Adolygiad o rolau a chyfrifoldebau partneriaid addysg yng Nghymru a chyflwyno trefniadau gwella ysgolion: llythyr diweddaru at Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer gwanwyn 2025
Llythyr gan y tîm adolygu sy'n crynhoi'r cynnydd a wnaed yng ngham 2.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Annwyl Ysgrifennydd y Cabinet
Fe fyddwch yn ymwybodol, yn dilyn fy llythyr at y Gweinidog Addysg ar y pryd, a gyhoeddwyd ar 31 Ionawr 2024, y gofynnwyd i'r tîm adolygu barhau â'n gwaith drwy gefnogi cydweithwyr i archwilio gweithio ysgol-i-ysgol ar lefel leol, ac ar draws awdurdodau lleol. Disgrifiwyd hyn fel Cam 2 yr adolygiad.
Gofynnwyd i ni hefyd barhau i weithredu fel ffrind beirniadol i Gyfarwyddiaeth Addysg Llywodraeth Cymru wrth i’r Gyfarwyddiaeth ystyried strwythurau cymorth ar lefel genedlaethol a'i rôl mewn arweinyddiaeth genedlaethol. Yn ystod Cam 2 rydym wedi gweithio'n agos â'r Gyfarwyddiaeth Addysg yn eich adran chi a chyda Phennaeth y Tîm Gwella Addysg newydd.
Rwy'n falch o rannu isod ddiweddariad ynghylch Cam 2 ein gwaith.
Beth wnaethom ni yn ystod Cam 2?
Mae Cam 2 wedi cynnwys presenoldeb mewn cyfarfodydd Rhaglen, cyfarfodydd y Bwrdd Cyflawni a chyfarfodydd y Grŵp Cydlynu Cenedlaethol. Cynhaliwyd hefyd gyfarfodydd ar-lein gydag awdurdodau lleol yn ystod hydref 2024, cyn ac ar ôl iddynt gyflwyno eu cynlluniau mewn ymateb i Gam 1 yr adolygiad.
Yn ystod tymor y gwanwyn 2025 cawsom gyfarfodydd ymgysylltu wyneb yn wyneb â Chyfarwyddwyr Addysg, eu timau a chynrychiolwyr Penaethiaid. Mae'r ymgysylltu eang hwn wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol wrth ddod i gyd-ddealltwriaeth ynglŷn ag ymarferoldeb a goblygiadau seilwaith gwella ysgolion sy'n seiliedig ar gydgyfrifoldeb a gwelliant cydweithredol.
Beth yw'r prif negeseuon yr ydym wedi'u clywed yn ystod Cam 2?
Dangosodd yr ymweliadau ar draws Cymru bod y mwyafrif helaeth o ardaloedd lleol wedi gwneud cynnydd da o ran gweithredu system leol o welliant cydweithredol ers iddynt gyflwyno’u cynlluniau ym mis Hydref 2024. Cawsom ein calonogi'n arbennig gan yr ymrwymiad i'r newid mewn diwylliant a ffyrdd newydd o weithio a oedd yn amlwg yn y rhan fwyaf o sgyrsiau. Roedd cefnogaeth gyffredinol gref i'r cyfeiriad polisi o welliant cydweithredol, ac ymrwymiad gan awdurdodau lleol i barhau i weithio'n agos ag ysgolion i weithredu'r polisi hwn.
Roedd awdurdodau lleol ac arweinwyr ysgolion fel ei gilydd yn gefnogol iawn o’r cyfle i ddatblygu atebion ar y cyd i fynd i’r afael â materion lleol, gan gymryd cydgyfrifoldeb am yr holl ddysgwyr lleol. Roedd ymdeimlad clir o fachu ar y cyfle hwn i sicrhau bod sylw’r proffesiwn cyfan yn canolbwyntio ar alluogwyr allweddol cynnydd dysgwyr yn y man lle mae’n cael yr effaith fwyaf, sef yn yr ystafell ddosbarth.
Cawsom drafodaethau adeiladol a chymhellol ynghylch dysgu ac addysgu a’r ffyrdd o fynd ati i sicrhau dysgu a chanlyniadau o ansawdd uchel. Clywsom rai enghreifftiau cryf iawn o awdurdodau lleol ac ysgolion sydd eisoes wedi datblygu cydweledigaeth ar gyfer gwelliant cydweithredol. Roedd rhai yn bwriadu datblygu hyn ymhellach drwy gytuno ar egwyddorion neu baramedrau mwy ffurfiol ar gyfer cydweithio lleol. Mewn achosion eraill, dal i ddatblygu oedd y weledigaeth, ond roedd yn amlwg o'r trafodaethau bod perthynas agored a thryloyw rhwng yr awdurdod lleol ac arweinwyr ysgolion. Wrth i ddatblygiadau polisi fynd yn eu blaen, bydd awdurdodau lleol yn elwa o sicrhau bod eu hymgysylltiad cyson â’u holl benaethiaid ynghylch eu cynlluniau ar gyfer gwelliant lleol yn parhau.
Y peth mwyaf cadarnhaol i ddeillio o’r ymarfer hwn oedd clywed am y nifer o enghreifftiau rhagorol o welliant cydweithredol dwfn a phwrpasol sydd eisoes yn bodoli ac sydd eisoes â phwyslais cryf ar wella dysgu ac addysgu, cryfhau hunanwerthuso a symud gwaith yn ei flaen yn erbyn blaenoriaethau gwella clir sy'n adlewyrchu blaenoriaethau cenedlaethol. Mae hyn yn rhoi sylfaen gadarn ar gyfer datblygu cydweithio’n genedlaethol ac mae'n golygu bod gan lawer o awdurdodau lleol eisoes enghreifftiau o gydweithio mwy aeddfed i dynnu arnynt.
Er bod pwysau capasiti a chyllid wedi’u crybwyll fel heriau gan arweinwyr ysgolion, rydym hefyd wedi clywed rhai enghreifftiau cadarnhaol o gydweithio sy’n helpu i gynhyrchu mwy o effeithlonrwydd yng ngwaith ysgolion. Mewn nifer o sgyrsiau roedd ymdeimlad cryf, lle’r oedd buddsoddiad wedi'i wneud mewn meithrin y diwylliant cydweithredol priodol, bod hynny wedi talu ar ei ganfed o ran manteision gweithio cydweithredol a meithrin gallu.
Yr her fwyaf y mae awdurdodau lleol ac arweinwyr ysgolion yn ei chrybwyll o hyd yw’r angen i alinio’r system gyfan o amgylch nifer llai o flaenoriaethau cenedlaethol. Gall pob partner, ar lefel leol a chenedlaethol, chwarae eu rhan wrth sefydlu ffocws clir ar y blaenoriaethau cenedlaethol hyn ac ar ddull gwella cydweithredol. Rhan annatod o hyn fydd cyflwyno naratif clir ynghylch sut mae'r blaenoriaethau cenedlaethol yn cefnogi ei gilydd. Mae cydweithwyr wedi pwysleisio bod yn rhaid i ffocws ar ddysgu ac addysgu, arweinyddiaeth a’r blaenoriaethau llythrennedd a rhifedd sylfaenol fod wrth wraidd popeth maen nhw'n ei wneud. Rydym wedi clywed dadl gref na fydd yn bosibl gwneud cynnydd gyda’r blaenoriaethau cenedlaethol eraill fel Presenoldeb, Ymddygiad, ADY a chynhwysiant prif ffrwd a Lles os nad ydym yn gwneud cynnydd yn erbyn y blaenoriaethau sylfaenol hyn.
Ar beth ddylai'r pwyslais fod yng ngham nesaf y rhaglen?
Yn dilyn ein cyfarfodydd adeiladol a chalonogol â chydweithwyr, rydym yn rhagweld cynnydd pellach yn natblygiad aeddfedrwydd y trefniadau lleol dros y 12 mis nesaf. Yn ystod ein hymgysylltiad fe wnaethom drafod â chydweithwyr:
- sut mae pob awdurdod lleol yn adeiladu ac yn datblygu ei seilwaith a'i lywodraethiant i gefnogi ei drefniadau cydweithio lleol ei hun
- sut mae pob awdurdod lleol yn cefnogi ac yn tyfu enghreifftiau aeddfed o gydweithio
- sut mae pob awdurdod lleol yn sicrhau bod pob ysgol a chlwstwr yn cymryd rhan yn ei strategaethau gwelliant cydweithredol er budd pob dysgwr
Mae disgwyl y bydd rhywfaint o amrywiad yn aeddfedrwydd y cydweithio ar draws y system. Mae pob cyd-destun lleol yn wahanol. Efallai y byddai gwerth mewn pennu rhai disgwyliadau ar draws y system yn barod ar gyfer yr adolygiad nesaf o gynnydd yn natblygiad aeddfedrwydd y trefniadau lleol hyn. Credwn y gall Amcanion Polisi Llywodraeth Cymru helpu yn hyn o beth. Ym mis Hydref 2024, cyflwynodd Llywodraeth Cymru ganllawiau drafft i'r holl awdurdodau lleol o'r enw 'Galluogi system hunanwella, model cydweithredol rhwng ysgolion, Awdurdodau Lleol (ALlau) a Llywodraeth Cymru'.
Mae'r canllawiau drafft hyn yn cynnwys rhai amcanion polisi uchelgeisiol a sefydlwyd i roi dealltwriaeth glir i'r system o'r cyfeiriad polisi. Fy ngobaith yw y gall pob partner yn y sector addysg dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf gefnogi ymdrech ar y cyd tuag at gyflawni'r amcanion hyn.
Dyma’r amcanion polisi:
- Mae pob ysgol yng Nghymru yn cymryd rhan mewn dulliau a strwythurau cydweithredol fertigol a llorweddol pwrpasol sy'n canolbwyntio ar wella dysgu.
- Mae'r holl awdurdodau lleol yn gweithio mewn partneriaeth â'u hysgolion, gan ddefnyddio'r dull cydweithredol newydd hwn, sy’n seiliedig ar yr ysgol, i adnabod eu hysgolion a gwella safonau addysgol yn eu hardal, yng nghyd-destun eu cyfrifoldebau mewn perthynas â'r cwricwlwm, tegwch, ADY a gwella ysgolion, y Gymraeg, dysgu proffesiynol a chyllid.
- Mae’r gallu i wella ysgolion yn bodoli’n bennaf o fewn yr ysgolion eu hunain trwy sicrhau cydbwysedd priodol o arbenigedd yn yr ysgol, secondiadau ac unrhyw adnoddau ALl arbenigol parhaol.
- Mae gan bob awdurdod lleol drefniadau partneriaeth clir sy'n canolbwyntio ar wella dysgu trwy eu system gwella leol gydweithredol ac sydd hefyd yn cynrychioli gwerth am arian o safbwynt adnoddau.
- Mae gan bob awdurdod lleol gynllun pontio cadarn sy'n mynd â nhw at haf 2025, ynghyd ag ymrwymiad hirdymor clir i gyflawni'r amcanion polisi erbyn mis Mawrth 2026.
Bydd partneriaid ar lefel genedlaethol yn sicr eisiau ystyried a gweithredu o ran sut maen nhw'n cefnogi ardaloedd lleol i ddatblygu eu cydweithrediad ar gyflymder priodol a beth arall allai fod ei angen i gryfhau'r system er mwyn cefnogi'r cydweithrediad hwn. Clywsom negeseuon cryf gan awdurdodau lleol ac arweinwyr ysgolion nad yw'r seilwaith addysgol presennol bob amser yn gwobrwyo nac yn annog y fath gydweithio. Ar ddiwedd Cam 1, fe wnaethom nodi’r angen i archwilio "rôl cyllido, arolygu, a llywodraethu mewn cymell cydweithio ar draws ysgolion a chlystyrau". Byddem yn awgrymu bod cwestiwn o hyd ynghylch a ellid gwneud unrhyw newidiadau pellach ar lefel genedlaethol i gryfhau'r cymhellion i ysgolion ac awdurdodau lleol ganolbwyntio'n gryfach ar ddatblygu gwelliant cydweithredol.
Yn hanesyddol, mae her a thensiwn wedi deillio o werthuso effaith gweithgarwch gwella ysgolion. Fodd bynnag, er mwyn i weithio ar y cyd ddarparu'r gorau i'n dysgwyr, rhaid bod ffordd o sicrhau bod ein sylw cyfunol yn canolbwyntio’n drwyadl ar wella canlyniadau dysgwyr. Y neges a glywsom yn gyson oedd y byddai ysgolion yn croesawu dull mwy cyson o werthuso cynnydd dysgwyr, yn cynnwys ar y pwyntiau pontio i ddysgwyr. Byddai hyn yn cael ei ddefnyddio'n fwyaf effeithiol ac yn fwyaf cynaliadwy o fewn diwylliant o geisio cyflawni'r canlyniadau gorau i bob dysgwr.
Nododd arweinwyr ysgolion yn gyson eu bod yn croesawu atebolrwydd am gynnydd eu dysgwyr cyn belled nad oedd yn gosbedigol ac yn gul yn ei werthusiad. Un her fawr ar gyfer y dyfodol yw sut i sicrhau’r cydbwysedd hwn a sefydlu dulliau cyson heb ailddyfeisio arferion nad ydynt o unrhyw fudd. Y consensws o'r gweithdai, sy'n cyd-fynd â grym y negeseuon blaenorol a glywyd, yw mai’r ffordd orau o sicrhau gwelliant yw trwy gydweithio effeithiol sy'n canolbwyntio ar hunanwerthuso effeithiol a gwella cynnydd a chanlyniadau dysgwyr. Gellir taro cydbwysedd cynhyrchiol rhwng gweithgareddau sydd wedi'u dylunio i hysbysu a gwella gwelliant ysgolion a'r rhai hynny sy'n cael eu hystyried fel 'sicrhau ansawdd' a 'gwirio'. Yr her yn awr yw sut i gefnogi’r system i esblygu i’r pwynt lle mae proses effeithiol o welliant cydweithredol yn caniatáu ar gyfer y ddau, ond yn canolbwyntio'n bennaf ar welliant ac effaith.
Fe hoffwn i, a Simon Day a'i gydweithwyr yn Isos Partnership, ddiolch i Lywodraeth Cymru am y cyfle i arwain ac ymgymryd â'r adolygiad pwysig hwn. Hoffem, yn arbennig, nodi ein diolch am y ffordd adeiladol ac ystyriol y mae cydweithwyr ar draws system addysg Cymru wedi ymgysylltu â'r adolygiad a'i gefnogi yn ystod cyfnod heriol a phrysur i bawb oedd a wnelo ag o. Rydym wedi’n calonogi, ac wedi profi ymdeimlad o falchder, o weld yr ymrwymiad a'r awydd parhaus sy'n bodoli i ddarparu'r cyfleoedd bywyd gorau posibl i bobl ifanc Cymru.
Yn gywir
Dylan E Jones
Mai 2025
