Swyddi Llywodraeth Cymru: canllawiau recriwtio ymgeiswyr allanol
Canllauwiau i’ch helpu I lenwi’r ffurflen gais.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Croeso
Diolch am eich diddordeb mewn ymuno â thîm Llywodraeth Cymru.
Ein cenhadaeth yw darparu cefnogaeth i’r Prif Weinidog a Gweinidogion Cymru i greu Cymru decach, fwy cyfartal, a gwyrddach. Mae gwasanaethu pobl Cymru yn destun balchder i ni ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu safonau uchel o dryloywder, gan ddangos gonestrwydd, gwrthrychedd, uniondeb a didueddrwydd ym mhopeth a wnawn.
Mae cydweithio wrth wraidd ein dull gweithredu. Rydym yn gwerthfawrogi pobl sy'n gallu datblygu cysylltiadau cryf a llawn parch ar draws ystod eang o rolau a chefndiroedd. Mae fframwaith partneriaeth gymdeithasol y Prif Weinidog yn hyrwyddo cydweithio â'n partneriaid er mwyn datrys problemau a chwilio am atebion i’r heriau sy’n ein hwynebu fel cenedl.
Mae gennym draddodiad cryf o weithio mewn partneriaeth ag undebau llafur ac rydym yn annog staff i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig. Mae hwn yn ddull pwysig o sicrhau bod llais pawb yn cael ei glywed yn y gweithle.
Rydym yn ceisio creu amgylchedd gwaith sy'n gynhwysol, yn ysgogol, ac yn gefnogol – lle mae pobl yn gallu ffynnu, tyfu a chyfrannu mewn ffordd ystyrlon. Mae amrywiaeth o ran syniadau a phrofiad yn allweddol i'n llwyddiant, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o bob cefndir.
Mae Llywodraeth Cymru yn atebol i bobl Cymru drwy Senedd Cymru, ac rydym yn cymryd y cyfrifoldeb hwn o ddifrif. Ein nod yw adlewyrchu gwerthoedd creadigrwydd, tegwch, partneriaeth a phroffesiynoldeb ym mhopeth a wnawn.
I gael rhagor o wybodaeth am fanteision gweithio i Lywodraeth Cymru, edrychwch ar: Swyddi Llywodraeth Cymru: buddion i weithwyr.
Rydym yn gobeithio y bydd y canllawiau hyn ar gyfer ymgeiswyr yn eich cefnogi gyda'ch cais. Maen nhw’n cynnwys cyngor ar:
- y broses asesu
- sut i ddangos eich sgiliau, eich profiad a’ch gallu
- telerau penodiad
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y canllawiau hyn neu’r broses ymgeisio, e-bostiwch: DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru.
2. Egwyddorion recriwtio’r Gwasanaeth Sifil
Rydym yn recriwtio ar sail teilyngdod a chystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn egwyddorion recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.
3. Cod y Gwasanaeth Sifil
Fel Gwas Sifil, fe’ch penodir yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored, ac mae disgwyl i chi ymgymryd â’ch rôl ag ymroddiad ac ymrwymiad i’r Gwasanaeth Sifil a’i werthoedd craidd. Mae rhagor o wybodaeth am god y Gwasanaeth Sifil ar gael yn:
Cod y Gwasanaeth Sifil ar GOV.UK
4. Gofynion cenedligrwydd
Gweler y wybodaeth am ofynion cenedligrwydd:
Recriwtio'r Gwasanaeth Sifil: rheolau cenedligrwydd ar GOV.UK.
Yn gyffredinol, gall y grwpiau canlynol ymgeisio am swyddi:
- Gwladolion y DU
- Gwladolion gwledydd y Gymanwlad sydd â’r hawl i weithio yn y DU.
- Gwladolion Gweriniaeth Iwerddon.
- Gwladolion o’r UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu’r Swistir sydd â statws preswylydd sefydlog neu statws preswylydd cyn-sefydlog neu sy’n gwneud cais am y naill statws neu’r llall erbyn dyddiad cau y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (EUSS).
- Gwladolion perthnasol o’r UE, AEE, y Swistir neu Dwrci sy’n gweithio yn y Gwasanaeth Sifil.
- Gwladolion perthnasol o’r UE, AEE, y Swistir neu Dwrci sydd wedi sicrhau’r hawl i weithio yn y Gwasanaeth Sifil.
- Rhai o aelodau teulu gwladolion perthnasol o’r UE, AEE, y Swistir neu Dwrci.
Nawdd
Oni nodir yn yr hysbyseb, nid yw Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorth nawdd. Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod â’r hawl gyfreithiol i weithio yn y DU.
5. Cydraddoldeb, amrywiaeth a’r Gymraeg
Amrywiaeth a chydraddoldeb
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy'n croesawu amrywiaeth ac sy'n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae'r egwyddorion hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac maent yn cael eu cynnal yn ystod pob cam o'r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod y gwerthoedd hyn yn rhan annatod nid yn unig o'n prosesau recriwtio, ond hefyd o'n harferion gwaith bob dydd gyda chwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid. Rydym wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth ar draws y sefydliad, dileu rhwystrau a chefnogi pob aelod o staff i wireddu eu potensial llawn.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol (gan gynnwys priodas gyfartal a phriodas rhwng pobl o’r un rhyw) a phartneriaeth sifil, cyfeiriadedd rhywiol, rhyw, hunaniaeth o ran rhywedd, amhariad neu gyflwr iechyd, hil, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth.
Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall ac rydym yn eu rhestr o’r 100 cyflogwr uchaf gan ennill gwobr Aur yn 2023. Rydym yn sefydliad Hyderus o ran Anabledd (Arweinydd). Rydym wedi llofnodi Siarter Troseddau Casineb Cymorth i Ddioddefwyr, Siarter Hil yn y Gwaith Busnes yn y Gymuned ac addewid Pledge to be Seen gan Changing Faces sy’n cefnogi pobl â gwahaniaeth gweladwy. Mae pum Rhwydwaith Staff sy’n cael eu noddi gan y Bwrdd yn allweddol er mwyn cefnogi’r gwaith hwn ac er mwyn rhoi cefnogaeth gan gymheiriaid, sef (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Materion y Meddwl; Rhwydwaith Staff Lleiafrifoedd Ethnig (MESN); PRISM (Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol, Drawsryweddol, Ryngryw +) a Menywod Ynghyd).
Recriwtio dienw
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu proses recriwtio ddienw. Ni fydd y panel recriwtio yn gweld gwybodaeth bersonol fel enw a chyfeiriad ymgeisydd yn ystod y broses sifftio. Mae’r polisi hwn yn cyd-fynd â’n hymrwymiad i ddileu rhagfarn a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Cynlluniau Cyfweliadau Cynhwysol
Rydym wedi ymrwymo i'r cynlluniau canlynol:
Hyderus o ran anabledd
Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy’n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn gweithredu mewn modd sy’n anablu pobl ag amhariad neu gyflwr iechyd, neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Rydym wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau fel y gall pob aelod o staff (neu ddarpar aelod o staff) berfformio ar ei orau. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn defnyddio'r diffiniad meddygol o anabledd (“amhariad corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu unigolyn i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd”).
Mae Llywodraeth Cymru yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Fel rhan o'n hymrwymiad i'r cynllun hwn, rydym yn cyfweld ag unrhyw ymgeisydd sydd ag amhariad, cyflwr iechyd, sy'n niwrowahanol neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain os yw'n bodloni'r meini prawf gofynnol ar gyfer y swydd (a ddiffinnir fel arfer fel sgôr o 4 o leiaf ar gyfer pob maen prawf). Dylai ymgeiswyr cymwys roi tic yn y blwch perthnasol ar y ffurflen gais os ydynt yn dymuno cael eu hystyried ar gyfer y cynllun hwn. Ar ôl y cam asesu cyn y cyfweliad, bydd y Tîm Recriwtio yn hysbysu'r panel am unrhyw ymgeiswyr cymwys sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol ond na chawsant eu dewis yn wreiddiol am gyfweliad.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu pobl anabl yn eu swydd a’u gyrfa. Os oes gennych amhariad neu gyflwr iechyd, neu os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, ac os hoffech drafod addasiadau i'ch cefnogi yn ystod unrhyw ran o'r broses recriwtio - neu archwilio sut y gallwn eich cefnogi os byddwch yn llwyddiannus - e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru cyn gynted â phosibl. Bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion ac unrhyw gwestiynau sydd gennych. Hefyd, gallwch gysylltu â'r Tîm Amrywiaeth mewn Recriwtio yn uniongyrchol am gyngor cyfrinachol.
Gweithle gwych i gyn-aelodau’r lluoedd arfog
Os ydych wedi cwblhau o leiaf flwyddyn yn Lluoedd Arfog Ei Fawrhydi - naill ai fel aelod parhaol neu aelod wrth gefn - ac yn trosglwyddo o'r Lluoedd Arfog, neu os nad ydych yn aelod mwyach, gallwch wneud cais am swydd yn y Gwasanaeth Sifil o dan y fenter Gweithle Gwych i Weithio i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog. Fel rhan o'n hymrwymiad i'r cynllun hwn, rydym yn cyfweld ag unrhyw ymgeiswyr cymwys sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol ar gyfer y swydd (sy'n cael eu diffinio fel arfer fel sgôr o 4 o leiaf ar gyfer pob maen prawf). Os hoffech gael eich ystyried o dan y fenter hon, dylech roi tic yn y blwch perthnasol ar y ffurflen gais.
Cynllun cyfweliad adleoli
Gall cyflogwyr y Gwasanaeth Sifil gynnig cyfweliad i nifer teg a chymesur o weision sifil y mae eu swydd mewn perygl o gael ei dileu ac sy’n bodloni'r meini prawf gofynnol ar gyfer y swydd (sy'n cael eu diffinio fel arfer fel sgôr o 4 o leiaf ar gyfer pob maen prawf). Er enghraifft, efallai y bydd eich swydd mewn perygl os yw eich maes gwaith wedi dechrau cynllun diswyddo gwirfoddol neu orfodol yr ydych yn gymwys ar ei gyfer, neu os ydych yn ymwybodol bod eich cyflogwr wedi dechrau ymgynghori ar sut i leihau nifer y staff yn eich tîm neu’ch maes gwaith. Os hoffech gael eich ystyried o dan y cynllun hwn, dylech roi tic yn y blwch perthnasol ar y ffurflen gais.
6. Y Gymraeg
Mae Cymru yn wlad ddwyieithog lle mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu defnyddio’n rheolaidd yn ein bywydau a’n gweithleoedd bob dydd. Mae gan y Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru. Mae mesurau ar waith i sicrhau nad yw’n cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg. Mae’r Prif Weinidog wedi nodi ei weledigaeth ar gyfer dyfodol yr iaith yn ein strategaeth Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr. Gweledigaeth y Llywodraeth hon yw gweld nifer y bobl sy’n gallu siarad a defnyddio’r Gymraeg yn cyrraedd miliwn erbyn 2050. Mae hefyd am ddyblu canran y bobl sy’n defnyddio’r iaith bob dydd.
Fel sefydliad, mae rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ddarparu gwasanaethau a gwybodaeth i’r cyhoedd yn Gymraeg, er enghraifft darparu gohebiaeth a chylchlythyrau dwyieithog ac ateb y ffôn yn ddwyieithog. Nodir y manylion yn Safonau’r Gymraeg.
Mae’r safonau hefyd yn sicrhau bod gwasanaethau mewnol ar gael yn Gymraeg i gyflogeion, megis: mewnrwyd ddwyieithog, dogfennau Adnoddau Dynol, offer TG i'n helpu i weithio'n ddwyieithog.
Rydym am gefnogi ein cyflogeion i wella eu sgiliau iaith ar bob lefel. Mae gennym lawer o gyfleoedd i’n staff ddechrau dysgu neu loywi’r sgiliau sydd ganddynt eisoes. Mae ein strategaeth ar gyfer gweithio’n ddwyieithog, Cymraeg. Mae’n perthyn i ni i gyd yn nodi ein huchelgais i fod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog erbyn 2050. Ein nod cychwynnol yw dod yn sefydliad sy’n dangos esiampl o ran ein defnydd o’r iaith dros y pum mlynedd nesaf.
Mae Llywodraeth Cymru felly’n cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu ei gweithlu dwyieithog. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na’r rhai a wneir yn Saesneg. Gallwch hefyd ofyn am gyfweliad drwy gyfrwng y Gymraeg a delio â ni drwy gyfrwng y Gymraeg drwy gydol y broses recriwtio.
7. Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol (ChatGPT/CoPilot)
Gall Deallusrwydd Artiffisial fod yn adnodd defnyddiol i gefnogi’ch cais. Fodd bynnag, rhaid i’r holl enghreifftiau a datganiadau a ddarperir fod yn wir, yn ffeithiol gywir ac yn uniongyrchol seiliedig ar eich profiad personol chi. Os nodir llên-ladrad (cyflwyno syniadau a phrofiadau eraill, neu rai sydd wedi’u cynhyrchu gan Ddeallusrwydd Artiffisial, fel eich syniadau neu eich profiadau eich hun) gellir tynnu’r ceisiadau yn ôl a gall ymgeiswyr mewnol fod yn destun camau disgyblu. Gweler ein canllawiau i ymgeiswyr ar Ddeallusrwydd Artiffisial am ragor o wybodaeth am ddefnydd priodol ac amhriodol.
8. Sut i wneud cais
I ymgeisio, gofynnir i chi gofrestru am gyfrif ar system recriwtio ar-lein Llywodraeth Cymru gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost. Rydym yn argymell eich bod yn dewis cyfeiriad cyfrif e-bost y mae gennych fynediad ato bob amser, gan mai dyma fydd ein prif ddull o gyfathrebu gyda chi.
Gadewch ddigon o amser i gwblhau'r cais. Mae botwm 'Cadw a Pharhau' ar waelod pob un o'r tudalennau ar y cais sy’n golygu y gallwch adael a dychwelyd i'ch cais. Sylwch hefyd y bydd cyfnod o anweithgarwch o 3 awr yn golygu na fydd y dudalen yn parhau yn weithredol. Byddwch yn derbyn neges i’ch rhybuddio munud cyn yr amser er mwyn gallu ymestyn eich sesiwn.
Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg, ac ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg. Yn achos rhai swyddi lle mae’r Gymraeg yn hanfodol, dim ond ceisiadau Cymraeg y byddwn yn eu derbyn. Gofalwch eich bod wedi deall yr hyn sy’n ofynnol gennych o’r hysbyseb. I weld fersiwn Gymraeg y swydd, cliciwch ar y botwm toglo ‘Newid Iaith / Change Language’ ar ochr dde uchaf y dudalen. Nodwch nad oes modd newid i wneud cais yn Saesneg unwaith y byddwch wedi dechrau gwneud cais yn Gymraeg ar gyfer swydd benodol, wrth ddefnyddio’r un cyfrif defnyddiwr.
Os byddwch yn cael unrhyw drafferth, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses, cysylltwch â DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru.
9. Y broses asesu
Gall y meini prawf a'r broses asesu amrywio yn ôl y math o gyfle sy'n cael ei hysbysebu, felly mae'n bwysig cyfeirio at yr hysbyseb swydd am fanylion penodol.
Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r fframwaith Proffiliau Llwyddiant fel sail i’n proses asesu. Mae'r dull hwn yn cael ei ddefnyddio ym mhob rhan o'r Gwasanaeth Sifil ac mae'n ystyried pum elfen allweddol : Ymddygiadau, Profiad, Cryfderau, Technegol a Gallu. Bydd yr elfennau penodol a ddefnyddir yn amrywio yn unol â natur y swydd. Isod, ceir trosolwg byr o'r hyn y mae pob elfen yn ceisio ei asesu o fewn proses recriwtio.
Elfennau Proffil Llwyddiant
Ymddygiadau
Mae cwestiynau ymddygiad yn canolbwyntio ar y camau rydych chi wedi'u cymryd - neu y byddech chi'n eu cymryd - sy'n dangos perfformiad effeithiol mewn swydd. Bydd y panel yn chwilio am enghreifftiau sy'n dangos sut mae eich ymddygiad yn cyfrannu at lwyddiant, nid yn unig yr hyn a wnaethoch, ond sut y gwnaethoch hynny a pham.
Profiad
Mae profiad yn cyfeirio at wybodaeth neu feistrolaeth o bwnc neu weithgaredd a enillwyd trwy gyfranogiad neu gysylltiad uniongyrchol. Rydym yn chwilio am enghreifftiau clir, ymarferol sy'n dangos eich galluogrwydd a'ch dealltwriaeth.
Cryfderau
Mae cwestiynau am gryfderau yn cael eu gofyn yn y cam cyfweliad yn unig a'u nod yw ceisio sicrhau atebion naturiol nad ydynt wedi'u hymarfer ymlaen llaw. Maen nhw'n archwilio'r hyn rydych chi'n ei wneud yn rheolaidd, yr hyn rydych chi'n ei wneud yn dda a’r hyn sy'n eich ysgogi. Nid oes disgwyl na gofyn i chi baratoi ar gyfer cwestiynau cryfderau cyn y cyfweliad, er y byddai efallai’n fuddiol treulio rhywfaint o amser yn meddwl am yr hyn rydych chi’n mwynhau ei wneud a’r hyn rydych chi’n ei wneud yn dda.
Technegol
Nod y rhain yw archwilio eich sgiliau proffesiynol, eich gwybodaeth dechnegol, eich dealltwriaeth a’ch profiad mewn cyd-destun penodol. Gallant gynnwys cwestiynau sy’n ymwneud â fframweithiau cymwyseddau proffesiynol penodol neu sy'n archwilio eich cymwysterau neu eich gwybodaeth broffesiynol.
10. Camau asesu
Gall nifer y camau asesu amrywio yn ôl y math o recriwtio ond fel arfer maent yn cynnwys dau gam: Cais (Sifftio) a Chyfweliad.
Gall rhai cynlluniau gynnwys camau ychwanegol, fel prawf ar-lein. Mae'r camau hyn yn gallu bod yn rhai annibynnol neu'n rhan o gyfweliad. Bydd canllawiau yn cael eu darparu pan gewch eich gwahodd i wneud y profion. Os oes angen addasiad recriwtio arnoch (er enghraifft, os nad yw’ch technoleg gynorthwyol yn gydnaws â’r prawf) dylech gysylltu â DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru cyn gynted â phosibl. Bydd methu â chwblhau unrhyw brawf neu ymarferiad erbyn y dyddiad cau a nodir yn golygu na fydd cais yn symud ymlaen i’r cam nesaf.
Cais (Sifftio)
Cyn i chi gyflwyno cais, darllenwch yr hysbyseb swydd yn ofalus gan sicrhau y gallwch ddarparu tystiolaeth glir yn erbyn y meini prawf a restrir. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y meini prawf neu'r broses asesu, rydym yn eich annog i gysylltu â'r rheolwr recriwtio i ofyn am eglurhad.
Dylech feddwl am y dyddiad cau wrth gynllunio eich cais; mae hwn yn ddyddiad cau penodol nad oes modd ei ymestyn oni bai bod addasiad recriwtio wedi'i gytuno ymlaen llaw.
Wrth gwblhau ffurflen gais bydd gofyn i chi ddarparu manylion am eich cymhwystra, eich addysg, a’ch hanes cyflogaeth. Yna byddwch yn cyflwyno eich tystiolaeth yn erbyn y meini prawf asesu mewn un o ddau fformat:
- Fformat ffurflen gais - sy'n cynnwys blwch i'w lenwi ar gyfer pob maen prawf sy'n cael ei brofi
- Fformat Datganiad o Addasrwydd – lle rydych chi'n ymateb i'r holl feini prawf sy'n cael eu profi mewn un blwch
Hon yw rhan bwysicaf eich cais gan y bydd yn cael ei hasesu gan banel recriwtio. Wrth ddewis pa enghreifftiau fydd yn dangos y meini prawf gofynnol orau, ystyriwch y cyngor canlynol:
- Ar gyfer meini prawf sy'n seiliedig ar brofiad blaenorol, dylech fyfyrio ar enghreifftiau penodol o'ch cyflawniadau - yn ddelfrydol o'r blynyddoedd diwethaf. Dewiswch sefyllfaoedd lle mae eich gweithredoedd wedi cael effaith glir, a dangoswch y sgiliau neu'r ymddygiadau sy'n cael eu hasesu.
- Ar gyfer cwestiynau sy'n seiliedig ar senario, gofynnir i chi sut y byddech chi'n ymateb i sefyllfa. Mae'r cwestiynau hyn wedi'u cynllunio i archwilio eich potensial, eich creadigrwydd a'ch dull o ddatrys problemau, nid eich profiad blaenorol yn unig. Meddyliwch am:
- Sut y byddech chi'n asesu'r sefyllfa
- Pa gamau y byddech chi'n eu cymryd
- Sut byddech chi'n cyfathrebu ac yn cydweithio ag eraill
- Pa ganlyniad y byddech chi'n ceisio ei sicrhau a pham
- Dylech fanteisio ar ystod eang o brofiadau - nid rhai proffesiynol yn unig. Gall enghreifftiau cadarn ddod o'r meysydd addysg, gwirfoddoli, cyfranogiad cymunedol, neu brofiadau bywyd perthnasol eraill.
- Dewiswch eich enghreifftiau cryfaf gan sicrhau eu bod yn bodloni'r meini prawf yn llawn. Neilltuwch amser i fireinio eich ymatebion er mwyn sicrhau eu bod yn dangos yn glir y sgiliau, ymddygiadau neu wybodaeth angenrheidiol.
- Ysgrifennwch yn gryno ac â ffocws. Dylech sicrhau bod eich tystiolaeth yn cael ei chyflwyno'n glir a'i bod yn cydymffurfio â'r cyfanswm geiriau. Cofiwch osgoi manylion diangen—gan roi blaenoriaeth i eglurder a pherthnasedd.
- Cofiwch, ni all panel recriwtio ragdybio rhywbeth sydd heb ei gynnwys yn yr enghraifft; dim ond yr hyn rydych chi wedi’i ysgrifennu y byddant yn gallu ei asesu.
- Defnyddiwch 'rydw i' nid 'rydym ni’. Dangoswch dystiolaeth o'ch rôl chi a sut y gwnaethoch chi effeithio ar y canlyniad.
- Mae rhai ymgeiswyr yn teimlo bod defnyddio’r dull STAR yn ddefnyddiol wrth gyflwyno tystiolaeth gan ei fod yn darparu strwythur a ffocws i enghreifftiau ar y ffurflen gais ac yn y cyfweliad.
- Sefyllfa: disgrifiad byr o’r cyd-destun a’ch rôl chi.
- Tasg: yr her, y dasg neu’r gwaith penodol a oedd o’ch blaen.
- Camau gweithredu: yr hyn a wnaethoch chi, a sut a pham y gwnaethoch hynny.
- Canlyniad: y canlyniadau a beth wnaethoch chi ei gyflawni drwy eich camau.
Cadwch y rhannau am y sefyllfa a’r dasg yn fyr. Canolbwyntiwch ar y camau gweithredu a’r canlyniad.
Bydd y dystiolaeth rydych yn ei darparu yn cael ei hasesu gan banel recriwtio. Os yw’r panel yn cytuno eich bod wedi darparu tystiolaeth ddigonol yn erbyn y meini prawf, bydd eich cais yn mynd ymlaen i’r cam nesaf. Byddwch yn cael o leiaf 5 diwrnod gwaith o rybudd ar gyfer unrhyw gamau pellach (oni bai bod addasiad recriwtio wedi'i gytuno ymlaen llaw).
Cyfweliad
Fel arfer, mae cyfweliadau yn cael eu cynnal ar-lein trwy ddefnyddio Microsoft Teams, ond weithiau mae’n bosibl y byddant yn cael eu cynnal yn un o’n swyddfeydd. Os nad yw'r amser a'r dyddiad ar gyfer cyfweliad yn addas, am ba reswm bynnag, cysylltwch â'r Tîm Recriwtio.
Mae pob cyfweliad yn cael ei gynnal gan banel sy'n cynnwys o leiaf ddau aelod - fel arfer cadeirydd y panel ac un aelod arall o'r panel. Bydd o leiaf un aelod o'r panel yn annibynnol, sy'n golygu nad oes ganddo/ganddi gysylltiad uniongyrchol â'r rôl neu'r tîm sy'n recriwtio. Swyddogaeth yr aelod hwn yw dod â safbwynt diduedd, herio rhagdybiaethau, a chyfrannu at broses deg a chynhwysol o wneud penderfyniadau.
Cwestiynau cyfweliad ymlaen llaw
Bydd yr hysbyseb swydd yn amlinellu pa elfennau Proffil Llwyddiant fydd yn cael eu hasesu yn y cyfweliad.
Yn unol â'n hymrwymiad i degwch, tryloywder, a chynorthwyo ymgeiswyr i wneud eu gorau, erbyn hyn rydym yn rhannu cwestiynau agoriadol y cyfweliad ymlaen llaw ar gyfer rhai elfennau o'r Proffil Llwyddiant.
Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, byddwch yn derbyn y cwestiynau agoriadol yn ymwneud â Phrofiad ac Ymddygiad yn eich gwahoddiad am gyfweliad (os yw'r elfennau hyn yn cael eu hasesu).
Bydd eich gwahoddiad yn cael ei anfon o leiaf bum diwrnod cyn eich cyfweliad er mwyn rhoi digon o amser i chi baratoi a myfyrio ar enghreifftiau perthnasol.
Os yw eich cyfweliad yn cynnwys asesiad Technegol, y panel sy'n penderfynu a yw cwestiynau Technegol agoriadol yn cael eu rhannu ymlaen llaw. Mewn rhai achosion, gall rhannu'r cwestiynau hyn ymlaen llaw beryglu uniondeb yr asesiad. Ni fydd cwestiynau sy'n seiliedig ar gryfderau nac unrhyw gwestiynau dilynol yn cael eu rhannu ymlaen llaw.
Yn ystod y cyfweliad
Bydd y cwestiynau agoriadol yn cael eu postio yn y bar sgwrsio (ar gyfer cyfweliadau rhithwir) a bydd y cwestiynau'n cael eu gofyn yn yr un drefn â'r hyn a nodir yn eich gwahoddiad. Os nad ydych am i'r cwestiynau gael eu postio yn y bar sgwrsio, rhowch wybod i'r panel ar ddechrau'r cyfweliad.
Ar gyfer cyfweliadau yn y cnawd, gellir darparu copi wedi'i argraffu o'r cwestiynau agoriadol ar y diwrnod.
Fformat y cyfweliad
Bydd y Cadeirydd yn cyflwyno’r panel ac yn esbonio fformat ac amseriad y cyfweliad. Gofynnir i chi a oes unrhyw amgylchiadau lliniarol a allai effeithio ar eich perfformiad yn ystod y cyfweliad, fel profedigaeth neu ddamwain car yn ddiweddar. Diben hyn yw sicrhau nad oes unrhyw beth a allai amharu ar eich perfformiad. Os oes rhywbeth wedi digwydd, byddwch yn cael cyfle i aildrefnu’r cyfweliad. Fodd bynnag, os byddwch yn dewis parhau â’r cyfweliad, ni fyddwch yn gallu aildrefnu ar gyfer amser arall os byddwch yn teimlo wedyn na wnaethoch chi eich gorau.
Bydd pob aelod o'r panel yn cymryd tro i ofyn cwestiynau, ac ar ddiwedd y cyfweliad, bydd y Cadeirydd yn rhoi cyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Hyd y cyfweliad
Fel arfer, bydd y cyfweliad yn para rhwng 45 a 60 munud gan ddibynnu ar radd y swydd rydych chi’n gwneud cais amdani a’r math o asesiad sy’n ofynnol.
Iaith y cyfweliad
Byddwn yn ceisio cynnal eich cyfweliad yn eich dewis iaith, Cymraeg neu Saesneg (yn seiliedig ar yr hyn a nodwyd gennych yn y ffurflen gais). Os na allwn gynnig panel llawn o siaradwyr Cymraeg, efallai y bydd angen darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg. Mewn achosion o’r fath, byddwch yn cael gwybod am y trefniadau cyn y cyfweliad.
11. Cyfathrebu
Byddwch yn derbyn canlyniad pob cam o'r broses drwy system recriwtio ar-lein Llywodraeth Cymru. Os byddwch yn llwyddiannus ar unrhyw gam o'r broses, bydd manylion y cam nesaf yn cael eu cynnwys yn yr e-bost am y canlyniad.
12. Cwynion
Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn, gysylltu â ni drwy’r Uned Gwynion: Sut i wneud cwyn am Lywodraeth Cymru.
Os ydych yn anhapus â chanlyniad y gŵyn ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni, mae gennych yr hawl i anfon eich cwyn ymlaen i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil.
Comisiwn y Gwasanaeth Sifil
Llawr 3
35, Great Smith Street
Llundain
SW1P 3BQ
13. Telerau penodiad
Parhaol neu Dymor penodol
Oriau gwaith
Mae swyddi ar gael yn rhan-amser, fel rhan o drefniant rhannu swydd neu fel swyddi amser llawn. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n gweithio’n rhan-amser.
Absenoldeb
Mae gan gyflogeion amser llawn hawl i 31 diwrnod o absenoldeb blynyddol, a 10 diwrnod o wyliau cyhoeddus a braint. Bydd trefniadau pro rata ar gyfer gweithwyr rhan-amser.
Byddwch yn gymwys am dâl salwch, tâl gwyliau ac unrhyw hawliau absenoldeb yn unol ag amodau a thelerau Llywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnig ystod o drefniadau gweithio ystyriol o deuluoedd a threfniadau gweithio hyblyg, sy’n cefnogi teuluoedd gweithio modern. Nod ein polisïau yw galluogi cyflogeion i gyfuno gwaith a bywyd teuluol fel y gallwn gadw eu sgiliau gwerthfawr yn y gweithle ac fel y gallan nhw gyflawni eu potensial.
Perfformiad a hyfforddiant
Byddwch chi a’ch rheolwr llinell yn cytuno ar amcanion ar ddechrau’r penodiad. Bydd adolygiadau rheolaidd yn cael eu cynnal ar adegau y cytunwyd arnynt. Bydd y rheolwr llinell yn trefnu rhaglen neu hyfforddiant cynefino fel y bo’n briodol.
Mae pob aelod o staff yn Llywodraeth Cymru yn cael cymorth i ddatblygu ei sgiliau a’i alluogrwydd, gan gynnwys cyfleoedd dysgu a datblygu. Rydym wedi ymrwymo i ddysgu a datblygu a sicrhau bod ein staff yn cael o leiaf 5 diwrnod o ddysgu bob blwyddyn.
Lleoliad
Mae’r mwyafrif o swyddi yn cael eu dynodi’n rhai Cymru gyfan, oni bai y nodir yn wahanol yn yr hysbyseb. Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod lleoliad y swydd yn hyblyg, gan ddibynnu ar anghenion y busnes. Mae rhestr o swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar gael yn LLYW.CYMRU. Sylwch na fydd hi efallai yn bosibl bodloni dewis rhywun o leoliad swyddfa penodol.
Gweithio’n glyfar
Mae Llywodraeth Cymru yn annog arferion gweithio’n glyfar. Mae hyn yn golygu canolbwyntio ar sut rydych chi’n defnyddio eich amser, a ble a sut rydych chi’n gweithio er mwyn bodloni’r anghenion busnes yn y ffordd fwyaf cynhyrchiol. Mae hyn yn rhoi hyblygrwydd sylweddol i staff o ran lleoliad ac oriau gwaith. Mae gweithio deallus a hyblyg yn dod yn nodwedd barhaol o fywyd gwaith yng Nghymru a bydd Llywodraeth Cymru yn arwain y ffordd yn y cyswllt hwn.
Cyflog
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu penodi yn unol â’r swm a nodir o dan “Cyflog Cychwynnol Gwirioneddol”. Mae hyn yn berthnasol i bob ymgeisydd allanol, ni waeth a yw eisoes yn gweithio i Lywodraeth Cymru, yn Was Sifil presennol neu erioed wedi gweithio i’r Gwasanaeth Sifil. Ni fydd pwyntiau cyflog presennol ar gyfer Gweision Sifil presennol yn cael eu trosglwyddo.
Secondiad
Cymhwystra
Weithiau mae swyddi ar gael fel cyfle am secondiad. Bydd yn cael ei nodi yn yr hysbyseb os yw hyn yn wir. Mae secondiadau ar gyfer gweithwyr nad ydynt yn weision sifil, a rhaid i ymgeiswyr fodloni’r meini prawf cymhwystra isod:
- bod â’r hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig a bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil.
- peidio â bod ag unrhyw gyfyngiadau fisa mewnfudo sy’n nodi man gwaith penodol.
- bod â chyflogwr sy’n barod i gefnogi trefniant secondiad.
Os ydych chi’n gwneud cais llwyddiannus am gyfle ar gyfer secondiad ac:
- rydych chi wedi bod ar secondiad i’r Gwasanaeth Sifil yn ystod y 12 mis diwethaf a/neu,
- rydych chi wedi cael eich penodi i’r Gwasanaeth Sifil o dan Eithriad yn ystod y 12 mis diwethaf.
Yna mae’n rhaid i chi ddatgan hyn fel y gall Llywodraeth Cymru ofyn am gymeradwyaeth Comisiwn y Gwasanaeth Sifil ar gyfer y penodiad.
Cyflog
Bydd y sawl sydd ar secondiad yn parhau i gael eu cyflogi gan eu cyflogwr presennol gydol cyfnod y secondiad ac yn unol â’u telerau ac amodau a’u cyflogres bresennol.
Nid yw unrhyw un sydd ar secondiad yn gymwys am unrhyw ddyfarniad cyflog neu ddyfarniad gan Lywodraeth Cymru yn ystod y secondiad. Byddant yn aros ar eu cyflog sylfaenol presennol, heb unrhyw aliniad â chyflogau Llywodraeth Cymru, neu bwyntiau colofn gyflog, yn ystod y secondiad. Nid oes unrhyw rwymedigaeth ar Lywodraeth Cymru i gytuno i dalu unrhyw lwfansau, tâl arbenigol neu fuddion na fyddant yn berthnasol i’r gwaith sy’n cael yn ei wneud yn ystod y secondiad. Gall lwfansau, tâl arbenigol neu fuddion o’r fath barhau i gael eu talu iddynt gan eu rhiant-sefydliad, ond nid oes rhaid i Lywodraeth Cymru ad-dalu’r rhain.
Gellir rhannu ein polisi a’n cytundeb secondai ag ymgeiswyr sy’n ymgeisio am secondiad os gofynnir amdanynt.
Benthyciadau
Cymhwystra
Weithiau mae swyddi ar gael fel cyfle i fynd ar fenthyg. Bydd yn cael ei nodi yn yr hysbyseb os yw hyn yn wir. Mae cyfleoedd gweithio ar fenthyg ar gael i Weision Sifil presennol yn unig sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra isod:
- maent wedi cael eu recriwtio yn unol ag Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (penodiad ar sail teilyngdod trwy gystadleuaeth deg ac agored).
- maent wedi cwblhau eu cyfnod prawf yn llwyddiannus.
- maent wedi dangos lefelau perfformiad a phresenoldeb derbyniol.
- mae ganddynt yr hawl i weithio yn y DU.
- nid oes ganddynt unrhyw gyfyngiadau fisa mewnfudo sy’n nodi man gwaith penodol.
Bydd unigolion sy’n symud ar fenthyg yn gwneud hynny yn unol ag Egwyddorion Trosglwyddo’r Gwasanaeth Sifil (Sut i newid swydd rhwng adrannau ac asiantaethau) a byddant yn symud ar draws fel arfer. Oni bai bod y cyfnod benthyg yn para llai na 6 mis, bydd unigolion llwyddiannus yn symud i amodau a thelerau Llywodraeth Cymru.
Oni nodir yn wahanol yn yr Hysbyseb Swydd:
- ni ddisgwylir i’r rhai sydd ar fenthyg gael trosglwyddiad parhaol na dyrchafiad parhaol i Lywodraeth Cymru.
- dim ond y rhai sy’n gwneud cais i symud ar draws sy’n gymwys i wneud cais. Disgwylir i unigolion sydd ar fenthyg ddychwelyd i’w hadran gartref ar ddiwedd y cytundeb ac i’w gradd swydd barhaol.
Cyflog
Bydd sefyllfa ariannol ymgeiswyr sy’n ymuno â Llywodraeth Cymru ar fenthyg yn cael ei diogelu yn ystod y trosglwyddiad:
- Os yw’r cyflog presennol yn is nag isafswm graddfa gyflog berthnasol Llywodraeth Cymru, bydd yr unigolyn yn cael ei osod ar bwynt colofn gyflog cyntaf y raddfa hon.
- Os yw’r cyflog presennol rhwng dau bwynt colofn gyflog ar raddfa gyflog berthnasol Llywodraeth Cymru, bydd yr unigolyn yn cael ei osod ar yr isaf o’r ddau bwynt colofn gyflog, a bydd y gwahaniaeth yn cael ei dalu fel lwfans dynodi amser* i gyd-fynd â’i gyflog presennol.
- Os yw’r cyflog presennol yn fwy nag uchafswm graddfa gyflog berthnasol Llywodraeth Cymru, bydd yr unigolyn yn cael ei osod ar bwynt colofn gyflog uchaf y raddfa, a bydd unrhyw wahaniaeth sy’n weddill yn cael ei dalu fel lwfans dynodi amser*.
*Mae lwfans dynodi amser yn ychwanegu at y cyflog er mwyn cyd-fynd â chyflog presennol yr unigolyn, ac mae’n parhau i gael ei dalu nes bod pwyntiau colofn y raddfa gyflog yn cynyddu trwy ddyfarniadau cyflog neu godiadau cynyddrannol, gan leihau’r lwfans yn raddol nes nad yw’n cael ei dalu.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y canllawiau hyn neu’r broses ymgeisio, e-bostiwch desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru.
Hwb Recriwtio, Llywodraeth Cymru
