Cyfarfod y Cabinet: 31 Mawrth 2025
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 31 Mawrth 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
- Huw Irranca-Davies AS
- Jayne Bryant AS
- Mark Drakeford AS
- Rebecca Evans AS
- Jane Hutt AS
- Julie James AS
- Jeremy Miles AS
- Lynne Neagle AS
- Ken Skates AS
- Dawn Bowden AS
- Sarah Murphy AS
- Vikki Howells AS
- Jack Sargeant AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Grŵp y Prif Weinidog
- Rebecca Dunn, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Cabinet
- Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa'r Cabinet
- Wayne David, Cynghorydd Arbennig
- Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
- Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
- Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
- Jackie Jones, Cynghorydd Arbennig
- Stephen Jones, Cynghorydd Arbennig
- Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
- Martha O'Neil, Cynghorydd Arbennig
- Maddie Rees, Cynghorydd Arbennig
- Victoria Solomon, Cynghorydd Arbennig
- Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
- Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Sioned Evans, Prif Swyddog Gweithredu
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
- Nia James, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
- Liz Lalley, Cyfarwyddwr Risg, Gwydnwch, Diogelwch Cymunedol a'r Gogledd
- Piers Bisson, Cyfarwyddwr y Trefniadau Pontio Ewropeaidd, y Cyfansoddiad a Chyfiawnder (eitem 4)
- Charlie Thomas, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Deddfwriaeth (eitem 4)
- Gian Marco Currado, Cyfarwyddwr Materion Gwledig (eitem 5)
- Nic Shilton, Pennaeth Technoleg Bwyd, Clystyrau ac Arloesi (eitem 5)
- Anna Adams, Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth Trethi a Chysylltiadau Rhynglywodraethol (eitem 6)
- Tom Nicholls, Prif Economegydd (eitem 6)
- Anne Layzell, Pennaeth Cyfathrebu'r Cabinet (eitem 7)
- Peter Kellam, Pennaeth Cangen y Lluoedd Arfog (eitem 7)
Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 24 Mawrth 2025.
Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog
Gwobrau Dewi Sant
Soniodd y Prif Weinidog am seremoni gwobrau Dewi Sant a oedd wedi ei chynnal yr wythnos flaenorol.
Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog
Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei bod wedi mynychu Pwyllgor y Senedd ar gyfer Craffu ar Waith y Prif Weinidog ddydd Gwener blaenorol.
Eitem 3: Busnes y Senedd
3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi bod amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 6:35pm ddydd Mawrth a thua 5:25pm ddydd Mercher. Yr wythnos hon fyddai'n gweld y cyfarfodydd llawn olaf yn adeilad y Senedd cyn symud i Siambr Hywel ar ôl y Pasg, er mwyn caniatáu i'r gwaith adnewyddu gael ei wneud yn barod ar gyfer y 7fed Senedd a fyddai wedi ei hehangu.
Eitem 4: Blwyddyn 5 y Rhaglen Ddeddfwriaethol a Phosibiliadau Deddfwriaethol y Seithfed Senedd
4.1 Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflenwi y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gadarnhau Blwyddyn 5 Rhaglen Ddeddfwriaethol y Llywodraeth cyn datganiad y Prif Weinidog, a oedd wedi ei drefnu ar gyfer 29 Ebrill.
4.2 Croesawodd y Cabinet y papur.
4.3 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.
Eitem 5: Strategaeth Bwyd Cymunedol Cymru
5.1 Cyflwynodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo Strategaeth Bwyd Cymunedol Cymru.
5.2 Roedd y gwaith hwn yn gam arall tuag at annog mwy o bobl i dyfu, prynu a bwyta'n lleol. Yn ei dro, byddai'n helpu i fynd i'r afael â rhai o'r heriau presennol mwyaf parhaus, megis tlodi bwyd, atal salwch sy'n gysylltiedig â deiet, a chyfleoedd twf gwyrdd mewn economïau lleol.
5.3 Roedd yn glir ynghylch ehangder y gwaith sydd eisoes yn cael ei gyflawni, gan gefnogi nifer o sefydliadau a mentrau, fel FareShare a Big Bocs Bwyd.
5.4 Wrth ddatblygu'r Strategaeth, roedd y Llywodraeth wedi cwblhau ymchwil helaeth ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys cynnal arolygon o randdeiliaid bwyd cyhoeddus a chymunedol, mapio systemau'r gadwyn fwyd, a chynnal cyfres o gyfarfodydd rhanddeiliaid wedi'u targedu a grwpiau ffocws arbenigol. Roedd ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi pwysleisio'n gyson pa mor bwysig oedd hi bod mwy o bobl yn tyfu, prynu, a bwyta'n lleol, a fyddai'n helpu i gyflawni'r amcanion llesiant a chyflawni'r nod o sicrhau bod Cymru yn wlad iachach.
5.5 Roedd bwriad i gyhoeddi'r Strategaeth i gyd-fynd â Datganiad Llafar i'r Cyfarfod Llawn, a oedd wedi'i drefnu ar gyfer 29 Ebrill.
5.6 Croesawodd y Cabinet y papur, gan gytuno y byddai'r Strategaeth yn grymuso cynhyrchwyr a phartneriaethau bwyd lleol, ac ar yr un pryd helpu i fynd i'r afael â thlodi bwyd a thanwydd, a thlodi plant. Ar ben hynny, byddai hyn yn cryfhau gwydnwch bwyd cymunedol trwy hyrwyddo gweithgareddau tyfu a garddwriaeth leol. Hefyd roedd cysylltiadau pwysig â'r gwaith o hyrwyddo bwyta'n iach mewn ysgolion. Roedd prosiect Pippin, sydd ar hyn o bryd ar waith mewn tair ardal Awdurdod Lleol, yn datblygu i fod yn gynllun llwyddiannus sy’n annog ysgolion i dyfu a bwyta eu cynnyrch eu hunain.
5.7 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.
Eitem 6: Digwyddiad Cyllidol Gwanwyn y DU
6.1 Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg ddiweddariad i'r Cabinet ar Ddigwyddiad Cyllidol Gwanwyn Llywodraeth y DU, a oedd wedi ei gyflwyno gan Ganghellor y Trysorlys yr wythnos flaenorol. Roedd y Datganiad wedi darparu diweddariad i Gyllidebau 2025-26 ac wedi adolygu'r amlen ar gyfer yr Adolygiad o Wariant, mewn ymateb i ragolwg economaidd heriol gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR).
6.2 Barn yr OBR oedd na fyddai'r Canghellor yn bodloni ei rheolau cyllidol, ac nad oedd yr hyblygrwydd a amlinellwyd yn Natganiad yr Hydref ar gael mwyach.
6.3 O ran goblygiadau i Gyllideb Llywodraeth Cymru, roedd Datganiad y Gwanwyn yn cynnwys £2m o gyfalaf ac £14m o refeniw ychwanegol yn 2025-2026. Roedd hyn yn ymwneud â phecyn sgiliau adeiladu'r Adran Addysg a chyllid ar gyfer Awdurdodau Lleol Lloegr, trwy ychwanegu at y Setliad Ariannol ar gyfer Llywodraeth Leol.
6.4 Fodd bynnag, dim ond cyfran Barnett o'r cyllid a roddir i Adrannau'r DU a fyddai'n cael ei rhoi i Lywodraeth Cymru, i dalu costau Yswiriant Gwladol ychwanegol y cyflogwr. Arweiniodd hyn at fwlch o bron i £70m, gan roi pwysau pellach ar Gyllideb Cymru. Gan y byddai hyn yn gost reolaidd, byddai'n anodd cwrdd â'r diffyg hwn o gronfeydd wrth gefn yn ystod y flwyddyn. Byddai cyngor pellach ar hyn yn cael ei roi i'r Cabinet maes o law.
6.5 O ran lles, byddai effaith anghymesur yng Nghymru gan fod ei chanran o hawlwyr Taliad Annibyniaeth Personol yn uwch na Lloegr. Byddai hyn hefyd yn effeithio ar yr economi ehangach. Felly, byddai'r Llywodraeth yn parhau i ganolbwyntio ar annog pobl i hawlio'r hyn yr oedd ganddynt hawl iddo, gyda buddsoddiad ychwanegol o £1.4m i helpu pobl i fanteisio ar fudd-daliadau nad ydynt yn cael eu hawlio.
6.6 Roedd y sefyllfa yn ystod y flwyddyn yn cael ei monitro, gyda'r disgwyl y byddai'r swm cario ymlaen i Gronfa Wrth Gefn Cymru yn agos at ei uchafswm o £350m. Fodd bynnag, roedd rhywfaint o ansicrwydd o hyd a allai effeithio ar y sefyllfa, yn enwedig mewn perthynas â Maes Awyr Caerdydd. Ar ben hynny, roedd tua £85m o bwysau yn cael eu hadrodd ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd.
6.7 Hefyd, roedd ymrwymiadau ariannu yn cael eu gwneud ar gyfer y blynyddoedd i ddod, lle nad oedd cyllideb ar hyn o bryd. Er mwyn helpu i fonitro a rheoli'r risgiau a'r pwysau ariannol hyn, byddai rhai mesurau ychwanegol ar gyfer clirio MAs.
6.8 Trafododd y Cabinet effeithiau’r newidiadau lles. Croesawodd yr aelodau y cyllid ychwanegol i annog pobl i fanteisio ar fudd-daliadau, gan gydnabod y byddai'r dulliau newydd o gysylltu data yn helpu i symleiddio'r broses. Nodwyd bod yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau bellach wedi ymateb i'r Prif Weinidog ynglŷn â'r angen am asesiad penodol o'r newidiadau lles yng Nghymru.
6.9 Cydnabuwyd y byddai'r cynnydd mewn Yswiriant Gwladol Cyflogwyr yn cael effaith ar bartneriaid cyflenwi yng Nghymru, megis y Sector Gofal Cymdeithasol a'r Trydydd Sector a'r Cyrff Hyd Braich. Derbyniwyd na allai Llywodraeth Cymru fod yn fwy hael wrth dalu costau na Gweinidogion y DU. Nodwyd bod angen eglurder ar statws Sefydliadau Addysg Bellach.
6.10 O ran y cynnydd disgwyliedig mewn gwariant cyfalaf gan Lywodraeth y DU, nodwyd bod digwyddiad 'cwrdd â'r prynwr' yn cael ei drefnu i annog busnesau Cymru i gynnig am gontractau amddiffyn newydd, ac y gellid cyfeirio unrhyw gyllid canlyniadol tuag at fwy o wariant ar ddigideiddio gwasanaethau.
Eitem 7: Diweddariad ar baratoadau Diwrnod VE
7.1 Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet ar y cynlluniau i goffáu 80 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop.
7.2 Ddydd Gwener yr wythnos flaenorol, roedd Ysgrifennydd y Cabinet wedi cynrychioli'r Llywodraeth yn lansiad gweithgareddau ymgyrch y Glymblaid Gyda'n Gilydd i goffáu Diwrnodau VE a VJ yng Nghastell Caerdydd.
7.3 O ran Diwrnod VE, byddai pedwar diwrnod o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal ledled y DU o benwythnos Gŵyl y Banc ym mis Mai. Yn ogystal â'r digwyddiadau sy'n canolbwyntio ar y gymuned, fel partïon stryd, a oedd wedi’u trefnu ar gyfer Gŵyl y Banc, byddai'r Prif Weinidog yn gwneud datganiad llafar i'r Senedd ar 6 Mai, ac wedyn byddai gwasanaeth yn cael ei gynnal yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ar 7 Mai.
7.4 Ar 8 Mai, byddai gwasanaeth yn Abaty Westminster, gyda choffadwriaeth wrth y Senotaff ac yna cyngerdd y BBC ar Horse Guards Parade. Yng Nghymru, byddai digwyddiad y Lleng Brydeinig Frenhinol yn y Senedd.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mawrth 2025
