Mae'r bwletin hwn yn cyflwyno canfyddiadau arolwg o staff ar draws ysgolion a lleoliadau eraill yng Nghymru. Mae'n sefydlu eu prif bryderon a faint o gefnogaeth y maen nhw'n teimlo eu bod yn ei chael.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Prif ganfyddiadau
Soniodd bron pob ymatebydd am gynnydd yn amrywiaeth, ystod, maint ac amlder ymddygiadau heriol neu aflonyddgar ers pandemig coronafeirws (COVID-19). Mae hyn yn awgrymu y gallai'r pandemig fod wedi effeithio ar ymddygiad dysgwyr neu efallai wedi gwaethygu tueddiadau a oedd yn bresennol eisoes sydd yn ei dro wedi arwain at aflonyddwch yn digwydd yn amlach ac mewn ffyrdd mwy amrywiol mewn lleoliadau ysgol.
Roedd y pryderon mwyaf cyffredin ymhlith y rhai a atebodd yn cynnwys aflonyddu lefel isel fel anallu dysgwyr i ddilyn rheolau, i beidio ag ateb yn ôl, ac i gynnal presenoldeb rheolaidd. Mae'r ymddygiadau hyn, er nad ydynt mor ddifrifol ag ymosodiad corfforol, yn dal i fod yn her sylweddol i amgylchedd dysgu ffafriol ac mae angen mesurau lliniaru effeithiol i wrthdroi'r duedd hon.
Adroddodd dros hanner yr ymatebwyr sy'n gweithio mewn ysgolion uwchradd eu bod yn pryderu am ddisgyblion yn dod ag arfau i'r ysgol. Er mai dim ond un o bob pump (19.5%) roddodd y pryderon hyn yn y dosbarth 'difrifol' mae hyn yn codi cwestiynau pwysig ynghylch diogelwch a thawelwch meddwl i ddisgyblion a staff.
Disgrifiwyd ymosodiadau corfforol ar athrawon fel pryder difrifol gan bron i hanner (47.7%) o'r rhai sy'n gweithio mewn ysgolion cynradd, gan dynnu sylw pellach at yr angen am fesurau effeithiol i amddiffyn athrawon a sicrhau eu lles. Er ei fod yn syfrdanol, mae angen mwy o ymchwil i ddeall yn well i ba raddau y mae'r pryderon a fynegir yn cael eu gwaethygu gan ffactorau allanol sy'n cyfrannu atynt, fel sylw yn y cyfryngau.
Nododd bron i naw o bob deg ymatebydd (88.4%) sy'n gweithio mewn ysgolion uwchradd fod trais rhwng disgyblion yn bryder iddynt. Fodd bynnag, roedd y mwyafrif o ymatebwyr (47.5%) yn ystyried hyn yn fân bryder yn hytrach nag yn bryder difrifol.
Er bod ymddygiad aflonyddol ar lefel isel yn gyffredin ac yn peri heriau i'r amgylchedd dysgu, mae pryderon lefel uwch fel trais ac ymosodiadau corfforol, yn gofyn am ymyriadau wedi'u targedu i sicrhau diogelwch a lles disgyblion a staff er eu bod yn llai cyffredin.
Roedd ffonau symudol neu ddyfeisiau electronig cludadwy eraill yn tarfu ar wersi yn bryder yn bennaf mewn colegau AB ac ysgolion uwchradd, er bod y ffigurau'n awgrymu bod hyn yn broblem gynyddol mewn ysgolion cynradd. Mae angen ystyried sut y gellir rheoli'r technolegau hyn yn effeithiol o fewn lleoliadau.
Dywedodd ymatebwyr eu bod yn teimlo nad ydynt yn cael digon o gefnogaeth gan eu hawdurdod lleol a gan rieni, wrth fynd i'r afael ag ymddygiad heriol ac aflonyddgar gan ddysgwyr. Mae hyn yn awgrymu bod angen gwell systemau cymorth a mwy o gydweithrediad rhwng ysgolion, awdurdodau lleol, a rhieni.
Adroddodd bron i dri chwarter yr ymatebwyr gynnydd yn y cyfrannau o achosion o ymgysylltiad negyddol â rhieni a nododd dros 70% gynnydd yn nwyster yr ymgysylltiadau hyn.
