Neidio i'r prif gynnwy

Roedd Adolygiad 2013 Macpherson o sicrwydd ansawdd modelau’r llywodraeth yn ystyried model yn bwysig i fusnes:

  • pan fo’r model yn ysgogi penderfyniadau allweddol mewn perthynas ag arian ac ariannu
  • pan fo’r model yn hanfodol i gyflawni camau gweithredu a blaenoriaethau cynllun busnes.
  • pan allai camgymeriadau arwain at niwed ariannol a chyfreithiol difrifol, niweidio enw da neu gosbau.

Model gwasgaru ansawdd aer

Model systemau naturiol a seiliedig ar wyddoniaeth

Model cyfunol sy'n defnyddio tywydd, ffynhonnell pellter ac adweithiau cemegol, ffynhonnell ddiwydiannol leol a modelu sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth i ragweld crynodiadau llygryddion amgylchynol yn y blynyddoedd i ddod.

Offeryn dadansoddi polisi trafnidiaeth cyllideb carbon 3

Model efelychu a rhagfynegi polisi

Bydd yn cael ei ddefnyddio i asesu manteision allyriadau carbon cymharol ystod o bolisïau cenedlaethol sy'n gysylltiedig â lleihau'r angen i deithio, rhannu dulliau a datgarboneiddio fflyd cerbydau, a rhagfynegi allyriadau is-sector trafnidiaeth (fel y'i diffinnir gan y Rhestr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol), gan lywio datblygiad polisi ar gyfer Cyllideb Carbon 3 o fis Medi 2025 ymlaen.

Cost cynnig gofal plant

Model rhagfynegi

Amcangyfrif faint o bobl fydd yn defnyddio'r cynnig gofal plant, a'r costau cysylltiedig. Gellir ei ddefnyddio i amcangyfrif y cyflenwad a'r galw am ofal plant yn ogystal â gofynion y gweithlu.

Rhagolygon Epidemioleg COVID-19

Model systemau naturiol a seiliedig ar wyddoniaeth

Defnyddir ar gyfer rhagolygon tymor canolig a thymor hir ar gyfer heintiau COVID-19, derbyniadau i ysbytai, defnydd gwelyau a marwolaethau, yn ogystal â nifer y bobl sy'n manteisio ar y brechlyn, a chyfanswm capasiti'r GIG.

Rhaglen fonitro a modelu materion gwledig a'r amgylchedd - llwyfan monitro integredig (IMP)

Model ysgogi polisïau

Llywio penderfyniadau polisi allweddol ar gyfer meysydd polisi'r Rhaglen Lywodraethu ym maes yr amgylchedd a materion gwledig: 

  • Cynllun Ffermio Llywodraeth Cymru yn y Dyfodol
  • Rheoli Tir yn Gynaliadwy.

Cynllun Cymorth i Brynu

Model rhagfynegi a chynllunio

Rhagfynegi ad-daliad benthyciadau cynllun Cymorth i Brynu a rhoi gwybodaeth am berfformiad ariannol y cynllun.

Amcangyfrif o'r angen a'r galw am dai

Rhagfynegi

Yn amcangyfrif yr angen a'r galw am dai. Caiff hwn ei ddefnyddio i ddatblygu polisïau cynllunio strategol cenedlaethol o ran tai.

Rhagfynegi treth trafodiadau tir

Model rhagfynegi

Rhagfynegi refeniw treth, sy'n benderfynydd o ran maint cyffredinol cyllideb Llywodraeth Cymru.

Adolygu treth gwarediadau tirlenwi

Model rhagfynegi

Rhagfynegi refeniw treth, sy'n benderfynydd o ran maint cyffredinol cyllideb Llywodraeth Cymru.

Grant addysg awdurdodau lleol (LAEG)

Model dyrannu a dosbarthu 

Mae'r model hwn yn gwneud y cyfrifiadau angenrheidiol i ddosbarthu oddeutu £400 miliwn o gyllid refeniw ar gyfer addysg rhwng y 22 o brif awdurdodau yng Nghymru.

Cynllun grant addysg awdurdodau lleol (LAEG) wedi'i arwain gan y galw

Model dyrannu a dosbarthu 

Mae'r model hwn yn cyflawni'r cyfrifiadau sy'n ofynnol i ddosbarthu oddeutu £130 miliwn o gyllid refeniw ar gyfer addysg rhwng y 22 awdurdod lleol yng Nghymru.

Setliad llywodraeth leol

Model dyrannu a dosbarthu 

Mae'r model hwn yn gwneud y cyfrifiadau angenrheidiol i ddosbarthu dros £5.7 biliwn o Gyllid Allanol Cyfun (cyllid refeniw) rhwng y 22 o brif awdurdodau yng Nghymru.

Asesiadau o'r farchnad dai leol (LHMA)

Model rhagfynegi

Model a ddefnyddir gan awdurdodau lleol i amcangyfrif nifer yr unedau tai ychwanegol sydd eu hangen, yn ôl deiliadaeth er mwyn llywio blaenoriaethau tai strategol.

Fformiwla Dyrannu Adnoddau y GIG

Model dyrannu a dosbarthu 

Defnyddir i ddyrannu cyllid ychwanegol i fyrddau iechyd lleol yn ôl disgresiwn.

Swm dosbarthadwy ardrethi annomestig

Model dyrannu a dosbarthu 

Cyfrifo'r ‘swm dosbarthadwy’ ar gyfer ardrethi annomestig. Dyma'r swm sydd i'w ddosbarthu bob blwyddyn i awdurdodau lleol a Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd o'r ardrethi a gesglir gan awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru. Mae'n elfen allweddol o'r system gyllido llywodraeth leol.

Model ailbrisio ardrethi annomestig

Model ysgogi polisïau

Mae'r model hwn yn amcangyfrif costau ac yn llywio penderfyniadau polisi yn dilyn ailbrisiadau ardrethi annomestig, sy'n digwydd bob tair blynedd. Cyfrifir costau ar gyfer opsiynau sy'n ymwneud â gosod y lluosydd ardrethi annomestig yn ogystal â chynlluniau rhyddhad fel rhyddhad trosiannol.

Setliad yr heddlu

Model dyrannu a dosbarthu 

Cyfrifo'r dosbarthiad cyllid (Cyllid Allanol Cyfun) rhwng Heddluoedd Cymru yn flynyddol. Mae'n cael ei gytuno ar y cyd â'r Swyddfa Gartref.

Trafnidiaeth Gogledd Cymru

Model rhagfynegi ac efelychu polisi

Defnyddir i ragweld galw o ran teithio yn y rhanbarth.

 

Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru

Rhagfynegi ac efelychu polisi

Defnyddir i ragweld galw o ran teithio yn y rhanbarth.

Trafnidiaeth De-orllewin a Chanolbarth Cymru

Model rhagfynegi ac efelychu polisi

Defnyddir i ragweld galw o ran teithio yn y rhanbarth.

Gwariant Cyllid Myfyrwyr

Model rhagfynegi

Rhagfynegi cost ffioedd dysgu, grantiau a benthyciadau i gyllidebau Llywodraeth Cymru yn ogystal â bwydo i mewn i waith cynllunio cyllideb Medr, sy'n rhan annatod o fforddiadwyedd y system gyfredol.

Ad-daliadau benthyciadau i fyfyrwyr

Model rhagfynegi

Cyfrifo'r ffi cyfrifyddu ar gyfer benthyciadau myfyrwyr. Mae'n amcangyfrif gwerth hir dymor y llyfr benthyciadau myfyrwyr a lefel ddisgwyliedig ad-daliadau a benthyciadau heb eu had-dalu.

Model hyfywedd safonol (SVM)

Model dyrannu a dosbarthu

Model ar gyfer cyfrifo lefelau grant gwerth am arian ar gyfer cartrefi fforddiadwy.

Taflwybr ystadegol tuag at gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg

Model ysgogi polisïau

Cynnig taflwybr ystadegol dangosol o'r opsiynau dichonadwy o gyrraedd nod y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Rhagamcanion poblogaeth ac aelwydydd isgenedlaethol

Model rhagfynegi

Cyfrifo rhagamcanion poblogaeth ac aelwydydd sy'n bwydo'r setliad adnoddau llywodraeth leol, fformiwla dyrannu adnoddau'r GIG ac amcangyfrifon o anghenion tai ychwanegol.

Rhagolygon tymor byr UKHSA ar dderbyniadau i ysbytai oherwydd y ffliw a feirysau anadlol

Model rhagfynegi

Defnyddir ar gyfer rhagolygon tymor byr o dderbyniadau i ysbytai oherwydd y ffliw a feirysau anadlol. Gall y model greu rhagolygon ar gyfer gwahanol grwpiau oedran a gwahanol fyrddau iechyd.

Cyfrifiannell Cymru 2050

Model ysgogi polisïau

Defnyddir i lywio'r gwaith o gyflawni cyllideb carbon ar gyfer y dyfodol a chynllunio ar gyfer pontio i economi Sero Net.

Cyfraddau treth incwm Cymru Model rhagfynegi Rhagfynegi refeniw treth, sy'n benderfynydd o ran maint cyffredinol cyllideb Llywodraeth Cymru.

Model rhagfynegi

Rhagfynegi refeniw treth, sy'n benderfynydd o ran maint cyffredinol cyllideb Llywodraeth Cymru.