Cynllun Hawliau Pobl Anabl drafft: camau gweithredu tymor-byr
Camau rydym yn eu cymryd i wella hawliau pobl anabl sy’n byw yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Mae llawer o’r camau gweithredu hyn yn drawsbynciol a byddant yn cael eu gweithredu gan wahanol feysydd polisi. Er enghraifft, ni fydd yr holl gamau gweithredu sy’n gysylltiedig â’r gweithgor Byw’n Annibynnol: Gofal Cymdeithasol yn cael eu cyflawni gan bolisi Gofal Cymdeithasol.
Bydd y camau hyn yn cynnal egwyddorion yr erthyglau sydd wedi’u hamlinellu yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl ac yn cyd-fynd ag Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol Llywodraeth Cymru.
Cymdogaethau a lleoedd
Teithio
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol a gweithredwyr trafnidiaeth i gasglu a diweddaru data ar argaeledd a lleoliad mannau parcio ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas, a’u hintegreiddio ar wefannau trafnidiaeth.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 9: hygyrchedd
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i wella’r cyswllt â phobl anabl wrth ddatblygu gwasanaethau trafnidiaeth hygyrch a threfniadau goruchwylio.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 4: rhwymedigaethau cyffredinol
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i sicrhau bod sefydliadau trafnidiaeth yn cynnal ymgyngoriadau rheolaidd a chynhwysol gyda phlant a phobl ifanc anabl.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 7: plant anabl
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3/5
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i ddatblygu rhaglen hyfforddi safonol ar gyfer yr holl staff sy’n delio â chwsmeriaid ym maes trafnidiaeth gan gynnwys rheilffyrdd, bysiau, tacsis, cerbydau llogi preifat a meysydd awyr.
Mae’r hyfforddiant yn cynnwys y Model Cymdeithasol o Anabledd, deddfwriaeth cydraddoldeb gan gynnwys cŵn tywys a chŵn cymorth, a gofal cwsmer da i bobl anabl.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 8: cynyddu ymwybyddiaeth
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3
Tai fforddiadwy a hygyrch
Cam gweithredu 1
Llywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau i wella’r ddarpariaeth o lety hygyrch i bobl anabl, eu gofalwyr a’u plant wrth ffoi rhag trais.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 16: rhyddid rhag cam-fanteisio, trais neu gamdriniaeth
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3/4
Cam gweithredu 2
Llywodraeth Cymru i adolygu Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru 2021, gan gynnwys eu heffaith a’u heffeithiolrwydd.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 28: safon byw ddigonol a diogelwch cymdeithasol
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 2/3
Cam gweithredu 3
Llywodraeth Cymru i weithio gydag Awdurdodau Lleol i barhau i wella hygyrchedd a chydlynu’r gwaith o gyflwyno addasiadau tai a chyflenwi offer.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 19: byw’n annibynnol a chynhwysiant yn y gymuned
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3/2
Cam gweithredu 4
Llywodraeth Cymru i weithio gyda sefydliadau tai i helpu i ledaenu gwybodaeth fwy hygyrch am dai i bobl anabl, gan gynnwys y rhai sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 21: rhyddid mynegiant a barn, a mynediad i wybodaeth
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3
Cam gweithredu 5
Llywodraeth Cymru i weithio gyda sefydliadau ac arbenigwyr pobl anabl i gynllunio a darparu hyfforddiant i sefydliadau tai.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 4: rhwymedigaethau cyffredinol
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3
Cam gweithredu 6
Bydd Llywodraeth Cymru’n trafod â phobl anabl i ddeall y rhwystrau penodol rhag cael tai, er enghraifft ar gyfer aelodau anabl o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 19: byw’n annibynnol a chynhwysiant yn y gymuned
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 2
Y Model Cymdeithasol o Anabledd
Cam gweithredu 1
Llywodraeth Cymru i adlewyrchu’r Model Cymdeithasol o Anabledd yn ei dull gweithredu ar gyfer caffael cymdeithasol gyfrifol.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 4: rhwymedigaethau cyffredinol
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 2
Cam gweithredu 2
Llywodraeth Cymru i adolygu a diwygio polisïau presennol i sicrhau nad ydynt yn creu rhwystrau i bobl anabl.
Cynnwys pobl anabl yn y gwaith o gynllunio, gweithredu a monitro polisïau, arferion a gweithdrefnau newydd a gwell.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 4: rhwymedigaethau cyffredinol
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 2/5
Cyflogaeth, incwm ac addysg
Cyflogaeth ac Incwm
Cam gweithredu
Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Llywodraeth Cymru i gyfeirio cyflogwyr at wybodaeth, cyngor ac arweiniad ar arferion recriwtio a gweithio teg, hyblyg a chynhwysol.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 27: gwaith a chyflogaeth
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 6
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i ymgysylltu â chyflogwyr, undebau, Sefydliadau Pobl Anabl a’r cyhoedd i godi ymwybyddiaeth o hawliau cyflogaeth pobl anabl, i herio stereoteipiau, ac i wella dealltwriaeth o fanteision cyflogi gweithlu amrywiol a’r cymorth sydd ar gael i wneud hyn.
Byddwn yn cyflawni hyn drwy ddefnyddio ein rhwydwaith o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl a chreu cyfleoedd i bartneriaid allweddol – fel cyrff sy’n cynrychioli cyflogwyr, undebau llafur, Sefydliadau Pobl Anabl, ac eraill – ddod at ei gilydd a chydweithio i geisio meithrin amgylchedd gwaith mwy cynhwysol a chefnogol.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 8: cynyddu ymwybyddiaeth
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 6
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru, gan weithio ar y cyd â Medr, i adolygu gwasanaethau cymorth ar gyfer oedolion anabl sy’n dymuno dychwelyd i addysg neu hyfforddiant.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 24: addysg
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 6
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i wella hygyrchedd gwasanaethau cymorth i bobl hunangyflogedig, gweithwyr llawrydd a phobl anabl sy’n berchnogion busnes, a chodi ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau hyn.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 27: gwaith a chyflogaeth
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 1/6
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad o’r cynllun Prentisiaethau Cynhwysol, a diweddaru lle bo angen.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 27: gwaith a chyflogaeth
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 1/6
Plant a phobl ifanc
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i adolygu llwybrau anacademaidd ac amgen at gyflogaeth, fel hyfforddiant galwedigaethol, prentisiaethau ac interniaethau.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 27: gwaith a chyflogaeth
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 6
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i weithio gydag Awdurdodau Lleol i ddatblygu cynllyn gweithlu addysg drwy ddealltwriaeth o fylchau yn y gweithlu a gwaith cynllunio’r gweithlu, gan gynnwys y gweithlu arbenigol ar gyfer plant a phobl ifanc anabl.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 27: gwaith a chyflogaeth
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 6
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i ddiweddaru canllawiau ar anghenion gofal iechyd, presenoldeb, rheoli ymddygiad a gwaharddiadau, gan ystyried anghenion plant a phobl ifanc anabl.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 24: addysg
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i ddiweddaru ei chanllawiau gwrth-fwlio a diogelu i warchod plant a phobl ifanc anabl.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 16: rhyddid rhag cam-fanteisio, trais neu gamdriniaeth
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 4
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i weithio gydag asiantaethau tocynnau a threfnwyr, lleoliadau a gweithredwyr digwyddiadau i sefydlu a gweithredu polisïau prisio teg a thryloyw sy’n ystyried anghenion ac amgylchiadau plant ac oedolion anabl, ac yn darparu gostyngiadau, consesiynau neu fynediad am ddim, lle bo hynny’n briodol.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 30: Cyfranogiad mewn bywyd diwylliannol, hamdden a chwaraeon
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 5
Plant a phobl Ifanc byw’n annibynnol: llesiant, iechyd a gofal cymdeithasol
Llesiant
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i gynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â’r Model Cymdeithasol o Anabledd yn y cais am grant a’r broses werthuso ar gyfer pob prosiect.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 19: byw’n annibynnol a chynhwysiant yn y gymuned
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 5
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i weithio gyda sefydliadau diwylliannol, treftadaeth, y celfyddydau, chwaraeon a hamdden i gynyddu argaeledd ac ansawdd arddangosfeydd, perfformiadau, gemau a digwyddiadau hygyrch, gan sicrhau eu bod yn cynrychioli amrywiaeth Cymru.
Mae hyn yn cynnwys cael gwared ar rwystrau ffisegol gyda darpariaeth glir o Iaith Arwyddion Prydain, disgrifiad sain/ystyriol o awtistiaeth, er enghraifft.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 30: cyfranogiad mewn bywyd diwylliannol, hamdden a chwaraeon
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 5
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i adolygu sut mae’r Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar yn cefnogi hygyrchedd yr amgylchedd ffisegol ar gyfer gwasanaethau gofal plant a chwarae cofrestredig cynhwysol.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 7: plant anabl
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid yn y sector i helpu gweithwyr gofal plant a chwarae i gael gafael ar yr hyfforddiant a’r adnoddau sydd eu hangen i helpu plant anabl i gael gofal plant yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 7: plant anabl
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i sefydlu bwrdd cynghori allanol i ddarparu cyngor a chymorth ar gyflawni’r cynllun hawliau pobl anabl traws-lywodraethol.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 29: cyfranogiad mewn bywyd gwleidyddol a chyhoeddus
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 2
Byw’n Annibynnol, gofal cymdeithasol
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i gydweithio â sefydliadau pobl anabl i ddylunio a darparu ffrwd gyllido newydd sy’n mynd i’r afael ag anghenion gofal cymdeithasol.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 19: byw’n annibynnol a chynhwysiant yn y gymuned
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i gynnwys plant ac oedolion anabl wrth ystyried sut i fwrw ymlaen â gwaith i wreiddio hawliau pobl anabl.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 4: rhwymedigaethau cyffredinol
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 2/5
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i weithio gyda phobl anabl ar ganfyddiadau astudiaeth ddichonoldeb y Ganolfan Genedlaethol Byw’n Annibynnol.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 19: byw’n annibynnol a chynhwysiant yn y gymuned
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 5
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth i ddatblygu hyfforddiant i’r gweithlu iechyd (gan gynnwys staff iechyd mewn carchardai) a gofal cymdeithasol ar y model cymdeithasol o anabledd, gan sicrhau bod plant ac oedolion anabl yn cyd-gynhyrchu.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 25: iechyd
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i barhau i weithio gyda’r holl ddarparwyr, gan gynnwys awdurdodau lleol, i sicrhau bod unigolion anabl yn gallu byw’n annibynnol gartref, lle bynnag y bo hynny’n bosibl.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 19: byw’n annibynnol a chynhwysiant yn y gymuned
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i ddatblygu polisi ar gyfer mynediad prydlon i Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer babanod/plant byddar a’u teuluoedd.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 25: iechyd
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3/5
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i weithio gyda’i Harolygiaethau a’i Rheoleiddwyr Gofal Iechyd (AGIC) a Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol (AGC) i wreiddio’r model cymdeithasol o anabledd mewn canllawiau ar gyfer timau arolygu.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 25: iechyd
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i gynnull grŵp gorchwyl a gorffen i adolygu’r defnydd o fesurau economaidd iechyd, gan gynnwys Blynyddoedd Bywyd a Addaswyd yn ôl Ansawdd a Blynyddoedd Bywyd a Addaswyd yn ôl Anabledd, sy’n effeithio ar benderfyniadau ynghylch dyrannu adnoddau GIG Cymru, i archwilio unrhyw effaith wahaniaethol ar bobl anabl a gwneud argymhellion ar gyfer unrhyw newidiadau angenrheidiol.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 5: cydraddoldeb a pheidio â gwahaniaethu
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3
Cyfiawnder ac amgylcheddau cefnogol
Mynediad at gyfiawnder
Cam gweithredu
Is-adran Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Llywodraeth Cymru i gyfrannu cyllid i’r ymgyrch Mae Casineb yn Brifo Cymru 2025 i 2027, gan sicrhau bod ffocws ar droseddau yn erbyn pobl anabl.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 16: Rhyddid rhag cam-fanteisio, trais neu gamdriniaeth
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 4
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i adolygu adroddiad y Pwyllgor Rhyngwladol ar Hawliau Pobl Anabl (2024) a’i argymhellion, a’u rhoi ar waith lle bo hynny’n berthnasol.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 35: adroddiadau gwladwriaethau sy’n barti
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 2
Cam gweithredu
Rhoi mynediad cyfartal i ddioddefwyr a goroeswyr anabl at wasanaethau, a'r rheini'n wasanaethau croestoriadol o ansawdd uchel, y darperir adnoddau priodol ar eu cyfer, sy'n seiliedig ar gryfderau ac sy'n ymatebol ledled Cymru.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 16: rhyddid rhag cam-fanteisio, trais neu gamdriniaeth
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3/4
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i helpu pobl anabl i ddeall beth yw trosedd casineb/cyfeillio, sut i roi gwybod am y troseddau hyn a ble i gael cymorth, drwy gydweithio â phobl anabl a Sefydliadau Pobl Anabl.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 8: Cynyddu ymwybyddiaeth
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 4
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i wella ein mynediad at ddata ar y boblogaeth anabl mewn carchardai, gan gynnwys merched sydd yn y carchar yn Lloegr.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 31: ystadegau a chasglu data
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 2
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i sicrhau bod hyfforddiant priodol ar y model cymdeithasol o anabledd ar gael i gyfer staff iechyd ac addysg sy’n gweithio mewn carchardai, ac i gyflwyno sylwadau i asiantaethau partner ar bwysigrwydd hyfforddiant lle mai Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am staff cyfiawnder.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 4: rhwymedigaethau cyffredinol
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 2
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i sicrhau bod hawliau ac anghenion pobl anabl yn cael eu hadlewyrchu yn ein sylwadau ehangach i Lywodraeth y DU ar faterion cyfiawnder, yn enwedig ar faterion allweddol sy’n creu rhwystrau o ran cael mynediad at gyfiawnder.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 13: mynediad i gyfiawnder
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i sicrhau bod carcharorion yn cael eu hasesu’n briodol ac yn gynnar er mwyn gwella mynediad at addysg yng Nghymru. Byddai’r asesiad wedi’i gyfyngu i gyfathrebu at ddibenion addysg.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 24: addysg
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 1/3/5
Cam gweithredu
Wrth ddatblygu ei Strategaeth Atal ac Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol, bydd Llywodraeth Cymru’n sicrhau bod anghenion pobl anabl yn cael sylw blaenllaw.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 31: ystadegau a chasglu data
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 2/4
Mynediad at wasanaethau
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i addysgu ei thimau ym meysydd y Wasg, Gwasanaethau Cyfreithiol a Staff am y Model Cymdeithasol o Anabledd.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 8: cynyddu ymwybyddiaeth
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 2
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i addysgu Ysgrifenyddion y Cabinet, Gweinidogion a’u staff am y Model Cymdeithasol o Anabledd.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 8: cynyddu ymwybyddiaeth
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 2
Cam gweithredu
Bydd Llywodraeth Cymru’n cydweithio â sefydliadau pobl anabl i ddatblygu ymgyrch gyhoeddus i herio ableddiaeth, i hybu agweddau cadarnhaol, i fynd i’r afael â rhwystrau iaith i gymuned Iaith Arwyddion Prydain fyddar a siaradwyr Cymraeg, ac yn canolbwyntio ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl, gan dynnu sylw at yr hawl i fyw’n annibynnol a rhwystrau cymdeithas heb arian parod.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 8: cynyddu ymwybyddiaeth
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 2/5
Cam gweithredu
Llywodraeth Cymru i annog sefydliadau a chyflogwyr i benodi Hyrwyddwr Pobl Anabl a rhannu enghreifftiau o arferion da ac adnoddau.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Erthygl 27: gwaith a chyflogaeth
Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol
Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 2/6
