Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fis Tachwedd diwethaf, fe wnes i Ddatganiad Llafar yn y Cyfarfod Llawn i nodi wythnos gwrth-fwlio yng Nghymru. Yn y Datganiad hwnnw, fe wnes i ailddatgan ein hymrwymiad parhaus i fynd i'r afael â bwlio a'i effeithiau. 

Mae bwlio yn annerbyniol ym mhob lleoliad. Gall yr effeithiau, yn enwedig ar blant a phobl ifanc, bara am oes, gan achosi problemau iechyd emosiynol a phroblemau iechyd meddwl sylweddol. Rwy'n credu'n gryf y dylem gymryd agwedd dim goddefgarwch tuag at fwlio. Rwyf hefyd yn credu y dylai ein hysgolion a'n lleoliadau addysg ehangach fod yn gweithio i gefnogi'r dioddefwyr yn ogystal â gweithio gyda'r cyflawnwr, gan eu helpu, drwy arferion adferol, i ddod o hyd i ffordd gadarnhaol ymlaen. 

Heddiw, mae'n bleser gennyf gyhoeddi'r ymgynghoriad ar ein canllawiau gwrth-fwlio statudol 'Hawliau, parch, cydraddoldeb'

Drwy gryfhau ein dulliau o atal ac ymateb i bob math o fwlio sy'n gysylltiedig â rhagfarn, gan gynnwys bwlio ac ymddygiad ymosodol ar-lein, byddwn yn sicrhau bod ein hysgolion a'n lleoliadau addysg yn parhau i fod yn fannau diogel i bawb. Gan hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol o fewn yr amgylchedd ysgol a thu hwnt yng Nghymru, rydym yn parhau i adeiladu gwydnwch, meithrin perthnasoedd parchus a mynd i'r afael ag agweddau gwahaniaethol niweidiol. 

Ni ddylai ein gwahaniaethau byth fod yn rheswm i rywun gael ei fwlio neu ei gam-drin.