Cyfarfod y Cabinet: 24 Mawrth 2025
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 24 Mawrth 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
- Huw Irranca-Davies AS
- Jayne Bryant AS
- Mark Drakeford AS
- Rebecca Evans AS
- Jane Hutt AS
- Julie James AS
- Ken Skates AS
- Dawn Bowden AS
- Sarah Murphy AS
- Vikki Howells AS
- Jack Sargeant AS
Ymddiheuriadau
- Jeremy Miles AS
- Lynne Neagle AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Grŵp y Prif Weinidog
- Rebecca Dunn, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Cabinet
- Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa'r Cabinet
- Wayne David, Cynghorydd Arbennig
- Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
- Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
- Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
- Jackie Jones, Cynghorydd Arbennig
- Stephen Jones, Cynghorydd Arbennig
- Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
- Martha O'Neil, Cynghorydd Arbennig
- Maddie Rees, Cynghorydd Arbennig
- Victoria Solomon, Cynghorydd Arbennig
- Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
- Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
- Tim Moss, y Prif Swyddog Gweithredu
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
- Nia James, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 17 Mawrth 2025.
Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog
Uwchgynhadledd Buddsoddi Rhyngwladol
2.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei bod wedi lansio'r Uwchgynhadledd Buddsoddi Rhyngwladol ddydd Gwener yn ystod ymweliad â KLA a Cadence. Byddai'r uwchgynhadledd yn cael ei chynnal ar 1 Rhagfyr yn yr International Convention Centre Wales a'r Celtic Manor Resort yng Nghasnewydd.
Bwffe Iftar
2.2 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei bod wedi mynychu Bwffe Iftar nos Wener i dorri'r Ympryd Ramadan gydag aelodau o'r Gymuned Fwslimaidd.
Rownd cyfryngau yn Llundain
2.3 Roedd y Prif Weinidog hefyd wedi mynychu rownd cyfryngau yn Llundain yr wythnos flaenorol gyda'r Foreign Press Association.
Datganiad Gwanwyn Canghellor y Trysorlys
2.4 Nododd y Cabinet y byddai Canghellor y Trysorlys yn cyflwyno ei Datganiad Gwanwyn ddydd Mercher yr wythnos honno. Byddai cyfle yn y cyfarfod nesaf i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg amlinellu'r goblygiadau i Lywodraeth Cymru.
Eitem 3: Busnes y Senedd
3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi bod amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 7:20pm ddydd Mawrth a thua 5:55pm ddydd Mercher.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mawrth 2025
