Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Daeth plant a phobl ifanc, sydd â phrofiad o fod mewn gofal, at ei gilydd yng Nghaerdydd dros y penwythnos ar gyfer pedwaredd uwchgynhadledd gofal flynyddol Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Uwchgynhadledd Archwilio Diwygio Radical yn llwyfan hanfodol lle gall pobl ifanc ymgysylltu'n uniongyrchol â Gweinidogion y Llywodraeth i helpu i lunio newidiadau pellgyrhaeddol i wasanaethau gofal ym mhob rhan o’r wlad.

Am y tro cyntaf, ymunodd plant iau rhwng 9 a 14 oed, sydd mewn gofal ar hyn o bryd, â 40 o arweinwyr ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.

Anerchodd yr actor Michael Sheen, noddwr Voices from Care Cymru, y bobl ifanc drwy neges fideo arbennig.

Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden, a oedd yn bresennol gyda'r Gweinidog Addysg a’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, ac Ysgrifenyddion y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, a Chyllid a’r Gymraeg:

Mae'n hanfodol gwrando'n uniongyrchol ar bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal er mwyn sicrhau bod unrhyw newidiadau’n rhai ystyrlon.

Daeth y plant iau, a oedd yn cael eu cynnwys am y tro cyntaf eleni, â safbwyntiau newydd a fydd yn ein helpu i adeiladu system ofal sydd yn diwallu eu hanghenion. Yn ogystal â sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed – dyma gyfle go iawn iddyn nhw ddylanwadu ar bolisi.

Mae'n briodol bod yr uwchgynhadledd hon yn cael ei chynnal yn yr un mis â Diwrnod Cenedlaethol y Plant. Rydyn ni'n awyddus i weld Cymru'n wlad ar gyfer pob plentyn, lle mae pob plentyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, ei barchu, a'i fod yn cael ei glywed.

Dywedodd Llysgennad Ifanc a Chyd-gadeirydd y digwyddiad, Georgia Toman:

Mae'n golygu lot i bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal bod Gweinidogion Cymru yn treulio amser yn gwrando arnon ni, ac yn gwrando’n ofalus ar ein barn a’n syniadau.

Rydyn ni'n gwybod na all newidiadau mawr ddigwydd dros nos, ond roedd yn dda clywed gan Ysgrifenyddion y Cabinet a'r Gweinidogion beth maen nhw a'u timau wedi bod yn ei wneud i sicrhau bod newidiadau radical go iawn yn digwydd. Rydyn ni'n apelio iddyn nhw i ddal ati. Mae etholiad y Senedd ymhen blwyddyn, ac rydyn ni'n awyddus i weld cymaint â phosibl yn cael ei gyflawni.