Neidio i'r prif gynnwy

Mynychwyr

Aelodau'r Grŵp Llywio

Fran Targett, Cadeirydd
Nigel Griffiths, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Amanda Main, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Joanna Goodwin, Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS)
Simon Hatch, Cyngor ar Bopeth Cymru
Helal Uddin, EYST
Matthew Evans, Cadeirydd y Grŵp Uwch-swyddogion Cyfrifol (SRO) – cyfarfod cyntaf fel Cadeirydd
Victoria Winckler, Sefydliad Bevan
Katie Till, Ymddiriedolaeth Trussell
Claire Germain, Llywodraeth Cymru
Lindsey Phillips, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
Lisa Hayward, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)

Hefyd yn bresennol

Adam Hardy, Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS)
Poppy Evans, Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS)
Adrian Devereux, Llywodraeth Cymru
Angela Endicott, Llywodraeth Cymru
Ben Gibbs, Llywodraeth Cymru
Caroline Shaw, Llywodraeth Cymru
David Willis, Llywodraeth Cymru
Joanna Leek, Llywodraeth Cymru
Mel James, Llywodraeth Cymru
Micheal Viney, Llywodraeth Cymru
Paul Neave, Llywodraeth Cymru

Ymddiheuriadau

Sean O'Neill, Plant yng Nghymru
Emma Willis, CLlLC
Victoria Lloyd, Age Cymru
Leah Whitty, Llywodraeth Cymru
Miranda Evans, Anabledd Cymru
Rachel Thomas, Comisiynydd Plant
Rachel Bowen, Comisiynydd Pobl Hŷn

Croeso gan y cadeirydd

Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad ar weithgareddau diweddar ers y cyfarfod diwethaf. Tynnwyd sylw at y sesiwn Dangos a Dweud fel cyflawniad sylweddol, gyda phresenoldeb o bob un o'r 22 awdurdod lleol. Fe wnaeth y sesiwn gadarnhaol iawn ysgogi gwaith meddwl a thrafodaeth fawr gyda photensial ar gyfer mwy o sesiynau ymarferol yn y dyfodol i barhau â'r ymgysylltiad hwn.

Rhoddodd y Cadeirydd yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod diweddar gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip ar 23 Ionawr, lle roedd Cadeirydd newydd Grŵp yr Uwch-swyddogion Cyfrifol hefyd yn bresennol, a dywedodd ei fod yn gadarnhaol ac yn galonogol iawn. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i weld cynnydd cyn gynted â phosibl ac yn deall y cymhlethdodau dan sylw. Roedd y materion a godwyd yn cynnwys goblygiadau ariannol, trothwyon cymhwysedd, a chyfraddau cynnydd budd-daliadau yng Nghymru. Pwysleisiodd Ysgrifennydd y Cabinet bwysigrwydd deall y goblygiadau ariannol hyn i lywio trafodaethau yn y dyfodol gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg.

Adborth gan y Grŵp Uwch-swyddogion Cyfrifol

Soniodd Cadeirydd newydd y Grŵp Uwch-swyddogion Cyfrifol am ei benodiad diweddar ym mis Ionawr 2025. Rhoddodd y Cadeirydd adborth o'r cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip ar 23 Ionawr. Soniodd am bwysigrwydd defnyddio'r ysgogiadau sydd ar gael i fwrw ymlaen â'r gwaith Symleiddio Budd-daliadau Cymru a'r angen am ddull mwy trawsnewidiol, gan gynnwys atebion digidol. 

Amlygodd Cadeirydd y Grŵp Uwch-swyddogion Cyfrifol bod gwaith Symleiddio Budd-daliadau Cymru yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl a phwysleisiodd yr angen i chwalu rhwystrau. Nododd yr arfer da sy’n bodoli eisoes o fewn awdurdodau lleol.

Yn y digwyddiad Dangos a Dweud diweddar, cododd y Cadeirydd y mater ynglŷn â'r ddeddfwriaeth bresennol sydd ar waith ynghylch Prydau Ysgol am Ddim (Deddf Addysg 1996) a'r angen i wneud cais. Soniodd am brosiect gan Brifysgol Caerefrog ar gofrestru awtomatig ac a ellid ystyried dulliau tebyg ar gyfer Cymru. Awgrymodd Cadeirydd y Grŵp Uwch-swyddogion Cyfrifol y dylai digwyddiadau Dangos a Dweud yn y dyfodol fod tua 90 munud o hyd er mwyn caniatáu mwy o amser ar gyfer trafodaeth.

Cafwyd sylwadau ar gyfleoedd i ganfod arbedion ac arfer da a chael trywydd clir ar gyfer y dyfodol. Nodwyd bod y gamdybiaeth mai un system fyddai yna ar draws yr holl awdurdodau lleol wedi effeithio'n negyddol ar yr ymgysylltiad cychwynnol, ond mae hyn wedi dechrau cael ei gywiro’n awr ac mae digwyddiadau fel y Dangos a Dweud wedi helpu. 

Pwysleisiodd y Cadeirydd bwysigrwydd gwneud budd-daliadau yn hawdd eu cyrraedd i'r rhai sydd â hawl iddynt, a chanolbwyntio ar brofiad yr hawlydd. Roedd hi'n cydnabod yr angen am weinyddiaeth dda i gefnogi hawlwyr a’r rhai sy’n darparu’r budd-daliadau, a chasglu a lledaenu arferion gorau. Nododd ymrwymiad holl aelodau'r Grŵp Llywio i gyflawni'r canlyniadau gorau i hawlwyr ac mae’n gwerthfawrogi ymroddiad awdurdodau lleol wrth hyrwyddo'r gwaith hwn.

Prosiect Braenaru Symleiddio Budd-daliadau Cymru

Fel rhan o Gam Un gwaith Symleiddio Budd-daliadau Cymru, mae prosiect integredig yn cael ei ddatblygu gan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS). Mae'n brosiect i greu prototeip hawdd ei ddefnyddio i randdeiliaid ryngweithio ag ef i symleiddio profiad yr hawlydd. Y nod yw casglu adborth, canfod problemau, a dod o hyd i'r atebion gorau. Fel rhan o'r gwaith hwn bydd y Ganolfan yn recriwtio hawlwyr ar gyfer ymchwil i ddeall eu hanghenion a phrofi rhagdybiaethau, gyda'r nod o sicrhau bod yr ateb yn cyd-fynd ag anghenion hawlwyr.

Mae cydweithio â rhanddeiliaid o blith y cyhoedd yng Nghymru a'r trydydd sector yn hanfodol. Bydd y Ganolfan yn creu teithiau defnyddwyr ar gyfer hawlwyr dychmygol sydd ag anghenion gwahanol er mwyn siapio profiadau defnyddwyr. Bydd prototeipiau’n cael eu datblygu i ddangos profiadau posibl y defnyddwyr hyn. Bydd diagramau’n amlinellu'r camau gweithredu, y prosesau a’r adnoddau posibl y gallai awdurdodau lleol eu defnyddio i ddarparu'r profiadau hyn.

Nod y prosiect yw cael ei gwblhau o fewn y flwyddyn ariannol, er bod risgiau o oedi oherwydd cymhlethdod y pwnc a chyfranogiad trydydd partïon.

Cydnabu’r Cadeirydd ddefnyddioldeb y gwaith hwn ochr yn ochr ag ymdrechion y Grŵp Uwch-swyddogion Cyfrifol. Gwnaed sylw ynglŷn â'r manteision o gasglu profiadau gwahanol awdurdodau lleol ac awgrym i rannu manylion y prosiect gyda'r Grŵp Uwch-swyddogion Cyfrifol er mwyn osgoi camdybiaethau am greu un system. Cymeradwyodd Cyngor ar Bopeth Cymru a Trussell y prosiect hwn a mynegi eu cefnogaeth i gynnig cymorth gydag ymchwil defnyddwyr gan eu sefydliadau.

Pwysleisiwyd pwysigrwydd cydweithio ag awdurdodau lleol ac arweinwyr polisi yn Llywodraeth Cymru. 

Pwynt Gweithredu 1: Y tîm craidd i rannu sleidiau cyflwyniad y Ganolfan ag aelodau'r Grŵp Llywio. 

Cynllun peilot derbyn budd-daliadau awdurdodau lleol

Cyflwynwyd y cynllun peilot fel rhan o'r gwaith parhaus gydag awdurdodau lleol i sicrhau’r incwm mwyaf i breswylwyr, gan nodi gorgyffwrdd sylweddol â phrosiect Symleiddio Budd-daliadau Cymru i hwyluso mynediad at fudd-daliadau Cymru. 

Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dyrannu cyllideb i helpu awdurdodau lleol i ddadansoddi eu data. Dyfarnwyd contract i Policy in Practice i weithio gyda 12 awdurdod lleol yng Nghymru gan ddefnyddio'r offeryn Low-Income Family Tracker (LIFT), sy'n dadansoddi data o wahanol ffynonellau i nodi preswylwyr a allai fod yn colli allan ar fudd-daliadau.

Nod y prosiect peilot yw egluro sut y gellir defnyddio data yn gyfreithiol, gan sicrhau bod awdurdodau lleol yn gallu rhannu data yn hyderus yn fewnol a chydag adrannau eraill. Disgwylir i'r prosiect arwain at fwy o gefnogaeth ariannol i drigolion a gwybodaeth werthfawr i bob un o'r 22 awdurdod lleol. Bydd dau awdurdod lleol ychwanegol, sydd eisoes yn ymwneud â Policy in Practice, hefyd yn cymryd rhan ym mwrdd y prosiect i rannu eu safbwynt, er nad ydynt yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru. 

Cydnabu'r Cadeirydd y cysylltiad rhwng y cynllun peilot data a phrosiect Symleiddio Budd-daliadau Cymru. Mynegwyd diddordeb ym mhotensial y prosiect i gynyddu cyllid i breswylwyr a'r cyfleoedd dysgu y mae'n eu cynnig. Codwyd pwysigrwydd gweld cynnydd gwirioneddol mewn incwm ynghyd â phryderon am yr effaith bosibl ar y bil budd-daliadau yng Nghymru. Nododd Cadeirydd y Grŵp Uwch-swyddogion Cyfrifol bwysigrwydd rhannu data yn gyfreithiol a'r heriau y mae'n eu cyflwyno, yn enwedig o ran gwiriadau DBS ar gyfer staff sy'n trin data sensitif. Codwyd rhannu dysgu ar draws pob un o'r 22 awdurdod lleol ac nid dim ond y rhai sy'n cymryd rhan hefyd fel un o fuddiannau pwysig y prosiect. 

Trafodwyd pwysigrwydd cydnabod enillion incwm gwirioneddol, goresgyn rhwystrau rhannu data a rhannu dysgu ar draws gwahanol ddarnau o waith.

Adrodd ar gynnydd

Trafododd aelodau'r Grŵp Llywio eu dulliau dewisol o gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd gan fod cytundeb bellach ar y Map Ffordd a'r blaenoriaethau. Cynigiwyd y byddai defnyddio adroddiadau amlygu syml yn ddefnyddiol a bod yn ofalus i beidio â chreu mecanwaith adrodd newydd helaeth. Dylai'r adroddiad amlygu gysylltu â'r map ffordd a nodi a oes unrhyw dasgau wedi symud i'r cam cyflwyno. Dylai'r adroddiad amlygu gwmpasu blaenoriaethau, tasgau a chynnydd gan nodi y bydd cynnydd yn amrywio ar gyfer gwahanol awdurdodau lleol.

Soniwyd am bwysigrwydd tynnu sylw at faterion allweddol, risgiau a datblygiadau ynghyd â'r angen i egluro'r broses adrodd, gan gynnwys pwy fydd yn creu ac yn cydlynu'r adroddiadau amlygu, ac awgrymiadau i arweinwyr prosiectau roi diweddariadau llafar yn ystod cyfarfodydd ar gyfer trafodaethau mwy deinamig. Cytunwyd ar ddiweddariadau chwarterol, a thrafodwyd fformat yr adroddiadau, gan bwysleisio'r angen am gyfathrebu priodol.

Cydnabuwyd bod angen i'r tîm craidd fapio'r prosiectau yn erbyn y Map Ffordd a nodi bylchau a dibyniaethau. Dylai'r mecanwaith adrodd a ddatblygir ganolbwyntio ar ganlyniadau chwarterol ac mae angen ystyried cyfathrebu cynnydd y tu hwnt i'r Grŵp Llywio. Cynigiwyd statws RAG (Coch, Oren, Gwyrdd) i roi diweddariadau cryno a nodi cynnydd a rhwystrau. 

Bydd y tîm craidd yn datblygu mecanwaith adrodd ac yn gofyn am adborth gan y Grŵp Llywio i sicrhau ei fod yn diwallu eu hanghenion. Cytunodd y Grŵp i fwrw ymlaen â'r dull hwn trwy ohebiaeth, i'w fireinio yn seiliedig ar eu profiad gyda'r fersiwn cyntaf. Anogir yr aelodau i anfon unrhyw enghreifftiau i'r tîm craidd.

Pwynt Gweithredu 2: Y tîm craidd i ddatblygu adroddiad amlygu a'i rannu gydag aelodau'r Grŵp Llywio ar gyfer sylwadau a datblygiadau pellach arno. 

Pwynt Gweithredu 3: Aelodau i rannu unrhyw enghreifftiau â'r tîm craidd.

Cofrestr risg

Cydnabuwyd bod y gofrestr risg wedi dyddio a bod angen ei hadnewyddu, yn enwedig gan fod y gwaith wedi symud i ffwrdd oddi wrth weithgarwch llif gwaith i'r map ffordd gydag allbynnau chwarterol. 

Awgrymwyd y dylid israddio neu uno rhai o'r risgiau sy'n gysylltiedig â thirwedd lles Llywodraeth y DU gan nad oes disgwyl unrhyw newidiadau sylweddol.

Cynigiwyd ailwampio'r gofrestr risg yn llwyr i'w chysoni â'r Map Ffordd ac yn sgil trafodaethau yn y cyfarfod hwn. 

Cytunodd y Cadeirydd â’r angen am gofrestr risg ddiwygiedig ac awgrymodd ymatebion ysgrifenedig ar gyfer adborth. Nodwyd mai'r brif risg oedd cyflawni'r map ffordd a'r allbynnau heb sicrhau canlyniadau ystyrlon. Tynnwyd sylw hefyd at bwysigrwydd cyfathrebu clir, yn fewnol ac yn allanol, er mwyn sicrhau bod rhanddeiliaid yn deall buddion y prosiect a'r cynnydd. 

Cefnogwyd y pwyslais ar gyfathrebu, gan nodi ei bwysigrwydd o ystyried y dirwedd wleidyddol ar hyn o bryd a'r feirniadaeth ddiweddar. Cytunodd yr aelodau i rannu cofrestr risg ddiwygiedig ar gyfer adborth trwy e-bost, gan osgoi'r angen am gyfarfod ychwanegol oni bai bod angen.

Pwynt Gweithredu 4: Y tîm craidd i weithio ar gofrestr risg ddiwygiedig i'w rhannu gydag aelodau'r Grŵp Llywio.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Adolygwyd y cofnodion am gywirdeb (28/11/2024) a chytunwyd arnynt. Cadarnhaodd y Cadeirydd fod y Comisiynydd Plant a'r Comisiynydd Pobl Hŷn wedi cael eu gwahodd i ymuno fel aelodau ac mae'r ddau wedi cytuno i anfon cynrychiolwyr o'u sefydliadau i gyfarfodydd yn y dyfodol.

Unrhyw faterion eraill a’r cyfarfod nesaf

Awgrymodd y Cadeirydd symud i gyfarfodydd chwarterol. Os bydd unrhyw faterion brys yn codi, gellid cynnull cyfarfod interim neu ymdrin â’r mater drwy ohebiaeth a chysylltir â'r Cadeirydd yn y lle cyntaf. Cytunodd y Grŵp ar y dull hwn, a bydd y tîm craidd yn cynnig dyddiadau posibl ar gyfer y cyfarfod nesaf. Daeth y cyfarfod i ben gyda diolch i'r holl gyfranogwyr am eu mewnbwn a'u gwaith caled.

Pwynt Gweithredu 5: Y tîm craidd i gynnig dyddiad y cyfarfod nesaf ac wedi hynny yn chwarterol.