Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Mae'r Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig yn cael eu gosod gerbron y Senedd heddiw.
Cyd-destun
Mae'r Rhaglen Lywodraethu a'r cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru, yn nodi ein hymrwymiad i roi diwedd ar ddigartrefedd, drwy ddiwygio cyfraith tai Cymru.
Mae'r Bil hwn yn adeiladu ar y Papur Gwyn ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn 2023. Mae wedi cael ei lywio gan ymgysylltiad helaeth â rhanddeiliaid, gan gynnwys argymhellion Panel Adolygu Arbenigol, ac mae wedi'i wreiddio ym mhrofiadau byw y rhai sydd wedi profi digartrefedd.
Mae'r Bil yn nodi sut y byddwn yn trawsnewid ein dull o ymdrin â digartrefedd. Ochr yn ochr â'n buddsoddiad parhaus mewn tai cymdeithasol, bydd y Bil yn ein helpu i gyflawni ein huchelgais hirdymor i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru. Mae'n rhoi pwyslais cryfach ar atal digartrefedd ac yn dileu rhwystrau sydd yn y gorffennol wedi rhwystro pobl rhag cael cymorth. Mae'n cryfhau mesurau atal ar gyfer grwpiau sydd mewn perygl arbennig o fod yn ddigartref, fel pobl sy'n gadael gofal. Gan gydnabod bod angen ymateb gwasanaeth cyhoeddus i fynd i'r afael â digartrefedd yn effeithiol, mae'r Bil yn ehangu'r cyfrifoldeb am nodi ac atal digartrefedd er mwyn sicrhau cydweithrediad cryfach ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Mae'n darparu mwy o ddulliau i sicrhau gwell mynediad at lety addas o ansawdd da ac i sicrhau bod tai cymdeithasol ar gael i'r rhai sydd fwyaf mewn angen.
I grynhoi, mae'r Bil yn:
- Diwygio'r diffiniad o 'dan fygythiad o ddigartrefedd' ac yn ymestyn y cyfnod atal o 56 diwrnod, i chwe mis.
- Cryfhau'r camau a gymerir gan awdurdodau lleol i atal digartrefedd.
- Cyflwyno Cynlluniau Atal, Cefnogaeth a Llety (PSAP).
- Cyflwyno hawliau newydd i ofyn am adolygiad i ymgeiswyr, mewn perthynas â phenderfyniadau a wneir ynghylch eu hachos.
- Pennu amgylchiadau ychwanegol lle gellir dod â dyletswyddau i ben.
- Ehangu'r opsiynau llety i'w hystyried fel modd o leddfu digartrefedd.
- Gwaredu'r profion ynglŷn ag angen blaenoriaethol a bwriadoldeb.
- Cyflwyno prawf cysylltiad lleol ar gyfer y brif ddyletswydd digartrefedd.
- Cyflwyno dyletswydd newydd i ddarparu cymorth i gadw llety addas.
- Cyflwyno dyletswydd newydd ar awdurdodau cyhoeddus penodedig i "ofyn a gweithredu" mewn perthynas â phersonau yng Nghymru.
- Gosod dyletswyddau newydd ar awdurdodau lleol i gymryd camau rhesymol i sicrhau bod llety addas ar gael i'w feddiannu gan rai pobl ifanc sy'n gadael gofal.
- Cyflwyno dyletswydd newydd i drefniadau cydweithredu awdurdodau lleol gynnwys protocol ar y cyd rhwng gwasanaethau cymdeithasol ac awdurdodau tai lleol.
- Gwneud yn ofynnol i awdurdodau tai lleol wneud trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad rhyngddo'i hun a rhai cyrff eraill trwy ddatblygu protocolau a modelau cydlynu achosion.
- Egluro dyletswyddau digartrefedd i'r rhai sy'n mynd i mewn ac yn gadael yr ystâd ddiogel.
- Ehangu'r diffiniad o gam-drin domestig, drwy ei gysoni â Deddf Cam-drin Domestig 2021.
- Sicrhau ymgysylltiad parhaus â phobl sydd â phrofiad byw o ddigartrefedd.
- Ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau tai lleol roi sylw i Ran 4 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (cyflwr anheddau) wrth benderfynu ar addasrwydd.
- Ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adrodd o bryd i'w gilydd ar y defnydd o lety dros dro ledled Cymru, a'i gyflwr.
- Galluogi awdurdodau lleol i ofyn i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a darparwyr tai cymdeithasol cofrestredig preifat ("landlordiaid cymdeithasol") wneud cynnig o lety addas yn eu hardal ar gyfer ymgeisydd penodol y mae'r ddyletswydd digartrefedd derfynol yn ddyledus iddo
- Ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau tai lleol gymryd 'camau rhesymol' i roi cyfle i ymgeisydd weld y llety sy'n cael ei gynnig, cyn y gellir dod â dyletswydd i ben.
- Rhoi'r disgresiwn i awdurdodau lleol benderfynu pa ddosbarthiadau o bobl sy'n gymwys ar gyfer tai cymdeithasol yn eu hardal neu beidio, ar yr amod nad ydynt yn anghymwys i gael dyraniad, ac yn ddarostyngedig i gyfyngiadau penodol ar gymhwysiad.
- Cynnwys prawf i'r rhai sydd wedi ceisio manipiwleiddio'r system ddigartrefedd yn fwriadol i sicrhau mantais wrth wneud cais am dai cymdeithasol.
- Creu chweched categori o 'ffafriaeth resymol' i'r rhai y mae dyletswyddau yn ddyledus iddynt gan awdurdodau lleol o dan adran 108A o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
- Ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau tai lleol yng Nghymru sefydlu a chynnal Cofrestr Tai Cyffredin a Chofrestr Tai Hygyrch ar gyfer eu hardal leol.
Mae Memorandwm Esboniadol wedi'i gwblhau ar gyfer y Bil hwn, sy'n cynnwys Asesiad Effaith Rheoleiddiol. Mae'r rhain ar gael i'w hystyried ochr yn ochr â'r Bil.
