Ymgynghoriad ar y Cynllun Hawliau Pobl Anabl drafft
Rydym eisiau eich barn am y Cynllun Hawliau Pobl Anabl drafft.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hybu hawliau pobl anabl ac i sicrhau bod pobl anabl yn cael eu cynnwys ac yn gallu cymryd rhan ym mhob cymuned yng Nghymru. Rydym am wneud Cymru yn lle cynhwysol a hygyrch i bobl anabl; cymdeithas lle gall pobl anabl gymryd rhan heb gyfyngiadau a chael eu grymuso i fyw bywydau llawn, lle mae eu hawliau unigol a chyfunol yn cael eu cydnabod a’u cynnal, a lle mae eu cyfraniad yn cael ei gydnabod.
Mae'r cynllun hwn, sy'n seiliedig ar waith y Tasglu Hawliau Pobl Anabl, yn nodi ein huchelgais 10 mlynedd drawslywodraethol a'r canlyniadau hirdymor yr ydym yn gweithio tuag atynt – i sicrhau y gall pobl anabl ffynnu fel aelodau cyfartal o gymdeithas Cymru, ac i herio gwahaniaethu a rhagfarn. Mae’r cynllun hwn yn disodli fframwaith a chynllun gweithredu Llywodraeth Cymru, sef Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw'n Annibynnol’.
Roedd y Tasglu yn cynnwys mwy na 200 o swyddogion polisi Llywodraeth Cymru a 350 o randdeiliaid allanol. Ffurfiodd y Tasglu 10 gweithgor thematig i argymell camau gweithredu a fyddai’n gwella bywydau pobl anabl, sef:
- sefydlu a deall y Model Cymdeithasol o Anabledd (ar draws Cymru)
- mynediad at wasanaethau (gan gynnwys cyfathrebu a thechnoleg)
- byw’n annibynnol: gofal cymdeithasol
- byw’n annibynnol: iechyd
- teithio
- cyflogaeth ac incwm
- tai fforddiadwy a hygyrch
- plant a phobl ifanc
- mynediad at gyfiawnder
- llesiant (fel gweithdy)
Gweithiodd aelodau'r Tasglu gyda'i gilydd i ddatblygu'r argymhellion a lywiodd y cynllun hwn. Roedd pobl anabl yn bartneriaid gweithredol ym mhroses y Tasglu, gan rannu gwybodaeth a phrofiadau bywyd sydd wedi llywio camau gweithredu i roi sylw i hawliau pobl anabl ac i chwalu’r rhwystrau presennol. Mae'r argymhellion hyn wedi llywio'r camau gweithredu tymor byr ac maent wedi'u hanelu at wella canlyniadau a sicrhau bod hawliau pobl anabl yng Nghymru yn cael eu gwireddu'n llawn. Dyma'r pedwar maes cyffredinol y mae'r Cynllun hwn yn ymdrin â nhw:
- Cymdogaethau a Lleoedd
- Cyflogaeth, Incwm ac Addysg
- Byw'n Annibynnol
- Cyfiawnder ac Amgylcheddau Cefnogol
O dan y pedwar maes hyn, mae'r cynllun hwn yn nodi ein huchelgais gyffredinol a'r canlyniadau yr ydym am eu cyflawni dros y 10 mlynedd nesaf.
Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yw sicrhau bod llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru yn cael ei wella. Mae'r Ddeddf yn cyflwyno diben cyffredin sy'n gyfreithiol gyfrwymol – y saith nod llesiant – i lywodraeth genedlaethol, llywodraeth leol, byrddau iechyd lleol a chyrff cyhoeddus penodedig eraill. Mae'n rhoi manylion am y ffyrdd y mae rhaid i gyrff cyhoeddus penodedig weithio, a gweithio gyda'i gilydd i wella llesiant Cymru. Bydd y cynllun hwn a'r pedwar maes cyffredinol yn cefnogi'r holl nodau llesiant, ac yn arbennig: Cymru lewyrchus; Cymru gydnerth; Cymru iachach; Cymru fwy cyfartal; aChymru sy’n cynnwys cymunedau cydlynus.
Mae ein hymrwymiadau wedi’u hamlinellu mewn tair dogfen allweddol, sef:
- Y cynllun 10 mlynedd, sy'n nodi ein huchelgeisiau hirdymor.
- Y camau gweithredu y byddwn yn bwrw ymlaen â nhw.
- Ein hadroddiad cynnydd, sy’n dangos rhai o’r llwyddiannau hyd yma a’n gwaith parhaus i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bobl anabl, fel ein hymgyrch ‘Mae Casineb yn Brifo’ a’n Pwyllgor Ymgynghorol ar Gludiant Pobl Anabl.
Bydd llywodraethau'r Senedd yn y dyfodol yn pennu’r camau tymor canolig i dymor hir y byddant yn eu gweithredu i gyflawni’r uchelgais a’r canlyniadau ar gyfer pobl anabl sydd wedi’u nodi yn y cynllun 10 mlynedd hwn.
Rydym bellach wedi dechrau bwrw ymlaen â rhai o'r camau tymor byr – nid ydym am aros tan dymor nesaf y Senedd i gymryd camau i wella'r canlyniadau i bobl anabl.
Hoffem eich barn am y Cynllun drafft ar Hawliau Pobl Anabl. Efallai yr hoffech chi gynnig sylwadau ar un, neu bob un, o'r meysydd hyn.
Amserlen yr ymgynghoriad
Bydd yr ymgynghoriad yn para am 12 wythnos. Rydym yn annog pob aelod o'r cyhoedd, yn enwedig pobl anabl a rhanddeiliaid, i gymryd rhan. Mae eich cyfraniad yn hanfodol i wella'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl, er mwyn sicrhau ei fod yn bodloni anghenion a nodau cymuned pobl anabl. Byddwn yn cyhoeddi fersiwn derfynol y cynllun yn dilyn yr ymgynghoriad.
Yr hyn yr ydym yn ei ofyn ichi ei wneud
Rydym yn eich gwahodd i ystyried y Cynllun drafft hwn ar Hawliau Pobl Anabl a rhannu eich meddyliau a'ch awgrymiadau. Mae'r cynllun yn cynnig camau gweithredu penodol, ac rydym wedi paratoi rhai cwestiynau i helpu i lywio eich adborth. Gallwch ymateb yn ysgrifenedig mewn unrhyw fformat neu iaith sy'n gweithio orau ichi, gan gynnwys recordio iaith arwyddion Prydain (BSL). Mae eich barn yn bwysig iawn inni. Mae eich adborth yn hanfodol i sicrhau bod Cynllun Hawliau Pobl Anabl Cymru yn ystyriol, yn effeithiol ac yn gynhwysol.
Cofiwch, er bod gennych yr hawl i rannu eich barn, rhaid i'ch ymatebion gydymffurfio â gofynion cyfreithiol am iaith casineb a chyfathrebiad maleisus.
Cwestiynau’r ymgynghoriad
Cwestiwn 1
Dyma uchelgais gyffredinol y Cynllun Hawliau Pobl Anabl:
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hybu hawliau pobl anabl, gan gynnwys sicrhau bod pobl anabl yn cael eu cynnwys ac yn gallu cymryd rhan ym mhob cymuned yng Nghymru. Rydym am wneud Cymru yn lle cynhwysol a hygyrch i bobl anabl; cymdeithas lle gall pobl anabl gymryd rhan heb gyfyngiadau a chael eu grymuso i fyw bywydau llawn, lle mae eu hawliau unigol a chyfunol yn cael eu cydnabod a’u cynnal, a lle mae eu cyfraniad yn cael ei gydnabod.
Rhowch wybod inni eich barn am y datganiad o'n huchelgais a gynigir gennym. Ai dyma'r uchelgais iawn i wella cydraddoldeb i bobl anabl yng Nghymru? Beth, os oes rhywbeth, y gellid ei ychwanegu at yr uchelgais hon, neu ei dynnu ohoni?
Cwestiwn 2
Mae'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl wedi'i rannu'n bedair thema:
- Cymdogaethau a Lleoedd
- Cyflogaeth, Incwm ac Addysg
- Byw'n Annibynnol
- Cyfiawnder ac Amgylcheddau Cefnogol
Rhowch wybod inni a ydych chi'n meddwl bod y themâu hyn yn addas ar gyfer y cynllun. A yw'r themâu hyn yn ymdrin â'r prif faterion neu’r prif rwystrau y mae pobl anabl yn eu profi? A oes unrhyw feysydd heb eu cynnwys y dylid eu hychwanegu at y themâu hyn? Os oes, beth ydyn nhw?
Cwestiwn 3
Mae'r cynllun yn nodi'r prif bynciau canlynol:
- sefydlu a deall y Model Cymdeithasol o Anabledd
- mynediad at wasanaethau
- byw’n annibynnol: gofal cymdeithasol
- byw’n annibynnol: iechyd
- teithio
- cyflogaeth ac incwm
- tai fforddiadwy a hygyrch
- plant a phobl ifanc
- mynediad at gyfiawnder a
- llesiant
A yw'r pynciau hyn yn ymdrin â'r prif faterion neu’r prf rwystrau y mae pobl anabl yn eu profi? A oes unrhyw feysydd heb eu cynnwys y dylid eu hychwanegu at y pynciau hyn? Os oes, beth ydyn nhw?
Cwestiwn 4
Mae dogfen 'y camau gweithredu' yn nodi'r camau tymor byr yr ydym yn eu gweithredu ar hyn o bryd. Bydd rhagor o gamau gweithredu gan lywodraethau'r dyfodol i'n helpu i gyflawni'r canlyniadau hirdymor.
Rhowch wybod inni a ydych chi'n meddwl y bydd y camau gweithredu tymor byr hyn yn helpu i gyflawni'r canlyniadau hirdymor? A fydd y camau gweithredu hyn yn helpu i leihau'r problemau a'r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu? Rhowch resymau am eich ateb os gallwch chi.
Cwestiwn 5
A fydd y canlyniadau arfaethedig a nodir o dan faes 'Cymdogaethau a Lleoedd' yn helpu i leihau'r problemau a'r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu? Beth, os oes rhywbeth, y dylid ei ychwanegu at y canlyniadau hyn, neu ei dynnu ohonynt? Rhowch resymau am eich ateb os gallwch chi.
Cwestiwn 6
A fydd y canlyniadau arfaethedig a nodir o dan faes 'Cyflogaeth, Incwm ac Addysg' yn helpu i leihau'r problemau a'r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu? Beth, os oes rhywbeth, y dylid ei ychwanegu at y canlyniadau hyn, neu ei dynnu ohonynt? Rhowch resymau am eich ateb os gallwch chi.
Cwestiwn 7
A fydd y canlyniadau arfaethedig a nodir o dan faes 'Byw'n Annibynnol' yn helpu i leihau'r problemau a'r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu? Beth, os oes rhywbeth, y dylid ei ychwanegu at y canlyniadau hyn, neu ei dynnu ohonynt? Rhowch resymau am eich ateb os gallwch chi.
Cwestiwn 8
A fydd y canlyniadau arfaethedig a nodir o dan faes 'Cyfiawnder ac Amgylcheddau Cefnogi' yn helpu i leihau'r problemau a'r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu? Beth, os oes rhywbeth, y dylid ei ychwanegu at y canlyniadau hyn, neu ei dynnu ohonynt? Rhowch resymau am eich ateb os gallwch chi.
Cwestiwn 9
Rydym wedi amlinellu yn y Cynllun Hawliau Pobl Anabl sut mae'r camau gweithredu a'r canlyniadau yn cefnogi'r egwyddorion a nodir yn CCUHPA. A ydych chi'n meddwl bod y cynllun yn hyrwyddo'r prif egwyddorion, sy'n ymwneud â sicrhau hawliau a chynhwysiant, a nodir yn CCUHPA? Rhowch resymau am eich ateb os gallwch chi.
Cwestiwn 10
Mae adran olaf y Cynllun Hawliau Pobl Anabl yn nodi'r trefniadau ar gyfer llywodraethu, monitro a gwerthuso'r cynllun. Mae hyn yn golygu monitro sut mae'r cynllun yn gweithio, gwneud yn siŵr ei fod yn mynd yn dda, a mesur pa mor dda y mae'r cynllun yn gwella bywydau pobl anabl.
A ydych chi'n meddwl y dylid ystyried defnyddio unrhyw ddulliau llywodraethu, monitro neu werthuso eraill?
Cwestiwn 11
Beth ydych chi'n meddwl y bydd effeithiau tebygol y Cynllun Hawliau Pobl Anabl ar arwyddwyr byddar Iaith Arwyddion Prydain (BSL)? Mae gennym ddiddordeb arbennig yn ei effaith bosibl ar gyfleoedd i ddefnyddio BSL yng Nghymru.
- Sut bydd y cynllun yn helpu i hyrwyddo a chryfhau'r defnydd o BSL yng Nghymru?
- Sut bydd y cynllun yn helpu i chwalu'r rhwystrau y mae arwyddwyr BSL yn eu profi wrth geisio cael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau?
Cwestiwn 12
Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol y Cynllun Hawliau Pobl Anabl ar y Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb arbennig yn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
- A ydych chi'n meddwl bod cyfleoedd i hyrwyddo effeithiau cadarnhaol mewn perthynas â'r Gymraeg yn y cynllun?
- A ydych chi'n meddwl bod cyfleoedd i leihau effeithiau anfuddiol ar y Gymraeg yn y cynllun?
Cwestiwn 13
Rydym wedi gofyn cwestiynau penodol ichi am y Cynllun Hawliau Pobl Anabl. Os oes gennych chi unrhyw beth arall yr hoffech ei ddweud wrthym am unrhyw ran o'r cynllun, defnyddiwch y gofod hwn i roi gwybod inni.
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 7 Awst 2025, drwy unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:
- llenwi ein ffurflen ar-lein
- lawrlwytho, llenwi ein ffurflen ymateb a’i hanfon ar e-bost YmgynghoriadCynllunHawliauPoblAnabl@llyw.cymru
- anfon eich adborth trwy recordiad BSL i flwch negeseuon e-bost YmgynghoriadCynllunHawliauPoblAnabl@llyw.cymru
- lawrlwytho, llenwi ein ffurflen ymateb a’i phostio i:
Tasglu Hawliau Pobl Anabl
Yr Is-adran Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Eich hawliau
Yn unol â'r ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i gael gwybod am y data personol a gedwir amdanoch, ac i’w gweld
- i'w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (mewn amgylchiadau penodol)
- i’ch data gael eu ‘dileu’ (mewn amgylchiadau penodol)
- i gludadwyedd data (mewn amgylchiadau penodol)
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni.
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: ico.org.uk
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)
Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych fel rhan o'ch ymateb i’r ymgynghoriad.
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y maent yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynglŷn â sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth a gesglir yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e)).
Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw, neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, mae’n bosibl y bydd hyn hefyd yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Os bydd Llywodraeth Cymru am ddadansoddi’r ymatebion ymhellach, efallai y bydd y gwaith hwn yn cael ei gomisiynu i'w wneud gan drydydd parti achrededig (er enghraifft, sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori). Dim ond o dan gontract y caiff unrhyw waith o’r fath ei wneud. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi'r ymatebion yn llawn. Fel arfer, cyhoeddir enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb gyda'r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn eu dileu cyn cyhoeddi.
Dylech fod yn ymwybodol hefyd o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gallai Llywodraeth Cymru fod o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth.
Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd unrhyw ddata arall sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig
Rhif: WG51509
Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.
