RPW Ar-lein: diffiniadau o feysydd busnes
Sut rydym yn disgrifio a diffinio gwahanol feysydd busnes.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Bydd darparu eich meysydd busnes yn ein helpu i wneud y canlynol:
- personoli'ch hafan
- darparu gwybodaeth a chanllawiau am gynlluniau a allai fod o ddiddordeb i chi
- galluogi ceisiadau i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) pan ddewisir Amaethyddiaeth a Choetir Ffermydd
Gweler y diffiniadau isod ar gyfer pob un o'r meysydd busnes. Gallwch ddewis un neu fwy o feysydd sy'n adlewyrchu eich diddordebau busnes.
Amaethyddiaeth a choetir ffermydd
Cadw a bridio da byw gan ddefnyddio tir ar gyfer garddwriaeth, ffermio cnydau âr a ffermio gwartheg godro. Defnyddio tir fel tir pori ac fel coetir fferm neu ar gyfer amaethgoedwigaeth. Yn cynnwys amaethyddiaeth mewn amgylchedd a reolir, tyfu planhigion ar gyfer eu gwerthu neu ar gyfer gwerthu rhan o’r planhigyn, fel cynhyrchu hadau. Cadw’r tir mewn cyflwr sy’n addas ar gyfer y gweithgareddau a restrir uchod.
Rheoli llifogydd
Mae rheoli llifogydd yn cwmpasu ystod o strategaethau i reoli neu liniaru dŵr llifogydd, gyda'r nod o atal llifogydd rhag digwydd neu leihau eu heffaith pan fyddant yn digwydd.
Coedwigaeth
Cynhyrchu pren a ffeibr pren arall, a darparu asedau hamdden a thwristiaeth o fewn coetir.
Y môr a dyframaethu
Gweithredu neu ymgymryd â gweithgareddau sy'n gyfan gwbl neu'n rhannol yn yr amgylchedd morol a/neu’n dibynnu'n gyfan gwbl neu'n rhannol ar yr amgylchedd morol ar gyfer ei ddibenion a'i fodolaeth barhaus. Dal, gweithredu cychod ar gyfer dal neu brosesu cynhyrchion dyframaeth o amgylcheddau morol a dŵr croyw. Sector cyhoeddus a'r sector preifat sy'n ymgymryd ag ymchwil ac arloesi ac yn cefnogi datblygiad economaidd y gadwyn gyflenwi.
Datblygu gwledig
Mae datblygu gwledig yng Nghymru yn cynnwys ystod o fentrau sy'n anelu at gefnogi'r sector amaethyddol, gwella'r amgylchedd, a meithrin twf economaidd a chymunedol mewn ardaloedd gwledig.
