Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig wedi cytuno ar fframwaith cyllidol sy'n darparu cyllid teg i Gymru yn y tymor hir.

Fe gafodd y pecyn o fesurau sy'n rhan o'r fframwaith cyllidol eu trafod rhwng Llywodraeth Cymru a Thrysorlys Ei Mawrhydi.  
Bydd yn sicrhau cyllid teg i Gymru yn y tymor hir drwy weithredu'r isafswm cyllid a gafodd ei argymell gan Gomisiwn Holtham. Gydag isafswm cyllid teg yn ei le, mae'r cytundeb ynghylch sut i addasu'r grant bloc yn amddiffyn ein cyllideb rhag risgiau gormodol a allai godi yn dilyn datganoli pwerau treth, gan gynnwys treth dir y dreth stamp, y dreth dirlenwi a chyfraddau treth incwm Cymru.

Mae'r pecyn hwn o fesurau yn braenaru'r ffordd ar gyfer datganoli treth incwm yn rhannol i Gymru.  

Fel rhan o'r cytundeb, bydd uchafswm benthyca cyfalaf Cymru'n dyblu i £1bn. Mae hefyd yn creu cronfa unigol newydd i Gymru, a fydd yn galluogi Llywodraeth Cymru i reoli ei chyllideb yn well, gan gynnwys refeniw'r trethi newydd.

Mae'r fframwaith cyllidol hefyd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer goruchwyliaeth annibynnol - gan roi rôl i gyrff annibynnol, lle bo gofyn, gyfrannu at y drafodaeth mewn anghydfodau rhwng llywodraethau Cymru a'r DU ar faterion yn ymwneud â'r cytundeb.  

Byddaf yn gwneud datganiad yn y Cynulliad yn y Flwyddyn Newydd ynghylch y cytundeb.