn credu bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau positif?
  • Ydych chi'n credu bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau andwyol?

Cwestiwn 3

Yn eich barn chi, sut y gellid llunio neu newid y ddeddfwriaeth er mwyn:

  • cael effeithiau positif neu effeithiau mwy positif ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg; neu
  • liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?

Cwestiwn 4

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â nhw'n benodol, defnyddiwch y lle hwn i'w nodi:

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 18 Mehefin 2025, drwy unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:

  • llenwi ein ffurflen ar-lein
  • lawrlwytho, llenwi ein ffurflen ymateb a’i hanfon ar e-bost PolisiLlywLeol.Gohebiaeth@llyw.cymru
  • lawrlwytho, llenwi ein ffurflen ymateb a’i phostio i:

Cydweithredu Rhanbarthol Llywodraeth Leol
Polisi Llywodraeth Leol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

Yn unol â'r ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i gael gwybod am y data personol a gedwir amdanoch, ac i’w gweld
  • i'w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (mewn amgylchiadau penodol)
  • i’ch data gael eu ‘dileu’ (mewn amgylchiadau penodol)
  • i gludadwyedd data (mewn amgylchiadau penodol)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw  ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliadau Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i’r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru (Erthygl 6(1)(e)). 

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgynghoriadau ar y cyd, mae’n bosibl y bydd hyn hefyd yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb. 

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a’i bod yn bosibl y bydd Llywodraeth Cymru o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG52056

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.