Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Trosolwg

Fe wnaeth y pandemig effeithio ar fywydau pobl ar draws y byd, gan ddwysáu anghydraddoldebau ac anfanteision economaidd-gymdeithasol. Cafodd COVID effaith anghymesur ar rai cymunedau yng Nghymru. Ym mis Gorffennaf 2021, fe wnaeth adroddiad ‘Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19’ dynnu sylw at yr anghydraddoldebau sy’n wynebu pobl anabl mewn cymdeithas. Un o’r ymatebion i’r adroddiad oedd sefydlu Tasglu Hawliau Pobl Anabl – partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid – a gyd-gadeirir gan Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip, a’r Athro Debbie Foster o Brifysgol Caerdydd a chyd-awdur yr adroddiad ‘Drws ar Glo’.

Ffurfiodd y Tasglu ddeg gweithgor thematig i argymell camau gweithredu a fyddai’n gwella bywydau pobl anabl, sef:

  • sefydlu a deall y Model Cymdeithasol o Anabledd (ar draws Cymru)
  • mynediad at wasanaethau (gan gynnwys cyfathrebu a thechnoleg)
  • byw’n annibynnol: gofal cymdeithasol
  • byw’n annibynnol: iechyd
  • teithio
  • cyflogaeth ac incwm
  • tai fforddiadwy a hygyrch
  • plant a phobl ifanc
  • mynediad at gyfiawnder
  • lles (fel gweithdy)

Cydweithiodd y Tasglu â dros 350 o randdeiliaid allanol a 200 o swyddogion polisi Llywodraeth Cymru, i ddatblygu argymhellion gyda'r nod o wella bywyd i bobl anabl yng Nghymru. Roedd pobl anabl yn bartneriaid gweithredol ym mhroses y Tasglu, gan rannu gwybodaeth a phrofiadau bywyd, sydd wedi llywio camau gweithredu i roi sylw i hawliau pobl anabl ac i chwalu’r rhwystrau presennol.

Daeth Cadeiryddion y gweithgorau ag arbenigedd a phrofiad bywyd personol i'w rolau fel arweinwyr. Wedi'u llywio gan egwyddorion hawliau dynol, y model cymdeithasol o anabledd, a chyd-greu, rhannodd aelodau'r gweithgorau thematig, o dan arweinyddiaeth y Cadeiryddion, eu profiadau a'u gwybodaeth amhrisiadwy.

Cafodd argymhellion y Tasglu eu hystyried ochr yn ochr â gwaith a oedd wedi'i gychwyn eisoes gan swyddogion polisi ar draws y llywodraeth yn dilyn sefydlu'r Tasglu. Mae llawer o'r gwaith hwn yn cael ei arddangos yn ein hadroddiad cynnydd, gan dynnu sylw at gamau a gyflawnwyd fel ein hymgyrch 'mae casineb yn brifo'.

Gweithiodd swyddogion polisi ar draws y llywodraeth gyda'i gilydd i droi argymhellion yn gamau y gellir eu gweithredu, gan asesu pa rai y gellid eu rhoi ar waith yn y tymor byr. Manylir ar y rhain yn ein dogfen o gamau gweithredu. Bydd argymhellion a ystyrir yn rhai tymor canolig i hirdymor yn parhau i fod yn adnoddau hanfodol y gall Llywodraeth Cymru eu hailystyried yn y dyfodol, gan lywio strategaethau tymor canolig i hirdymor er mwyn cyflawni'r uchelgeisiau a'r canlyniadau ar gyfer pobl anabl a amlinellir yn ein cynllun 10 mlynedd.

Daeth cadeiryddion y gweithgorau a chydweithwyr polisi at ei gilydd i ystyried y 'canlyniadau' y mae angen i Lywodraeth Cymru eu cyflawni ar gyfer pob person anabl yng Nghymru, drwy gynllun Hawliau Pobl Anabl. Mae’r cynllun hwn yn nodi ein fframwaith 10 mlynedd trawslywodraethol sy’n mynegi'r uchelgais yr ydym yn dymuno ei gyflawni, gan sicrhau bod pobl anabl yn gallu ffynnu fel aelodau cyfartal o gymdeithas Cymru, a herio gwahaniaethu a rhagfarn.