Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Senedd wedi pasio deddfwriaeth nodedig i roi cyfle i bob plentyn ledled Cymru allu siarad Cymraeg yn hyderus, waeth beth fo'u cefndir neu iaith yr ysgol y maent yn ei mynychu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Nod Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru), a basiwyd gan y Senedd heddiw, yw cau'r bwlch yng ngallu disgyblion o wahanol ysgolion i siarad Cymraeg.

Nod y Bil yw symud tuag at darged 2050 o filiwn o siaradwyr drwy gryfhau rôl y Gymraeg mewn addysg, gyda'r amcan cyffredinol o sicrhau bod holl ddisgyblion ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn defnyddio'r Gymraeg yn annibynnol pan fyddant yn gadael yr ysgol.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros y Gymraeg, Mark Drakeford:

Mae'r Gymraeg yn perthyn inni i gyd. Mae'r Bil hwn yn rhoi cyfle gwell i blant a phobl ifanc ddod yn siaradwyr Cymraeg, gan ddod â ni'n agosach at ein nod o weld miliwn o siaradwyr yng Nghymru.

Fel Senedd, rydyn ni wedi creu Bil pwysig, pellgyrhaeddol a fydd yn galluogi pob plentyn i ddod yn siaradwr Cymraeg hyderus. Dw i'n edrych ymlaen at gydweithio ymhellach wrth inni weithredu'r Bil.

Mae'r ddeddfwriaeth yn nodi tri chategori iaith ar gyfer ysgolion a gynhelir, a lefel ofynnol o addysg Gymraeg i'w darparu gan ysgolion ym mhob categori. Bydd hefyd yn sicrhau bod camau yn cael eu cymryd i ddarparu addysg drochi ddwys yn y Gymraeg ledled Cymru, gan helpu dysgwyr o bob oed i ddatblygu eu sgiliau, hyd yn oed y rhai nad ydynt efallai yn defnyddio'r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd ar hyn o bryd.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:

Mae ein dull trochi hwyr yn y Gymraeg yn unigryw. Mae'r Bil hwn yn adeiladu ar y gwaith ardderchog sydd eisoes yn digwydd ledled Cymru, gan sicrhau bod pob plentyn yn cael dysgu'r Gymraeg, ei defnyddio ac elwa ohoni.

Mae'r llywodraeth yn cefnogi ysgolion i wireddu'r uchelgais hon drwy:

  • barhau â chynlluniau grant i gynyddu nifer yr athrawon a'r cynorthwywyr sy'n siarad Cymraeg
  • cynnig gwersi Cymraeg am ddim i holl staff ysgolion