Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Rwy'n falch o gadarnhau bod Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Weips Gwlyb) (Cymru) 2025 i wahardd cyflenwi (gan gynnwys am ddim) a chynnig cyflenwi weips gwlyb untro sy'n cynnwys plastig yng Nghymru wedi’u gosod ar 6 Mai 2025.
Bydd y Rheoliadau hyn yn gam hanfodol arall i leihau llygredd plastig a microblastig sy'n bla ar ein hamgylchedd. Mae hwn yn gam cadarnhaol i ddiogelu ein cymunedau, ein bywyd gwyllt a'n hecosystemau i genedlaethau'r dyfodol eu mwynhau.
Ers fy Natganiad Ysgrifenedig diwethaf ar 22 Ebrill 2024, rydym wedi parhau i weithio'n agos gyda holl Lywodraethau'r DU i ddatblygu'r polisi weips gwlyb ar sail pedair gwlad ac yng nghyd-destun ein deddfwriaeth arloesol yng Nghymru - Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023. Yn sgil hynny, mae’r Rheoliadau hyn yn cynnwys rhai mân newidiadau i'r sefyllfa a nodwyd yn fy natganiad blaenorol:
- Nid oedd esemptiad penodol at ddibenion diwydiannol yn ofynnol yng Nghymru, gan fod y troseddau ‘cyflenwi’ neu ‘gynnig cyflenwi’ ddim ond yn berthnasol i ‘ddefnyddwyr’, sy'n cael eu diffinio fel ‘unigolyn neu unigolion sy'n gweithredu at ddibenion sy'n gyfan gwbl neu'n bennaf y tu allan i grefft, busnes neu broffesiwn yr unigolyn hwnnw’
- Symleiddiwyd yr esemptiad a ragwelwyd i ganiatáu i fferyllfeydd barhau i gyflenwi weips gwlyb sy'n cynnwys plastig i ganiatáu parhau i gyflenwi weips gwlyb sy'n cynnwys plastig mewn unrhyw leoliad os ydynt ‘wedi'u dylunio neu eu gweithgynhyrchu i'w defnyddio mewn cysylltiad â gofal neu driniaeth feddygol’
- Symleiddiwyd y diffiniad o weip gwlyb hefyd, a'n bwriad yw ei ddiffinio fel ‘darn o ffabrig anweedig sydd wedi ei ragwlychu’.
Nid yw'r newidiadau hyn wedi effeithio ar ein canlyniad arfaethedig o gyfyngu ar argaeledd weips gwlyb sy'n cynnwys plastig nac wedi cyfyngu ar argaeledd pan fo dewisiadau amgen naill ai'n anaddas neu ddim ar gael. Mae'r polisi yn parhau i gyd-fynd â'r hyn y cytunwyd arno gan holl wledydd y DU.
Er mwyn darparu ar gyfer y newidiadau hyn a sicrhau cydymffurfiaeth â rhwymedigaethau o dan Sefydliad Masnach y Byd, rydym yn rhag-weld dyddiad dod i rym yng Nghymru ym mis Rhagfyr 2026, yn amodol ar ewyllys y Senedd.
Rydym yn disgwyl i'r amserlen hon gyd-fynd yn fras â gwledydd eraill y DU ac yn credu y bydd modd i weithgynhyrchwyr a manwerthwyr ymdrin ag unrhyw wahaniaeth bach o ran amseru sy'n codi ledled y DU.
