Cylchlythyr demograffeg Ystadegau Cymru: Mehefin 2025
Cylchlythyr Mehefin 2025 ar gyfer defnyddwyr ystadegau Cymru ar yr ystadegau diweddaraf am boblogaeth, mudo, cartrefi a’r Gymraeg.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Ymgysylltu â defnyddwyr a'r wybodaeth ddiweddaraf am amcanestyniadau is-genedlaethol o'r boblogaeth ac aelwydydd Llywodraeth Cymru
Mae ein harolwg ymgysylltu â defnyddwyr ar gyfer amcanestyniadau is-genedlaethol o'r boblogaeth ac aelwydydd ar gyfer Cymru bellach wedi cau. Diolch yn fawr i bawb a ymatebodd.
Ar hyn o bryd rydym yn dadansoddi'r adborth, ac yn bwriadu cyhoeddi blog sy'n crynhoi eich adborth a'n camau gweithredu sy'n deillio o hyn. Y nod o hyd yw cyhoeddi amcanestyniadau 2022 ddiwedd yr haf/dechrau'r hydref, gydag amcanestyniadau o'r boblogaeth ac aelwydydd ar gyfer awdurdodau lleol yn cael eu cyhoeddi yn gyntaf, ac yna amcanestyniadau parciau cenedlaethol.
Byddwn yn parhau i ddarparu diweddariadau am yr amcanestyniadau is-genedlaethol yn y cylchlythyrau hyn, drwy e-bost, ac ar ein calendr datganiadau.
Amcangyfrifon poblogaeth sy'n seiliedig ar ddata gweinyddol
Ar 19 Mai, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) ddiweddariad ar amcangyfrifon poblogaeth sy'n seiliedig ar ddata gweinyddol ochr yn ochr â'i diweddariad chwarterol ar ystadegau poblogaeth a mudo.
Asesodd yr SYG barodrwydd amcangyfrifon poblogaeth sy'n seiliedig ar ddata gweinyddol (ABPEs) (SYG) i ddod yn amcangyfrifon swyddogol o'r boblogaeth gan ddefnyddio'r meini prawf a gyhoeddwyd ym mis Ionawr. Maent yn hyderus mai ABPEs fydd y dull gorau ar gyfer mesur y boblogaeth yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae angen mwy o waith o hyd i fodloni'r meini prawf derbyn yn llwyddiannus, yn enwedig o ran:
- diwallu anghenion allweddol defnyddwyr
- cyflenwad ac ansawdd data
- cydlyniant a chymhariaeth
Bydd y gwaith ychwanegol a gynlluniwyd hefyd yn cynyddu hyder y SYG y bydd yr ABPEs yn cael eu dynodi yn ystadegau swyddogol achrededig (Y Swyddfa Rheioleiddio Ystadegau) pan fydd y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau yn cynnal ei hasesiad. Maent yn bwriadu ailasesu'r meini prawf eto yng ngwanwyn 2026 gyda'r nod o wneud yr ABPEs yn amcangyfrifon swyddogol o'r boblogaeth yn haf 2026.
Yn haf 2025, bydd y SYG yn cyhoeddi amcangyfrifon poblogaeth swyddogol ar gyfer Cymru a Lloegr, sef amcangyfrifon canol blwyddyn ar gyfer canol 2024 ynghyd ag amcangyfrifon diwygiedig ar gyfer canol 2022 a chanol 2023. Bydd y fethodoleg yr un fath â’r cyhoeddiad diwethaf. Bwriad y SYG yw cyhoeddi ABPEs wedi'u diweddaru ar gyfer canol 2022 i ganol 2024 ochr yn ochr â'r amcangyfrifon swyddogol er mwyn caniatáu cymariaethau.
Cyfuno a chymharu ffigurau'r cyfrifiad ledled y DU
Ar 10 Ebrill, cyhoeddodd y SYG ganllawiau byr ar gyfuno a chymharu ffigurau'r cyfrifiad ledled y DU. Un dyddiad cyfrifiad yn y DU oedd y bwriad ar gyfer 2021, ond arweiniodd amgylchiadau pandemig y coronafeirws (COVID-19) at symud cyfrifiad yr Alban am flwyddyn. Mae hyn yn golygu mai Diwrnod y Cyfrifiad oedd 21 Mawrth 2021 yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ond 20 Mawrth 2022 yn yr Alban. Mae'r gwahaniaeth hwn o ran amseriad casglu data yn gwneud llunio canlyniadau'r DU yn fwy heriol nag arfer.
Y dull y mae'r SYG wedi'i ddatblygu yw creu ystadegau ar gyfer yr Alban ar gyfer mis Mawrth 2021 a'u hychwanegu at gyfansymiau cyfrifiad cyfatebol gweddill y DU. Mae eu dull ar gyfer yr Alban yn seiliedig ar ryngosod rhwng eu cyfrifiadau 2011 a 2022, gan gyfyngu'r canlyniadau hefyd i sicrhau cysondeb â'u hamcangyfrifon swyddogol o'r boblogaeth ac aelwydydd o 2020 a 2021. Byddant yn defnyddio'r dull hwn i greu set o dablau ar lefel y DU ac ar lefel gwlad, gan gynnig mewnwelediad i sut y gallai ystod o ystadegau'r DU fod wedi edrych pe bai'r cyfrifiadau i gyd wedi bod ym mis Mawrth 2021. Fodd bynnag, ni fydd gwerthoedd yr Alban yn disodli canlyniadau Cyfrifiad 2022 NRS fel ystadegau cyfrifiad diffiniol yr Alban.
Amcangyfrifon o'r boblogaeth hen iawn, gan gynnwys y rhai dros gant oed, y DU: 2002 i 2023
Ar 18 Mawrth, cyhoeddodd y SYG amcangyfrifon o'r boblogaeth hen iawn, gan gynnwys y rhai dros gant oed, ar gyfer Cymru a Lloegr rhwng 2002 a 2023. Mae'r dadansoddiad hwn yn darparu amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn blynyddol ar gyfer pobl sy'n 90 oed neu'n hŷn yn ôl rhyw ac oedran blwyddyn unigol hyd at 105 oed ac yn hŷn. Cynhyrchwyd setiau data ar gyfer Cymru a Lloegr ar wahân yn ogystal ag ar y cyd.
Amcangyfrifon o fudo rhyngwladol hirdymor
Ar 22 Mai, cyhoeddodd yr SYG ffigurau mudo rhyngwladol hirdymor dros dro ar gyfer y DU. Mae hyn yn cwmpasu'r cyfnod o'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2012 hyd at y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2024, ac mae rhai diwygiadau yn cael eu gwneud i ddata'r blynyddoedd blaenorol.
Dim ond ar lefel y DU y bydd y ffigurau ar gael - ewch i'r tablau cydrannau newid ar StatsCymru i weld yr amcangyfrifon mudo diweddaraf ar gyfer Cymru.
Ystadegau etholiadol
Mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod y cyhoeddiad nesaf o ran ystadegau etholiadol (SYG) yn adlewyrchu'r rheolau cofrestru etholiadol a chymhwysedd pleidleiswyr diweddaraf yng Nghymru a Lloegr. Bydd y gwaith hwn yn sicrhau y bydd y data a gesglir yn gywir ac yn gyson.
Bydd y SYG yn rhoi diweddariad ar eu cynlluniau ar gyfer cyhoeddi ystadegau etholiadol nesaf drwy eu cylchlythyr, diweddariadau chwarterol dros y misoedd nesaf, a thrwy galendr datganiadau SYG.
