Daeth yr ymgynghoriad i ben 31 Gorffennaf 2025.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymateb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 10 MB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym yn gofyn am eich barn ynghylch y canllawiau statudol drafft ar wrth-fwlio.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym am gael barn rhanddeiliaid, gan gynnwys plant a phobl ifanc, rhieni a gofalwyr, ymarferwyr addysg, gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau gwirfoddol a'r trydydd sector, i sicrhau bod y canllawiau diwygiedig yn bodloni anghenion yr holl ddefnyddwyr.
Rydym yn ymgynghori ar y canllawiau drafft ar hawliau, parch, cydraddoldeb, sydd wedi'u llunio er mwyn:
- cefnogi ysgolion i weithio tuag at feithrin cydberthnasau cadarnhaol, llawn parch ymhlith plant a phobl ifanc
- cryfhau'r cyfarwyddyd mewn perthynas â bwlio ar sail rhagfarn a hil
- ystyried yr effaith y gall bwlio ei chael ar iechyd meddwl a lles dysgwr
- nodi sut y dylai ysgolion weithio mewn partneriaeth ag eraill, gan gynnwys y GIG a sefydliadau'r trydydd sector
- anfon neges glir bod bwlio yn annerbyniol ac na fydd yn cael ei oddef
Dogfennau ymgynghori
Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 132 KB
Hawliau, parch, cydraddoldeb: canllawiau statudol ar gyfer ysgolion a lleoliadau (drafft) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 904 KB
Hawliau, parch, cydraddoldeb: canllaw i ysgolion (drafft) (fersiwn hawdd ei darllen) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 6 MB
Ymgynghoriad ar gyfer ysgolion cynradd (fersiwn hawdd ei darllen) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 986 KB
Ymgynghoriad ar gyfer ysgolion uwchradd (fersiwn hawdd ei darllen) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
GDPR: sut rydyn ni’n defnyddio eich gwybodaeth , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 181 KB
Gwybodaeth ychwanegol
Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.
Am ragor o wybodaeth:
Lles a Diogelu mewn Ysgolion
Is-adran Tegwch mewn Addysg
Y Gyfarwyddiaeth Addysg
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
