Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd ymgynghoriad ar gynigion i ddiwygio a chydgrynhoi fframwaith deddfwriaethol llywodraethu ysgolion yn cael ei lansio heddiw.

Mae tua 23,000 o lywodraethwyr ysgol yng Nghymru sy'n rhoi o'u hamser, eu profiad a'u harbenigedd yn wirfoddol i helpu i wella safonau yn ein hysgolion. Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr yr holl waith y mae'r llywodraethwyr yn ei wneud i wella deilliannau addysgol ein plant. 

Fodd bynnag, mae'r model presennol ar gyfer llywodraethu ysgolion wedi bodoli ers 1996 a phrin iawn fu’r newidiadau a wnaed iddo. Nid oes gan gyrff llywodraethu ysgolion yr hyblygrwydd i addasu eu hunain i ddiwallu anghenion penodol eu hysgolion, ac nid oes raid ystyried y sgiliau a’r arbenigedd y gall unigolion eu cynnig wrth benodi llywodraethwyr.

Ym mis Mehefin eleni  amlinellais fy mwriad i ymgynghori ar ddiwygio'r fframwaith deddfwriaethol llywodraethu ysgolion mewn ffordd sy'n cadw'r model rhanddeiliaid presennol ond yn canolbwyntio mwy ar sgiliau. Roedd hyn yn cynnwys rhoi'r hyblygrwydd i gyrff llywodraethu wneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch eu cyfansoddiad a'u haelodaeth.

Soniais hefyd am rôl hollbwysig rhieni yn y gwaith o redeg ysgol yn effeithiol ac am fy mwriad i sicrhau eu bod yn parhau i fod â rôl ganolog yn y gwaith hwn.  

Heddiw, rydym yn lansio ymgynghoriad ar ein cynigion ar gyfer diwygio a chydgrynhoi fframwaith rheoleiddio llywodraethu ysgolion. Mae'r ymgynghoriad, a fydd yn para 14 wythnos tan 17 Chwefror 2017, ar gael yn:
https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/diwygio-chydgrynhoir-fframwaith-rheoleiddio-llywodraethu-ysgolion-yng-nghymru

Rwyf am i gymaint o bobl ag sy'n bosibl ymateb i'r ymgynghoriad er mwyn i ni allu sicrhau proses gryfach a mwy effeithiol ar gyfer llywodraethu ysgolion a deilliannau addysgol gwell i'n plant.