Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar 2025-2028
Cyfeirnod y Cymhorthdal: SC11307 - cynllun i alluogi awdurdodau lleol yng Nghymru i wella cyfleusterau gofal plant presennol a datblygu cyfleusterau newydd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pwyntiau i'w nodi
Os ydych chi'n defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymhorthdal, mae’n rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau – e-bost: yrunedrheolicymorthdaliadau@llyw.cymru
1. Rhanbarth
Cymru gyfan
2. Teitl y cynllun cymhorthdal
Y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar 2025-2028
3. Sail gyfreithiol yn y DU
Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (adrannau 58A a 60)
4. Amcanion polisi penodol y cynllun
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £45m dros 3 blynedd o 2025/2026 i 2027/2028 i gefnogi ehangu Gofal Plant y Blynyddoedd Cynnar o dan y Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar.
Mae’r cyllid yn cael ei roi i gefnogi ehangiad gofal plant Dechrau’n Deg, y Cynnig Gofal Plant a/neu Ddysgu Sylfaen mewn lleoliadau gofal plant. Bydd ehangu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, cydleoli gwasanaethau a chynyddu nifer y lleoedd gofal plant sydd ar gael yn feini prawf allweddol ar gyfer cael mynediad at y cyllid hwn.
Byddwn yn seilio penderfyniadau ynglŷn â faint i’w ddyfarnu ar y bylchau a nodir mewn gofal plant drwy’r asesiad o ddigonolrwydd gofal plant. Bydd awdurdodau lleol yn gallu gwneud cais am gyllid cyfalaf a byddant yn derbyn gwybodaeth am sut i wneud cais.
5. Diben y cynllun
Darparu cyllid grant cyfalaf i awdurdodau lleol yng Nghymru i’w galluogi i wella cyfleusterau gofal plant ac i ddatblygu cyfleusterau newydd lle y mae galw amdanynt. Mae’r cyllid yn berthnasol i leoliadau gofal plant a chwarae sydd wedi’u cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru.
6. Awdurdodau cyhoeddus sydd wedi'u hawdurdodi i weithredu'r cynllun
Llywodraeth Cymru
7. Categori neu gategorïau o fentrau cymwys
Lleoliadau/darparwyr gofal plant a chwarae sydd wedi’u cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru.
8. Sectorau i'w cefnogi
Addysg
9. Hyd y cynllun
01 Ebrill 2025 i 31 Mawrth 2028
10. Y gyllideb ar gyfer cymorth o dan y cynllun hwn
£45,000,000
11. Ffurf y cymorth
Bydd yr holl gymhorthdal a ddyfernir o dan y cynllun yn cael ei ddyfarnu drwy grantiau.
12. Telerau ac amodau cymhwysedd
Lleoliadau/darparwyr gofal plant a chwarae sydd wedi’u cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru.
13. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau
Dyfernir y cyllid drwy ddyfarniad grant uniongyrchol i’r awdurdodau lleol gyda chyllid grant o 100%. Mae’r telerau ac amodau ar gyfer y cyllid wedi’u cynnwys gyda’r llythyrau dyfarnu grant a anfonwyd i’r awdurdodau lleol.
14. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun
£2,000,000
15. Manylion cyswllt
Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig
Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
