Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025: asesiad effaith integredig
Asesiad o effaith Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Adran 1: pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?
Mae Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (“y Gorchymyn Cynnal Etholiadau”) yn nodi’r rheolau manwl ar gyfer cynnal etholiadau i Senedd Cymru. Mae’n nodi'r ffordd y mae’r etholiad ac ymgyrch yr etholiad yn cael eu cynnal, ac mae’n cynnwys darpariaethau ar gyfer her gyfreithiol i etholiad.
Caiff y Gorchymyn Cynnal Etholiadau ei adolygu, ac yn gyffredinol mae wedi’i ddiwygio, cyn pob etholiad Senedd i adlewyrchu unrhyw newidiadau polisi neu newidiadau deddfwriaethol perthnasol sydd wedi digwydd ers yr etholiad blaenorol. Mae’r gorchmynion diwygio hefyd wedi gwneud diweddariadau technegol a/neu fân ddiweddariadau perthnasol megis diwygio terfynau penodol ar wariant ymgeiswyr.
Mae Gorchmynion a diwygiadau blaenorol wedi’u gwneud gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Yn sgil Deddf Cymru 2017, mae’r pŵer i wneud darpariaeth ar gyfer cynnal etholiadau’r Senedd wedi’i drosglwyddo i raddau helaeth i Weinidogion Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud y gyfraith yng Nghymru yn hygyrch ac yn hawdd ei defnyddio. Diwygiwyd Gorchymyn 2007 yn 2010, 2013 a dwywaith yn 2016. Gwnaed y diwygiad mwyaf diweddaraf yn 2021. Oherwydd nifer y diwygiadau, mae’r Gorchymyn Cynnal Etholiadau yn ddarn o ddeddfwriaeth sy’n fwyfwy cymhleth ac yn anodd ei defnyddio. O ganlyniad, ystyrir nad yw’r Gorchymyn Cynnal Etholiadau presennol yn addas i’r diben mwyach.
Yn ogystal, mae Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo yn flaenorol i adolygu’r Gorchymyn Cynnal Etholiadau (a gorchmynion diwygio cysylltiedig) i geisio ei gydgrynhoi a’i ail-wneud, yn ddwyieithog, mewn pryd ar gyfer etholiad 2026.
Mae nifer o ddarpariaethau’r Gorchymyn 2007 presennol wedi’u hailddatgan yng Ngorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (“y Gorchymyn”). Mae’r iaith wedi’i diweddaru lle bo hynny’n briodol i wella eglurder a hygyrchedd y ddeddfwriaeth ac i sicrhau bod iaith y Gorchymyn yn niwtral o ran rhywedd.
Mae nifer o ddiwygiadau wedi'u gwneud y mae angen i’r Gorchymyn eu hystyried. Mae’r Gorchymyn drafft bellach yn adlewyrchu’r canlynol:
- Newidiadau o sylwedd yn sgil Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024, gan gynnwys newidiadau i nifer yr etholaethau a nifer y seddi ar gyfer pob etholaeth, yn ogystal â diddymu’r pum rhanbarth etholiadol a newidiadau cysylltiedig eraill.
- Cryfhau a moderneiddio’r drosedd dylanwad amhriodol.
- Darpariaethau i wella hygyrchedd etholiadau’r Senedd ar gyfer pobl anabl.
- Newidiadau i wariant tybiannol.
- Newidiadau sydd wedi'u gwneud gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig mewn perthynas â dyroddi a derbyn papurau pleidleisio drwy’r post, sy’n golygu nad yw bellach yn bosibl cyfuno’r broses hon pan gyfunir polau etholiad Senedd ag etholiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Ymgynghorwyd â'r Comisiwn Etholiadol ynghylch y Gorchymyn drafft yn ystod yr hydref yn 2024, a chynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol rhwng 25 Tachwedd 2024 ac 17 Chwefror 2025.
Gwnaeth yr ymgynghoriad ffurfiol â rhanddeiliaid ar y Gorchymyn drafft dwyieithog (Cymraeg a Saesneg ) geisio barn ymarferwyr a rhanddeiliaid sydd â diddordeb mewn cyfraith etholiadol a gwybodaeth amdani.
Yn rhan o’r broses ymgynghori, cynhaliwyd pum digwyddiad ymgysylltu. Roedd siaradwyr Cymraeg yn bresennol yn y digwyddiadau hyn. Roedd y rhai a gymerodd ran yn cynnwys Swyddogion Canlyniadau, rheolwyr y gwasanaeth etholiadol, y Comisiwn Etholiadol, Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol, y Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau a phleidiau gwleidyddol. Bwriad y digwyddiadau oedd ceisio barn rhanddeiliaid a phrofi’r defnydd ymarferol o’r cynigion a oedd wedi’u cynnwys yn yr ymgynghoriad. Ymgynghorwyd yn anffurfiol hefyd wrth gynnal cyfarfodydd rheolaidd â rhanddeiliaid yn ystod y gwaith o ddatblygu’r Gorchymyn.
At hynny, fel y cytunwyd gan y Senedd, ystyriodd y Pwyllgor Biliau Diwygio y Gorchymyn drafft a chyhoeddwyd adroddiad gan y pwyllgor ar 27 Chwefror 2025. Roedd yr adroddiad yn cynnwys nifer o argymhellion yn ymwneud â nifer o feysydd yn y Gorchymyn drafft. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un o’r pum argymhelliad, neu eu derbyn mewn egwyddor.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)
Mae cyfatebiaeth glir rhwng y Gorchymyn drafft a’r pum ffordd o weithio a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (“Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol”). Trwy gydol y gwaith o ddatblygu'r cynnig hwn, mae'r Pum Ffordd o Weithio wedi'u hystyried a rhoddir sylw iddynt isod.
Ffyrdd o weithio: meddwl yn yr hirdymor
Mae'r Gorchymyn drafft yn gam arall yn ein huchelgais hirdymor ar gyfer diwygio etholiadol, gan adeiladu ar waith a gyflawnwyd yn ystod tymor diwethaf y Senedd. Mae’r Gorchymyn drafft yn ceisio ailddatgan a chydgrynhoi diwygiadau blaenorol i wneud y ddeddfwriaeth yn fwy hygyrch ac yn hawdd ei deall.
Ymysg ein huchelgeisiau hirdymor y mae'r canlynol:
- Cydgrynhoi’r gyfraith etholiadol (gan gynnwys ailddatgan yr etholfraint) mewn un ddeddf ddwyieithog.
- Diweddaru etholfraint dinasyddion yr UE i adlewyrchu eu statws ar ôl ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r UE.
- Rhoi’r etholfraint i rai carcharorion yng Nghymru.
- Hyblygrwydd i alluogi pobl i bleidleisio ar wahanol adegau ac mewn gwahanol leoliadau.
- Pleidleisio electronig.
Ffyrdd o weithio: atal
Trwy gydgrynhoi y Gorchymyn drafft gan felly gryfhau trefn gweinyddu etholiadau, bydd hyn yn helpu i sicrhau dulliau gwydn ar gyfer eu cynnal yn y dyfodol.
Ffyrdd o weithio: integreiddio
Bydd y Gorchymyn drafft a’r pecyn diwygio ehangach yn helpu i leihau’r diffyg democrataidd a byddant yn gwneud gwelliannau i etholiadau’r Senedd.
Ffyrdd o weithio: cydweithio
Rydym wedi gweithio’n agos ar draws y Llywodraeth a chyda’r gymuned etholiadol gan gynnwys awdurdodau lleol, Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol, y Comisiwn Etholiadol, llywodraethau eraill y Deyrnas Unedig a sefydliadau’r trydydd sector i ddatblygu ein cynigion ar gyfer diwygio etholiadol.
Ffyrdd o weithio: cynnwys
Ers datganoli etholiadau Cymreig drwy Ddeddf Cymru 2017, mae Llywodraeth Cymru wedi trafod nifer o opsiynau ar gyfer cyflawni diwygio etholiadol ac wedi ymgynghori arnynt.
Byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid drwy gydol y gwaith o weithredu’r Gorchymyn drafft.
Effaith y cynnig
Mae’r Gorchymyn drafft yn cefnogi diwygio etholiadol ac mae’n rhan o becyn ehangach o fesurau sy'n ceisio ceisio gwella democratiaeth yng Nghymru, ac mae hyn yn effaith gadarnhaol gyffredinol. Mae’r Gorchymyn hefyd yn cyd-fynd ag egwyddorion diwygio etholiadol, a amlinellir isod, a ddefnyddir i feincnodi agenda diwygio etholiadol a dull gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer hyrwyddo ymgysylltu a chyfranogiad democrataidd.
Egwyddorion diwygio etholiadol:
- Tegwch: rhaid galluogi pob person sy’n dymuno cymryd rhan mewn democratiaeth i wneud hynny, a gwneud hynny mewn amgylchedd diogel a pharchus, er mwyn i’n sefydliadau fod yn amrywiol ac yn gynrychioladol o’r bobl y maent yn eu gwasanaethu.
- Hygyrch: dylai newidiadau i systemau etholiadol a’r gyfraith etholiadol fod yn seiliedig ar yr egwyddor o wneud pleidleisio a chymryd rhan mewn democratiaeth mor hygyrch a chyfleus â phosibl, gan feithrin gallu i ganiatáu i hynny ddigwydd a hybu creadigrwydd ar bob lefel o ddemocratiaeth.
- Cyfranogiad: rydym am i gynifer o bobl â phosibl arfer eu hawl ddemocrataidd i bleidleisio. Rôl pawb sy’n ymwneud â gweinyddu etholiadol yw cynyddu nifer y bobl sy’n pleidleisio mewn etholiadau.
- Gwella profiad dinasyddion: dylid rhoi’r adnoddau i ddinasyddion lywio eu cymunedau a’u gwlad drwy ymgysylltu, cynrychioli a chyfranogi.
- Symlrwydd: rhaid moderneiddio’r system etholiadol weinyddol a’r gyfraith etholiadol yng Nghymru er mwyn sicrhau bod cofrestru i bleidleisio, pleidleisio a chymryd rhan yn symlach i ddinasyddion.
- Uniondeb: rhaid i uniondeb a thryloywder fod yn sail i’r holl ddiwygiadau etholiadol yng Nghymru. Rhaid i ni gael system y mae dinasyddion yn ymddiried ynddi yn ogystal â rhannu gwybodaeth o ffynonellau dilys.
Bydd y Gorchymyn drafft yn cael effaith gadarnhaol gyffredinol ar hygyrchedd yn etholiadau Senedd Cymru, gan ei fod yn cyflwyno dyletswydd i Swyddogion Canlyniadau ddarparu offer a ystyrir yn rhesymol at ddibenion ei gwneud hi’n haws i bobl anabl bleidleisio. Caiff hyn ei ategu gan ganllawiau a fydd yn cael eu cynhyrchu gan y Comisiwn Etholiadol yn ogystal ag ymgynghori arnynt. Ar gyfer etholiadau’r Deyrnas Unedig, roedd hyn yn cynnwys isafswm yr offer y dylid eu darparu, gan gynnwys cadeiriau, chwyddwydrau, dyfeisiau pleidleisio cyffyrddadwy, rampiau, clychau drws a mannau parcio i’r anabl.
Mae mesurau hygyrchedd pellach yn cynnwys newidiadau i’r iaith a ddefnyddir drwy gydol y Gorchymyn drafft, sydd bellach yn niwtral o ran rhywedd. Mae’r ddeddfwriaeth hefyd wedi’i drafftio mewn modd sy’n gwella eglurder.
Yn ogystal, bydd effaith gadarnhaol ar y Gymraeg. Bydd y Gorchymyn drafft yn gwbl ddwyieithog am y tro cyntaf, gan gynnwys ffurflenni a chyfarwyddiadau cysylltiedig. Pan fo gofynion i ddarparu ffurflenni yn Gymraeg a Saesneg, mae darpariaethau yn y Gorchymyn drafft hefyd yn sicrhau bod y Gymraeg yn dod o flaen y Saesneg.
Costau ac arbedion y cynnig
Mae costau ac arbedion amcangyfrifedig wedi’u nodi yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft, a gyhoeddir ochr yn ochr â’r asesiad effaith integredig hwn.
Mecanwaith y cynnig
Mae angen is-ddeddfwriaeth i gyflawni'r Gorchymyn drafft.
Adran 8: casgliad
Sut y mae pobl sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan y cynnig wedi'u cynnwys yn y gwaith o'i ddatblygu?
Cynhaliwyd gweithgarwch ymgysylltu â’r Comisiwn Etholiadol drwy gydol y gwaith o ddatblygu’r Gorchymyn drafft a chynhaliwyd gweithgarwch ymgynghori anffurfiol yn ystod yr hydref yn 2024. Mae’r adborth a gafwyd gan y Comisiwn Etholiadol wedi bod yn hanfodol wrth ddatblygu’r Gorchymyn.
At hynny, ymgynghorwyd yn ffurfiol ar y Gorchymyn drafft rhwng 25 Tachwedd 2024 ac 17 Chwefror 2025. Gwnaeth yr ymgynghoriad ffurfiol â rhanddeiliaid ar y Gorchymyn dwyieithog geisio barn ymarferwyr a rhanddeiliaid sydd â diddordeb mewn cyfraith etholiadol a gwybodaeth amdani. Mae’r ymatebion a ddaeth i law wedi bod o gymorth i ddatblygu ymhellach y darpariaethau yn y Gorchymyn.
Yn ystod y gwaith o ddatblygu’r Gorchymyn, trafodwyd materion penodol, yn ôl yr angen, â Chymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol, y Comisiwn Etholiadol a Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Cynhaliwyd un digwyddiad cyn ymgynghori gyda gweinyddwyr a chynhaliwyd pedwar digwyddiad ymgynghori a oedd yn cynnwys Swyddogion Canlyniadau, gweinyddwyr etholiadol, Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol, y Comisiwn Etholiadol, y Bwrdd Rheoli Etholiadol, pleidiau gwleidyddol a chynrychiolwyr sefydliadau sy’n ymwneud â meithrin diddordeb mewn democratiaeth Cymru.
Yn dilyn adborth a gafwyd gan randdeiliaid yn ystod y cyfnod ymgynghori ar y weithdrefn cywiro datganiadau pleidlais drwy’r post, nid yw’r ddarpariaeth wedi’i chynnwys yn y Gorchymyn terfynol. Bydd hyn yn caniatáu cynnal gweithgarwch ymgysylltu pellach â gweinyddwyr etholiadol i ddatblygu a mireinio’r weithdrefn ac ystyried opsiynau i’w cyflwyno yn ddiweddarach.
Yn rhan o'r ymgynghori ar y Papur Gwyn ar Weinyddu a Diwygio Etholiadol a gynhaliwyd rhwng mis Hydref 2022 a mis Gorffennaf 2023, ymgynghorwyd hefyd ar rai cynigion polisi a chraffwyd arnynt yn ystod pasio Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru).
Beth yw’r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?
Effaith fwyaf arwyddocaol y Gorchymyn drafft yw adlewyrchu newidiadau i’r system etholiadol ar gyfer etholiadau’r Senedd yn dilyn pasio Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 yn ogystal â newidiadau i adlewyrchu diwygiadau etholiadol a gyflwynwyd gan Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) ar gyfer etholiadau llywodraeth leol.
Dyma’r tro cyntaf i’r ddeddfwriaeth hon gael ei gwneud yn ddwyieithog. Er bod y mwyafrif o'r gyfraith wedi’i hailadrodd, mae camau wedi'u cymryd i adlewyrchu technegau drafftio modern, er mwyn gwella hygyrchedd y darpariaethau ac i ddefnyddio iaith sy'n niwtral o ran rhywedd. Ystyrir bod hyn yn effaith gadarnhaol.
Daw'r prif newidiadau yn y Gorchymyn drafft yn sgil newidiadau deddfwriaethol sydd wedi'u cyflwyno gan Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 a Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024. Mae'r newidiadau hyn yn cynnwys y canlynol:
- Darpariaeth i newid system etholiadol y Senedd fel bod yr holl Aelodau yn cael eu hethol drwy system rhestr gyfrannol gaeedig, gyda’r pleidleisiau’n cael eu trosi i seddi drwy fformiwla D’Hondt.
- Dyluniad y rhestr a gyflwynwyd gan Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024, sy’n cynnwys gallu ymgeiswyr annibynnol i sefyll. Bydd pleidiau gwleidyddol cofrestredig yn pennu trefn ymgeiswyr ar eu rhestr ar adeg eu henwebu, a bydd seddi’n cael eu dyrannu i’r pleidiau ar sail eu rhestr.
- Darpariaethau yn Neddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 sy’n dwyn ymgeiswyr ac asiantiaid i gyfrif am wariant tybiannol dim ond pan fyddant yn ei gyfarwyddo a chaniatáu i bersonau awdurdodedig wneud taliadau heblaw drwy asiant etholiad.
- Mae’r drosedd dylanwad amhriodol yn erthygl 83 wedi’i diweddaru i foderneiddio a chryfhau’r iaith a ddefnyddir i ddisgrifio’r drosedd. Mae hyn yn adlewyrchu’r newidiadau yn sgil Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) i’r ddarpariaeth gyfatebol yn Neddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 mewn perthynas ag etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru. Mae hefyd yn adlewyrchu’r dull a roddir ar waith ar gyfer etholiadau’r Deyrnas Unedig drwy Ddeddf Etholiadau 2022.
- Ceir diwygiadau hefyd i’r fframwaith presennol o ran rheolau etholiadol yng Nghymru er mwyn adlewyrchu darpariaethau Deddf Etholiadau 2022 i wella pa mor hygyrch yw etholiadau i bobl anabl.
Mae’r Gorchymyn drafft yn cyflawni yn erbyn y Rhaglen Lywodraethu bresennol ac mae’n rhan o becyn ehangach o ddiwygiadau a fydd yn cryfhau democratiaeth yng Nghymru. Mae hefyd yn gam cadarnhaol ymlaen o ran gwneud democratiaeth yn hygyrch i bawb.
Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut bydd y cynnig:
- yn gwneud cymaint o gyfraniad â phosibl at y nodau llesiant a'r saith nod llesiant
- yn osgoi, lleihau neu'n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?
Nodau llesiant
Cymru sy’n Fwy Cyfartal: bydd y darpariaethau ynghylch hygyrchedd sydd wedi'u cynnwys yn y Gorchymyn drafft yn helpu i gyfrannu at y nod llesiant hwn. Gan mai dyma’r tro cyntaf i’r Gorchymyn gael ei ail-wneud yn ei gyfanrwydd a’r ffaith bod y Gorchymyn yn cael ei ail-wneud i wella ei hygyrchedd ar ôl diwygiadau sylweddol i etholiadau datganoledig yng Nghymru, ystyrir bod hyn hefyd yn cyfrannu at y nod hwn.
Ceir diwygiadau hefyd i’r rheolau etholiadol er mwyn adlewyrchu darpariaethau Deddf Etholiadau 2022 i wella pa mor hygyrch yw etholiadau i bobl anabl.
Mae enghreifftiau o’r newidiadau niferus i'r fformadu sydd wedi'u cyflwyno at ddibenion gwella hygyrchedd y Gorchymyn yn cynnwys y canlynol:
- Mae iaith y Gorchymyn wedi’i moderneiddio lle bo hynny’n bosibl.
- Mae erthygl 5 o'r Gorchymyn yn gwahaniaethu’n glir tri math o bleidleisiwr o ran sut y gallant bleidleisio.
- Mae’r erthygl ddehongli (erthygl 37) wedi’i symud i flaen Rhan 3. Bwriad y newid hwn yw rhoi gwybod i’r darllenydd am y diffiniadau cyn ystyried y darpariaethau o sylwedd yn y Rhan hon, gan felly wella hygyrchedd.
- Newidiadau fformadu i erthygl 71, erthygl 73, Atodlen 1, Atodlen 2 ac Atodlen 4.
- O dan Ran 2 o Atodlen 5, mae’r ddyletswydd ar y Swyddog Canlyniadau i gyflenwi ffurflenni enwebu ac ati bellach yn rheol annibynnol i sicrhau hygyrchedd y gyfraith ymhellach.
Yn ogystal, mae rhai darpariaethau eraill a gyflwynwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhan o Ddeddf Etholiadau 2022 hefyd wedi’u hadlewyrchu yn y Gorchymyn drafft er mwyn sicrhau cysondeb i weinyddwyr, ymgyrchwyr a phleidleiswyr.
Pan fo newid polisi wedi’i wneud, mae wedi’i wneud i geisio rhoi mwy o wybodaeth i bleidleiswyr, sicrhau proses sy'n fwy syml i ymgeiswyr a gweinyddwyr ei dilyn neu i gael gwared ar rwystrau o ran sefyll mewn etholiadau neu gymryd rhan ynddynt.
Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae’r Gymraeg yn Ffynnu: bydd y Gorchymyn drafft yn cael ei wneud yn gwbl ddwyieithog am y tro cyntaf, gan gyfrannu'n sylweddol at y nod llesiant hwn. Mae camau hefyd wedi’u cymryd i sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg o ran ffurf y Gorchymyn a rhai darpariaethau.
Amcanion llesiant
Mae gan Lywodraeth Cymru 10 amcan llesiant a ddefnyddir i sicrhau'r cyfraniad mwyaf tuag at y nodau llesiant.
Mae’r 10 amcan llesiant fel a ganlyn:
1. Darparu gofal iechyd effeithiol, cynaliadwy ac o ansawdd uchel
Ni fydd y Gorchymyn drafft yn effeithio’n uniongyrchol ar yr amcan hwn.
2. Parhau â’n rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg, a sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau’n codi
Ni fydd y Gorchymyn drafft yn effeithio’n uniongyrchol ar yr amcan hwn.
3. Diogelu, ailadeiladu a datblygu ein gwasanaethau ar gyfer pobl agored i niwed
Ni fydd y Gorchymyn drafft yn effeithio’n uniongyrchol ar yr amcan hwn.
4. Dathlu amrywiaeth a gweithredu i ddileu anghydraddoldeb o bob math
Mae’r Gorchymyn drafft yn cyflwyno darpariaethau diwygiedig sy’n ymwneud â hygyrchedd a’r offer sydd i’w darparu mewn gorsafoedd pleidleisio i gynorthwyo pleidleiswyr anabl, a bydd felly yn helpu i gyfrannu at yr amcan hwn.
5. Adeiladu economi ar sail egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol
Ni fydd y Gorchymyn drafft yn effeithio’n uniongyrchol ar yr amcan hwn.
6. Bwrw ymlaen tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg, a galluogi twristiaeth, chwaraeon a’r celfyddydau i ffynnu
Bydd y Gorchymyn drafft yn cael ei wneud yn gwbl ddwyieithog am y tro cyntaf a bydd felly yn helpu i gyfrannu at yr amcan hwn.
7. Adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth inni wneud cymaint o gynnydd ag y bo modd tuag at ddatgarboneiddio
Ni fydd y Gorchymyn drafft yn effeithio’n uniongyrchol ar yr amcan hwn.
8. Gwneud ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi yn lleoedd gwell byth i fyw a gweithio ynddynt
Ni fydd y Gorchymyn drafft yn effeithio’n uniongyrchol ar yr amcan hwn.
9. Ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn
Ni fydd y Gorchymyn drafft yn effeithio’n uniongyrchol ar yr amcan hwn.
10. Arwain Cymru mewn sgwrs genedlaethol ar y cyd ynglŷn â’n dyfodol cyfansoddiadol, a rhoi’r presenoldeb cryfaf posibl i’n gwlad ar y llwyfan byd-eang
Bydd y Gorchymyn drafft yn helpu i gyfrannu at yr amcan hwn gan ei fod yn cyflwyno rhai rhannau ynghylch diwygio'r Senedd a diwygio etholiadol.
Sut bydd effaith y cynnig yn cael ei fonitro a'i werthuso wrth iddo fynd rhagddo a phryd y bydd yn dod i ben?
Bydd effaith y Gorchymyn drafft yn cael ei monitro a'i gwerthuso drwy weithgarwch ymgysylltu â rhanddeiliaid. Bydd yr ymgysylltu hwn yn helpu i fonitro effeithiolrwydd y newidiadau a ddaw yn sgil y Gorchymyn drafft.
Bydd y Gorchymyn yn cael ei asesu cyn Etholiadau’r Senedd yn y dyfodol i geisio nodi unrhyw ddiwygiadau posibl. Y bwriad yw y bydd yn cael ei adolygu yn dilyn gwaith craffu ar y Bil Pleidleisio Absennol (Etholiadau yng Nghymru a’r Alban) gan hefyd ystyried effaith unrhyw ddiwygiadau etholiadol sydd ar ddod gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
